Swyddi Cymraeg
8 swydd yn cyfateb
Cydlynydd Corfforaethol
Mae Eisteddfod Genedlaethol Cymru yn edrych am Gydlynydd Corfforaethol
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Rydyn ni'n chwilio am Gydlynydd Corfforaethol i ymuno â'r tîm.
Cyfle i gynorthwyo timoedd y Prif Weithredwr, Cyllid a Strategol, ynghyd â gweinyddu trefniadau cyfarfodydd y Bwrdd Rheoli a’r Cyngor, a rheoli swyddfa’r Eisteddfod yng Nghaerdydd, gan ateb y ffôn, ymateb i ymholiadau a chroesawu ymwelwyr i’r swyddfa, a llawer mwy.
DISGRIFIAD SWYDD
Prif Ddyletswyddau
- Cynnig gwasanaeth cefnogol effeithiol i dimoedd y Prif Weithredwr, Cyllid a Strategol.
- Gweinyddu trefniadau ar gyfer cyfarfodydd y Cyngor a’r Bwrdd gan gynnwys anghenion teithio a llety fel bo angen.
- Ymateb fel bo’n briodol i e-byst cyffredinol [email protected], i ymwelwyr i’r swyddfa, a galwadau ffôn allanol.
- Rheoli’r swyddfa o ddydd i ddydd gan gynnwys ateb y ffôn, ymdrin â’r post ac e-byst, croesawu ymwelwyr a dyletswyddau clerigol eraill gan gynnwys goruchwylio’r cyflenwad offer swyddfa, llungopïo a sganio.
- Cyfrifoldeb dros restr llety staff a gwirfoddolwyr blynyddol.
- Cyd-lynu’r trefniadau ar gyfer byrbryd noddwyr blynyddol yr Eisteddfod yn ystod yr ŵyl.
- Sicrhau bod cyfleusterau/lluniaeth yn eu lle, boed hynny yn y swyddfa neu mewn canolfannau eraill.
- Trefnu a chynnal ffeiliau electroneg ar gyfer prosiectau penodol.
- Cadw cofnodion mewn cyfarfodydd amrywiol.
Math o gytundeb: Parhaol
Cyflog: £23,000 - £24,411. Penodir ar waelod y raddfa.
Dyddiad cau: 3 Chwefror 2023
Sut i ymgeisio: Cwblhewch y ffurflen gais a’i dychwelyd at [email protected]. Mae croeso i chi gysylltu â [email protected] i drefnu sgwrs anffurfiol cyn y dyddiad cau.
Cyflog
💰 £23,000 - £24,411
Lleoliad
📍 Caerdydd, Llanybydder, O gartref
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Cydlynydd Artistig
Mae Eisteddfod Genedlaethol Cymru yn edrych am Gydlynydd Artistig
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Rydyn ni'n chwilio am Gydlynydd Artistig i ymuno â'r tîm.
Cyfle i gynorthwyo Adran Artistig yr Eisteddfod, gan gynnig cefnogaeth weinyddol, paratoi contractau, gwybodaeth i’w gyhoeddi yn y Rhaglen a’r platfformau digidol, a rheoli gweinyddiaeth prosiectau arbennig fel Côr yr Eisteddfod, ynghyd â chynorthwyo gyda’r elfen gystadlu drwy gydol y flwyddyn, a llawer mwy.
DISGRIFIAD SWYDD
Prif Ddyletswyddau
- Cynorthwyo’r Cyfarwyddwr Artistig, y Dirprwy Gyfarwyddwr Artistig a’r Rheolwr Cystadlu.
- Gweinyddu cytundebau artistiaid, beirniaid a chyfeilyddion.
- Trefnu bywgraffiadau a lluniau’r artistiaid a chystadleuwyr buddugol.
- Trefnu a gweinyddu cyfarfodydd pwyllgorau gwaith a phanelau lleol a chanolog.
- Gweinyddu amserlen Cymdeithasau gan gydlynu trefniadau a gwybodaeth gyda sefydliadau perthnasol a pharatoi’r cynnwys ar gyfer y Rhaglen a phlatfformau amrywiol yr Eisteddfod.
- Cynorthwyo i gysylltu gydag artistiaid a chystadleuwyr yn ystod yr ŵyl, gan gyd-gordio rhwng cystadleuwyr, beirniaid a stiwardiaid; gweinyddu beirniadaethau a rhagbrofion.
- Gweinyddu'r broses o ddewis Cyflwynwyr yr Orsedd a’r ddawns flodau a gweinyddu ceisiadau i’r Panel Urddau.
- Cynnal a diweddaru bas-data o gystadleuwyr, beirniaid a rhanddeiliaid.
- Gweinyddu prosiectau arbennig, e.e. côr yr Eisteddfod a’r côr plant.
- Trefnu a chofnodi cyfarfodydd y tîm artistig.
Math o gytundeb: Parhaol
Cyflog: £23,000 - £24,411. Penodir ar waelod y raddfa.
Dyddiad cau: 3 Chwefror 2023
Sut i ymgeisio: Cwblhewch y ffurflen gais a’i dychwelyd at [email protected]. Mae croeso i chi gysylltu â [email protected] i drefnu sgwrs anffurfiol cyn y dyddiad cau.
Cyflog
💰 £23,000 - £24,411
Lleoliad
📍 Caerdydd, Llanybydder, O gartref
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Rheolwr Technegol
Mae Eisteddfod Genedlaethol Cymru yn edrych am Reolwr Technegol
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Rydyn ni'n chwilio am Reolwr Technegol i ymuno â'r tîm.
Cyfle i arwain ar drafodaethau cytundebol, paratoi’r cynlluniau a’r polisïau ar gyfer adeiladu a dymchwel y Maes, ynghyd â chynllunio’r Maes a’i adnoddau, iechyd a diogelwch, y cynllun trafnidiaeth, rheoli contractwyr ar y Maes, cynaliadwyedd a llawer mwy.
DISGRIFIAD SWYDD
Prif Ddyletswyddau
- Arwain, cynghori a chynrychioli’r Eisteddfod yn weithredol mewn trafodaethau, gan gynnwys trafodaethau cytundebol, gyda rhanddeiliaid a phartneriaid perthnasol allanol gan sicrhau fod yr holl brosesau cyfreithiol a chydymffurfiaeth perthnasol yn cael eu dilyn. Hyn yn cynnwys asiantaethau allanol megis y BBC a chwmnïau darlledu eraill.
- Arwain trafodaethau a chynghori rhanddeiliaid perthnasol er mwyn paratoi dogfennau cynllunio a pholisïau e.e. cynlluniau trafnidiaeth, polisi llygredd, cynlluniau argyfwng ayyb.
- Paratoi a chyflwyno ceisiadau am y trwyddedau angenrheidiol.
Cynhyrchu, rheoli, a diwygio’r Cynlluniau Rheoli Digwyddiadau (CRhA) fel bo’r angen.
- Paratoi dogfennau cydymffurfiaeth gan rannu gwybodaeth perthnasol gyda chyd-weithwyr.
- Paratoi, a rheoli’r broses o sicrhau cytundebau ffafriol gyda’r holl gwmnïau sy’n darparu adnoddau technegol i’r Eisteddfod.
- Paratoi ac arwain ar adolygu cynlluniau holl feysydd yr ŵyl gan sicrhau gwasanaethau addas priodol.
- Rheoli iechyd a diogelwch yr ŵyl gan gynnwys cydymffurfiaeth gyda rheolau CDM.
- Rheoli cynllun trafnidiaeth yr ŵyl.
- Paratoi, adolygu a rheoli amserlen paratoi a dymchwel y Maes.
- Sicrhau bod yr holl drefniadau technegol yn gweithredu’n llyfn ac yn effeithiol yn ystod yr ŵyl.
- Paratoi cynllun ac arolygu’r drefn stiwardio.
- Rheoli contractwyr ar y maes fel bo’n berthnasol e.e. timau diogelwch, glanhau, ayyb.
- Rheoli prosiectau cynllunio a gweithredu holl feysydd yr ŵyl gan gynnwys materion cytundebol, staffio, hyfforddi, rhanddeiliaid, cwsmeriaid a chyllidebau.
- Arwain ar Gynlluniau Cynaliadwyedd y corff.
- Goruchwylio Amserlenni Cynhyrchu Digwyddiadau.
- Rheoli a datblygu staff y storfa.
- Cydgordio a goruchwylio’r cyfundrefnau amrywiol ar Faes yr Eisteddfod e.e. hygyrchedd, rheoli cerbydau.
Math o gytundeb: Parhaol
Cyflog: £41,800 - £44,365. Penodir ar waelod y raddfa.
Dyddiad cau: 8 Chwefror 2023
Cyfweliadau: 16 / 17 Chwefror (lleoliad i’w gadarnhau).
Sut i ymgeisio: Cwblhewch y ffurflen gais a’i dychwelyd at [email protected]. Mae croeso i chi gysylltu â [email protected] i drefnu sgwrs anffurfiol cyn y dyddiad cau.
Cyflog
💰 £41,800 - £44,365
Lleoliad
📍 Caerdydd, Llanybydder, O gartref
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Rheolwr Cystadlu
Mae Eisteddfod Genedlaethol Cymru yn edrych am Reolwr Cystadlu
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Rydyn ni'n chwilio am Reolwr Cystadlu i ymuno â'r tîm.
Cyfle i arwain ar holl elfennau marchnata a chyfathrebu’r Eisteddfod, gan gynnwys ein platfformau digidol a’n gwefan, gan gynnwys ein sianeli cyfryngau cymdeithasol, llunio a gweithredu ein strategaethau cyfathrebu lleol a chenedlaethol, y wasg a’r cyfryngau, hysbysebu, creu copi mewn print ac ar-lein, a llawer mwy.
DISGRIFIAD SWYDD
Prif Ddyletswyddau
- Arwain ar gynllun hyrwyddo’r cystadlu gan gydweithio gydag ystod o rhanddeiliaid e.e. prifysgolion, grwpiau ieuenctid, i ddenu cystadleuwyr newydd mewn cydweithrediad gyda’r Rheolwr Marchnata a Chyfathrebu.
- Paratoi cynnwys, prawf ddarllen a threfnu’r Rhestr Testunau a’r elfen gystadlu ar gyfer y Rhaglen.
- Gweinyddu cytundebau’r beirniaid, y cyfeilyddion a’r cystadleuwyr.
- Creu, cynnal a diweddaru system gystadlu, beirniaid a rhanddeiliaid.
- Gweinyddu'r cystadlaethau cyfansoddi a chydweithio gyda’r Cyfarwyddwr Artistig i baratoi'r Cyfansoddiadau a Beirniadaethau.
- Gweinyddu'r cystadlaethau llwyfan a gohebu gyda chystadleuwyr, arweinyddion, beirniaid, cyfeilyddion, clercod rhagbrofion ayyb yn unigol ar faterion sy’n ymwneud ag amserlenni, testunau cystadlu, mynediad a thocynnau bwyd, beirniadaethau ayyb fel bo’n briodol.
- Gweinyddu a chynghori’r Panelau Canolog a’r Pwyllgor Diwylliannol.
- Gweinyddu amserlenni cystadlaethau a threfnu amser ymarferiadau.
- Rheoli’r llyfrgell gerdd ac arwain ar ddigideiddio’r cynnwys.
- Gweinyddu’r broses sy’n ymwneud â darnau prawf a hunan ddewisiad, gan gynnwys prynu a chofnodi, ffeilio, cyfieithiadau, cyd-gysylltu gyda golygyddion, trwyddedu, hawlfraint, gosod geiriau, paratoi gwybodaeth i gystadleuwyr a chynorthwyo gyda phecynnau i’r beirniaid.
- Paratoi cylchlythyrau ar gyfer cystadleuwyr yn rhannu dyddiadau pwysig a chyfleoedd posibl mewn cydweithrediad gyda’r -Rheolwr Marchnata a Chyfathrebu.
- Goruchwylio elfen gystadlu Y Lle Celf gan gydweithio gyda’r swyddogion celf.
Math o gytundeb: Parhaol
Cyflog: £34,250 - £36,352. Penodir ar waelod y raddfa.
Dyddiad cau: 8 Chwefror 2023
Cyfweliadau: 16 / 17 Chwefror (lleoliad i’w gadarnhau).
Sut i ymgeisio: Cwblhewch y ffurflen gais a’i dychwelyd at [email protected]. Mae croeso i chi gysylltu â [email protected] i drefnu sgwrs anffurfiol cyn y dyddiad cau.
Cyflog
💰 £34,250 - £36,352
Lleoliad
📍 Caerdydd, Llanybydder, O gartref
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Rheolwr Marchnata a Chyfathrebu
Mae Eisteddfod Genedlaethol Cymru yn edrych am Reolwr Marchnata a Chyfathrebu
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Rydyn ni'n chwilio am Reolwr Marchnata a Chyfathrebu i ymuno â'r tîm.
Cyfle i arwain ar holl elfennau marchnata a chyfathrebu’r Eisteddfod, gan gynnwys ein platfformau digidol a’n gwefan, gan gynnwys ein sianeli cyfryngau cymdeithasol, llunio a gweithredu ein strategaethau cyfathrebu lleol a chenedlaethol, y wasg a’r cyfryngau, hysbysebu, creu copi mewn print ac ar-lein, a llawer mwy.
Prif Ddyletswyddau - Llunio a gweithredu strategaethau cyfathrebu a marchnata’r Eisteddfod yn ganolog ac ar gyfer pob Eisteddfod unigol.
- Rheoli, hybu a pharatoi arweinyddiaeth greadigol gan ddatblygu adnoddau a systemau i hybu gweithgareddau, a monitro, datblygu a chodi proffil yr Eisteddfod yn y wasg a’r cyfryngau.
- Comisiynu a rheoli ymchwil yn ôl yr angen a chreu, coladu a llunio arolygon er mwyn paratoi gwybodaeth ystadegol i hysbysu penderfyniadau’r Tîm Rheoli a’r Bwrdd.
- Rheoli prosesau ymgyrchoedd hysbysebu’r Eisteddfod ynghyd â hybu ac amddiffyn y brand a’r ddelwedd gorfforaethol drwy reoli enw da'r Eisteddfod yn gyhoeddus.
- Monitro ffynonellau gwybodaeth a gynhyrchir gan sefydliadau allanol perthnasol a chynghori'r Tîm Rheoli a’r Bwrdd ar ymateb corfforaethol.
- Cyfathrebu gwybodaeth gorfforaethol berthnasol yn rheolaidd i gyd-weithwyr.
- Arwain ar greu a chyhoeddi llenyddiaeth swyddogol yr Eisteddfod mewn print ac ar-lein.
- Rheoli sianelau cyfryngau cymdeithasol yr Eisteddfod.
- Cynllunio a gweithredu anghenion cyhoeddusrwydd noddwyr.
- Rheoli, datblygu a diweddaru gwefan a phlatfformau digidol yr Eisteddfod, gan gynnwys paratoi a golygu clipiau fideo drwy gydol y flwyddyn.
- Paratoi cylchlythyrau electronig ar gyfer ymgysylltu gwleidyddol, a chadw mewn cysylltiad gydag ymwelwyr a chwsmeriaid.
Math o gytundeb: Parhaol
Cyflog: £34,250 - £36,352. Penodir ar waelod y raddfa.
Dyddiad cau: 8 Chwefror 2023
Cyfweliadau: 16 / 17 Chwefror (lleoliad i’w gadarnhau).
Sut i ymgeisio: Cwblhewch y ffurflen gais a’i dychwelyd at [email protected]. Mae croeso i chi gysylltu â [email protected] i drefnu sgwrs anffurfiol cyn y dyddiad cau.
Cyflog
💰 £34,250 - £36,352
Lleoliad
📍 Caerdydd, Llanybydder, O gartref
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Cydlynydd Data Digidol
Mae Cyngor Llyfrau Cymru yn edrych am Gydlynydd Data Digidol
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mae’r Cyngor Llyfrau yn chwilio am weinyddwr medrus sy’n gallu gweithio’n gywir gyda data a chadw llwyfannau digidol yn gyfredol.
Mae’r rôl hon wedi’i lleoli yn y Ganolfan Ddosbarthu yn Aberysytwyth, ond mae opsiwn i weithio diwrnod neu ddau yr wythnos o bell.
Cyflog: £26,975 – £31,985
Dyddiad cau: 18 Hydref 2022
Cyflog
💰 £26,975 – £31,985
Lleoliad
📍 Aberystwyth, O gartref
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Rheolwr Gweithrediadau
Mae Theatr Genedlaethol Cymru yn edrych am Reolwr Gweithrediadau
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Dyma rôl newydd fydd yn rhoi cyfle i chi ddatblygu a gweithredu ein prosesau mewnol ac allanol er mwyn sicrhau ein gweledigaeth o greu theatr Cymraeg eithriadol i bawb. Pwrpas y swydd hon yw rheoli materion gweithredol y cwmni, yn cynnwys adnoddau dynol; rheoli asedau; systemau a chytundebau gweinyddol; systemau TG; a chasglu a dadansoddi data.
Mae’r cwmni’n anelu at fod mor gynhwysol â phosib, gan sicrhau ein bod yn cynnig cyfleoedd i bobl o bob cefndir ac o bob oedran, ac mae lles pobl yn holl bwysig i ni. Rydym felly yn edrych am berson sy’n rhannu’r gwerthoedd yma, yn enwedig gan y bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn arwain ar faterion adnoddau dynol, yn cynnwys recriwtio a gofalu am les staff.
Ry’n ni’n edrych am unigolyn sydd yn drefnus a chwilfrydig, sy’n ymfalchïo mewn systemau a phrosesau effeithiol, ac sy’n gallu rheoli eu gwaith eu hunain yn effeithiol. Os nad oes gennych y sgiliau neu’r profiad perthnasol ar gyfer y swydd hon eisoes, byddem yn fodlon ystyried darparu hyfforddiant a chyfleoedd i weithio tuag at gymwysterau perthnasol.
Mae pencadlys y cwmni yng Nghaerfyrddin, ond ry’n ni’n cynnig amrywiaeth o drefniadau gweithio hyblyg, yn cynnwys trefniant gweithio hybrid sy’n golygu cyfuniad o weithio yn y swyddfa a gweithio o gartref.
Cyflog
💰 £33,036
Lleoliad
📍 Caerfyrddin, Hyblyg, O gartref
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Swyddog Digwyddiadau
Mae Amgueddfa Cymru yn edrych am Swyddog Digwyddiadau
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Eich gwaith…
Gan weithio yn Amgueddfa Lechi Cymru ac o adref, byddwch yn gweithio gyda’r Tîm Digwyddiadau a phartneriaid cymunedol i ddatblygu a chynnal rhaglen weladwy, berthnasol ac arloesol o ddigwyddiadau cyhoeddus, yn fyw ac ar-lein. Eich rheolwr llinell fydd y Rheolwr Digwyddiadau a byddwch yn gweithio ar draws Amgueddfa Cymru.
Swyddog Digwyddiadau
Amgueddfa Lechi Cymru a gweithio o adref
17.5 awr yr wythnos
Contract 12 mis.
Gradd D £12,185.67 – £15,289.72 y flwyddyn
Bydd yr ymgeisydd yn cael ei benodi ar isafswm y raddfa gyflog hon fel arfer.
Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon.
Dyddiad Cau: 17 Gorffennaf 2022 5:00pm
Mae Amgueddfa Cymru yn gyflogwyr cyfle cyfartal. Croesewir ceisiadau o bob rhan o'r gymuned.
Cyflog
💰 £12,185.67 - £15,289.72
Lleoliad
📍 O gartref, Llanberis
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Rydych wedi gweld yr holl swyddi.