Swyddi Cymraeg — O gartref
118 swydd yn cyfateb
Fideograffydd a golygydd
Mae Four Cymru yn edrych am Fideograffydd a golygydd
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mae Four Cymru yn chwilio am fideograffydd brwdfrydig a galluog i ymuno â'i dîm creadigol, sydd wedi'i leoli yng Nghaerdydd neu Aberystwyth, ond gydag opsiwn i weithio hyblyg llawn o gartref.
Disgrifiad:
Bydd y rôl yn cynnwys gweithio ar draws amrywiaeth o brosiectau clyweledol a ffilm ar gyfer cleientiaid mewn cymysgedd o sectorau fel bwyd a diod, addysg, y celfyddydau a diwylliant, elusennau a'r sector cyhoeddus.
Rydym ni’n chwilio am berson amryddawn sydd eisiau cyfrannu syniadau a datblygu cysyniadau yn ogystal â dod â'r rhain yn fyw trwy eu galluoedd technegol a chynhyrchu. Bydd y rôl yn cynnwys:
· Datblygu cysyniadau
· Storifyrddio
· Ffilmio/recordio (gan gynnwys gosod goleuadau)
· Golygu fideo
· Ôl-gynhyrchu
· Dylunio sain
Mae profiad mewn graffeg symud/animeiddio sylfaenol yn ddymunol, yn ogystal ag awydd i ddysgu a datblygu sgiliau newydd a chwarae rhan mewn helpu eraill yn y tîm i ddatblygu eu gwybodaeth o’r cyfryngau gweledol.
Bydd y rôl yn cynnwys cyflwyno cynnwys fideo i gleientiaid ar sail annibynnol, ond hefyd fel rhan o ymgyrchoedd integredig mwy.
Oherwydd natur ddwyieithog llawer o’n gwaith, mae rhuglder yn y Gymraeg a’r Saesneg yn ddymunol.
Sgiliau a phrofiad
Bydd gan yr ymgeisydd delfrydol brofiad o weithio, naill ai fel rhan o gwmni cynhyrchu / asiantaeth hysbysebu neu’n llawrydd. Fodd bynnag, rydym ni’n croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr â diddordeb sydd newydd raddio o’r brifysgol â phortffolio gweithredol mewn cynhyrchu fideo/ffilm.
Profiad o weithio gyda'r fersiwn diweddaraf o feddalwedd graffeg ac animeiddio fel Photoshop, Adobe Illustrator, After Effects.
Adobe Premier Pro (neu feddalwedd golygu arall fel Final Cut Pro X neu AVID).
Diddordeb a gwybodaeth am gynhyrchu ffilm a ffotograffiaeth.
Gweithredwr camera, cynhyrchydd a golygydd fideo hyderus.
Bydd yr ymgeisydd cywir yn llawn cymhelliant, yn gallu cyfathrebu syniadau creadigol yn gryno ac yn llawn argyhoeddiad, yn rhoi sylw da i fanylion ac yn gallu gweithio'n ddigynnwrf ac yn effeithlon o dan bwysau.
Datganiad cydraddoldeb ac amrywiaeth
Rydym ni’n falch o'n cymuned amrywiol yn Four ac wedi ymrwymo i adlewyrchu amrywiaeth y byd rydym ni’n byw ynddo. Rydym ni’n ymdrechu i wella ein hamrywiaeth ac yn croesawu ymgeiswyr o bob cefndir, yn enwedig y rhai o grwpiau lleiafrifol a grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol.
Nid ydym yn gwahaniaethu ar sail oedran, anabledd, rhyw, cyfeiriadedd rhywiol, ailbennu rhywedd, hunaniaeth rhywedd, priodas, partneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil (gan gynnwys lliw a tharddiad ethnig neu genedlaethol), crefydd neu gred.
Polisïau gweithio hyblyg
Mae gan Four bolisi gweithio cwbl hyblyg ar draws ei holl leoliadau a swyddfeydd. Mae hyn yn golygu y gall staff weithio gartref ar unrhyw adeg oni bai bod ganddyn nhw ymrwymiadau wyneb yn wyneb megis cyfarfodydd cleientiaid, digwyddiadau, cyfarfodydd tîm neu hyfforddiant lle bydd gofyn iddyn nhw fod yn y swyddfa neu leoliad arall.
Dyddiad cychwyn: Cyn gynted â phosibl
**Sut i wneud cais: **
Anfonwch CV at: [email protected], gan ddyfynnu Fideograffydd (Cymru) yn y llinell bwnc. Nid ydym yn derbyn CVs gan asiantaethau.
Cyflog
💰 Ar gais
Lleoliad
📍 Caerdydd, Aberystwyth, O gartref
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Rheolwr Gwasanaethau Eiddo
Mae Cymdeithas Tai Bro Myrddin yn edrych am Reolwr Gwasanaethau Eiddo
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
A ydych yn credu bod gennych yr arbenigedd, y profiad a'r sgiliau i arwain ac esblygu ein Tîm Gwasanaethau Eiddo sefydledig? Gan weithio yn ein Hadran Gweithrediadau, mae'r Rheolwr Gwasanaethau Eiddo yn chwarae rhan allweddol yn nhîm arwain y Gymdeithas. Byddwch yn chwarae rhan weithredol wrth hyrwyddo ein diwylliant a'n hymddygiad, a bydd gennych angerdd dros rymuso a chefnogi cydweithwyr a meithrin perthnasoedd gwaith da gyda chydweithwyr o bob rhan o'r Gymdeithas a phartneriaid allanol allweddol.
Am bwy rydyn ni'n chwilio?
Rydym yn chwilio am Reolwr Gwasanaethau Eiddo i ymuno â'n tîm. Yn atebol i’r Cyfarwyddwr Gweithrediadau bydd angen i chi gael:
• sgiliau trefnu cryf a llygad am fanylion;
• profiad o gynllunio a rheoli gwaith cynnal a chadw;
• gwybodaeth gadarn am waith datblygu / prosiectau adeiladu newydd;
• profiad o reoli staff sy'n mabwysiadu ymagwedd sy'n canolbwyntio ar oedolion;
• sgiliau TG rhagorol;
• sgiliau dadansoddol, gyda sgiliau datrys problemau cryf;
• sgiliau rhyngbersonol a chyfathrebu cryf, yn ysgrifenedig ac ar lafar;
• sgiliau pobl, prosiect a rheoli amser rhagorol;
• y gallu i weithio ar y cyd ac ar eich menter eich hun. Bydd gofyn i ddeiliad y swydd fod wedi'i addysgu hyd at lefel gradd mewn pwnc sy'n ymwneud ag adeiladu, bod â chymwysterau rhannol RICS, CIOB, RIBA neu gyfwerth (gydag ymrwymiad i ddod yn aelod siartredig llawn) a bod yn barod i ymgymryd â hyfforddiant priodol.
Beth allwn ni ei gynnig?
Fel Cymdeithas Tai wedi’i lleoli yng Nghaerfyrddin sy’n darparu cartrefi fforddiadwy o safon a gwasanaethau cysylltiedig â thai i tua 2,000 o drigolion yn Sir Gaerfyrddin a’r cyffiniau, rydym yno i’n pobl drwy gael tîm o dros 40 o gydweithwyr sy’n Gofalu, Gwrando a Darparu ar eu cyfer.
Rydym nid yn unig yn cynnig Cyflog Cystadleuol ond 30 diwrnod o Wyliau Blynyddol (ac eithrio gwyliau banc), Gwobrau Costau Byw Blynyddol, Cynllun Iechyd Corfforaethol, Cynlluniau Pensiwn a llawer mwy.
Cyflog
💰 Oddeutu £44k
Lleoliad
📍 Caerfyrddin, O gartref
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Golygydd Creadigol ‘Cyhoeddiadau Barddas’
Mae Barddas yn edrych am Olygydd Creadigol ‘Cyhoeddiadau Barddas’
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Cyfle cyffrous a pharhaol i lunio a llywio rhaglenni cyhoeddi barddoniaeth Gymraeg.
Os ydych chi’n
· berson brwdfrydig a chreadigol,
· yn meddu sgiliau Cymraeg graenus a dawn gyfathrebu anogol,
· ac yn gallu blaengynllunio a rheoli rhaglen brysur yn effeithiol,
yna dyma’ch cyfle i wneud cyfraniad pwysig a blaengar ym myd barddoniaeth a llenyddiaeth Gymraeg. Bydd pecyn graddfa cyflog a phensiwn i’r ymgeisydd llwyddiannus, a’r fantais o weithio oriau hyblyg, o gartref, yn rhan amser. Am fwy o wybodaeth a phecyn cais, ewch i wefan Barddas a lawr-lwythwch yr wybodaeth yno. Dyddiad cau: dydd Mercher , 7 Medi am 2 o’r gloch y pnawn.
Cyflog
💰 £29,174 – £33, 486 pro rata
Lleoliad
📍 O gartref
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Cyfarwyddwr / Cynhyrchydd
Mae Telesgop yn edrych am Gyfarwyddwr / Gynhyrchydd
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mae cwmni Telesgop yn chwilio am gyfarwyddwr / cynhyrchydd profiadol, hyderus a dyfeisgar sydd â diddordeb gwirioneddol yn y byd darlledu a'r awydd i rannu straeon difyr, gan weithio ar amrywiaeth o raglenni teledu.
Disgrifiad:
Mae Telesgop yn cynhyrchu ystod o raglenni i S4C, i’r BBC a darlledwyr eraill, ac i blatfformau digidol. Fe fydd gofyn i’r person llwyddiannus weithio ar y gyfres FFERMIO a hefyd ar raglenni amrywiol a chyfresi newydd. Mae’n gyfle i ddatblygu syniadau newydd ac i weithio ar ystod o genres.
Mae Telesgop yn gwmni cyfeillgar ac yn ymfalchio yn y teimlad cartrefol a theuluol sydd yn ein gweithle, gyda gwerthoedd uchel o ran disgwyliadau a gofal staff. Mae’r prif swyddfa yn Abertawe ac mae gennym adrannau golygu, graffeg a digidol.
Dylai'ch sgiliau cyfathrebu fod yn ardderchog, eich bod yn gallu gweithio’n dda fel rhan o dîm, ac yn gallu gweithio o fewn cyfyngiadau amser tynn. Mae trwydded yrru yn hanfodol.
Byddwch hefyd yn meddu ar ddealltwriaeth o’r cyfryngau cymdeithasol fel Facebook, Instagram, Twitter a Zoom. Bydd gennych y gallu i siarad ac ysgrifennu Cymraeg a Saesneg cywir ac ystwyth.
Swydd cytundeb tymor penodol fydd hon am 6 mis i ddechrau gyda’r posiblrwydd o arwain at swydd lawn amser, 5 diwrnod yr wythnos. Croesawir cynigion gan ymgeiswyr o bob cefndir heb wahaniaethu.
Bydd disgwyl i’r ymgeisydd llwyddiannus weithio o swyddfa Telesgop yn Abertawe ac yn medru gweithio o gartref yn y tymor byr.
Os am ymgeisio ar gyfer y swydd, anfonwch ebost, a CV yn cyflwyno’ch hunan a’ch profiad wedi’i labeli ‘Cyfarwyddwr / Cynhyrchydd’ at [email protected], neu os am fwy o wybodaeth, ffoniwch 01792 82 45 67.
Cyflog
💰 Cystadleuol yn dibynnu ar brofiad
Lleoliad
📍 Abertawe, O gartref
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Ymchwilydd / Gohebydd Materion Gwledig
Mae Telesgop yn edrych am Ymchwilydd / Gohebydd Materion Gwledig
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mae cwmni Telesgop yn chwilio am ymchwilydd/gohebydd hyderus a dyfeisgar sydd â diddordeb gwirioneddol yn y byd darlledu a'r awydd i rannu straeon difyr gan weithio ar amrywiaeth o raglenni radio a theledu.
Disgrifiad:
Mae Telesgop yn cynhyrchu ystod o raglenni ond yn chwilio am bobl i weithio yn benodol ar y gyfres ‘Ffermio’ ar S4C, ‘Bwletin Amaeth’ a ‘Troi’r Tir’ sydd ar BBC Radio Cymru. Mae'r swydd yn gofyn am berson brwdfrydig, trefnus a chreadigol sy’n barod i ymchwilio, recordio a golygu cyfweliadau radio. Bydd gennych ddiddordeb yn y byd amaethyddol a gwledig, a byddai dealltwriaeth o olygu clipiau sain ar raglenni fel Audacity neu Adobe Audition yn fanteisiol, ond nid yn hanfodol, gan y bydd hyfforddiant sylfaenol yn cael ei gynnig i chi baratoi, recordio a lleisio dau fwletin bob tair wythnos, eu pecynnu a'u cyfleu ar gyfer yr orsaf.
Dylai'ch sgiliau cyfathrebu fod yn ardderchog, ynghyd â’ch gallu i weithio’n dda fel rhan o dîm, a gweithio o fewn cyfyngiadau amser tynn.
Byddwch hefyd yn meddu ar ddealltwriaeth o’r cyfryngau cymdeithasol fel Facebook, Instagram, Twitter a Zoom. Bydd gennych hefyd y gallu i siarad ac ysgrifennu Cymraeg a Saesneg cywir ac ystwyth.
Swydd cytundeb tymor penodol fydd hon am oddeutu 3 mis i ddechrau gyda’r posiblrwydd o arwain at swydd llawn amser, 5 diwrnod yr wythnos. Croesawir cynigion gan ymgeiswyr di-brofiad, a rhai mwy profiadol o bob cefndir.
Bydd disgwyl i’r ymgeisydd llwyddiannus weithio o swyddfeydd Telesgop yn Abertawe ac yn medru gweithio o gartref yn y tymor byr gyda'r offer recordio'n cael ei ddarparu.
Os am ymgeisio ar gyfer y swydd, anfonwch ebost, CV a ffeil mp3 munud o hyd o'ch llais yn cyflwyno’ch hunan wedi’i labeli ‘CAIS AM SWYDD YMCHWILYDD/GOHEBYDD MATERION GWLEDIG’ at [email protected], neu os am fwy o wybodaeth, ffoniwch 01792 82 45 67.
Cyflog
💰 I'w drafod
Lleoliad
📍 Abertawe, O gartref
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Swyddog Ti a Fi Teithiol Ceredigion hyd at 31/03/23
Mae Mudiad Meithrin yn edrych am Swyddog Ti a Fi Teithiol Ceredigion hyd at 31/03/23
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Rhoddir pwyslais gan y Mudiad ar sicrhau bod gan rhieni/gwarchodwyr a phlant ifainc fynediad hwylus i gylchoedd Ti a Fi sy’n agos i’w cartrefi ac sy’n darparu cyfleoedd chwarae a chymdeithasu o ansawdd. Nod y Mudiad yw ceisio sicrhau bod pob cylch Ti a Fi yn cyflogi Arweinydd i fod yn gyfrifol am arwain gweithgareddau cyfrwng Cymraeg ar gyfer y plant a’u rhieni/gwarchodwyr. Mae hyn eisoes yn digwydd mewn nifer sylweddol o Gylchoedd Ti a Fi. Fodd bynnag mewn ardaloedd lle ceir anhawster recriwtio Arweinyddion parhaol i gylchoedd Ti a Fi, mae’r Mudiad yn chwilio am berson brwdfrydig i arwain gweithgareddau a rhannu negeseuon am ddilyniant i Addysg Gymraeg ar gyfer plant a’u rhieni/gwarchodwyr mewn hyd at 5 cylch Ti a Fi yn yr ardal. Disgwylir i’r person a benodir fod â phrofiad o arwain gweithgareddau chwarae ar gyfer plant o dan oed ysgol ynghyd â phrofiad o drefnu rhaglen o weithgareddau cefnogol ar gyfer rhieni/gwarchodwyr. Dylai’r person fod yn frwd dros y Gymraeg ac yn gallu trosglwyddo negeseuon i rieni/gwarchodwyr am werth dwyieithrwydd yn ogystal â phwysigrwydd dilyniant o gylch Ti a Fi i Gylch Meithrin ac ymlaen i addysg cyfrwng Cymraeg. Ar hyn o bryd oherwydd y cyfyngiadau o ganlyniad i’r pandemig, rydym yn cynnal Cylchoedd Ti a Fi tu allan er mwyn cwrdd â mesuriadau diogelu Llywodraeth Cymru. Yn arferol cynhelir y sesiynau tu mewn.
Cyflog
💰 £19,138 pro rata
Lleoliad
📍 O gartref, Un o swyddfeydd Mudiad Meithrin
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Swyddog Ti a Fi Teithiol Sir Benfro
Mae Mudiad Meithrin yn edrych am Swyddog Ti a Fi Teithiol Sir Benfro
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Rhoddir pwyslais gan y Mudiad ar sicrhau bod gan rieni a phlant ifainc fynediad hwylus i gylchoedd Ti a Fi sy’n agos i’w cartrefi ac sy’n darparu cyfleoedd chwarae a chymdeithasu o ansawdd. Nod y Mudiad yw ceisio sicrhau bod pob cylch Ti a Fi yn cyflogi Arweinydd i fod yn gyfrifol am arwain gweithgareddau cyfrwng Cymraeg ar gyfer y plant a’u rhieni. Mae hyn eisoes yn digwydd mewn nifer sylweddol o gylchoedd. Fodd bynnag mewn ardaloedd lle ceir anhawster recriwtio Arweinyddion parhaol i gylchoedd Ti a Fi, mae’r Mudiad yn chwilio am berson brwdfrydig i arwain gweithgareddau ar gyfer plant a’u rhieni/gwarchodwyr mewn 5 cylch Ti a Fi yn yr ardal. Disgwylir i’r person a benodir fod a phrofiad o arwain gweithgareddau chwarae ar gyfer plant o dan oed ysgol ynghyd â phrofiad o drefnu rhaglen o weithgareddau cefnogol ar gyfer rhieni/gwarchodwyr. Dylai’r person fod yn frwd dros y Gymraeg ac yn gallu trosglwyddo negeseuon i rieni am werth dwyieithrwydd yn ogystal â phwysigrwydd dilyniant o gylch Ti a Fi i Gylch Meithrin ac ymlaen i addysg cyfrwng Cymraeg. Ar hyn o bryd oherwydd y cyfyngiadau o ganlyniad I’r pandemig, rydym yn cynnal Cylchoedd Ti a Fi tu allan er mwyn cwrdd â mesuriadau diogelu Llywodraeth Cymru.
Cyflog
💰 £19,138 pro rata
Lleoliad
📍 O gartref, Un o swyddfeydd Mudiad Meithrin
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Swyddog Ti a Fi Teithiol yn y De Orllewin (Sir Gaerfyrddin)
Mae Mudiad Meithrin yn edrych am Swyddog Ti a Fi Teithiol yn y De Orllewin (Sir Gaerfyrddin)
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Rhoddir pwyslais gan y Mudiad ar sicrhau bod gan rhieni/gwarchodwyr a phlant ifainc fynediad hwylus i gylchoedd Ti a Fi sy’n agos i’w cartrefi ac sy’n darparu cyfleoedd chwarae a chymdeithasu o ansawdd. Nod y Mudiad yw ceisio sicrhau bod pob cylch Ti a Fi yn cyflogi Arweinydd i fod yn gyfrifol am arwain gweithgareddau cyfrwng Cymraeg ar gyfer y plant a’u rhieni/gwarchodwyr. Mae hyn eisoes yn digwydd mewn nifer sylweddol o Gylchoedd Ti a Fi. Fodd bynnag mewn ardaloedd lle ceir anhawster recriwtio Arweinyddion parhaol i gylchoedd Ti a Fi, mae’r Mudiad yn chwilio am berson brwdfrydig i arwain gweithgareddau a rhannu negeseuon am ddilyniant i Addysg Gymraeg ar gyfer plant a’u rhieni/gwarchodwyr mewn hyd at 5 cylch Ti a Fi yn yr ardal. Disgwylir i’r person a benodir fod â phrofiad o arwain gweithgareddau chwarae ar gyfer plant o dan oed ysgol ynghyd â phrofiad o drefnu rhaglen o weithgareddau cefnogol ar gyfer rhieni/gwarchodwyr. Dylai’r person fod yn frwd dros y Gymraeg ac yn gallu trosglwyddo negeseuon i rieni/gwarchodwyr am werth dwyieithrwydd yn ogystal â phwysigrwydd dilyniant o gylch Ti a Fi i Gylch Meithrin ac ymlaen i addysg cyfrwng Cymraeg. Ar hyn o bryd oherwydd y cyfyngiadau o ganlyniad i’r pandemig, rydym yn cynnal Cylchoedd Ti a Fi tu allan er mwyn cwrdd â mesuriadau diogelu Llywodraeth Cymru. Yn arferol cynhelir y sesiynau tu mewn.
Cyflog
💰 £19,138 pro rata
Lleoliad
📍 O gartref, Un o swyddfeydd Mudiad Meithrin
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Rheolwr Datblygu Prawf Fasnachu
Mae Menter a Busnes yn edrych am Reolwr Datblygu Prawf Fasnachu
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Dyma gyfle gwych i weithio ar brosiect o fewn y diwydiant bwyd a diod ffyniannus yng Nghymru sy’n hanfodol i dwf yr economi yng Nghymru. O ganlyniad i gynnydd mewn galw am gefnogaeth y prosiect, mae Cywain yn chwilio am unigolyn i weithio ar draws Cymru a’r Deyrnas Unedig i gynnig cyfleoedd prawf fasnachu amrywiol a chyffrous i fusnesau.
Cefndir Prosiect Cywain Mae Cywain, a ddarperir gan Menter a Busnes, yn fodel sy’n rhoi cymorth wedi’i dargedu i fusnesau bach a chanolig a micro yn y sector bwyd a diod yng Nghymru. Rydym wedi derbyn arian drwy Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020. Mae cyllid wedi’i sicrhau ar gyfer y prosiect tan fis Mehefin 2023 Mae cefnogaeth yn cael ei ddarparu i ddatblygu capasiti a gallu busnesau, hwyluso trosglwyddo gwybodaeth a dealltwriaeth o’r diwydiant, yn ogystal â chryfhau eu hintegreiddiad yn y gadwyn gyflenwi. Darperir gwasanaethau ledled Cymru gyda phwyslais ar gydweithio gyda busnesau sy’n ychwanegu gwerth a datblygu’r farchnad er mwyn tyfu a chreu swyddi. Mae Cywain wedi datblygu rhwydwaith eang o randdeiliaid ac, yn ganolog i ddatblygiad y cleient, mae gennym agwedd gydlynol tuag at weithio gyda phartneriaid darparu eraill. Mae tri prif ffrwd i’r prosiect:
- Cefnogaeth i fusnesau newydd a micro
- Cefnogaeth Diagnostig
- Clystyru a Chydweithio rhwng busnesau i hybu twf busnes ac effeithlonrwydd **Prif Gyfrifoldebau ** Darpariaeth Gwasanaethau
· Arwain ar elfen prawf fasnachu Cywain ledled Cymru a’r Deyrnas Unedig sy’n cynnwys sioeau masnach a phrynu o wahanol faint
· Adnabod a chydlynu presenoldeb mewn amrediad eang o ddigwyddiadau addas a fydd yn cynorthwyo busnesau i gael mynediad at farchnadoedd newydd
· Rhoi llwyfan i fusnesau i brawf fasnachu mewn digwyddiadau masnach a chyhoeddus fel ffordd o dderbyn adborth ar gynnyrch/ brand a meithrin hyder wrth werthu cynnyrch
· Cynllunio a gweithredu pob digwyddiad fel prif drefnydd, gan gynnwys anghenion rheoleiddio a threfniant i sicrhau diogelwch bwyd, ac arwain ar gyfathrebu cydlynol gydag aelodau perthnasol o’r tîm
· Gweithio gyda’r tîm i ddarparu cyfres o ddigwyddiadau Cwrdd â’r Prynwr (Rhithiol, hybrid a go iawn)
· Trefnu a chynnal storfeydd digwyddiadau Menter a Busnes · Cydweithio’n rhagweithiol gyda’r Rheolwyr Datblygu a Rheolwyr Clwstwr perthnasol i sicrhau bod digwyddiadau’n cael eu hyrwyddo a’u hanelu at y gynulleidfa darged mewn modd effeithiol ac amserol
· Rheoli cyllideb benodol ar gyfer trefnu a mynychu digwyddiadau prawf fasnachu a darparu adborth ar ôl y digwyddiadau i’r Rheolwr Prosiect a’r tîm ehangach
· Adolygu a datblygu y meini prawf a’r canllawiau i fusnesau sydd am brawf fasnachu, gan sicrhau eu bod yn cydymffurfio â gofynion cytundebol y prosiect ac yn bodloni gofynion archwilio perthnasol
· Adnabod, ymchwilio a chael mynediad at ddata deallusrwydd y farchnad benodol sy'n berthnasol ac yn addas ar gyfer anghenion y buddiolwyr targed mewn modd rhagweithiol
· Creu cysylltiadau da gydag unigolion, busnesau a chyrff eraill sy’n ymwneud ag arloesedd, datblygu cynnyrch newydd, datblygu marchnadoedd newydd a dosbarthu er mwyn hwyluso twf busnesau
· Darparu gwasanaeth integredig trwy weithio’n agos gyda Rheolwyr Datblygu Rhanbarthol a’r Rheolwr Prosiect yn ogystal â phartneriaid prosiect, gan gydweithio a mynychu digwyddiadau ar y cyd lle’n bosib
· Trefnu a darparu gweithdai pwrpasol ar themâu penodol i feithrin hyder a sgiliau busnesau sydd am fanteisio ar gyfleoedd prawf fasnachu **Monitro a Gwerthuso **
· Cadw cofnodion manwl o bob gweithgaredd a gwaith papur er mwyn sicrhau monitro a chyflawni targedau prosiect i gydymffurfio gyda systemau adrodd a monitro'r prosiect a Llywodraeth Cymru
· Cynhyrchu adroddiad terfynol ar ddiwedd pecynnau gwaith, a fydd yn adrodd ar gryfderau a gwendidau’r gweithgaredd/cymorth a ddarparwyd
· Monitro, adolygu a chynhyrchu adroddiadau ar dargedau, deilliannau, gwariant a pherfformiad pob digwyddiad prawf fasnachu i’r Rheolwr Prosiect yn unol â gofynion cytundeb Llywodraeth Cymru, gan gynnwys creu, cynnal a chadw systemau rheolaeth effeithiol er mwyn bodloni gofynion archwilio perthnasol
· Cydymffurfio gyda gofynion ariannol a gwariant y prosiect gan lynu at ganllawiau pwrcasu’r rhaglen **Arall **
· Cyrraedd safonau ansawdd, gwasanaeth cwsmer, cydraddoldeb ac amrywiaeth, iechyd a diogelwch a bioddiogelwch
· Derbyn dyletswyddau a chyfrifoldebau eraill, a chynnig mewnbwn i aseiniadau bwyd cysylltiedig a gwblheir gan Menter a Busnes yn ôl y galw
· Cynrychioli Menter a Busnes yn ôl y galw Sgiliau a Phrofiad Hanfodol
● Addysg hyd lefel gradd, neu gymwysterau cyfwerth, neu brofiad perthnasol ym maes datblygiad bwyd, marchnata, trefnu digwyddiadau neu bwnc perthnasol
● Dealltwriaeth drylwyr o’r sector bwyd-amaeth yng Nghymru, gyda’r gallu i adnabod cyfleoedd i ddatblygu marchnadoedd newydd
● Dealltwriaeth dda a/neu brofiad dangosadwy o weithio gyda chynhyrchwyr bwyd cynradd a’r sector preifat
● Sgiliau trefnu, rheoli a chydlynu rhagorol, gyda phrofiad dangosadwy o drefnu arddangosfeydd a digwyddiadau
● Profiad dangosadwy o reoli cleientiaid ac ymgysylltu gyda chleientiaid / busnesau naill ai wyneb i wyneb, dros e-bost neu dros y ffôn
● Sgiliau rhyngbersonol o safon uchel a phrofiad o ddatblygu rhwydweithiau gwych ar wahanol lefelau (e.e. cysylltiadau ffurfiol ac anffurfiol) o fuddiolwyr posibl i bobl broffesiynol mewn sefydliadau partneriaeth
● Gallu cymell ei hun, a derbyn cyfrifoldeb dros osod ac adolygu blaenoriaethau ar gyfer cyflawni targedau, gyda ffocws clir ar ansawdd gan roi ystyriaeth i anghenion y cwsmer
● Gallu bod yn rhagweithiol a gyda'r brwdfrydedd i yrru pethau ymlaen yn effeithiol, boed hynny’n annibynnol neu fel rhan o dîm ● Ymwybyddiaeth o safonau diogelwch bwyd a gofynion rheoleiddio’r diwydiant
● Sgiliau cyfathrebu llafar ac ysgrifenedig dwyieithog (Cymraeg/Saesneg) rhagorol
● Sgiliau technoleg gwybodaeth o safon uchel gan gynnwys pecynnau Microsoft, cronfeydd data a’r we
● Trwydded yrru lawn a defnydd o gar (bydd teithio ledled Cymru a thu hwnt yn rhan annatod o’r swydd)
● Ar gael i weithio gyda’r nos a thros y penwythnos yn achlysurol Dymunol
● Ymwybyddiaeth eang o ddatblygiad polisi bwyd-amaeth, yn ogystal â strategaethau a pholisïau Llywodraeth Cymru
● Gallu gwneud penderfyniadau anodd ac amserol er budd y busnes a/neu’r gwasanaeth, gan gynnwys codi pryderon addas yn ymwneud â darpariaeth y gwasanaeth, cyllidebau ac isgontractwyr mewn modd proffesiynol a gwrthrychol Gwneud Cais
Gallwch wneud cais am y swydd hon drwy lenwi ffurflen gais a’i dychwelyd at [email protected]. Os hoffech gael sgwrs anffurfiol am y swydd hon, cysylltwch ag Rolant Tomos ar 07964 354 660 Cyfweliadau
Cynhelir cyfweliadau ar gyfer y swydd yma ar ddydd Mercher, 27 Gorffennaf 2022. Os nad yw'r dyddiad yma yn gyfleus, plis nodwch ar y ffurflen gais. Dyddiad Cau
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw: 10 yb, dydd Iau 21ain o Orffennaf 2022 **Polisi Cydraddoldeb ac Amrywiaeth **
Gwelwch ein gwefan i gael copi o’n Polisi Cydraddoldeb ac Amrywiaeth.
Cyflog
💰 £34,198 - £36,335
Lleoliad
📍 Meifod, O gartref
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Arweinydd Tenantiaethau Cynaliadwy
Mae Grŵp Cynefin yn edrych am Arweinydd Tenantiaethau Cynaliadwy
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Rydym yn chwilio am unigolyn i gefnogi tenantiaid i gynnal eu tenantiaethau yn llwyddiannus. Ymunwch â ni i wneud gwahaniaeth gwirioneddol o fewn ein cymunedau.
Disgrifiad:
Cyfrifoldebau'r Swydd
1. Gweithredu’n briodol i sicrhau cyflawni Strategaeth Cynhwysiad Ariannol, y cynllun gweithredu a gweithdrefnau tai eraill Grŵp Cynefin yn effeithiol.
2. Ymchwilio, rhannu a throsglwyddo ymarfer da drwy fod yn bencampwr prosesau LEAN i’r timoedd tai a lles.
3. Hyrwyddo a gweithio gyda chyd-weithwyr ar draws y Gymdeithas i sicrhau bod ein darpariaeth yn addas, yn datblygu a ffynnu.
4. Chwilio am gyfleoedd ariannol i deilwra gwasanaethau er budd ein tenantiaid.
5. Datblygu ymgyrchoedd, fel darganfod grantiau, drwy gydweithio â partneriaid perthnasol er budd ein tenantiaid.
6. Arwain staff i sicrhau ein bod yn teilwra gwasanaethau a ffocysu ar wytnwch (resilience).
7. Arwain i sicrhau bod tenantiaethau yn gynaliadwy.
8. Arwain i ddefnyddio ystadegau proffilio ein tenantiaid, paratoi adroddiadau a cynllun gweithredu sy’n cyfarch anghenion y busnes i’r dyfodol.
9. Casglu a dadansoddi ystadegau ariannol tenantiaid i flaenoriaethu gwasanaethau ataliol.
10. Rheoli’r tîm lles a monitro achosion.
11. Rhagweld a chyflwyno newidiadau yn effeithiol gan annog gwelliant parhaus, yn arbennig drwy ddulliau cyfoes a digidol.
12. Sicrhau perthynas weithio dda â rhanddeiliaid perthnasol megis rhwng staff yr Adran Dai a’r Adran Gwaith a Phensiynau, awdurdodau lleol, undebau credyd, CAB a mudiadau lles eraill, a’r trydydd sector er mwyn cefnogi tenantiaid bregus.
13. Sicrhau bod gwybodaeth gyfredol i gefnogi tenantiaid yn cael eu hybu, gan gynnwys ar wefan y Gymdeithas, Calon a’r cyfryngau cymdeithasol.
14. Arwain yr adran i ystyried Gwerth am Arian ym mhob agwedd o'n gwaith, mesur llwyddiant hynny a pharatoi adroddiadau .
15. Dirprwyo yr Arweinydd Tîm Casglu Incwm pan fod angen, gan arwain y tîm a sicrhau bod uchafu incwm Grŵp Cynefin yn cael blaenoriaeth.
Cyflog
💰 £28,860 - £33,482
Lleoliad
📍 O gartref, Unrhyw un o’n swyddfeydd
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Arweinydd Tîm Cefnogaeth Symudol Cam-drin Domestig
Mae Grŵp Cynefin yn edrych am Arweinydd Tîm Cefnogaeth Symudol Cam-drin Domestig
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Rydym yn chwilio am unigolion arbennig iawn i arwain a datblygu y timoedd darpariaeth trais yn y cartref ac atal digartrefedd ac i dywys Gorwel a'i staff i ddyfodol cyffrous drwy ddarparu gwasanaeth o'r safon uchaf i'n cwsmeriaid.
Disgrifiad:
Cyfrifoldebau Allweddol
1. Meddu ar ddealltwriaeth ragorol o gam-drin domestig, gan gynnwys yr effaith ar ddioddefwyr a'u plant, a'r datrysiadau cyfreithiol ac ymarferol sydd ar gael i'r defnyddwyr gwasanaeth hyn.
2. Gweithredu i sicrhau bod anghenion defnyddwyr gwasanaeth yn y gymuned yn cael eu diwallu'n effeithiol, gan arwain y tîm i sicrhau darpariaeth gyfannol sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn sy'n arwain at annibyniaeth a bywyd di-drais.
3. Goruchwylio'n annibynnol, gan gymryd cyfrifoldeb am drefnu cyfarfodydd tîm ac adolygiadau blynyddol ar gyfer gweithwyr cymorth y gwasanaeth.
4. Cyflwyno a darparu cefnogaeth a goruchwyliaeth effeithiol i bob aelod o staff, gan gynnwys cyflwyno a gweithredu adolygiadau achos a llwyth gwaith arferol yn seiliedig ar adolygu risgiau, anghenion a cham-drin.
5. Nodi a chynllunio rhaglen hyfforddi ar gyfer gweithwyr cymorth, yn ogystal â bod yn rhan o'r prosesau recriwtio, rheoli perfformiad a disgyblu.
6. Gweithredu'n annibynnol o fewn ffiniau'r rôl, gan benderfynu pryd y mae'n briodol cyfeirio materion at y Rheolwr Gwasanaeth i gael arweiniad.
7. Cyfrifoldeb am sicrhau bod trefniadau priodol ar waith i reoli a monitro risgiau, gan wneud penderfyniadau er mwyn ymateb i risgiau yn hyderus ac yn effeithiol.
8. Cyfrifoldeb am ymateb yn gadarn a gweithredu ar unrhyw bryderon sy'n ymwneud ag Amddiffyn Plant ac Amddiffyn Oedolion sy'n Agored i Niwed, gan gyflwyno adroddiadau a thystiolaeth gywir a ffeithiol ar gyfer cynadleddau achos.
9. Arwain mewn sefyllfaoedd o argyfwng a darparu arweiniad clir i'r tîm a chynnig cyngor a chefnogaeth ymarferol.
10. Arwain ar ddeddfwriaeth budd-daliadau lles / materion diwygio lles er mwyn cynghori'r tîm yn hyderus.
11. Bod yn gyfrifol am weinyddu gweithdrefnau priodol er mwyn monitro’r broses gymorth yn unol â gofynion statudol, deddfwriaeth amddiffyn a chytundebau lefel gwasanaeth cyllidwyr.
12. Cynorthwyo’r Rheolwr Gwasanaeth er mwyn llunio a gweithredu cynllun gweithredol blynyddol ar gyfer y cynlluniau, gan ymateb i ganlyniadau, ystadegau a gofynion cyllidwyr.
13. Paratoi adroddiadau o ansawdd uchel bob chwarter ar gyfer adolygiadau monitro cyllidwyr (e.e. Grant Cymorth Tai, Cymorth i Ferched Cymru), gan gynnwys mynychu cyfarfodydd monitro chwarterol.
14. Cynorthwyo’r Rheolwr Gwasanaeth gyda datblygu gwasanaeth ac unrhyw gynlluniau newydd.
15. Bod yn rhan o baratoi a darparu adolygiadau gwasanaeth Grant Cymorth Tai a gweithredu'r argymhellion.
16. Cynorthwyo'r Rheolwr Gwasanaeth i baratoi hunanasesiad blynyddol y gwasanaethau.
17. Gweithredu fel y prif bwynt cyswllt, gan gynnal perthynas â landlordiaid preifat a chymdeithasol i sicrhau eiddo ar gyfer defnyddwyr gwasanaeth.
Cyflog
💰 £28,235 - £30,854
Lleoliad
📍 Blaenau Ffestiniog, Llangefni, Caernarfon, O gartref
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Arweinydd Tîm Atal Digartrefedd
Mae Grŵp Cynefin yn edrych am Arweinydd Tîm Atal Digartrefedd
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Cyfrifoldebau Allweddol
1. Sicrhau dealltwriaeth clir o ddarpariaeth cefnogaeth yn y maes atal digartrefedd gan ymateb i anghenion staff a defnyddwyr gwasanaeth fel bod Gorwel yn ffynnu.
2. Gweithredu i sicrhau bod anghenion defnyddwyr gwasanaeth, yn y llety ac yn y gymuned yn cael eu hateb yn effeithiol, gan arwain y tîm i sicrhau darpariaeth cefnogaeth holistig a pherson ganolig sy’n arwain at annibyniaeth.
3. Trefnu rotas i sicrhau fod y prosiectau yn darparu cymorth uniongyrchol i ddefnyddwyr y gwasanaeth yn ôl galw’r cytundeb gwasanaeth.
4. Yn annibynnol, goruchwylio gan gymryd cyfrifoldeb o drefnu cyfarfodydd tîm ac adolygiadau blynyddol ar gyfer gweithiwyr cefnogi a mentoriaid y gwasanaeth.
5. Adnabod a chynllunio’r rhaglen hyfforddiant ar gyfer gweithwyr cefnogi, yn ogystal â bod yn rhan o broses recriwtio, medrusrwydd a disgyblu.
6. Gweithredu’n annibynnol o fewn ffiniau’r swydd, gan benderfynu pryd mae’n briodol cyfeirio materion at y Rheolwr Gwasanaeth am arweiniad.
7. Cyfrifoldeb i sicrhau bod trefniadau priodol i reoli a monitro risg gan wneud penderfyniadau er mwyn ymateb i risg yn hyderus ac yn effeithiol.
8. Ymateb yn gadarn gan weithredu ar unrhyw bryderon Amddiffyn Plant neu Amddiffyn Oedolion Bregus gan gyflwyno adroddiadau a thystiolaeth cywir a ffeithiol ar gyfer cynadleddau achos.
9. Rhoi arweiniad clir i weithwyr cefnogi drwy ddarparu cyngor a chymorth ymarferol ar reoli cynlluniau cefnogi. 10. Arwain ar faterion deddfwriaeth budd-daliadau lles / diwygio lles er mwyn cynghori’r tîm yn hyderus.
11. Sicrhau gweithdrefnau monitro a rheoli ar gyfer anghydfod budd-daliadau a thaliadau rhent defnyddwyr gwasanaeth (gan gynnwys ôl ddyledion) 12. Yn gyfrifol am weinyddu gweithdrefnau priodol er mwyn monitro’r drefn cefnogi yn unol â gofynion statudol, deddf gwarchod a chytundeb gwasanaeth arianwyr.
13. Cynorthwyo’r Rheolwr Gwasanaeth er mwyn llunio a chyflawni cynllun gweithredol blynyddol ar gyfer y cynlluniau sydd yn ymateb i ddeilliannau, ystadegau a gofynion arianwyr.
14. Paratoi adroddiadau o safon uchel yn chwarterol ar gyfer adolygiadau monitro arianwyr (e.e. Cefnogi Pobl) gan gynnwys mynychu cyfarfodydd chwarterol monitro.
15. Cynorthwyo’r Rheolwr Gwasanaeth i ddatblygu’r gwasanaethau ac unrhyw gynlluniau newydd. 16. Yn rhan o baratoi a chyflawni adolygiadau gwasanaeth Grant Cymorth Tai gan weithredu ar argymhellion.
17. Cynorthwyo’r Gwasanaeth i baratoi hunan arfarniad blynyddol o’r gwasanaethau.
18. Yn gweithredu fel prif gyswllt, gan gynnal perthynas gyda landlordiaid preifat a chymdeithasol i sicrhau eiddo i’r defnyddwyr gwasanaeth. 19. Mynychu cyfarfodydd a chynadleddau ar gais y Rheolwr Gwasanaeth a bod yn ymwybodol bob amser o dueddiadau a phynciau trafod cyfredol o fewn y maes cefnogaeth a thrais yn y cartref.
20. Ar y cyd â’r Rheolwr Gwasanaeth cymryd rhan flaenllaw o adolygu polisïau a gweithdrefnau Gorwel yn y maes cefnogi.
21. Arwain wrth hyrwyddo a datblygu cyfleoedd cyfranogiad ar gyfer y cynlluniau.
22. Gwybodaeth eang am deddfwriaeth sy’n berthnasol i digartrefedd, trais yn y cartref a chefnogaeth.
23. Gweledigaeth i ddatblygu gwasanaethau sydd yn cynnig “cefnogaeth a mwy”.
Cyflog
💰 £28,235 - £30,854
Lleoliad
📍 O gartref, Pwllheli
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Uwch Gynghorydd Polisi - Y Gymraeg
Mae Awdurdod Ystadegau'r Deyrnas Unedig yn edrych am Uwch Gynghorydd Polisi - Y Gymraeg
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Ydych chi'n angerddol ynglŷn â’r Gymraeg? Hoffech chi roi gwell gwybodaeth i bobl Cymru am y materion economaidd a chymdeithasol sy'n effeithio arnyn nhw? Hoffech chi wella llais y rhai sy’n siarad Cymraeg er mwyn llywio polisi'r Llywodraeth yn well? Os felly, mae'r rôl hon yn cynnig cyfle newydd a chyffrous i sefydlu swyddogaeth Gymraeg gryfach yn y Swyddfa Ystadegau Gwladol; cydlynu a hybu gweithgareddau Cymraeg, ac adeiladu cymuned o siaradwyr a dysgwyr Cymraeg.
Beth fydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn ei wneud?
Mae Awdurdod Ystadegau'r Deyrnas Unedig yn gorff annibynnol hyd braich oddi wrth y Llywodraeth, a’i amcan yw hybu a diogelu'r gwaith o gynhyrchu a chyhoeddi ystadegau er lles y cyhoedd. Mae'r Awdurdod yn goruchwylio gwaith y Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG), Gwasanaeth Ystadegol y Llywodraeth (GSS), a'r Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau (SRY). Mae'r Awdurdod yn adrodd yn uniongyrchol i Senedd y Deyrnas Unedig, Senedd yr Alban, Senedd Cymru, a Chynulliad Gogledd Iwerddon.
Mae'r rôl hon o fewn yr Ysgrifenyddiaeth Polisi Ganolog, sydd wrth wraidd system ystadegol y Deyrnas Unedig ac sy'n adrodd yn uniongyrchol i'r Ystadegydd Gwladol. Rydym yn ymgymryd ag ystod eang o waith gan gynnwys cefnogaeth ar y lefel uchaf i Fwrdd yr Awdurdod, Cadeirydd yr Awdurdod a'r Ystadegydd Gwladol; a goruchwylio’r adrannau materion cyfreithiol a rhyngwladol, datblygu rhyngwladol, a’r adrannau polisi a seneddol. Mae'r amgylchedd yn gyflym ac yn heriol; serch hynny, yn gyfnewid am hyn, rydym yn cynnig amgylchedd tîm croesawgar a chefnogol lle bydd croeso bob amser i'ch syniadau am sut y gallem wneud pethau'n well, a lle mae digon o gyfleoedd ichi ddysgu a datblygu eich sgiliau chi’ch hun.
Mae gennyn ni fodel gweithio Hybrid ar waith. Mae hyn yn golygu ein bod yn cynnig mwy o hyblygrwydd o ran ble a phryd rydym yn gweithio. Bydd y rôl hon wedi'i lleoli yn ein prif swyddfa yng Nghasnewydd.
Cyfrifoldebau
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gyfrifol am y canlynol:
· Sbarduno trawsnewid yn y Gymraeg ar draws y swyddfa, gan ddylanwadu'n effeithiol ar y rhanddeiliaid a defnyddio ystod eang o ddulliau.
· Adolygu Cynllun Iaith Gymraeg presennol yr SYG gyda'r nod o foderneiddio a darparu ffocws clir o fewn yr SYG, gan gydlynu'r broses weithredu ar draws y busnes.
· Cynnal archwiliad o allu staff yr Awdurdod, yr SYG a’r SRY yn y Gymraeg i ddeall y sefyllfa bresennol a datblygu dull o ddiwallu anghenion y dyfodol.
· Datblygu ac arwain rhwydwaith ffurfiol a chymuned ehangach o siaradwyr a dysgwyr Cymraeg yn yr SYG, gan gynnal digwyddiadau hyrwyddo cysylltiedig, gan gefnogi twf y Gymraeg.
· Sefydlu a rhedeg rhwydwaith traws-sefydliad o dimau’r SYG sy'n ymgymryd â gweithgareddau Cymraeg, gan gynnwys arbenigwyr allanol gyda'r nod o rannu a hybu’r arferion gorau yn yr SYG.
· Darparu a rheoli pob agwedd ar gyfieithiadau Cymraeg, gan gynnwys caffael gwasanaeth yn effeithiol er mwyn sicrhau bod y gwaith yn uchel ei safon ac yn brydlon.
· Sefydlu a rheoli tîm bach i gyflawni'r uchod.
Byddwch yn gweithio mewn partneriaeth â gweddill yr is-adran, gan ddefnyddio'r arbenigedd sydd ar gael mewn strategaeth, llywodraethu, y gyfraith a busnes y Senedd i ategu’ch arbenigedd chi’ch hun.
Manyleb Person
1. Yn meddu ar hanes llwyddiannus o ddatblygu, gweithredu a gwerthuso polisi; a dealltwriaeth gadarn o'r prosesau sy'n arwain at gyflawni canlyniadau llwyddiannus yn y naill gyd-destun neu'r llall.
2. Yn gallu ymgysylltu'n llwyddiannus â nifer fawr o randdeiliaid, gan gynnwys cydweithwyr uwch, a meithrin cydberthnasau gwaith yn effeithiol ar draws y sefydliad.
3. Yn meddu ar sgiliau trefnu rhagorol gyda'r gallu i gydlynu ffrydiau gwaith, monitro ac adrodd ar gynnydd, a datrys materion i sicrhau bod gweithgareddau'n cael eu cwblhau'n brydlon ac i safon uchel.
4. Yn gallu cyfathrebu'n effeithiol ac yn effeithlon er mwyn sicrhau'r ddealltwriaeth a'r effaith fwyaf posibl.
5. Yn gallu darllen ac ysgrifennu Cymraeg i safon dda (er enghraifft, Lefel Uwch y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol, lefel B2 y Fframwaith Cyfeirio Ewropeaidd Cyffredin ar gyfer Ieithoedd, neu lefel 3 Cymdeithas y Profwyr Iaith yn Ewrop) ac yn gallu sicrhau ansawdd cyfieithiadau allanol a darparu cyfieithiadau byr fel rhan o'r cyfrifoldebau swydd uchod.
Cyflog
💰 £36,838
Lleoliad
📍 Hyblyg, O gartref, Casnewydd
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Asesydd Arweinyddiaeth a Rheolaeth – Dwyieithog
Mae Portal yn edrych am Asesydd Arweinyddiaeth a Rheolaeth – Dwyieithog
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Ydych chi'n arweinydd / rheolwr profiadol sy'n angerddol am ddatblygiad eraill? Oes gennych chi ddiddordeb mewn cynnig cymwysterau rheoli i unigolion gan reoli eich dyddiadur eich hun? Os felly, rydym am glywed wrthych!
Rydym yn recriwtio ar gyfer asesydd wedi ei leoli yn ne ddwyrain a de orllewin Cymru I gynnal grŵp o ddysgwyr.
Mae rôl yr Asesydd yn cynnwys asesu a hyfforddi ymgeiswyr ar gyfer Brentisiaeth Uwch Lefel 4/5 mewn Arweinyddiaeth a Rheolaeth, sy'n cynnwys cyflwyno cymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru.
Bydd gan ymgeiswyr llwyddiannus brofiad blaenorol o weithio o fewn rôl arwain a / neu reoli, bydd ganddynt agwedd wych a bydd ganddynt y parodrwydd i addasu a datblygu eu hunain ymhellach. Nid yw cymhwyster mewn Arweinyddiaeth a Rheolaeth neu ymarfer asesu (cymhwyster Asesydd) yn hanfodol, fodd bynnag, mae'r gallu i siarad ac ysgrifennu trwy gyfrwng y Gymraeg yn hanfodol.
Mae'r swydd hon wedi ei seilio adref (yn y maes) ond gellir disgwyl rhywfaint o deithio ar brydiau, mae'r gallu i deithio yn hanfodol.
Cyflog Cychwyn Sylfaenol: Rhwng £27,000 i £ 30,000 y flwyddyn yn seiliedig ar brofiad a chymwysterau a chynigir £ 500 ychwanegol ar gyfer siaradwyr y Gymraeg.
Buddion Ychwanegol: Cliniadur, ffôn symudol, pecyn gwyliau hael a chynllun pensiwn cyfrannol.
Gweithle: Allan yn y maes / Cartref
Oriau: Llawn amser. Fe ystyrir oriau rhan amser
Dyddiad Cau: Gorffennaf 29ain
Y broses ymgeisio: Cwblhewch y ffurflen gais isod ac anfonwch gyda’ch CV i [email protected]
Mae Portal yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag yn gynt os derbynnir llawer iawn o geisiadau addas. Rydym yn annog ceisiadau cynnar ar gyfer y swydd hon.
Bydd ymgeiswyr yn derbyn cyfathrebiad yn mynd ymlaen â'u cais i'r cam nesaf o fewn 2 wythnos yn dilyn y dyddiad cau. Os na dderbynnir hyn, gall ymgeiswyr gymryd yn ganiataol nad yw eu cais wedi bod yn llwyddiannus ar yr achlysur hwn.
Cyflog
💰 £27,000 - £ 30,000
Lleoliad
📍 O gartref, Allan yn y maes
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Asesydd Chwaraeon (Gogledd Cymru)
Mae Portal yn edrych am Asesydd Chwaraeon (Gogledd Cymru)
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Rydym yn awyddus i ddod o hyd i unigolyn angerddol i ymuno â'n tîm ffantastig fel Asesydd Chwaraeon. Rydym yn chwilio am rywun sy’n meddu ar agwedd gadarnhaol a’r parodrwydd I addasu a datblygu ei hun.
Disgrifiad:
Mae’r rôl yn golygu asesu a hyfforddi ymgeiswyr ar gyfer Brentisiaethau Lefel 2 a 3 mewn Arwain Gweithgareddau a Chefnogi addysgu Addysg Gorfforol a Chwaraeon mewn ysgolion sy'n cynnwys cyflwyno cymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru.
Bydd ymgeiswyr llwyddiannus a phrofiad blaenorol o weithio o fewn y maes chwaraeon mewn rol asesu neu arweinyddiaeth. Nid yw cymhwyster mewn ymarfer asesu yn angenrheidiol, ond, mae’r gallu I siarad ag ysgrifennu yn y Gymraeg yn angenrheidiol.
Mae'r swydd hon wedi ei seilio adref (yn y maes) ond gellir disgwyl rhywfaint o deithio ar brydiau, mae'r gallu i deithio yn hanfodol.
Cyflog Cychwyn Sylfaenol: Rhwng £26,000 i £ 27,000 y flwyddyn yn seiliedig ar brofiad a chymwysterau a chynigir £500 ychwanegol ar gyfer siaradwyr y Gymraeg.
Buddion Ychwanegol: Cliniadur, ffôn symudol, pecyn gwyliau hael a chynllun pensiwn cyfrannol.
Gweithle: Allan yn y maes / Cartref
Oriau: Llawn amser. Fe ystyrir oriau rhan amser
Dyddiad Cau: 29/07/2022
Y broses ymgeisio: Cwblhewch y ffurflen gais ac anfonwch gyda’ch CV i [email protected]
Mae Portal yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag yn gynt os derbynnir llawer iawn o geisiadau addas. Rydym yn annog ceisiadau cynnar ar gyfer y swydd hon.
Bydd ymgeiswyr yn derbyn cyfathrebiad yn mynd ymlaen â'u cais i'r cam nesaf o fewn 2 wythnos yn dilyn y dyddiad cau. Os na dderbynnir hyn, gall ymgeiswyr gymryd yn ganiataol nad yw eu cais wedi bod yn llwyddiannus ar yr achlysur hwn.
Cyflog
💰 £26,000 - £ 27,000 +
Lleoliad
📍 O gartref, Allan yn y maes
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Swyddog Ti a Fi Teithiol Sir Ddinbych
Mae Mudiad Meithrin yn edrych am Swyddog Ti a Fi Teithiol Sir Ddinbych
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Rhoddir pwyslais gan y Mudiad ar sicrhau bod gan rhieni/gwarchodwyr a phlant ifainc fynediad hwylus i gylchoedd Ti a Fi sy’n agos i’w cartrefi ac sy’n darparu cyfleoedd chwarae a chymdeithasu o ansawdd. Nod y Mudiad yw ceisio sicrhau bod pob cylch Ti a Fi yn cyflogi Arweinydd i fod yn gyfrifol am arwain gweithgareddau cyfrwng Cymraeg ar gyfer y plant a’u rhieni/gwarchodwyr. Mae hyn eisoes yn digwydd mewn nifer sylweddol o Gylchoedd Ti a Fi. Fodd bynnag mewn ardaloedd lle ceir anhawster recriwtio Arweinyddion parhaol i gylchoedd Ti a Fi, mae’r Mudiad yn chwilio am berson brwdfrydig i arwain gweithgareddau a rhannu negeseuon am ddilyniant i Addysg Gymraeg ar gyfer plant a’u rhieni/gwarchodwyr mewn hyd at 5 cylch Ti a Fi yn yr ardal. Disgwylir i’r person a benodir fod â phrofiad o arwain gweithgareddau chwarae ar gyfer plant o dan oed ysgol ynghyd â phrofiad o drefnu rhaglen o weithgareddau cefnogol ar gyfer rhieni/gwarchodwyr. Dylai’r person fod yn frwd dros y Gymraeg ac yn gallu trosglwyddo negeseuon i rieni/gwarchodwyr am werth dwyieithrwydd yn ogystal â phwysigrwydd dilyniant o gylch Ti a Fi i Gylch Meithrin ac ymlaen i addysg cyfrwng Cymraeg.
Dyletswyddau’r Swydd Bod yn atebol i Brif Weithredwr Mudiad Meithrin trwy’r Rheolwr Talaith am gyflawni’r dyletswyddau canlynol: · Cydweithio â’r Rheolwr Talaith i drefnu amserlen wythnosol i gynnal cylchoedd Ti a Fi.
· Ymgymryd â rôl Arweinydd mewn hyd at 5 cylch Ti a Fi yn yr ardal a bennwyd – gall un neu fwy o’r rhain fod yn Gylch Ti a Fi am dro.
· Dangos hyblygrwydd i weithio’n rhithiol os oes angen.
· Cynnal sesiwn wythnosol yn y cylchoedd Ti a Fi er mwyn arwain a chynnal gweithgareddau addas ar gyfer y plant a’u rhieni/gwarchodwyr.
· Sicrhau bod yr ystafelloedd neu’r ardal tu allan a’r adnoddau a ddefnyddir ar gyfer cynnal y cylchoedd yn addas ac yn ddiogel. Cynnal Asesiadau Risg gan ddilyn canllawiau Mudiad Meithrin.
· Sicrhau cyhoeddusrwydd i’r cylchoedd Ti a Fi trwy gydweithio â’r Swyddog Cefnogi lleol a’r Rheolwr Talaith er mwyn cynyddu’r defnydd a wneir ohonynt gan deuluoedd.
· Ar y cyd a’r Rheolwr Talaith, Swyddogion Cefnogi, Swyddogion Cymraeg i Blant, meithrin perthynas a nifer o bartneriaethau lleol er mwyn hyrwyddo’r gwaith gan gynnwys Mentrau Iaith, Dechrau’n Deg, Ymwelwyr Iechyd, Dewis, Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd ayyb.
· Cydweithio’n agos â chynlluniau eraill y Mudiad e.e Sefydlu a Symud a Chynllun Cymraeg i Blant, er mwyn sicrhau’r rhaglen orau yn lleol.
· Codi ymwybyddiaeth o fuddion addysg Gymraeg lleol drwy gynorthwyo i gynnal digwyddiadau ac achlysuron cyhoeddusrwydd e.e. Diwrnodau hwyl i’r teulu.
· Casglu gwybodaeth fel bo galw ar gyfer trosglwyddo gwybodaeth i gyllidwr / Mudiad Meithrin.
· Cydweithio â’r Swyddog Cefnogi lleol a’r Rheolwr Talaith er mwyn sicrhau cysylltiad agos rhwng y cylchoedd Ti a Fi a chylchoedd meithrin yr ardal.
· Trefnu bod Arweinydd/staff Cylchoedd Meithrin a chynrychiolydd o’r Ysgolion Cynradd Cymraeg lleol yn ymweld â’r cylchoedd Ti a Fi er mwyn trafod manteision dwyieithrwydd a dilyniant i Addysg Gymraeg gyda’r rhieni ac esbonio’r cyfleoedd sydd ar gael yn lleol i’w plant dderbyn addysg cyfrwng Cymraeg.
· Ar y cyd â’r Rheolwr Talaith trefnu rhaglen o gofrestru pob un o’r cylchoedd yn eu tro ar Gynllun ansawdd Ti a Fi Serennog.
· Mynychu cyfarfodydd tîm, Pwyllgorau Sir ac unrhyw bwyllgor arall perthnasol.
· Mynychu sesiynau hyfforddiant mewn swydd fel bo’r angen.
· Unrhyw waith arall perthnasol a chyffredinol i swyddogaeth y Mudiad yn ôl cyfarwyddyd y Prif Weithredwr.
· Cyfrannu’n weithredol at hyrwyddo cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant ym mhob agwedd o’r gwaith, gan wrthod unrhyw ragfarn, ac ymdrin ag unrhyw wrthdaro neu ddigwyddiad yn brydlon yn unol â’r Polisi Cydraddoldeb ac Amrywiaeth.
Cyflog
💰 £19,138 pro rata
Lleoliad
📍 O gartref, Wrecsam
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Swyddog Marchnata
Mae Menter a Busnes yn edrych am Swyddog Marchnata
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Dyma gyfle gwych i weithio ar brosiect yn niwydiant byrlymus bwyd a diod Cymru sy’n hollbwysig i dŵf yr economi Gymreig.
Cywain
Mae Cywain, a ddarperir gan Menter a Busnes, yn fodel sy’n darparu cefnogaeth wedi’i dargedu ar gyfer busnesau micro a BBaCh sy’n gweithredu yn y sector bwyd a diod yng Nghymru. Rydym yn dechrau cyfnod newydd ac rydym wedi derbyn cyllid trwy Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig 2014 - 2020 i ddarparu gwasanaeth diwygiedig. Mae cyllid y prosiect wedi cael ei gadarnhau tan Mehefin 2023.
Mae’r gwasanaeth yn cefnogi busnesau i gryfhau a thyfu, yn eu helpu i drosglwyddo gwybodaeth a dealltwriaeth o’r diwydiant, yn ogystal â chryfhau eu hintegreiddiad yn y gadwyn gyflenwi. Mae’n darparu gwasanaethau drwy Gymru gyfan gyda phwyslais ar gydweithredu drwy glystyru, ychwanegu gwerth, datblygu’r farchnad er mwyn tyfu a chreu swyddi. Mae Cywain wedi datblygu rhwydwaith eang o randdeiliaid ac, yn ganolog i ddatblygiad y cleient, mae gennym agwedd gydlynol tuag at weithio gyda phartneriaid darparu eraill.
Mae tair elfen i’r prosiect:
● Cefnogaeth i fusnesau newydd a micro ● Cefnogaeth diagnosteg ar gael i holl fusnesau bwyd a diod yng Nghymru
● Clystyru a chyd weithio rhwng busnesau er mwyn hyrwyddo twf ac effeithlonrwydd
**Nod y Rôl **
Cefnogi’r Arweinydd Tîm Marchnata a Digwyddiadau i lunio a gweithredu’r cynllun marchnata a chyfathrebu o ddydd i ddydd, gyda ffocws arbennig ar gefnogi cyfathrebiadau allanol gyda budd-ddeiliad allweddol. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn hyblyg, gyda’r gallu i addasu unrhyw weithgareddau marchnata a chyfathrebu yn ôl yr angen, a hyn yn seiliedig ar ymchwil, newidiadau i’r farchnad a/neu mewn ymateb i ffactorau allanol.
Prif Gyfrifoldebau
● Cyd weithio gyda’r Arweinydd Tîm Marchnata a Digwyddiadaui weithredu cynllun marchnata a chyfathrebu ar gyfer y prosiect
● Datblygu brand a hunaniaeth y prosiect; dewis a datblygu sianelau cyfathrebu perthnasol
● Rheoli sianelau cyfryngau cymdeithasol a chynhyrchu copi ar gyfer gwefan y prosiect
● Cyfrannu at gyflawni targedau marchnata a chyfathrebu y rhaglen, gan sicrhau bod y gwasanaeth a ddarperir o’r safon uchaf
● Cynorthwyo i ddylunio, gweithredu a gwerthuso gweithgareddau marchnata a chyfathrebu y rhaglen
● Ysgrifennu a golygu copi, gan sicrhau bod datganiadau i’r wasg, ymgyrchoedd cymdeithasol/digidol yn y cyfryngau, cynnwys ar y we a chyhoeddiadau mewn print, gan gynnwys ffeithlenni a chyhoeddiadau technegol ac erthyglau, oll yn cael eu cynhyrchu’n amserol a chywir, yn unol â chanllawiau’r arianwyr
● Prawf ddarllen copi’n gydwybodol, gan sicrhau bod unrhyw wallau neu ymholiadau am ramadeg, sillafu, atalnodi, arddull a/neu gywirdeb yn cael eu canfod a’u cywiro, yn ogystal â sicrhau darpariaeth a chyfathrebiad cyson brand y prosiect
● Cynnal llyfrgell o gyhoeddiadau’r prosiect
● Cynorthwyo i weithredu portffolio o ddigwyddiadau ac arddangosfeydd mewn ffordd broffesiynol, yn lleol a chenedlaethol, gan sicrhau amserlen gynnwys berthnasol ac ymgysylltiol
● Cydweithio â’r cyfryngau’n lleol, yn rhanbarthol ac yn genedlaethol, gan ddelio gydag ymholiadau fel y bo’n ofynnol
● Cyflawni tasgau ymchwil farchnad penodol a darparu arweiniad i gytundebwyr allanol
● Gweithio gyda’r Arweinydd Tîm Marchnata a Digwyddiadau i oruchwylio a rheoli isgontractwyr sy’n darparu gwasanaeth marchnata a chyfathrebu i’r rhaglen
● Profi, mesur a gwerthuso gweithgareddau marchnata a chyfathrebu’r rhaglen yn barhaus, gan sicrhau bod adroddiadau’n cael eu creu a’u dosbarthu i’r rhanddeiliaid perthnasol
● Monitro, adolygu ac adrodd am ganlyniadau cyfathrebu a marchnata, gwariant a pherfformiad yn unol â gofynion y rhaglen, gan gynnwys creu a chynnal systemau rheoli effeithiol er mwyn bodloni gofynion Archwilio perthnasol
**Arall **
● Sicrhau bod y safonau’n cael eu cyrraedd ar gyfer gwasanaethau’r cwsmer, ansawdd, cydraddoldeb ac amrywiaeth, iechyd a diogelwch a bioddiogelwch
● Derbyn dyletswyddau a chyfrifoldebau rhesymol eraill yn ôl y galw
● Cynrychioli Menter a Busnes yn ôl y galw
Sgiliau a Phrofiad
Hanfodol
● Addysg hyd lefel gradd, neu gyfatebol, mewn pwnc perthnasol megis marchnata, cyfathrebu, busnes neu faes tebyg, neu brofiad dangosadwy mewn rôl farchnata, gyfathrebu a/neu ddigwyddiadau
● Gwybodaeth a dealltwriaeth am y sectorau bwyd, diod ac amaeth yng Nghymru
● Profiad dangosadwy o helpu gyda datblygiad, gweithrediad a gwerthusiad effeithiol o gynlluniau marchnata a chyfathrebu integredig
● Profiad eang o ysgrifennu copi clir, cywir a manwl ar gyfer ei brintio a/neu gyhoeddiadau digidol sy’n berthnasol i’r gynulleidfa ac o fewn canllawiau penodol
● Sgiliau prawf ddarllen ragorol
● Profiad o reoli cyfrifon cyfryngau cymdeithasol busnes, gan gynnwys paratoi calendr cynnwys misol, monitro ac adrodd ar berfformiad cyfryngau cymdeithasol a chanlyniadau ymgyrchoedd
● Profiad o reoli ac optimeiddio ymgyrchoedd hysbysebu digidol gan ddefnyddio chwiliad taledig a chyfryngau cymdeithasol taledig
● Profiad o ddiweddaru cynnwys y we
● Rhwydweithiau wedi eu datblygu’n dda gyda’r cyfryngau yng Nghymru
● Profiad o gynhyrchu adroddiadau clir, cywir a manwl sy’n berthnasol i’r gynulleidfa
● Sgiliau trefnu a chydgysylltu rhagorol gyda’r gallu i weithio i ddyddiadau tynn
● Gallu ysgogi ei hun yn greadigol gan dderbyn y cyfrifoldeb am osod ac adolygu blaenoriaethau i gyflawni targedau, gyda ffocws clir ar ansawdd
● Gweithio’n dda fel aelod o dîm gydag agwedd ragweithiol a’r hyder i gymryd yr awenau ac arwain gweithwyr eraill pan fo raid
● Sgiliau cyfathrebu dwyieithog (Cymraeg/Saesneg) llafar ac ysgrifenedig rhagorol
● Sgiliau TG o safon uwch, gan gynnwys Word, Excel, PowerPoint, Ebost, cronfeydd data a’r we
● Trwydded yrru lawn a char i’w ddefnyddio Manteisiol
● Meddu ar gymhwyster proffesiynol perthnasol, megis cymhwyster y Sefydliad Marchnata Siartredig
● Profiad o drefnu arddangosfeydd a digwyddiadau
● Profiad dangosadwy o weithio yn y diwydiant amaeth, bwyd a diod yng Nghymru Gwneud Cais
Gallwch wneud cais am y swydd hon drwy lenwi ffurflen gais a ffurflen cyfle cyfartal (sydd ar gael ar ein gwefan www.menterabusnes.co.uk) a’u dychwelyd at [email protected]. Os hoffech gael sgwrs anffurfiol am y swydd hon, cysylltwch ag Alex James ar 07539 173732. Cyfweliadau Byddwn yn cynnal y cyfweliadau ar gyfer y swydd hon yn rhithiol ar ddydd Gwener, 15 Gorffennaf 2022. Os yw’r dyddiad hwn yn anghyfleus, nodwch hynny ar eich ffurflen gais os gwelwch yn dda. Dyddiad Cau
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw: 10.00yb, dydd Mawrth, 12 Gorffennaf 2022. **Polisi Cydraddoldeb ac Amrywiaeth ** Gwelwch ein gwefan i gael copi o’n Polisi Cydraddoldeb ac Amrywiaeth.
Cyflog
💰 £27,433 - £30,205
Lleoliad
📍 Aberystwyth, Bangor, Caerdydd, Caerfyrddin, Meifod, O gartref
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Swyddog Digwyddiadau
Mae Amgueddfa Cymru yn edrych am Swyddog Digwyddiadau
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Eich gwaith…
Gan weithio yn Amgueddfa Lechi Cymru ac o adref, byddwch yn gweithio gyda’r Tîm Digwyddiadau a phartneriaid cymunedol i ddatblygu a chynnal rhaglen weladwy, berthnasol ac arloesol o ddigwyddiadau cyhoeddus, yn fyw ac ar-lein. Eich rheolwr llinell fydd y Rheolwr Digwyddiadau a byddwch yn gweithio ar draws Amgueddfa Cymru.
Swyddog Digwyddiadau
Amgueddfa Lechi Cymru a gweithio o adref
17.5 awr yr wythnos
Contract 12 mis.
Gradd D £12,185.67 – £15,289.72 y flwyddyn
Bydd yr ymgeisydd yn cael ei benodi ar isafswm y raddfa gyflog hon fel arfer.
Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon.
Dyddiad Cau: 17 Gorffennaf 2022 5:00pm
Mae Amgueddfa Cymru yn gyflogwyr cyfle cyfartal. Croesewir ceisiadau o bob rhan o'r gymuned.
Cyflog
💰 £12,185.67 - £15,289.72
Lleoliad
📍 O gartref, Llanberis
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Swyddog Cysylltiadau Cyhoeddus a Chyfathrebu
Mae Cyngor Sir Ddinbych yn edrych am Swyddog Cysylltiadau Cyhoeddus a Chyfathrebu
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Ymunwch â’n tîm cyfathrebu, marchnata ac ymgysylltu i’n helpu i ddatblygu ymgyrchoedd marchnata arloesol a chreadigol gan hyrwyddo gwasanaethau allweddol a ddarperir gan y cyngor. Gan weithio gyda thîm blaenllaw o arbenigwyr cyfathrebu, a chyda’u cefnogaeth, byddwch yn dod â sgiliau creadigol, digidol a marchnata ynghyd i’n helpu i hyrwyddo prosiectau a gwasanaethau’n effeithiol i’r cyhoedd. Rydym yn chwilio am rywun na fydd ofn rhoi cynnig ar dechnegau newydd o fewn tîm cefnogol sydd yn annog dysgu a newid. Rhywun a fydd yn gwthio’r ffiniau gydag egni.
Os hoffech chi drafod unrhyw agwedd ar y swydd, ffoniwch Sian Owen ar 01824 706125.
Os oes gennych ddiddordeb yn y swydd wag hon, gwnewch gais ar-lein trwy ein gwefan www.sirddinbych.gov.uk Am ddulliau eraill o wneud cais, cysylltwch â’r Adran Gwasanaethau Cwsmeriaid ar 01824 706100.
Rhaid i ymgeiswyr gwblhau ein ffurflen gais i gael ei ystyried. Mae’n ddrwg gennym nad ydym yn gallu ateb pob cais. Os nad ydych wedi derbyn ateb o fewn tair wythnos i’r dyddiad cau, dylech gymryd yn ganiataol nad ydych wedi cyrraedd y rhestr fer am gyfweliad.
Dyddiad Cau: 13 Gorffennaf 2022
Cyflog
💰 £27,514 - £30,095
Lleoliad
📍 O gartref, Sir Ddinbych
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Swyddog Cefnogi (Dros Dro)
Mae Mudiad Meithrin yn edrych am Swyddog Cefnogi (Dros Dro)
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Rydym yn chwilio am berson brwdfrydig i weithio gyda darpariaethau Mudiad Meithrin o fewn dalgylch daearyddol penodol. Dylai’r person fod yn frwd dros y Gymraeg, gyda phersonoliaeth sy’n caniatáu iddi/iddo gyfathrebu yn effeithiol ar sawl lefel. Bydd disgwyl i’r person fod yn swyddog cyswllt i glwstwr o ddarpariaethau mewn ardal ddaearyddol benodol.
Dyletswyddau’r Swydd:
Bydd yn atebol i Brif Weithredwr Mudiad Meithrin trwy’r Rheolwr Talaith am gyflawni’r dyletswyddau canlynol:
Cefnogaeth Gyffredinol
Gweithredu yn unol â nod ac amcanion Mudiad Meithrin, yn benodol Polisi Iaith Mudiad Meithrin.
Cefnogi, cynghori a bugeilio darpariaethau gofal plant e.e. Cylchoedd Meithrin, Cylchoedd Ti a Fi, a Meithrinfeydd Dydd trwy ymweliadau a chyswllt cyson.
Cynnig cefnogaeth busnes i Bwyllgorau Rheoli gwirfoddol (sef yr endidau sy’n rheoli cylchoedd meithrin gan amlaf) ar amryw o faterion e.e. materion ariannol/busnes, cynaliadwyedd, materion elusennol ac anwytho pwyllgorau, trwy dynnu ar arbenigeddau canolog ac adnoddau Mudiad Meithrin.
Datblygu ac ehangu gwasanaethau’r darpariaethau o fewn yr ardal.
Cynghori a chynnig arweiniad ar faterion rheoleiddio AGC gan sicrhau bod pwyllgorau a staff yn cwrdd â safonau'r Arolygaeth.
Cydweithio gyda phartneriaid i sicrhau ansawdd a safon megis AGC, Estyn, yr Awdurdod Lleol, Dechrau’n Deg, Athrawon Ymgynghorol ac Adran Iechyd.
Darparu gwybodaeth a pharatoi adroddiadau a data (ar lafar ac yn ysgrifenedig) at bwrpas cynllunio strategol ar lefel lleol a chenedlaethol e.e. Adroddiad Diweddaru Gwybodaeth, P1 ayyb.
Eirioli a hyrwyddo gwaith darpariaethau Mudiad Meithrin a manteision gofal ac addysg Gymraeg a dilyniant o fewn y gymuned ac mewn cyfarfodydd amrywiol e.e. taith plentyn o’r Cylch Ti a Fi i’r Cylch Meithrin ac yna i Addysg Gymraeg.
Cyfrannu at grwpiau Arbenigedd Mudiad Meithrin.
Hyrwyddo gwasanaethau Mudiad Meithrin e.e. hyfforddiant Academi, Mewnrwyd a gwefan, polisïau a gwasanaeth cyfieithu hyfforddiant Academi, gwasanaeth cyfieithu.
Manteisio ar gyfleoedd i fynychu hyfforddiant proffesiynol parhaus.
Mynychu digwyddiadau ac achlysuron lleol perthnasol e.e. sioeau, eisteddfodau a digwyddiadau perthnasol eraill o fewn y cymunedau yn ôl yr angen.
Mynychu cyfarfodydd tîm taleithiol yn dymhorol a chyfarfodydd eraill yn ôl y gofyn.
Unrhyw waith arall perthnasol a chyffredinol i swyddogaeth y Mudiad yn ôl cyfarwyddyd y Prif Weithredwr.
Cyfrannu’n weithredol at hyrwyddo cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant ym mhob agwedd o’r gwaith, gan wrthod unrhyw ragfarn, ac ymdrin ag unrhyw wrthdaro neu ddigwyddiad yn brydlon yn unol â’r Polisi Cydraddoldeb ac Amrywiaeth.
Cyflog
💰 £21,032 - £24,526 pro rata
Lleoliad
📍 O gartref, Un o swyddfeydd Mudiad Meithrin
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Rheolwr Polisi (Cynhyrchion wedi'u rheoleiddio) (SEO)
Mae Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) yn edrych am Reolwr Polisi (Cynhyrchion wedi'u rheoleiddio) (SEO)
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Rydym yn chwilio am Reolwr Polisi i ymuno â’r tîm Polisi Rheoleiddio yng Nghymru i ddatblygu polisïau a deddfwriaethau sy’n diogelu ac yn hysbysu’r cyhoedd ym Mhrydain am eu bwyd, wrth geisio cynnwys anghenion rhanddeiliaid Cymru ym mhenderfyniadau canolog y llywodraeth.
Disgrifiad:
Gweithio o sawl lleoliad yn unrhyw un o Swyddfeydd yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) (Caerdydd, Belfast, Birmingham, Llundain neu Gaerefrog), neu gartref yn y Deyrnas Unedig (DU). Dim ond yn y DU y gellir ymgymryd â’r rôl hon ac nid dramor. Bydd angen teithio ledled y DU yn achlysurol, ac aros dros nos o bosib.
Mae’r Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) yn adran anweinidogol gyda thros 1300 o aelodau staff. Ers ymadael â’r Undeb Ewropeaidd (UE), mae gennym ran bwysig wrth ddiogelu iechyd y cyhoedd a buddiannau ehangach defnyddwyr mewn perthynas â bwyd ledled Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon. Mae ein gweledigaeth yn un bwysig – ysgogi newid, sicrhau “bwyd y gallwch ymddiried ynddo”, a gweithio tuag at system fwyd iachach a mwy cynaliadwy.
Mae gan yr ASB gylch gwaith eithriadol o eang am adran lywodraethol gymharol fach. Gan ddiogelu bwyd a sicrhau ei fod yn ddiogel i’w fwyta, ei fod yn cyd-fynd â’r hyn sydd ar y label, ac ei fod yn gynyddol iachus a chynaliadwy, mae gwaith yr ASB yn cyffwrdd â bywydau pawb yn y wlad.
Rydym yn chwilio am Reolwr Polisi i ymuno â’r tîm Polisi Rheoleiddio yng Nghymru i ddatblygu polisïau a deddfwriaethau sy’n diogelu ac yn hysbysu’r cyhoedd ym Mhrydain am eu bwyd, wrth geisio cynnwys anghenion rhanddeiliaid Cymru ym mhenderfyniadau canolog y llywodraeth.
Mae rheolwyr polisi wrth wraidd y tîm hwn, gan weithio ar draws yr ASB, yn ogystal â Llywodraeth Cymru ac ystod o adrannau canolog y llywodraeth, i ddatblygu deddfwriaeth bwyd ar ran Gweinidogion Cymru. Mae gwaith y tîm Polisi Rheoleiddio yn cyffwrdd â chynifer o feysydd, a byddwch yn cyd-weithio â melinau trafod, academyddion ac ymchwilwyr, a ffigurau’r diwydiant, yn ogystal â nifer o randdeiliaid eraill o fewn systemau bwyd Cymru.
Yn ogystal â dwyn deddfwriaeth yn ei blaen a sicrhau bod buddiannau Cymru yn cael ystyriaeth briodol wrth ddatblygu polisi’r ASB, byddwch yn cefnogi’r tîm mewn ystod eang o feysydd, gan gynnwys rheoli risgiau tocsicoleg a hyrwyddo safonau bwyd uchel y DU yn rhyngwladol.
Mae hon yn rôl hynod ddiddorol ac amrywiol a fydd yn cynnig y cyfle i chi feithrin eich dealltwriaeth o ddatblygu polisi wrth gynnig eich arbenigedd cyfredol mewn ffordd sy’n cael effaith hirhoedlog ar les y cyhoedd.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gallu cyfathrebu’n ardderchog, yn gallu gweithio ochr yn ochr â phobl o bob rhan o’r llywodraeth a’r diwydiant ei hun a dylanwadu arnyn nhw. Byddant yn deall pwysigrwydd yr ASB, a pham rydym bob amser yn rhoi buddiannau’r defnyddwyr yn gyntaf – ond byddant hefyd yn awyddus i sicrhau bod buddiannau Cymru yn cael eu hystyried hefyd. Dyma gyfle i sicrhau newid cenedlaethol a lleol, a byddwch yn awyddus i weithio’n galed tuag at hynny, gan edrych ar y sefydliad o’ch cwmpas a gofyn bob amser sut gallwn ni wella ein dulliau. Os ydych chi’n awyddus i gael effaith wirioneddol ar y bwyd ar fyrddau’r genedl, ac yn barod i weithio’n agos gyda gweddill ein tîm i wneud hynny, rydym yn edrych ymlaen at glywed gennych chi.
Darllenwch y Pecyn i Ymgeiswyr sydd ynghlwm i gael rhagor o fanylion am y rôl, ein sefydliad, yr ymgeisydd rydym ni’n chwilio amdano a’r meini prawf y byddwn ni’n eich asesu yn eu herbyn yn ystod y broses ddethol. Edrychwn ymlaen at weld eich cais, a dymunwn bob llwyddiant i chi.
Cyflog
💰 £37,350 - £40, 350
Lleoliad
📍 O gartref, Unrhyw un o’n swyddfeydd
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Swyddog Marchnata a Chyfathrebu
Mae Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru yn edrych am Swyddog Marchnata a Chyfathrebu
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Hoffech chi ddatblygu eich gyrfa ym maes cyfathrebu digidol drwy helpu i lunio ymgyrchoedd effeithiol sy’n gallu sbarduno arloesi ym maes iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru? Mae gennym ni gyfle cyffrous i ymuno â’n tîm deinamig a chyfeillgar fel Swyddog Marchnata a Chyfathrebu i’n helpu ni i greu cynnwys digidol unigryw.
Disgrifiad:
Yn y rôl hon, byddwch yn datblygu amrywiol gyfryngau digidol ac yn cyflawni gweithgareddau marchnata a chyfathrebu sy’n cefnogi ac yn hyrwyddo Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru ac arloesedd ehangach ym maes iechyd a gofal. Rydyn ni’n chwilio am rywun brwdfrydig ac sy’n barod am her newydd a chyffrous. Byddwch yn ddigidol fedrus ac yn awyddus i ddatblygu eich gyrfa – a bydd ein tîm wrth law i’ch helpu i loywi eich sgiliau cyfathrebu, eich sgiliau rhyngbersonol a’ch sgiliau dylunio yn y rôl hon.
Cyflog
💰 £29,553
Lleoliad
📍 O gartref, Caerdydd
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Cyfarwyddwr Cenedlaethol
Mae Rhieni Dros Addysg Gymraeg yn edrych am Gyfarwyddwr Cenedlaethol
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Hanfod RhAG ers y cychwyn yw cefnogi rhieni a gwarchodwyr wrth iddynt fynd ar y daith gyda’u plant drwy Addysg Gymraeg a thu hwnt. Mae’r cyfnod yn cychwyn cyn geni’r plentyn, gyda’r gwaith hyrwyddo o fewn y sector cyn geni a'r blynyddoedd cynnar, ac fe gydweithiwn gyda rhanddeiliaid yn gadarnhaol ac yn rhagweithiol i sicrhau bod mynediad at Addysg Gymraeg ar gael i bawb sydd yn ei ddymuno.
Disgrifiad:
Byddwch yn arwain gwaith y mudiad yn hybu twf addysg Gymraeg, yn cydweithio gyda’n rhanddeiliaid er mwyn cyflawni ein hamcanion ac yn cefnogi rhieni a gofalwyr wrth iddynt fynd ar y daith gyda’u plant drwy addysg Gymraeg a thu hwnt.
Cyflog
💰 Hyd at £40,000
Lleoliad
📍 O gartref, Caerdydd
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Cysylltydd Cynllun Cyfeirio Gogledd Ceredigion
Mae Mudiad Meithrin yn edrych am Gysylltydd Cynllun Cyfeirio Gogledd Ceredigion
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Rydym yn chwilio am berson dwyieithog sydd â pheth gwybodaeth o’r sector wirfoddol ac sy’n argyhoeddedig o werth cynhwysiant i blant ag anghenion ychwanegol yn y blynyddoedd cynnar. Bydd y person yma yn gweithio gyda Chylchoedd Meithrin a darpariaethau gofal plant yn y sir, er mwyn sicrhau bod cyfle i blant ag anghenion ychwanegol elwa o brofiadau a gweithgareddau blynyddoedd cynnar yn ei gymuned leol.
Dyletswyddau’r Swydd: Bod yn atebol i Brif Weithredwr Mudiad Meithrin trwy’r Rheolwr Talaith a Rheolwr Cynllun Cyfeirio am gyflawni’r dyletswyddau canlynol: · Derbyn cyfeiriadau am blant sydd ag anghenion ychwanegol gan rieni/gofalwyr, darpariaethau gofal plant neu unigolion proffesiynol
· Cynnig cymorth a chefnogaeth i rieni/gofalwyr plant ag anghenion ychwanegol gan gyfeirio i wybodaeth bellach
· Sicrhau bod y lleoliadau gofal plant yn darparu ethos cynhwysol
· Cysylltu ag arweinyddion a swyddogion darpariaethau gofal plant i baratoi’r lleoliadau i dderbyn plant ag anghenion ychwanegol
· Cynnig cymorth a chefnogaeth i ddarpariaeth gofal plant i benodi cynorthwywyr
· Cyd-weithio a phartneriaid megis Therapyddion Iaith a Lleferydd, Ymwelwyr Iechyd, Seicolegyddion Addysg, Dechrau’n Deg, Tîm o Amgylch y Teulu a Swyddog Arweiniol ADY
· Cadw cofnodion cyfrinachol a chyflwyno adroddiadau rheolaidd i Rheolwr Cynllun Cyfeirio ac asiantaethau perthnasol a chydymffurfio gyda rheolau GDPR
· Paratoi adroddiadau yn ôl y gofyn
· Mynychu cyfarfodydd amrywiol yn ôl y gofyn gan gynnwys Panelu Plant a byrddau llywio
· Cefnogi darpariaethau Gofal Plant i gydymffurfio a gofynion y Côd ADY
· Trefnu a mynychu cyfarfodydd rhwng y lleoliad gofal plant, rhieni/gofalwyr ac unigolion proffesiynol
· Trefnu a mynychu hyfforddiant yn ôl y gofyn
· Unrhyw waith arall perthnasol a chyffredinol i swyddogaeth y Mudiad yn ôl cyfarwyddyd y Prif Weithredwr
Cyflog
💰 £19,453
Lleoliad
📍 O gartref, Un o swyddfeydd Mudiad Meithrin
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!