Swyddi Cymraeg
1 swydd yn cyfateb
Cydlynydd Therapi Gwybyddol Ymddygiadol (CBT) Ar-lein Cymraeg
Mae Bwrdd Iechyd Addysgu Powys yn edrych am Gydlynydd Therapi Gwybyddol Ymddygiadol (CBT) Ar-lein Cymraeg
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mae cyfle cyffrous wedi codi i ymuno â’r Tîm Therapi Gwybyddol Ymddygiadol (CBT) Ar-lein fel Cydlynydd CBT Ar-lein, i weithio gartref gyda lleoliad ger Aberhonddu, Powys. Mae’r tîm yn darparu gwasanaeth therapi ar-lein wedi'i gynllunio i helpu plant, pobl ifanc ac oedolion i reoli eu hiechyd meddwl a'u lles.
Rydym yn chwilio am unigolyn brwdfrydig, llawn cymhelliant sydd â phrofiad o CBT i gynnig cymorth clinigol tra'n canolbwyntio ar adferiad a chanlyniadau.
Mae'r gallu i siarad, darllen ac ysgrifennu yn Gymraeg i lefel 4 ar Fatrics Sgiliau Iaith Gymraeg y GIG yn hanfodol, yn ogystal â gradd anrhydedd mewn Seicoleg (neu gymhwyster cyfatebol) a bod yn gymwys ar gyfer aelodaeth raddedig gyfwerth gan Gymdeithas Seicolegol Prydain.
Mae'r gofynion yn cynnwys safonau uchel ym mhob math o gyfathrebu, sgiliau TG sylfaenol, gweithio'n dda o dan bwysau, a meddu ar ddull hyblyg o weithio.
Prif ddyletswyddau'r swydd
* Hybu a gweinyddu’r gwasanaeth CBT Ar-lein, gan gynnwys cynnal cofnodion cleifion, cofrestru defnyddwyr gwasanaeth ar y rhaglen, darparu manylion i roi’r cofrestriad ar waith, cyfathrebu â nhw, eu monitro a chynnig cefnogaeth glinigol trwy gydol y rhaglen.
* Gwneud penderfyniadau ynglŷn ag addasrwydd atgyfeiriadau newydd, gan lynu at brotocolau atgyfeirio’r adran ac atgyfeirio cleientiaid anaddas i’r gwasanaeth perthnasol. * Darparu cefnogaeth a chyngor i’r holl weithwyr gofal iechyd proffesiynol sy’n atgyfeirio cleifion, gan ateb unrhyw ymholiadau sydd ganddyn nhw neu eu defnyddwyr gwasanaeth ynglŷn â CBT ar-lein.
* Ysgogi, annog a chynnig cefnogaeth glinigol dros y ffôn/ trwy e-bost i ddefnyddwyr gwasanaeth gydol yr amser y maen nhw’n cwblhau’r rhaglen CBT Ar-lein.
* Bod yn rhagweithiol wrth gynnig newidiadau i weithdrefnau a darparu cefnogaeth wrth gyflwyno’r newidiadau hyn.
* Bod yn gyfrifol am reoli’r protocol ar gyfer monitro ac adrodd ar unrhyw rybuddion ynglŷn â risg, bwriad troseddol neu ddirywiad claf y bydd defnyddwyr yn rhoi gwybod amdanyn nhw naill o fewn y system CBT Ar-lein neu’n uniongyrchol.
* Rheoli cyfrifoldeb clinigol am unrhyw hunanatgyfeiriadau i’r gwasanaeth CBT ar-lein.
* Darparu hyfforddiant a chefnogaeth barhaus i’r gweithwyr gofal iechyd proffesiynol sy’n atgyfeirio cleifion ynglŷn â’r gwasanaeth CBT Ar-lein.
Am fanylion pellach am y broses ymgeisio, ewch i: Swyddi Cyfredol - Swyddi Cyfredol - Bwrdd Iechyd Addysgu Powys (gig.cymru)
Gellir gweithio o gartref neu o bell.
Mae'r swydd hon am gyfnod penodol o 2 flynedd.
Cyflog
💰 £25,655 - £31,534
Lleoliad
📍 O gartref
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Rydych wedi gweld yr holl swyddi.