Swyddi Cymraeg
2 swydd yn cyfateb
Asesydd (Lefel 5) Cynllun Prentisiaeth - Cytundeb o'r 1.9.2022 hyd at 31.8.2024
Mae Mudiad Meithrin yn edrych am Asesydd (Lefel 5) Cynllun Prentisiaeth - Cytundeb o'r 1.9.2022 hyd at 31.8.2024
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mae hon yn swydd 1 neu 2 diwrnod yr wythnos yn ddibynnol ar y nifer o ddysgwyr. Yn ystod yr amser yma bydd angen i’r person llwyddiannus ymweld â phob dysgwr yn y lleoliad gwaith am 2 awr o gyswllt uniongyrchol bob mis. Yn ogystal â hyn bydd angen i’r person llwyddiannus gyflwyno’r cymhwyster Lefel 4 Paratoi i Arwain a Rheoli Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant mewn cyfres o weithdai tiwtorialau trwy gydol y cwrs. Rhaid hefyd treulio amser i gwblhau’r dogfennau perthnasol sy’n gysylltiedig gyda’r Brentisiaeth.
Dyletswyddau’r Swydd:
Bydd yn atebol i Brif Weithredwr Mudiad Meithrin trwy Reolwr Cenedlaethol Cynllun Hyfforddi Cenedlaethol am gyflawni’r dyletswyddau canlynol:
· Cyflwyno’r cymhwyster Lefel 5 Arwain a Rheoli Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant o fewn amser penodedig.
· Dylai’r aseswyr fod yn brydlon, yn gyfrifol ac yn darparu ar gyfer holl anghenion y dysgwyr o fewn eu gofal.
· Mae’n gyfrifoldeb ar yr aseswyr i drefnu ymweliadau, arwain trafodaethau ac i gyfathrebu’n broffesiynol gyda’r dysgwyr, arweinyddion y Cylch, athrawon / penaethiaid ysgol, rheolwyr a’r oedolion eraill o fewn y lleoliad.
· Cynnal sesiwn anwytho gyda’r dysgwr ar ddechrau’r cwrs.
· Cynnal cyfarfodydd cynnydd yn rheolaidd gyda’r dysgwr ac arweinydd/athro/ rheolwr y lleoliad.
· Datblygu a chytuno ar gynlluniau realistig ar gyfer dysgu ac asesu gyda’r dysgwyr, gan gymryd i ystyriaeth anghenion yr unigolyn, ac anghenion darparwr y lleoliad gwaith.
· Sicrhau bod dysgwyr yn deall diben, gofynion a phrosesau asesiad.
· Defnyddio dulliau asesu dilys, teg dibynadwy a diogel.
· Nodi a chasglu tystiolaeth sy'n ddilys, cywir a digonol.
· Gwneud penderfyniadau asesu yn erbyn meini prawf penodol.
· Cefnogi, tiwtora a mentora dysgwyr i gwblhau’r gwaith yn unol ag ymrwymiad cytundeb Cynllun Prentisiaethau Mudiad Meithrin, wrth ymweld ag o bell.
· Sicrhau bod gwaith portffolio electroneg (Valid-8) pob ymgeisydd yn cael ei gwblhau yn brydlon.
· Sicrhau fod y dysgwr yn derbyn adborth teg ac adeiladol syn cadarnhau cyflawniad ac yn nodi unrhyw ofynion ychwanegol.
· Cynnal cofnodion gofynnol o’r broses asesu, ei ddeilliannau a chynnydd y dysgwr.
· Gweithio gydag eraill i sicrhau y safonir arfer a deilliannau eraill.
· Sicrhau fod pob gwaith wedi’i gwblhau o fewn amser.
· Cyrraedd targedau fel y nodir gan y cwmni.
· Hyrwyddo perthynas bositif gyda phob lleoliad gwaith.
· Mynychu 2 weithdy / tiwtorial y mis trwy gydol y cwrs.
· Cyflwyno yn y gweithdai yn ôl yr angen.
· Cwblhau dogfennau sy’n berthnasol i’r Fframwaith Brentisiaethau yn fisol yn unol ag ymrwymiad cytundeb Cynllun Prentisiaethau Mudiad Meithrin.
· Mynychu Cyfarfodydd Safoni unwaith bob tymor.
· Mynychu sesiynau hyfforddiant mewn swydd yn ôl y galw.
· Mynychu Seremoni Wobrwyo flynyddol.
· Cynorthwyo yn ôl yr angen i recriwtio dysgwyr mewn ardal benodedig.
· Unrhyw waith arall perthnasol a chyffredinol i swyddogaeth y Cynllun Hyfforddi Cenedlaethol yn ôl cyfarwyddyd y Prif Weithredwr.
· Cyfrannu’n weithredol at hyrwyddo cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant ym mhob agwedd o’r gwaith, gan wrthod unrhyw ragfarn, ac ymdrin ag unrhyw wrthdaro neu ddigwyddiad yn brydlon yn unol â’r Polisi Cydraddoldeb ac Amrywiaeth. Cyfweliadau: Wythnos dechrau 25.7.2022 dros Teams
Cyflog
💰 £25,834 pro rata
Lleoliad
📍 Un o swyddfeydd Mudiad Meithrin, O gartref
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Rheolwr Grantiau
Mae Mudiad Meithrin yn edrych am Reolwr Grantiau
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Bydd yn atebol i Brif Weithredwr Mudiad Meithrin trwy Bennaeth Adran Cyllid am gyflawni’r dyletswyddau canlynol. · Adnabod ffynonellau grantiau amrywiol fydd yn cwrdd a gofynion cynlluniau amrywiol Mudiad Meithrin.
· Cydweithio’n agos a’r Tim Strategol a Rheolwyr i adnabod prosiectau ac adnabod cyfleoedd i adrannau gyd weithio ar gynlluniau.
· Paratoi crynodebau o grantiau i’r Tim Strategol a Rheolwyr.
· Cydweithio gyda Rheolwyr, y Tim Strategol a’r Prif Weithredwr i sicrhau bod cynlluniau adrannol yn cwrdd a meini prawf grantiau amrywiol.
· Ysgrifennu ceisiadau grant ar ran yr adrannau amrywiol gan gasglu tystiolaeth ofynnol.
· Cwrdd a tharged o gyflwyno ceisiadau grant gwerth cyfanswm sy’n ddim llai na £250,000 i gyllidwyr amrywiol yn ystod cyfnod y swydd.
· Cadw cofnodion cywir ar gyfer pob grant ymgeisir amdanynt ar ran yr adrannau.
· Perchnogi system rheoli grantiau gan ddarparu adroddiadau cynnydd cywir a chyfredol ar gyfer cyllidwyr.
· Cydweithio’n agos a’r Rheolwr Materion Elusennol a’r Pennaeth Cyllid i sicrhau ein bod yn cyflawni gweithgareddau llywodraethu, rheoli risg, perfformiad, monitro a rheolaeth ariannol fydd yn cwrdd a gofynion cyllidwyr.
· Cwblhau adroddiadau monitro mewn partneriaeth a’r rheolwr perthnasol.
· Rhannu gwybodaeth am grantiau perthnasol gyda Rheolwyr.
· Bod yn bwynt cyswllt y tîm a chyllidwyr ar gyfer ymholiadau.
· Mynychu cyfarfodydd gyda’r Pennaeth adran Gyllid yn ôl yr angen.
· Mynychu hyfforddiant perthnasol yn ôl yr angen.
· Ymgymryd ag unrhyw ddyletswyddau ychwanegol sy’n berthnasol i’r swydd yn ôl cyfarwyddyd y Mudiad.
Cyflog
💰 £36,918 – £46,335 pro rata
Lleoliad
📍 O gartref, Swyddfeydd
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Rydych wedi gweld yr holl swyddi.