Swyddi Cymraeg
3 swydd yn cyfateb
Fideograffydd a golygydd
Mae Four Cymru yn edrych am Fideograffydd a golygydd
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mae Four Cymru yn chwilio am fideograffydd brwdfrydig a galluog i ymuno â'i dîm creadigol, sydd wedi'i leoli yng Nghaerdydd neu Aberystwyth, ond gydag opsiwn i weithio hyblyg llawn o gartref.
Disgrifiad:
Bydd y rôl yn cynnwys gweithio ar draws amrywiaeth o brosiectau clyweledol a ffilm ar gyfer cleientiaid mewn cymysgedd o sectorau fel bwyd a diod, addysg, y celfyddydau a diwylliant, elusennau a'r sector cyhoeddus.
Rydym ni’n chwilio am berson amryddawn sydd eisiau cyfrannu syniadau a datblygu cysyniadau yn ogystal â dod â'r rhain yn fyw trwy eu galluoedd technegol a chynhyrchu. Bydd y rôl yn cynnwys:
· Datblygu cysyniadau
· Storifyrddio
· Ffilmio/recordio (gan gynnwys gosod goleuadau)
· Golygu fideo
· Ôl-gynhyrchu
· Dylunio sain
Mae profiad mewn graffeg symud/animeiddio sylfaenol yn ddymunol, yn ogystal ag awydd i ddysgu a datblygu sgiliau newydd a chwarae rhan mewn helpu eraill yn y tîm i ddatblygu eu gwybodaeth o’r cyfryngau gweledol.
Bydd y rôl yn cynnwys cyflwyno cynnwys fideo i gleientiaid ar sail annibynnol, ond hefyd fel rhan o ymgyrchoedd integredig mwy.
Oherwydd natur ddwyieithog llawer o’n gwaith, mae rhuglder yn y Gymraeg a’r Saesneg yn ddymunol.
Sgiliau a phrofiad
Bydd gan yr ymgeisydd delfrydol brofiad o weithio, naill ai fel rhan o gwmni cynhyrchu / asiantaeth hysbysebu neu’n llawrydd. Fodd bynnag, rydym ni’n croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr â diddordeb sydd newydd raddio o’r brifysgol â phortffolio gweithredol mewn cynhyrchu fideo/ffilm.
Profiad o weithio gyda'r fersiwn diweddaraf o feddalwedd graffeg ac animeiddio fel Photoshop, Adobe Illustrator, After Effects.
Adobe Premier Pro (neu feddalwedd golygu arall fel Final Cut Pro X neu AVID).
Diddordeb a gwybodaeth am gynhyrchu ffilm a ffotograffiaeth.
Gweithredwr camera, cynhyrchydd a golygydd fideo hyderus.
Bydd yr ymgeisydd cywir yn llawn cymhelliant, yn gallu cyfathrebu syniadau creadigol yn gryno ac yn llawn argyhoeddiad, yn rhoi sylw da i fanylion ac yn gallu gweithio'n ddigynnwrf ac yn effeithlon o dan bwysau.
Datganiad cydraddoldeb ac amrywiaeth
Rydym ni’n falch o'n cymuned amrywiol yn Four ac wedi ymrwymo i adlewyrchu amrywiaeth y byd rydym ni’n byw ynddo. Rydym ni’n ymdrechu i wella ein hamrywiaeth ac yn croesawu ymgeiswyr o bob cefndir, yn enwedig y rhai o grwpiau lleiafrifol a grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol.
Nid ydym yn gwahaniaethu ar sail oedran, anabledd, rhyw, cyfeiriadedd rhywiol, ailbennu rhywedd, hunaniaeth rhywedd, priodas, partneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil (gan gynnwys lliw a tharddiad ethnig neu genedlaethol), crefydd neu gred.
Polisïau gweithio hyblyg
Mae gan Four bolisi gweithio cwbl hyblyg ar draws ei holl leoliadau a swyddfeydd. Mae hyn yn golygu y gall staff weithio gartref ar unrhyw adeg oni bai bod ganddyn nhw ymrwymiadau wyneb yn wyneb megis cyfarfodydd cleientiaid, digwyddiadau, cyfarfodydd tîm neu hyfforddiant lle bydd gofyn iddyn nhw fod yn y swyddfa neu leoliad arall.
Dyddiad cychwyn: Cyn gynted â phosibl
**Sut i wneud cais: **
Anfonwch CV at: [email protected], gan ddyfynnu Fideograffydd (Cymru) yn y llinell bwnc. Nid ydym yn derbyn CVs gan asiantaethau.
Cyflog
💰 Ar gais
Lleoliad
📍 Caerdydd, Aberystwyth, O gartref
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Cyfarwyddwr / Cynhyrchydd
Mae Telesgop yn edrych am Gyfarwyddwr / Gynhyrchydd
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mae cwmni Telesgop yn chwilio am gyfarwyddwr / cynhyrchydd profiadol, hyderus a dyfeisgar sydd â diddordeb gwirioneddol yn y byd darlledu a'r awydd i rannu straeon difyr, gan weithio ar amrywiaeth o raglenni teledu.
Disgrifiad:
Mae Telesgop yn cynhyrchu ystod o raglenni i S4C, i’r BBC a darlledwyr eraill, ac i blatfformau digidol. Fe fydd gofyn i’r person llwyddiannus weithio ar y gyfres FFERMIO a hefyd ar raglenni amrywiol a chyfresi newydd. Mae’n gyfle i ddatblygu syniadau newydd ac i weithio ar ystod o genres.
Mae Telesgop yn gwmni cyfeillgar ac yn ymfalchio yn y teimlad cartrefol a theuluol sydd yn ein gweithle, gyda gwerthoedd uchel o ran disgwyliadau a gofal staff. Mae’r prif swyddfa yn Abertawe ac mae gennym adrannau golygu, graffeg a digidol.
Dylai'ch sgiliau cyfathrebu fod yn ardderchog, eich bod yn gallu gweithio’n dda fel rhan o dîm, ac yn gallu gweithio o fewn cyfyngiadau amser tynn. Mae trwydded yrru yn hanfodol.
Byddwch hefyd yn meddu ar ddealltwriaeth o’r cyfryngau cymdeithasol fel Facebook, Instagram, Twitter a Zoom. Bydd gennych y gallu i siarad ac ysgrifennu Cymraeg a Saesneg cywir ac ystwyth.
Swydd cytundeb tymor penodol fydd hon am 6 mis i ddechrau gyda’r posiblrwydd o arwain at swydd lawn amser, 5 diwrnod yr wythnos. Croesawir cynigion gan ymgeiswyr o bob cefndir heb wahaniaethu.
Bydd disgwyl i’r ymgeisydd llwyddiannus weithio o swyddfa Telesgop yn Abertawe ac yn medru gweithio o gartref yn y tymor byr.
Os am ymgeisio ar gyfer y swydd, anfonwch ebost, a CV yn cyflwyno’ch hunan a’ch profiad wedi’i labeli ‘Cyfarwyddwr / Cynhyrchydd’ at [email protected], neu os am fwy o wybodaeth, ffoniwch 01792 82 45 67.
Cyflog
💰 Cystadleuol yn dibynnu ar brofiad
Lleoliad
📍 Abertawe, O gartref
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Cynhyrchydd Cynnwys
Mae Rondo yn edrych am Gynhyrchydd Cynnwys
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Rydyn ni’n edrych am Gynhyrchydd profiadol i ymuno â thîm chwaraeon Rondo.
Byddai’r rôl yn berffaith i unigolyn creadigol ac egniol sy’n deall y broses o greu cynnwys ar draws y platfformau digidol a llinol.
Bydd gan y Cynhyrchydd Cynnwys gyfrifoldeb dros ddatblygu, cynllunio a chyfleu cynnwys dan frand Sgorio, arlein ac ar deledu llinol, gan ysbrydoli tîm cynhyrchu bywiog i wireddu’r weledigaeth.
Bydd hefyd yn datblygu syniadau newydd i ennill comisiynau nodwedd a dogfen ar deledu ac arlein.
Mae hwn yn gyfle gwych i unigolyn creadigol a blaengar gael creu cynnwys cyffrous ac atyniadol, gan ymuno ag adran lwyddiannus.
**Hanfodol **
Ymwybyddiaeth o blatfformau’r cyfryngau cymdeithasol a dealltwriaeth glir o sut i greu cynnwys sy’n gweithio ar bob platfform.
Profiad o greu a chyfleu syniadau creadigol newydd sy’n arwain at gomisiynau yng Nghymru a thu hwnt, o syniadau dogfen llinol i brosiectau uchelgeisiol arlein.
Profiad o amserlennu, a chreu cynnwys, gan sicrhau bod y deunydd yn cael ei gyfleu i safon uchel golygyddol, ar amser ac o fewn cyllideb.
Medru cyfathrebu’n gryno a rhugl ar lafar ac yn ysgrifenedig yn y Gymraeg a’r Saesneg.
**Manteisiol **
Dealltwriaeth dechnegol o’r ffyrdd cyfoes o greu a chyfleu cynnwys Sgiliau hunansaethu.
Y gallu i weithio dan gyfyngderau amser tynn ar adegau, i drefnu tîm i ymateb i straeon a chyfleu cynnwys ar fyr rybudd.
Diddordeb mewn chwaraeon a phêl-droed. **Nodweddion Personol **
Y gal_lu i ysbrydoli ac ysgogi tîm i fod yn greadigol a beiddgar_
Y gal_lu i fod yn fywiog yn greadigol ac yn finiog yn olygyddol_
Y ga_llu i weithio dan bwysau a heb oruchwyliaeth i safon uchel Y gallu i weithio o fewn tîm a bod yn hyderus i arwain _
Mae Rondo Media yn gyflogwr cyfleoedd cyfartal. Rydym yn croesawu ceisiadau gan bobl o safbwyntiau a chefndiroedd amrywiol.
Lleoliad: Caernarfon neu Caerdydd, gyda’r disgwyl i weithio ar leoliadau ledled Cymru a’r gallu hefyd i weithio’n hyblyg ac o adre ar adegau.
Am ffurflen gais ewch i wefan rondomedia.co.uk/swyddi a’i dychwelyd ar e-bost i [email protected]
Cyflog
💰 I'w drafod
Lleoliad
📍 Caernarfon, Caerdydd, Hyblyg, O gartref
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Rydych wedi gweld yr holl swyddi.