Swyddi Cymraeg
3 swydd yn cyfateb
Swyddog Gweinyddol Cartrefi Fforddiadwy
Mae Grŵp Cynefin yn edrych am Swyddog Gweinyddol Cartrefi Fforddiadwy
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Gweithio’n effeithiol fel rhan o’r Tîm Cartrefi Fforddiadwy i ddarparu gwasanaeth rhagorol, yn unol â pholisïau, gweithdrefnau, safonau, targedau a safonau Gofal Cwsmer Grŵp Cynefin.
Disgrifiad:
1. Cydweithio gyda phartneriaid statudol i gynnal, hybu, marchnata a datblygu'r cofrestri Tai Teg at fudd pobl sydd angen tai fforddiadwy.
2. Ateb galwadau ffôn a delio ag ymholiadau cyffredinol gan gwsmeriaid.
3. Hybu a marchnata cynlluniau fforddiadwy Grŵp Cynefin, a chynlluniau partneriaid allanol.
4. Gweinyddu Cofrestr Tai Teg o fewn terfyn amser penodol.
5. Paratoi diweddariadau i’n partneriaid, megis awdurdodau lleol a chymdeithasau tai.
6. Darparu posteri a phecynnau cynlluniau newydd, ail werthiannau ac ail osodiadau.
7. Mynychu diwrnod agored – e.e. trefnir gan Hwylusydd Tai Gwledig, Datblygwyr neu Grŵp Cynefin.
8. Cadw gwybodaeth yn gyfredol.
9. Gweinyddu trefn ffeilio electronig
10. Casglu ystadegau chwarterol, a’u dadansoddi er mwyn cynorthwyo’r Reolwr Cartrefi Fforddiadwy i gynhyrchu adroddiadau i’n partneriaid.
11. Derbyn galwadau i dalu rhent neu daliadau eraill amrywiol drwy Allpay.
12. Delio yn brydlon gydag ymholiadau gan denantiaid a lesddalwyr ynglŷn â materion rhent.
13. Cynorthwyo’r Rheolwr Cartrefi Fforddiadwy i gynhyrchu adroddiadau i’r Bwrdd Rheoli a’r Pwyllgorau.
Cyflog
💰 £21,474 - £24,169
Lleoliad
📍 Penygroes, O gartref
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Cynghorydd Gwasanaeth Cwsmer
Mae Grŵp Cynefin yn edrych am Gynghorydd Gwasanaeth Cwsmer
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Cyfle i unigolyn sy'n awyddus i ddatblygu gyrfa yn y maes tai yn yr adran gwasanaeth cwsmer, mewn awyrgylch Gymreig lle mae'r amodau gwaith yn flaengar a chyfeillgar i'r teulu.
Disgrifiad:
- Darparu gwasanaeth o ansawdd uchel sy’n canolbwyntio ar y cwsmer bob amser, gan ddatblygu perthnasoedd effeithiol gyda’r cwsmeriaid a gweithio gyda hwy i sicrhau’r profiad a’r canlyniad gorau posibl iddynt.
- Ymdrin ag ymholiadau cwsmeriaid a darparu cyngor, gwybodaeth a datrysiad i ystod eang o ymholiadau mewn modd amserol, o’r radd flaenaf, gan ddangos empathi a chadw at y polisïau a’r gweithdrefnau cyfredol.
- Adnabod materion cymhleth a dwys a’u hesgyn i’r adran briodol o fewn y Gymdeithas.
- Gwneud defnydd cywir o’r System Tai er mwyn cael gwell dealltwriaeth o anghenion cwsmeriaid.
- Gweithio mewn modd hyblyg, gofalgar a sensitif.
- Cefnogi’r Rheolwr a’r Arweinyddion Tîm i gyfrannu syniadau sy’n darparu gwelliannau i safon y gwasanaeth cwsmer.
- Didoli’r post ar gyfer timau ac adrannau a chofnodi gohebiaeth bwysig a’u hanfon i’r swyddogion perthnasol. Ymdrin ag unrhyw ohebiaeth neu waith gweinyddol yn ymwneud â chyfrifoldebau’r Tîm Gwasanaeth Cwsmer.
- Sicrhau bod y brif dderbynfa ar agor i’r cyhoedd yn ystod oriau arferol y swyddfa yn ddyddiol.
- Cofnodi cwynion ac ymdrin â hwy gan ddilyn y polisïau cyfredol a defnyddio’r prosesau a’r gweithdrefnau cywir, gan sicrhau bod unrhyw gŵyn yn derbyn sylw priodol.
- Cynorthwyo gyda chyrraedd safonau gwasanaeth, Cytundebau Lefelau Gwasanaeth yn ogystal â chydymffurfio â deddfwriaeth gyfredol.
- Cefnogi Adrannau gyda dosbarthu cyhoeddiadau ynghyd ac unrhyw ohebiaeth gyffredinol a phostiadau mawr e.e. datganiadau rhent ar ran y Gymdeithas.
- Cynnal a diweddaru gwybodaeth proffil tenantiaid yn barhaus i sicrhau bod gennym ni’r wybodaeth ddiweddaraf am ein cwsmeriaid a’u hanghenion a chadw hynny’n gyfredol.
- Derbyn a chofnodi taliadau rhent fel bo’n ofynnol.
- Derbyn a chofnodi adborth gan gwsmeriaid, ac ymateb i’r sylwadau lle bo’n briodol.
Gwella boddhad cwsmeriaid a’r ddarpariaeth o wasanaeth yn barhaus, gan adnabod cyfleoedd i ddatblygu a hyrwyddo’r gwasanaeth a nodi gwelliannau i’r prosesau.
Cyflog
💰 £22,140 pro rata
Lleoliad
📍 Penygroes, O gartref
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Swyddog Cynnal a Chadw Ardal
Mae Grŵp Cynefin yn edrych am Swyddog Cynnal a Chadw Ardal
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Dyma gyfle i unigolyn sy'n awyddus i ddatblygu gyrfa yn y maes tai yn yr adran Cynnal a Chadw, mewn awyrgylch Gymreig lle mae'r amodau gwaith yn flaengar a chyfeillgar i'r teulu.
Disgrifiad:
- Cyfarwyddo gyda stoc tai y Gymdeithas yn eich ardal weithredol.
- Archwilio gwaith cynnal a chadw – trwsio, ailosod ac adnewyddu - yn eich ardal weithredol, gan sicrhau fod ansawdd y gwaith yn rhagorol, yn rhoi gwerth am arian, ac yn cydymffurfio â chod ymarfer y Gymdeithas, Rheoliadau Iechyd a Diogelwch ac arferion gorau perthnasol.
- Cydweithio gyda swyddogion Tai mewn achosion o ail-osod, trosglwyddo, neu gyfnewid eiddo i sicrhau proses rwydd a chyflym ac effeithlon.
- Gofalu bod tenantiaid yn derbyn ymateb prydlon, effeithiol ac ysgrifenedig i geisiadau am waith, a cheisiadau i addasu eu tai. Ymweld ag eiddo er mwyn penderfynu ar y datrysiad gorau a chadw cofnod perthnasol.
- Paratoi disgrifiadau gwaith eglur, a phwrcasu gwaith gan gontractwyr oddi ar y rhestr contractwyr cydnabyddedig neu gyfarwyddo creffwyr mewnol.
- Cydymffurfio â gweithdrefnau eiddo a rheolau ariannol a phwrcasu y Gymdeithas wrth godi gwaith, ac wrth wirio anfonebau ar ddiwedd y gwaith.
- Arolygu / ôl-archwilio ansawdd gwaith y contractwyr a’r gweithlu mewnol, fel rhan o raglen archwilio reolaidd.
- Cyfrannu at adolygiadau perfformiad y contractwyr a’r gweithlu mewnol, a chynnig gwelliannau.
- Sicrhau fod cwynion ac anfodlonrwydd yn cael sylw priodol.
- Cynnal archwiliadau cyflwr eiddo er mwyn trefnu’r rhaglen adnewyddu flynyddol a chydymffurfio gyda'r safon a gweithdrefnau archwiliadau sydd wedi eu cytuno.
- Cynnal archwiliadau rheolaidd o fannau cymunedol mewnol ac allanol ystadau (tân, iechyd a diogelwch, tâl gwasanaeth, blerwch, sbwriel, etc.)
- Cynnal archwiliadau o eiddo ‘tai a chefnogaeth’ gyda’r swyddogion Tai.
- Bod yn barod i gyfrannu at y gwasanaeth ‘ar-alwad’ .
- Bod yn barod i ymateb mewn argyfwng y tu allan i oriau swyddfa arferol.
- Cefnogi’r Cydlynwyr a Rheolwyr gyda gwariant effeithiol y gyllideb.
- Gofalu bod gweithgareddau’r Tîm yn cyflawni polisïau, gweithdrefnau, safonau, targedau, cyllidebau ac anghenion llywodraethu Grŵp Cynefin.
- Ymateb i ymholiadau mewnol ac allanol yn broffesiynol, yn unol â safonau gofal cwsmer Grŵp Cynefin
- Cynrychioli’r gwasanaeth yn fewnol ac allanol fel sydd angen.
Cyflog
💰 £31,565
Lleoliad
📍 Y Bala, Dinbych, Penygroes, O gartref
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Rydych wedi gweld yr holl swyddi.