Swyddi Cymraeg
3 swydd yn cyfateb
Cydlynydd Prosiect (1 FTE)
Mae Menter a Busnes yn edrych am Gydlynydd Prosiect (1 FTE)
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Cyfle gwych i ymuno â thîm Cyswllt Ffermio i gydlynu a chefnogi’r gwaith o ddarparu Agrisgôp, y rhaglen fentora ac academi Amaeth i ffermwyr yng Nghymru.
Disgrifiad:
Mae Cyswllt Ffermio, sy’n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru, yn brosiect integredig ac uchel ei broffil sy’n cynnig cefnogaeth, cyngor a hyfforddiant i’r sector amaeth trwy Gymru gyfan. Ei brif ffocws yw i gynorthwyo ffermwyr i baratoi tuag at y Cynllun Ffermio Cynaliadwy gan annog y sector i addasu ac i barhau i fod yn gystadleuol tra’n symud tuag at economi carbon isel. Nod
Cydlynu a chefnogi'r gwaith o ddarparu Agrisgôp, y rhaglen fentora ac academi Amaeth i ffermwyr yng Nghymru gan sicrhau bod targedau'n cael eu cyflawni a bod y gwasanaeth sy'n cael ei ddarparu o'r safon uchaf. Prif Gyfrifoldebau
· Cydlynu pob elfen o gadw cofnodion ac adrodd ar gyfer elfennau perthnasol rhaglen Cyswllt Ffermio a gweithredu gwelliannau i brosesau gweinyddu lle bo angen
· Darparu cymorth gweinyddu i'r tîm o arweinwyr Agrisgôp i sicrhau bod cofnodion o'u gweithgareddau a'u grwpiau yn cael eu cofnodi a'u dadansoddi i'r terfynau amser y cytunwyd arnynt a mynd ar drywydd gwaith papur coll lle bo angen
· Rhoi cymorth gweinyddol ar gyfer fframwaith mentoriaid ffermwr i sicrhau bod dyddiaduron ac anfonebau mentora yn cael eu derbyn yn unol â'r terfynau amser y cytunwyd arnynt a mynd ar drywydd gwaith papur coll lle bo angen
· Ymdrin ag ymholiadau'n ymwneud â'r rhaglen a datblygu asesiad clir a dealltwriaeth o anghenion y ffermwr a'r coedwigwr cyn eu cofrestru gyda'r pecyn cymorth mwyaf priodol
· Cynorthwyo cwsmeriaid sydd wedi cofrestru gyda'r rhaglen i wneud cais am wasanaethau eraill a fydd yn cefnogi eu dilyniant drwy Cyswllt Ffermio
· Cyfathrebu â ffermwyr yn rheolaidd gan weithredu fel prif bwynt cyswllt i'r rhai sy'n dymuno gwneud cais am fentor, gan eu tywys drwy gydol y broses fentora
· Gweithio gydag arweinydd y tîm i neilltuo mentoriaid i fentoreion pan fydd ceisiadau'n cael eu cyflwyno a chyhoeddi'r gwaith papur perthnasol
· Sicrhau bod yr holl gofnodion sy'n ymwneud â'r gweithgareddau o'r safonau uchaf ac yn cydlynu coladu adborth cwsmeriaid
· Cysylltu ag Arweinwyr yr Academi Amaeth i'w cefnogi gyda threfnu a chynnal dosbarthiadau'r Academi Amaeth
· Cydlynu proses recriwtio’r Academi Amaeth a hysbysu ymgeiswyr llwyddiannus/aflwyddiannus
· Bod yn gyfrifol am archebu lleoliadau, lluniaeth a threfnu cludiant pan fo angen
· Sicrhau bod gweithgareddau a digwyddiadau'n rhedeg yn llyfn a rhoi gwerth i gwsmeriaid · Bod yn gyfrifol am gasglu gwybodaeth cleientiaid ar yr holl gyfranogwyr a'r mynychwyr a sicrhau eu bod yn cael eu lanlwytho i'r gronfa ddata ganolog (BAS)
· Gweithio'n agos gyda'r Swyddogion Datblygu i sicrhau bod ymholiadau yn ymwneud â gweithgareddau Datblygu a Mentora yn cael eu trin yn unol â hynny
· Cyflenwi ystadegau cywir ar gyfer yr adroddiadau misol a monitro niferoedd sy'n mynychu gweithgareddau gan sicrhau bod y cronfeydd data a'r systemau canolog (BAS a CMS) yn cael eu diweddaru mewn modd amserol
· Coladu'r gwaith papur a gyflwynir gan is-gontractwyr a gwirio ei fod yn bodloni'r gofynion angenrheidiol **Arall **
· Sicrhau bod safonau ansawdd, gwasanaeth cwsmeriaid, cydraddoldeb ac amrywiaeth, iechyd a diogelwch a bioddiogelwch yn cael eu bodloni
· Derbyn dyletswyddau a chyfrifoldebau rhesymol eraill a chynrychioli Menter a Busnes yn ôl yr angen Sgiliau a Phrofiad
Hanfodol
· Addysg hyd at lefel gradd mewn amaeth neu bwnc perthnasol neu brofiad dangosadwy o weithio yn y sector amaeth yng Nghymru
· Gallu i asesu a deall yn glir anghenion busnesau fferm/coedwigaeth, y gefnogaeth sydd angen a’i gofynion
· Sgiliau cydlynu a threfnu rhagorol
· Sgiliau gweinyddol a rhyngbersonol gwych
· Gallu asesu a delio gydag ymholiadau’n gyflym ac effeithiol
· Gallu adnabod anghenion y cwsmer a thynnu’r wybodaeth berthnasol i deilwra cyngor i ofynion penodol y cwsmer
· Cyfathrebu llafar o safon uchel
· Sgiliau ysgrifenedig dwyieithog cywir
· Sgiliau gwasanaeth cwsmer rhagorol
· Dealltwriaeth dda neu brofiad o’r sector amaethyddiaeth / gwledig
· Gallu mewnbynnu data’n gywir a chydymffurfio gyda deddfau diogelu data perthnasol
· Gallu ysgogi ei hun i weithio gan dderbyn y cyfrifoldeb am osod ac adolygu blaenoriaethau i gyflawni ei amcanion a’i waith ei hun, gan ystyried anghenion y cwsmer
· Rhagweithiol a brwdfrydig am waith yr Adran Wledig
· Gallu bod yn rhagweithiol a gyrru pethau ymlaen yn effeithlon
· Gallu parhau gyda’i waith ei hun yn ogystal â bod yn rhan o dîm
· Sgiliau TG rhagorol gan gynnwys - Windows; Meddalwedd cynhyrchiant (e-bost, prosesu geiriau, taenlenni, ffeilio data); Defnydd diogel o gyfrifiaduron a'r rhyngrwyd (chwilio a phori'r we, defnyddio gwefannau a chymwysiadau ar-lein)
· Os yn gweithio o adref am unrhyw adeg, bydd gofyn bod gennych gysylltiad rhyngrwyd addas yn barod
· Trwydded yrru lawn a char i’w ddefnyddio
· Ar gael i weithio gyda’r nos fel y bo’r gofyn **Dymunol **
· Gwybodaeth am raglen Cyswllt Ffermio Gwneud Cais
Gellir gwneud ceisiadau am y swydd hon drwy lawrlwytho a chwblhau’r ffurflen gais a’r ffurflen monitro cyfle cyfartal (sydd ar gael ar ein gwefan: www.menterabusnes.co.uk) a’u dychwelyd at [email protected] Os hoffech gael trafodaeth anffurfiol am y swydd hon, cysylltwch ag Einir Davies ar 07985 155 514 neu [email protected] Dyddiad Cau
Y dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau yw 10.00yb, dydd Llun, 13 Mawrth 2023. Cyfweliadau Cynhelir cyfweliadau ar gyfer y swydd hon yn rhithiol ar wythnos cychwyn 20 Mawrth 2023. Os yw’r dyddiad yn anghyfleus, nodwch hynny ar eich ffurflen gais. Polisi Cydraddoldeb ac Amrywiaeth Mae ein Polici Cydraddoldeb ac Amyrwiaeth i’w weld ar ein gwefan.
Cyflog
💰 £21,979 - £23,749
Lleoliad
📍 Unrhyw un o’n swyddfeydd, O gartref
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Swyddog Cefnogi a Chydlynydd Digwyddiadau
Mae Menter a Busnes yn edrych am Swyddog Cefnogi a Chydlynydd Digwyddiadau
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mae Cywain, a ddarperir gan Menter a Busnes, yn fodel sy’n darparu cefnogaeth wedi’i dargedu ar gyfer busnesau micro a BBaCh sy’n gweithredu yn y sector bwyd a diod yng Nghymru. Rydym yn dechrau cyfnod newydd ac rydym wedi derbyn cyllid trwy Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig 2014 - 2020 i ddarparu gwasanaeth diwygiedig. Mae cyllid y prosiect wedi cael ei gadarnhau tan Mehefin 2023. Darperir gwasanaethau i ddatblygu capasiti a gallu busnesau, hwyluso trosglwyddo gwybodaeth a gwybodaeth y diwydiant ac atgyfnerthu integreiddiad y gadwyn gyflenwi. Mae’r ddarpariaeth ar gael ledled Cymru gyda phwyslais ar gydweithio drwy glystyru, ychwanegu gwerth a datblygu’r farchnad ar gyfer twf a chreu swyddi. Mae Cywain wedi datblygu rhwydwaith eang o randdeiliaid ac mae dull gweithredu cydlynol gyda phartneriaid datblygu eraill yn ganolog i ddatblygiad y cleientiaid. Mae tair elfen i’r prosiect: · Cefnogaeth i fusnesau newydd a micro
· Cefnogaeth diagnosteg ar gael i holl fusnesau bwyd a diod yng Nghymru
· Clystyru a chyd weithio rhwng busnesau er mwyn hyrwyddo twf ac effeithlonrwydd. Nod Cyffredinol y Swydd Nod y swydd hon yw i ddarparu cefnogaeth i dîm Cywain trwy: · gydlynu a darparu cefnogaeth i dîm y prosiect, a fydd yn cynnwys darparu gwybodaeth, gweithredu a chofnodi gweithgareddau ar fasdata a systemau rheoli cwsmer
· bod yn gyfrifol dros ddarparu gwybodaeth am y prosiect, megis data allbynnau, at ddefnydd mewnol yn ogystal â phartneriaid a rhanddeiliaid allanol
· sicrhau fod holl ddogfennaeth y prosiect yn gywir ac wedi cael ei archifo
· cynnal a datblygu systemau gweinyddol y cynllun
· bod yn rhyngweithiol a gweithio’n annibynnol heb oruchwyliaeth
· bod yn gyfrifol am gydlynu trefniadau gweithdai a digwyddiadau Prif Gyfrifoldebau Darparu gwybodaeth a chefnogaeth swyddfa i dîm y prosiect · Darparu cymorth gweinyddol dibynadwy ac effeithlon a chefnogaeth i dîm Cywain.
· Trefnu a chymryd cofnodion mewn cyfarfodydd (mewnol ac allanol)
· Gweithio’n agos gyda thîm Cywain i baratoi a threfnu rhaglen o weithdai a digwyddiadau
· Arwain ar gydlynu trefniadau gweithdai a digwyddiadau o ddydd i ddydd, gan gynnwys trefniadau gyda lleoliadau, hwyluswyr allanol a chleientiaid
· Bod yn gyfrifol am restru a hyrwyddo gweithdai Cywain drwy amryw o sianeli
· Cynrychioli Cywain fel y pwynt cyswllt cyntaf ar gyfer ymholiadau mynychwyr gweithdai a digwyddiadau
· Adolygu trefniadau a niferoedd ar gyfer pob digwyddiad er mwyn adnabod anghenion marchnata a hyrwyddo perthnasol
· Cyfathrebu yn rheolaidd ac yn effeithiol gyda Swyddog Marchnata Cywain i sicrhau llwyddiant y rhaglen o weithdai a digwyddiadau
· Teithio i leoliadau ledled Cymru i fynychu digwyddiadau, gweithdai a lansiadau prosiect ayyb
· Sicrhau bod digwyddiadau yn rhedeg yn llyfn a darparu gwerth i gwsmeriaid a gwesteion
· Cwblhau proses parhaus o werthuso llwyddiannau gweithdai gan fewnbynnu a dadansoddi data ar systemau rheoli cwsmer y cwmni
· Cyfathrebu gydag asiantaethau allanol perthnasol
· Cydlynu a chrynhoi gweithgareddau misol aelodau’r tîm er mwyn cynhyrchu adroddiadau misol a chwarterol (meintiol ac ansoddol)
· Casglu, cyflwyno a storio'r holl wybodaeth angenrheidiol yn unol â gofynion cyllid a monitro’r cynllun
· Sicrhau bod ffeiliau’r tîm yn cynnwys yr wybodaeth sy’n ofynnol a chefnogi’r Rheolwr Prosiect i gynnal archwiliad rheolaidd
· Datblygu a rheoli cronfa ddata cleientiaid a systemau ar gyfer casglu gwybodaeth a deilliannau’r prosiect
· Cofnodi targedau’r tîm a’u gwirio yn erbyn dogfennau cymeradwyaeth
· Sicrhau cydymffurfiaeth gyda’r ddeddfwriaeth diogelu data priodol
· Ymdrin ag ymholiadau ar lein a thros y ffôn a’u hanfon ar y swyddogion priodol mewn modd amserol a phroffesiynol
· Cadw cofnodion yn effeithlon o fewn fframwaith cytûn i fodloni gofynion ariannol Llywodraeth Cymru/Ewrop a dilysrwydd allbynnau
· Mynychu cyfarfodydd a chynrychioli’r prosiect yn ôl y galw **Ymchwil a Monitro **
· Cefnogi'r Arweinydd Tim Marchnata a Digwyddiadau i gofnodi, casglu a dadansoddi adborth cleientiaid
· Mewnbynnu data’n gywir
· Dadansoddi cyflawniad y prosiect o’i dargedau trwy sicrhau bod y data yn gyfredol
· Cefnogi'r Arweinydd Tîm Marchnata a Digwyddiadau i gasglu unrhyw waith papur a data monitro perthnasol
· Sicrhau bod system Rheoli Perthynas Cwsmer a chronfeydd data’rprosiect yn cael eu cynnal a'u bod yn gyfredol ac yn effeithlon
· Cysylltu â chleientiaid, darparwyr a phartneriaid allanol i gydlynu gweithgareddau / digwyddiadau **Arall **
· Sicrhau bod safonau ansawdd, gwasanaeth cwsmer, cydraddoldeb ac amrywiaeth, iechyd a diogelwch a bioddiogelwch yn cael eu cyrraedd
· Derbyn unrhyw ddyletswyddau a chyfrifoldebau rhesymol eraill yn ôl y galw
· Cynrychioli Menter a Busnes yn ôl y galw Sgiliau a Phrofiad Hanfodol
· Cymhwyster CGC lefel 3 neu uwch, a/neu brofiad dangosadwy mewn maes perthnasol
· Brwdfrydedd dros waith yr adran
· Sgiliau trefnu a chydgysylltu rhagorol gyda’r gallu i weithio i ddyddiadau tynn
· Sgiliau gweinyddol a rhyngbersonol ardderchog
· Sgiliau cyfathrebu llafar ac ysgrifenedig dwyieithog (Cymraeg/Saesneg) rhagorol
· Sgiliau prawf ddarllen da
· Gallu asesu ac ymdrin ag ymholiadau’n effeithlon ac yn brydlon
· Gallu cymryd cofnodion mewn cyfarfodydd sy’n glir, cryno a chywir
· Gallu ysgogi ei hun yn greadigol gan dderbyn y cyfrifoldeb am osod ac adolygu blaenoriaethau i gyflawni targedau, gyda ffocws clir ar ansawdd
· Yn rhagweithiol ac yn gallu gyrru pethau ymlaen yn effeithlon
· Gallu gweithio’n annibynnol neu fel rhan o dîm
· Sgiliau TG rhagorol gan gynnwys - Windows; Meddalwedd cynhyrchiant (e-bost, prosesu geiriau, taenlenni, ffeilio data); Defnydd diogel o gyfrifiaduron a'r rhyngrwyd (chwilio a phori'r we, defnyddio gwefannau a chymwysiadau ar-lein)
· Os yn gweithio o adref am unrhyw adeg, bydd gofyn bod gennych gysylltiad rhyngrwyd addas yn barod
· Trwydded yrru lawn a defnydd o gar Manteisiol
· Gwybodaeth a dealltwriaeth am y sectorau amaeth, gwledig a bwyd yng Nghymru
· Profiad o drefnu arddangosfeydd a digwyddiadau phroffil uchel
· Profiad dangosadwy o weithio yn y diwydiant amaethyddol neu fwyd yng Nghymru
· Profiad o ddefnyddio systemau megis Salesforce, Mailchimp a Wordpress. Gwneud Cais
Gallwch wneud cais am y swydd hon drwy lenwi ffurflen gais a ffurflen cyfle cyfartal (sydd ar gael ar ein gwefan www.menterabusnes.co.uk) a’u dychwelyd at [email protected]. Os hoffech gael sgwrs anffurfiol am y swydd hon, cysylltwch ag Ynyr Roberts ar 02920 467 404. Cyfweliadau Byddwn yn cynnal y cyfweliadau ar gyfer y swydd hon yn rhithiol ar ddydd Gwener, 3ydd o Fawrth 2023. Os yw’r dyddiad hwn yn anghyfleus, nodwch hynny ar eich ffurflen gais os gwelwch yn dda. Dyddiad Cau
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw: 10 y bore, dydd Llun, 27 Chwefror 2023. Polisi Cydraddoldeb ac Amrywiaeth
Gwelwch ein gwefan i gael copi o’n Polisi Cydraddoldeb ac Amrywiaeth
Cyflog
💰 £21,979 - £23,749
Lleoliad
📍 Unrhyw un o’n swyddfeydd, O gartref
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Swyddog Gweithredol y Clwstwr (cyfnod mamolaeth)
Mae Menter a Busnes yn edrych am Swyddog Gweithredol y Clwstwr (cyfnod mamolaeth)
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mae Cywain, a ddarperir gan Menter a Busnes, yn fodel sy’n darparu cefnogaeth wedi’i dargedu ar gyfer busnesau micro a BBaCh sy’n gweithredu yn y sector bwyd a diod yng Nghymru. Rydym yn dechrau cyfnod newydd ac rydym wedi derbyn cyllid trwy Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig 2014 - 2020 i ddarparu gwasanaeth diwygiedig. Mae cyllid y prosiect wedi cael ei gadarnhau tan Mehefin 2023. Darperir gwasanaethau i ddatblygu capasiti a gallu busnesau, hwyluso trosglwyddo gwybodaeth a gwybodaeth y diwydiant ac atgyfnerthu integreiddiad y gadwyn gyflenwi. Mae’r ddarpariaeth ar gael ledled Cymru gyda phwyslais ar gydweithio drwy glystyru, ychwanegu gwerth a datblygu’r farchnad ar gyfer twf a chreu swyddi. Mae Cywain wedi datblygu rhwydwaith eang o randdeiliaid ac mae dull gweithredu cydlynol gyda phartneriaid datblygu eraill yn ganolog i ddatblygiad y cleientiaid. Mae tair elfen i’r prosiect:
● Cefnogaeth i fusnesau newydd a micro
● Cefnogaeth diagnosteg ar gael i holl fusnesau bwyd a diod yng Nghymru
● Clystyru a chyd weithio rhwng busnesau er mwyn hyrwyddo twf ac effeithlonrwydd Yn ei hanfod, mae clwstwr yn cael ei arwain gan y busnesau lle mae grŵp o gwmnïau sy’n gweithredu yn yr un sector ac mewn ardaloedd sy’n agos i’w gilydd yn ddaearyddol yn gweld bod ganddynt yr un math o gyfleoedd a phroblemau. Mae’r ffocws ar gynyddu gallu cystadleuol cwmnïau bwyd a diod yng Nghymru i’w helpu i ddatblygu a thyfu, a bydd aelodau o grŵp clwstwr yn dod ynghyd i gydweithio ar brosiect penodol. Mae’r prosiectau y maent yn gweithio arnynt yn amrywiol, o ymdrin â phroblemau sy’n bodoli o fewn y busnes sy’n effeithio ar dyfiant neu allu cystadleuol, i fynd i mewn i farchnadoedd newydd a chynyddu’r marchnadoedd sydd eisoes yn bodoli. Mae Menter a Busnes wedi bod yn defnyddio’r fethodoleg glystyru ers 2015 fel cynllun peilot mewn partneriaeth ag Adran Fwyd Llywodraeth Cymru. Ar hyn o bryd rydym yn cefnogi’r Clwstwr Bwydydd Da a Bwyd Môr. **Nod y Rôl **
Nod y rôl hon yw cefnogi Rheolwr y Clwstwr i:
● sicrhau bod prosiectau’r clwstwr yn cael eu gweithredu o fewn yr amser gofynnol ac o fewn y gyllideb
● cynllunio digwyddiadau a gweithdai, gan sicrhau eu bod yn cael eu hyrwyddo’n effeithiol a bod digonedd o bobl o’r gynulleidfa darged yn dod iddynt
● gwneud gwaith ymchwil sylfaenol i’r farchnad ac ymateb i ymholiadau busnes cyffredinol
● sicrhau bod pobl yn cydymffurfio â systemau a pholisïau prosiect perthnasol
● rhyngweithio a gweithio’n annibynnol heb oruchwyliaeth Prif Gyfrifoldebau
● Sicrhau bod yr holl ymholiadau’n cael eu hateb ar sail dealltwriaeth glir o anghenion busnesau
● Ymdrin ag ymholiadau o nifer o ffynonellau yn cynnwys buddiolwyr presennol a newydd, rhanddeiliaid yn cynnwys Llywodraeth Cymru, prynwyr a rhaglenni/sefydliadau cefnogi busnes eraill
● Gweithio’n agos â Rheolwr y Clwstwr i ganfod, sefydlu, adolygu/aildrefnu amseriadau darparu prosiectau unigol y Clwstwr, a chadw ffocws y darparwyr cefnogaeth ar ganlyniadau’r ymyriad. Gall y rhain gynnwys cefnogaeth a brynwyd yn allanol a chefnogaeth y sector cyhoeddus a phreifat
● Cefnogi dyheadau cwmnïau bwyd a diod ynghylch tyfiant drwy ddatblygu dealltwriaeth o elfennau allweddol cynllun tyfu’r busnes yn arbennig mewn datblygu masnach a busnes
● Darparu gwybodaeth ragorol am y tirlun cefnogi busnes lleol/rhanbarthol - yn cynnwys cefnogaeth gan Lywodraeth Cymru, y sector cyhoeddus a thrydydd sector/sector preifat
● Trefnu gweithdai a digwyddiadau yn ôl yr angen gan gynnwys mynychu rhai lle bo angen a gwneud gwaith dilynol wedyn
● Gweithio’n agos â’r Swyddog Marchnata i ddarparu cynnwys wedi’i ddiweddaru ar gyfer gwefan y prosiect a sianelau cyfryngau cymdeithasol
● Casglu tystiolaeth o foddhad y cleient yn unol â’n System Rheoli Ansawdd
● Monitro cynnydd yn fanwl gywir yn erbyn deilliannau ansoddol a meintiol, darparu adroddiad am gynnydd i’r Rheolwr Clwstwr
● Sicrhau cydymffurfiad â’r ddeddfwriaeth ddiogelu data briodol
● Cadw cofnodion yn effeithiol mewn fframwaith y cytunwyd arno i fodloni gofynion ariannu Llywodraeth Cymru/Ewrop a dilysrwydd y cynnyrch
● Mynd i gyfarfodydd a chynrychioli’r prosiect fel y bo’r gofyn **Ymchwilio a Monitro ** ** ** ● Cefnogi Rheolwr y Clwstwr i gofnodi, casglu a dadansoddi adborth y cleient.
● Mewnbynnu data’n gywir
● Monitro, adolygu ac adrodd yn gywir am weithgareddau prosiect, a sicrhau bod unrhyw waith a brynir gan gontractwyr trydydd parti’n cael eu cwblhau a’u hanfonebu’n brydlon
● Dadansoddi llwyddiant y prosiect i gyflawni ei dargedau drwy sicrhau bod y data’n gyfredol
● Cefnogi Rheolwr y Clwstwr drwy fynd i gyfarfodydd gyda chleientiaid fel y bo’r gofyn i gasglu unrhyw waith papur a data monitro perthnasol
● Sicrhau bod systemau CRM a rheoli’r prosiect yn cael eu cynnal ac yn gyfredol, effeithiol ac yn cydymffurfio gyda gofynion yr Archwiliad perthnasol
● Cysylltu â chleientiaid, darparwyr allanol a phartneriaid i gydlynu gweithgareddau/digwyddiadau
● Casglu a darparu cefnogaeth fusnes ranbarthol a gwybodaeth berthnasol gysylltiedig i gynnwys data lleol sy’n cynnwys argaeledd cyllido preifat a chyhoeddus **Arall **
● Sicrhau bod y safonau’n cael eu cyrraedd mewn perthynas ag ansawdd, gwasanaeth y cwsmer, cydraddoldeb ac amrywiaeth, iechyd a diogelwch a bioddiogelwch
● Derbyn dyletswyddau a chyfrifoldebau rhesymol eraill fel y bo’r gofyn
● Cynrychioli Menter a Busnes fel y bo’r gofyn Sgiliau a Phrofiad
Hanfodol
● Addysg hyd lefel gradd neu gymhwyster cyfatebol mewn pwnc perthnasol, a/neu brofiad gwaith y gellir dangos tystiolaeth ohono mewn maes perthnasol
● Profiad dangosadwy o reoli cleientiaid ac ymgysylltu gyda chleientiaid / busnesau naill ai wyneb yn wyneb, ar yr e-bost neu dros y ffôn
● Sgiliau trefnu a chydlynu rhagorol
● Dealltwriaeth dda neu brofiad da o’r sector amaeth / gwledig / bwyd yng Nghymru
● Profiad o drefnu arddangosiadau a digwyddiadau
● Gallu asesu a deall yn glir anghenion busnesau, eu cefnogaeth a’u gofynion mentora
● Deall cyfrifon cwmnïau a chynlluniau busnes
● Sgiliau a phrofiad o ddatblygu rhwydweithiau rhagorol ar wahanol lefelau (e.e. cysylltiadau ffurfiol ac anffurfiol) o bobl a allai ddod yn fuddiolwyr i bobl broffesiynol mewn sefydliadau partner
● Person hunanysgogol a rhagweithiol, yn derbyn cyfrifoldeb dros osod ac adolygu blaenoriaethau ar gyfer cyflawni targedau ac amcanion, gan ystyried anghenion y cwsmer
● Gallu gweithio’n annibynnol neu fel aelod o dîm
● Gallu dadansoddi a defnyddio tystiolaeth; meddwl yn ddargyfeiriol, mynegi manteision ac anfanteision a risgiau gwahanol opsiynau
● Profiad o weithio tuag at dargedau, gyda ffocws clir ar ansawdd
● Sgiliau rhyngweithio a chyfathrebu rhagorol, yn cynnwys sgiliau cyflwyno, llafar ac ysgrifenedig dwyieithog (Cymraeg/Saesneg) rhagorol
● Sgiliau Technoleg Gwybodaeth yn cynnwys Word, Excel, PowerPoint, Cronfeydd Data, E-bost a’r We
● Trwydded yrru lawn a char i’w ddefnyddio (noder: os lleolir yn un o swyddfeydd eraill Menter a Busnes, disgwylir i’r ymgeisydd llwyddiannus deithio i swyddfa Meifod o leiaf un diwrnod yr wythnos yn ystod y chwe mis cyntaf)
● Ar gael i weithio yn ystod y penwythnosau a gyda’r nos yn achlysurol **Manteisiol **
● Profiad o weithredu ymgyrchoedd cyfathrebu a marchnata
● Profiad o reoli prosiectau **Gwneud Cais **
Gallwch wneud cais am y swydd hon drwy lenwi ffurflen gais a ffurflen cyfle cyfartal (ar gael ar ein gwefan www.menterabusnes.co.uk) a’u dychwelyd at [email protected].
Os hoffech gael sgwrs anffurfiol am y swydd yma, cysylltwch â Jayne Jones ar 07957 191 887. Cyfweliadau Bydd y cyfweliadau ar gyfer y swydd yn cymryd lle yn rithiol ar ddydd Iau, 15 Medi 2022. Os na fydd y dyddiad yma’n gyfleus, nodwch hynny ar eich ffurflen gais os gwelwch yn dda. Dyddiad Cau
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw: 10.00 yb, Dydd Llun, 12 Medi 2022. Polisi Cydraddoldeb ac Amrywiaeth
Gwelwch ein gwefan os gwelwch yn dda i ddarllen ein Polisi Cydraddoldeb ac Amrywiaeth.
Cyflog
💰 £27,433 - £30,205
Lleoliad
📍 Bangor, O gartref
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Rydych wedi gweld yr holl swyddi.