Swyddi Cymraeg
1 swydd yn cyfateb
Swyddog Gwaith Achos
Mae Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru yn edrych am Swyddog Gwaith Achos
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
A ydych chi’n unigolyn gyda sgiliau gwasanaeth cwsmeriaid neu ymdrin â chwynion rhagorol?
Mae Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus am recriwtio Swyddog Gwaith Achos i ddarparu gwasanaeth i aelodau’r cyhoedd ac eraill a allai gysylltu â swyddfa’r Ombwdsmon gyda chwynion neu ymholiadau.
Yn y rôl hon, byddwch yn rheoli llwyth achosion, yn cynnal asesiad cychwynnol i gwynion ac yn arfer awdurdod dirprwyedig yr Ombwdsmon. Byddwch yn defnyddio'r system fewnol ar gyfer rheoli achosion, yn prosesu cwynion a gohebiaeth gan gynnwys gwrthodiadau uniongyrchol, megis cwynion sy’n amlwg y tu hwnt i’n hawdurdodaeth.
I fod yn llwyddiannus yn y rôl hon, bydd angen i chi ddangos sgiliau ffôn a gwasanaeth cwsmeriaid gwych, gallu i ymdrin â chwynion, yn ogystal â bod yn llythrennog ym maes TG ac yn ddelfrydol, gallu cyfathrebu yn y Gymraeg (ar lafar ac yn ysgrifenedig).
Mae hon yn rôl hybrid, lle mae angen bod yn bresennol yn wythnosol yn ein swyddfa ym Mhen-y-bont ar Ogwr.
Sut i ymgeisio
Ewch i’n gwefan (www.ombwdsmon.cymru) i gyrchu’r pecyn recriwtio a’r Ffurflen Ymgeisio.
Cyflwynwch eich Ffurflen Gais a Ffurflen Monitro Cyfleoedd Cyfartal drwy e-bost at: [email protected] Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw: 12 canol dydd, 5 Chwefror 2024 Rydym yn cadw'r hawl i gau'r swydd wag hon yn gynnar os daw digon o geisiadau i law.
Mae'r Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru yn Gyflogwr Cyfle Cyfartal.
Mae amrywiaeth a chynhwysiant yn ganolog i bopeth a wnawn. Rydym wedi ymrwymo yn ddiwyd i hyrwyddo a chymryd rhan mewn arfer da yn y ffordd yr ydym yn denu, recriwtio a chadw staff.
Caiff pawb eu hannog i ddod â’u hunan yn gyfan i’r gwaith oherwydd rydym yn gwerthfawrogi’r gwerth y mae gweithlu sy’n wirioneddol amrywiol yn ei roi i sefydliad. Rydym yn dathlu gwahaniaeth, gan gydnabod y buddion a ddaw yn sgil hyn i’n diwylliant cynhwysol, gan gynnwys oedran, anabledd, hunaniaeth rhywedd, crefydd, hil, rhyw, cyfeiriadedd rhywiol a chefndir economaidd-gymdeithasol.
Cyflog
💰 £27,804 - £30,297
Lleoliad
📍 Hybrid, Pen-y-bont ar Ogwr
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Rydych wedi gweld yr holl swyddi.