Swyddi Cymraeg — Pentre Ifan
1 swydd yn cyfateb
Pennaeth Pentre Ifan
Mae Urdd Gobaith Cymru yn edrych am Bennaeth Pentre Ifan
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Urdd Gobaith Cymru yw mudiad ieuenctid cenedlaethol mwyaf Cymru sy’n darparu cyfleoedd i blant a phobl ifanc ac yn eu galluogi i wneud cyfraniad cadarnhaol i’w cymuned a’r byd yn ehangach.
Ymysg bwrlwm ein canmlwyddiant, dyma ddatgan ein huchelgais heriol i ymestyn cyrhaeddiad ac effaith ein gwaith. Mae hyn yn allweddol os ydym am i’r Gymraeg fod yn ganolog ym mywydau plant a phobl ifanc Cymru, a sicrhau fod pawb yng Nghymru, boed yn siaradwyr Cymraeg ai pheidio, yn teimlo perchnogaeth ac ymdeimlad o berthyn tuag at yr iaith a’i thraddodiadau. Y Swydd
Rydym yn chwilio am berson ysbrydoledig i ymuno a thîm Gwersylloedd yr Urdd i sefydlu a rheoli Pentre Ifan sef, gwersyll amgylcheddol a lles cyntaf yr Urdd.
Nod Pentre Ifan yw rhoi blaenoriaeth i’r amgylchedd, lles pobl ifanc a’r Gymraeg mewn un profiad preswyl sy’n ymgysylltu pobl ifanc â byd natur a’u grymuso i warchod yr amgylchedd naturiol, heddiw ac yn y dyfodol.
Rydym felly yn edrych a, Pennaeth ysbrydoledig i sicrhau fod y Gwersyll yn cyrraedd ei llawn potensial. Hyderwn fydd y Gwersyll yn barod i groesawu gwersyllwyr o Orffennaf 2023 ymlaen. Am fwy o wybodaeth am wersyll amgylcheddol yr Urdd, ewch i’n gwefan : Datblygiadau Pentre Ifan (urdd.cymru)
Am fwy o fanylion cysylltwch â Lowri Jones, Cyfarwyddwr Gwersyll Llangrannog ar [email protected]
Anfonwch Ffurflen Gais yr Urdd ar e-bost at [email protected] Dyddiad Cau – 27 Tachwedd 2022
Dyddiad Cyfweld – 7 Rhagfyr 2022 Mae’r Urdd yn cefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ein holl waith a gweithgareddau. Rydym yn croesawu ymgeiswyr o bob cefndir a chymuned, ac yn benodol y rhai sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn ein gweithlu ar hyn o bryd. Mae’r rhain yn cynnwys ond nid ydynt yn gyfyngedig i ymgeiswyr anabl a phobl ddiwylliannol ac ethnig amrywiol.
Cyflog
💰 £42,828 - £47,483
Lleoliad
📍 Pentre Ifan
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Rydych wedi gweld yr holl swyddi.