Swyddi Cymraeg
2 swydd yn cyfateb
Fideograffydd a golygydd
Mae Four Cymru yn edrych am Fideograffydd a golygydd
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mae Four Cymru yn chwilio am fideograffydd brwdfrydig a galluog i ymuno â'i dîm creadigol, sydd wedi'i leoli yng Nghaerdydd neu Aberystwyth, ond gydag opsiwn i weithio hyblyg llawn o gartref.
Disgrifiad:
Bydd y rôl yn cynnwys gweithio ar draws amrywiaeth o brosiectau clyweledol a ffilm ar gyfer cleientiaid mewn cymysgedd o sectorau fel bwyd a diod, addysg, y celfyddydau a diwylliant, elusennau a'r sector cyhoeddus.
Rydym ni’n chwilio am berson amryddawn sydd eisiau cyfrannu syniadau a datblygu cysyniadau yn ogystal â dod â'r rhain yn fyw trwy eu galluoedd technegol a chynhyrchu. Bydd y rôl yn cynnwys:
· Datblygu cysyniadau
· Storifyrddio
· Ffilmio/recordio (gan gynnwys gosod goleuadau)
· Golygu fideo
· Ôl-gynhyrchu
· Dylunio sain
Mae profiad mewn graffeg symud/animeiddio sylfaenol yn ddymunol, yn ogystal ag awydd i ddysgu a datblygu sgiliau newydd a chwarae rhan mewn helpu eraill yn y tîm i ddatblygu eu gwybodaeth o’r cyfryngau gweledol.
Bydd y rôl yn cynnwys cyflwyno cynnwys fideo i gleientiaid ar sail annibynnol, ond hefyd fel rhan o ymgyrchoedd integredig mwy.
Oherwydd natur ddwyieithog llawer o’n gwaith, mae rhuglder yn y Gymraeg a’r Saesneg yn ddymunol.
Sgiliau a phrofiad
Bydd gan yr ymgeisydd delfrydol brofiad o weithio, naill ai fel rhan o gwmni cynhyrchu / asiantaeth hysbysebu neu’n llawrydd. Fodd bynnag, rydym ni’n croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr â diddordeb sydd newydd raddio o’r brifysgol â phortffolio gweithredol mewn cynhyrchu fideo/ffilm.
Profiad o weithio gyda'r fersiwn diweddaraf o feddalwedd graffeg ac animeiddio fel Photoshop, Adobe Illustrator, After Effects.
Adobe Premier Pro (neu feddalwedd golygu arall fel Final Cut Pro X neu AVID).
Diddordeb a gwybodaeth am gynhyrchu ffilm a ffotograffiaeth.
Gweithredwr camera, cynhyrchydd a golygydd fideo hyderus.
Bydd yr ymgeisydd cywir yn llawn cymhelliant, yn gallu cyfathrebu syniadau creadigol yn gryno ac yn llawn argyhoeddiad, yn rhoi sylw da i fanylion ac yn gallu gweithio'n ddigynnwrf ac yn effeithlon o dan bwysau.
Datganiad cydraddoldeb ac amrywiaeth
Rydym ni’n falch o'n cymuned amrywiol yn Four ac wedi ymrwymo i adlewyrchu amrywiaeth y byd rydym ni’n byw ynddo. Rydym ni’n ymdrechu i wella ein hamrywiaeth ac yn croesawu ymgeiswyr o bob cefndir, yn enwedig y rhai o grwpiau lleiafrifol a grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol.
Nid ydym yn gwahaniaethu ar sail oedran, anabledd, rhyw, cyfeiriadedd rhywiol, ailbennu rhywedd, hunaniaeth rhywedd, priodas, partneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil (gan gynnwys lliw a tharddiad ethnig neu genedlaethol), crefydd neu gred.
Polisïau gweithio hyblyg
Mae gan Four bolisi gweithio cwbl hyblyg ar draws ei holl leoliadau a swyddfeydd. Mae hyn yn golygu y gall staff weithio gartref ar unrhyw adeg oni bai bod ganddyn nhw ymrwymiadau wyneb yn wyneb megis cyfarfodydd cleientiaid, digwyddiadau, cyfarfodydd tîm neu hyfforddiant lle bydd gofyn iddyn nhw fod yn y swyddfa neu leoliad arall.
Dyddiad cychwyn: Cyn gynted â phosibl
**Sut i wneud cais: **
Anfonwch CV at: [email protected], gan ddyfynnu Fideograffydd (Cymru) yn y llinell bwnc. Nid ydym yn derbyn CVs gan asiantaethau.
Cyflog
💰 Ar gais
Lleoliad
📍 Caerdydd, Aberystwyth, O gartref
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Cydlynydd Cyfryngau Cymdeithasol Sgorio
Mae Rondo yn edrych am Gydlynydd Cyfryngau Cymdeithasol Sgorio
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mewn cyfnod cyffrous i bêl-droed Cymru, mae Rondo yn edrych am unigolyn i ymuno â thîm cynhyrchu Sgorio.
Mae’r swydd yn benodol yn ymwneud â chyhoeddi cynnwys ar gyfrifon Sgorio ar draws y cyfryngau cymdeithasol. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn berson creadigol sydd â’r ddawn i ddweud stori, yn ogystal â dealltwriaeth dechnegol o gyhoeddi cynnwys arlein.
Mae’r cyfrifoldebau yn cynnwys:
- Cyhoeddi cynnwys ar lwyfannau cymdeithasol Sgorio
- Dyletswyddau penodol ar Sgorio Stwnsh, sy’n cynnwys atodi ystadegau ar y wefan, rhannu uchafbwyntiau a diweddaru playlists ar YouTube
- Hyrwyddo gemau byw, e.e. drwy addasu templedi ar Photoshop - Is-deitlo eitemau a chyfweliadau, e.e. drwy ddefnyddio Premiere Pro
- Clipio, neu recordio deunydd systemau’n y cwmwl a golygu pan bydd angen
- Cyhoeddi cynnwys ar lwyfannau cymdeithasol Sgorio, yn cynnwys amserlennu negeseuon
Hanfodol
Dealltwriaeth o pa gynnwys sy’n gweithio orau ar wahanol blatfformau a pha trends sy’n datblygu Gallu defnyddio meddalwedd Adobe Photoshop a PremierePro neu debyg i greu cynnwys atyniadol Y gallu i weithio dan gyfyngderau amser tynn ar adegau, i gyhoeddi cynnwys o safon ar fyr rybudd Medru cyfathrebu’n gryno a rhugl yn ysgrifenedig yn y Gymraeg a’r Saesneg
Synnwyr cyffredin a synnwyr digrifwch – y gallu i daro’r cywair priodol wrth bostio negeseuon arlein Manteisiol
Diddordeb brwd mewn chwaraeon a phêl-droed.
Profiad o ddylunio graffeg trawiadol.
Dealltwriaeth o blatfform dosbarthu cynnwys fel Wild Moka.
Mae hwn yn gyfle gwych i unigolyn brwdfrydig gyfrannu at greu cynnwys atyniadol a chyfrannu at waith adran lwyddiannus mewn cyfnod hynod gyffrous.
Mae Rondo Media yn gyflogwr cyfleoedd cyfartal. Rydym yn croesawu ceisiadau gan bobl o safbwyntiau a chefndiroedd amrywiol.
Lleoliad: Caernarfon neu Caerdydd, gyda’r disgwyl i weithio ar leoliadau ledled Cymru a’r gallu hefyd i weithio’n hyblyg. Parodrwydd i weithio o swyddfeydd Rondo yng Nghaerdydd a Chaernarfon yn ôl y galw, ac ar nifer o benwythnosau’n ôl y galw.
Am ffurflen gais ewch i wefan rondomedia.co.uk/swyddi a’i dychwelyd ar e-bost i [email protected]
Cyflog
💰 I'w drafod
Lleoliad
📍 Caernarfon, Caerdydd, Hyblyg, O gartref
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Rydych wedi gweld yr holl swyddi.