Swyddi Cymraeg
1 swydd yn cyfateb
Swyddog Cefnogi a Chydlynydd Digwyddiadau
Mae Menter a Busnes yn edrych am Swyddog Cefnogi a Chydlynydd Digwyddiadau
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mae Cywain, a ddarperir gan Menter a Busnes, yn fodel sy’n darparu cefnogaeth wedi’i dargedu ar gyfer busnesau micro a BBaCh sy’n gweithredu yn y sector bwyd a diod yng Nghymru. Rydym yn dechrau cyfnod newydd ac rydym wedi derbyn cyllid trwy Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig 2014 - 2020 i ddarparu gwasanaeth diwygiedig. Mae cyllid y prosiect wedi cael ei gadarnhau tan Mehefin 2023. Darperir gwasanaethau i ddatblygu capasiti a gallu busnesau, hwyluso trosglwyddo gwybodaeth a gwybodaeth y diwydiant ac atgyfnerthu integreiddiad y gadwyn gyflenwi. Mae’r ddarpariaeth ar gael ledled Cymru gyda phwyslais ar gydweithio drwy glystyru, ychwanegu gwerth a datblygu’r farchnad ar gyfer twf a chreu swyddi. Mae Cywain wedi datblygu rhwydwaith eang o randdeiliaid ac mae dull gweithredu cydlynol gyda phartneriaid datblygu eraill yn ganolog i ddatblygiad y cleientiaid. Mae tair elfen i’r prosiect: · Cefnogaeth i fusnesau newydd a micro
· Cefnogaeth diagnosteg ar gael i holl fusnesau bwyd a diod yng Nghymru
· Clystyru a chyd weithio rhwng busnesau er mwyn hyrwyddo twf ac effeithlonrwydd. Nod Cyffredinol y Swydd Nod y swydd hon yw i ddarparu cefnogaeth i dîm Cywain trwy: · gydlynu a darparu cefnogaeth i dîm y prosiect, a fydd yn cynnwys darparu gwybodaeth, gweithredu a chofnodi gweithgareddau ar fasdata a systemau rheoli cwsmer
· bod yn gyfrifol dros ddarparu gwybodaeth am y prosiect, megis data allbynnau, at ddefnydd mewnol yn ogystal â phartneriaid a rhanddeiliaid allanol
· sicrhau fod holl ddogfennaeth y prosiect yn gywir ac wedi cael ei archifo
· cynnal a datblygu systemau gweinyddol y cynllun
· bod yn rhyngweithiol a gweithio’n annibynnol heb oruchwyliaeth
· bod yn gyfrifol am gydlynu trefniadau gweithdai a digwyddiadau Prif Gyfrifoldebau Darparu gwybodaeth a chefnogaeth swyddfa i dîm y prosiect · Darparu cymorth gweinyddol dibynadwy ac effeithlon a chefnogaeth i dîm Cywain.
· Trefnu a chymryd cofnodion mewn cyfarfodydd (mewnol ac allanol)
· Gweithio’n agos gyda thîm Cywain i baratoi a threfnu rhaglen o weithdai a digwyddiadau
· Arwain ar gydlynu trefniadau gweithdai a digwyddiadau o ddydd i ddydd, gan gynnwys trefniadau gyda lleoliadau, hwyluswyr allanol a chleientiaid
· Bod yn gyfrifol am restru a hyrwyddo gweithdai Cywain drwy amryw o sianeli
· Cynrychioli Cywain fel y pwynt cyswllt cyntaf ar gyfer ymholiadau mynychwyr gweithdai a digwyddiadau
· Adolygu trefniadau a niferoedd ar gyfer pob digwyddiad er mwyn adnabod anghenion marchnata a hyrwyddo perthnasol
· Cyfathrebu yn rheolaidd ac yn effeithiol gyda Swyddog Marchnata Cywain i sicrhau llwyddiant y rhaglen o weithdai a digwyddiadau
· Teithio i leoliadau ledled Cymru i fynychu digwyddiadau, gweithdai a lansiadau prosiect ayyb
· Sicrhau bod digwyddiadau yn rhedeg yn llyfn a darparu gwerth i gwsmeriaid a gwesteion
· Cwblhau proses parhaus o werthuso llwyddiannau gweithdai gan fewnbynnu a dadansoddi data ar systemau rheoli cwsmer y cwmni
· Cyfathrebu gydag asiantaethau allanol perthnasol
· Cydlynu a chrynhoi gweithgareddau misol aelodau’r tîm er mwyn cynhyrchu adroddiadau misol a chwarterol (meintiol ac ansoddol)
· Casglu, cyflwyno a storio'r holl wybodaeth angenrheidiol yn unol â gofynion cyllid a monitro’r cynllun
· Sicrhau bod ffeiliau’r tîm yn cynnwys yr wybodaeth sy’n ofynnol a chefnogi’r Rheolwr Prosiect i gynnal archwiliad rheolaidd
· Datblygu a rheoli cronfa ddata cleientiaid a systemau ar gyfer casglu gwybodaeth a deilliannau’r prosiect
· Cofnodi targedau’r tîm a’u gwirio yn erbyn dogfennau cymeradwyaeth
· Sicrhau cydymffurfiaeth gyda’r ddeddfwriaeth diogelu data priodol
· Ymdrin ag ymholiadau ar lein a thros y ffôn a’u hanfon ar y swyddogion priodol mewn modd amserol a phroffesiynol
· Cadw cofnodion yn effeithlon o fewn fframwaith cytûn i fodloni gofynion ariannol Llywodraeth Cymru/Ewrop a dilysrwydd allbynnau
· Mynychu cyfarfodydd a chynrychioli’r prosiect yn ôl y galw **Ymchwil a Monitro **
· Cefnogi'r Arweinydd Tim Marchnata a Digwyddiadau i gofnodi, casglu a dadansoddi adborth cleientiaid
· Mewnbynnu data’n gywir
· Dadansoddi cyflawniad y prosiect o’i dargedau trwy sicrhau bod y data yn gyfredol
· Cefnogi'r Arweinydd Tîm Marchnata a Digwyddiadau i gasglu unrhyw waith papur a data monitro perthnasol
· Sicrhau bod system Rheoli Perthynas Cwsmer a chronfeydd data’rprosiect yn cael eu cynnal a'u bod yn gyfredol ac yn effeithlon
· Cysylltu â chleientiaid, darparwyr a phartneriaid allanol i gydlynu gweithgareddau / digwyddiadau **Arall **
· Sicrhau bod safonau ansawdd, gwasanaeth cwsmer, cydraddoldeb ac amrywiaeth, iechyd a diogelwch a bioddiogelwch yn cael eu cyrraedd
· Derbyn unrhyw ddyletswyddau a chyfrifoldebau rhesymol eraill yn ôl y galw
· Cynrychioli Menter a Busnes yn ôl y galw Sgiliau a Phrofiad Hanfodol
· Cymhwyster CGC lefel 3 neu uwch, a/neu brofiad dangosadwy mewn maes perthnasol
· Brwdfrydedd dros waith yr adran
· Sgiliau trefnu a chydgysylltu rhagorol gyda’r gallu i weithio i ddyddiadau tynn
· Sgiliau gweinyddol a rhyngbersonol ardderchog
· Sgiliau cyfathrebu llafar ac ysgrifenedig dwyieithog (Cymraeg/Saesneg) rhagorol
· Sgiliau prawf ddarllen da
· Gallu asesu ac ymdrin ag ymholiadau’n effeithlon ac yn brydlon
· Gallu cymryd cofnodion mewn cyfarfodydd sy’n glir, cryno a chywir
· Gallu ysgogi ei hun yn greadigol gan dderbyn y cyfrifoldeb am osod ac adolygu blaenoriaethau i gyflawni targedau, gyda ffocws clir ar ansawdd
· Yn rhagweithiol ac yn gallu gyrru pethau ymlaen yn effeithlon
· Gallu gweithio’n annibynnol neu fel rhan o dîm
· Sgiliau TG rhagorol gan gynnwys - Windows; Meddalwedd cynhyrchiant (e-bost, prosesu geiriau, taenlenni, ffeilio data); Defnydd diogel o gyfrifiaduron a'r rhyngrwyd (chwilio a phori'r we, defnyddio gwefannau a chymwysiadau ar-lein)
· Os yn gweithio o adref am unrhyw adeg, bydd gofyn bod gennych gysylltiad rhyngrwyd addas yn barod
· Trwydded yrru lawn a defnydd o gar Manteisiol
· Gwybodaeth a dealltwriaeth am y sectorau amaeth, gwledig a bwyd yng Nghymru
· Profiad o drefnu arddangosfeydd a digwyddiadau phroffil uchel
· Profiad dangosadwy o weithio yn y diwydiant amaethyddol neu fwyd yng Nghymru
· Profiad o ddefnyddio systemau megis Salesforce, Mailchimp a Wordpress. Gwneud Cais
Gallwch wneud cais am y swydd hon drwy lenwi ffurflen gais a ffurflen cyfle cyfartal (sydd ar gael ar ein gwefan www.menterabusnes.co.uk) a’u dychwelyd at [email protected]. Os hoffech gael sgwrs anffurfiol am y swydd hon, cysylltwch ag Ynyr Roberts ar 02920 467 404. Cyfweliadau Byddwn yn cynnal y cyfweliadau ar gyfer y swydd hon yn rhithiol ar ddydd Gwener, 3ydd o Fawrth 2023. Os yw’r dyddiad hwn yn anghyfleus, nodwch hynny ar eich ffurflen gais os gwelwch yn dda. Dyddiad Cau
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw: 10 y bore, dydd Llun, 27 Chwefror 2023. Polisi Cydraddoldeb ac Amrywiaeth
Gwelwch ein gwefan i gael copi o’n Polisi Cydraddoldeb ac Amrywiaeth
Cyflog
💰 £21,979 - £23,749
Lleoliad
📍 Unrhyw un o’n swyddfeydd, O gartref
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Rydych wedi gweld yr holl swyddi.