Swyddi Cymraeg
1 swydd yn cyfateb
Cyfieithydd
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg yn edrych am Gyfieithydd
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Rydym yn chwilio am gyfieithydd i ddarparu gwasanaeth cyfieithu a chyfieithu ar y pryd i staff ac i'r gwahanol adrannau ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg.
Bydd hyn yn cynnwys cyfieithu dogfennau o'r Saesneg i'r Gymraeg a hefyd o'r Gymraeg i'r Saesneg o bryd i'w gilydd. Yn ogystal, bydd gofyn i ddeiliad y swydd gynorthwyo'r Tîm Cyfathrebu ac Ymgysylltu i gyhoeddi deunydd yn y Gymraeg ar y cyfryngau cymdeithasol.
Bydd y rôl hon yn cyfrannu at sicrhau bod y Bwrdd Iechyd yn cydymffurfio â rheoliadau Mesur y Gymraeg (2011), a thrwy wneud hynny bydd yn sicrhau bod gwasanaethau dwyieithog yn cael eu cynnig i gleifion yn ardaloedd Rhondda Cynon Taf, Merthyr Tudful a Phen-y-Bont ar Ogwr.
Bydd deiliad y swydd yn helpu i ddarparu gwasanaeth Cymraeg cynhwysfawr, yn unol â pholisïau a gweithdrefnau Cymraeg Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg a Safonau'r Gymraeg.
Bydd deiliad y swydd yn gweithio'n agos gyda rheolwyr gwasanaethau i wella gwasanaethau a sicrhau bod y Gymraeg yn ystyriaeth ganolog yn holl fusnes y Bwrdd Iechyd.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Darparu gwasanaeth cyfieithu ysgrifenedig o'r Saesneg i'r Gymraeg ac o'r Gymraeg i'r Saesneg. Bydd hyn yn cynnwys cyfieithu'r canlynol:
Deunydd gofal iechyd fel taflenni gwybodaeth i gleifion, llythyrau i gleifion a chyfarwyddiadau meddygol o wahanol feysydd, o Ffisiotherapi i Faeth
Deunydd ar wefan y Bwrdd Iechyd
Llythyrau i'r cyhoedd ac oddi wrth y cyhoedd, ac unrhyw fathau eraill o ohebiaeth a dderbynnir
Deunydd cyfryngau cymdeithasol fel pyst Facebook a negeseuon Twitter
Posteri ac arwyddion.
Adroddiadau fel adroddiad blynyddol y Bwrdd Iechyd.
Unrhyw destunau eraill a ystyrir yn briodol gan Swyddog y Gymraeg neu'r Rheolwr Gwasanaethau Cymraeg
Cyfieithu dogfennau/llythyron a gohebiaeth (e.e. llythyron cwyno, llythyron oddi wrth Aelodau'r Cynulliad, datganiadau i'r wasg ac ati) ar ran Swyddfa'r Prif Weithredwr lle bydd dyddiadau dychwelyd tyn a lle bydd y wybodaeth yn aml yn gymhleth/sensitif, megis y gofal a'r driniaeth a roddir i glaf/cleifion, asesiadau cymhleth, cofnodion meddygol ac ati
Gweithio'n agos ac ar y cyd â thîm cyfathrebu'r Bwrdd Iechyd i ddarparu gwybodaeth ddwyieithog i'w chyhoeddi drwy'r rhyngrwyd/y fewnrwyd a chyfryngau cymdeithasol y sefydliad
Amdanom ni
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg yn rhan o deulu GIG Cymru. Mae ein Bwrdd Iechyd yn darparu gofal iechyd sylfaenol, eilaidd a chymunedol ynghyd â gwasanaethau lles i tua 450,000 o bobl sy'n byw mewn tair sir: Pen-y-bont ar Ogwr, Merthur Tydful a Rhondda Cynon Taf.
Rydyn ni'n byw yn ôl ein gwerthoedd craidd:
Rydyn ni'n gwrando, yn dysgu ac yn gwella
Rydyn ni'n trin pawb â pharch
Rydyn ni i gyd yn gweithio fel un tîm
Rydyn ni'n gyflogwr lleol balch; mae tua 80% o'n gweithlu o 15,000 yn byw o fewn ein rhanbarth. O ganlyniad, nid enaid y sefydliad yn unig y mae ein staff yn ei gynrychioli, ond y cymunedau amrywiol rydyn ni'n eu gwasanaethu.
Cyflog
💰 £27,055 - £32,934
Lleoliad
📍 Pontypridd
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Rydych wedi gweld yr holl swyddi.