Swyddi Cymraeg
1 swydd yn cyfateb
Rheolwr Cynllun Hafod y Gest
💰 £25,667 pro rata 📍 Porthmadog Ar gau
Mae Grŵp Cynefin yn edrych am Reolwr Cynllun Hafod y Gest
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Hoffech chi wneud gwahaniaeth i fywydau pobl yn ein Cynllun Tai Gofal Ychwanegol yn Hafod y Gest, Porthmadog?
Disgrifiad:
- Darparu cefnogaeth briodol i drigolion i’w galluogi i gynnal eu tenantiaeth yn llwyddiannus ac i fyw mor annibynnol â phosib. Llunio a diweddaru asesiad o anghenion yr unigolyn, datblygu Cynllun Cefnogaeth Unigol ac asesiadau risg. Bydd y gefnogaeth yn cyd-fynd â deilliannau rhaglen Cefnogi Pobl, sef cefnogi unigolion i:-
- Deimlo’n ddiogel
- Cyfrannu at ddiogelwch a lles eu hunain ac eraill
- Rheoli llety
- Ysgogi perthynas iach
- Teimlo’n rhan o’r gymuned
- Rheoli arian a chyllideb
- Cymryd rhan mewn addysg a dysgu
- Ymchwilio i gyfleon gwaith a gwirfoddoli
- Hybu iechyd a lles
- Iechyd meddwl
- Ysgogi ffordd o fyw iach
- Mynychu cyfarfodydd achos fel fo’n briodol. Cyfeirio ymlaen/arwyddbostio at asiantaethau neu wasanaethau proffesiynol neu arbenigol fel fo’n briodol ac adrodd ar ddeilliannau i gomisiynwyr Cefnogi Pobl fel bo angen.
- Cysylltu’n rheolaidd gyda’r tenantiaid gan sicrhau cyswllt dyddiol gyda rhai unigolion yn unol â’u asesiad anghenion. Delio gydag unrhyw ymholiad yn brydlon ac effeithiol.
- Datblygu perthynas waith effeithiol gyda’r tîm gofal ar safle a hefyd gweithwyr proffesiynol ac asiantaethau eraill er mwyn hyrwyddo lles a chwrdd ag anghenion cymorth y tenantiaid e. gweithwyr cymdeithasol, darparwyr gofal/cefnogaeth, gweithwyr maes iechyd, asiantaethau gwirfoddol a chydweithwyr o fewn Grŵp Cynefin.
- Gweithredu trefniadau dyrannu a gosod y cynllun yn unol â gweithdrefnau’r Gymdeithas. Delio ag ymholiadau am lety ac ymweld â darpar denantiaid yn eu cartref gan ddilyn polisïau perthnasol e.e. iechyd a diogelwch. Sicrhau bod trosiant eiddo gwag yn cyrraedd targed gweithredu’r Gymdeithas.
- Hyrwyddo cynhwysedd ariannol a chefnogi’r tenantiaid i gael gwybodaeth briodol am eu hawliau, budd-daliadau lles, cyllido ayb i leihau’r risg iddynt fynd i ddyled rhent. Cyfeirio at wasanaethau arbenigol fel fo angen.
- Gweinyddu prosesau cyfrifon rhent a gwasanaethau (utilities) yn gywir a chadw gwybodaeth yn gyfredol, gan gynnwys agor tenantiaethau newydd, cau cyfrifon yn amserol ac uchafu incwm rhent y Gymdeithas trwy reoli ôl-ddyledion rhent yn effeithiol.
- Cysylltu’n rheolaidd gyda’r Adran Budd-daliadau Tai i sicrhau bod rhenti’n cael eu talu’n brydlon, i reoli achosion o ordalu ac i drafod apeliadau. Cysylltu gyda’r Adran Cefnogi Pobl ynglŷn â thaliadau Grant Rhaglen Cefnogi Pobl.
- Ymateb yn brydlon ac effeithiol i achosion o anghydfod cymdogion neu ymddygiad gwrthgymdeithasol. Trafod achosion difrifol gyda’r Arweinydd Tim.
- Sicrhau fod systemau gwybodaeth y cynllun yn gywir a chyfredol, gan sicrhau cydymffurfiad â gofynion Diogelu Data.
- Cydweithio gyda darparwyr arlwyo a glanhau er mwyn sicrhau gwasanaeth safonol.
- Bod yn gyfrifol am hyrwyddo cyfranogiad tenantiaid ym mhob agwedd o weithgareddau’r cynllun. Cydweithio gyda’r Arweinydd Tîm i ymgynghori a mesur bodlonrwydd tenantiaid ac ymateb i adborth am wasanaethau er mwyn hybu gwelliant parhaus.
- Sicrhau rhaglen amrywiol o weithgareddau cymdeithasol a hwyluso defnydd o’r cyfleusterau cymunedol. Annog a chefnogi trigolion i gymryd rhan ac i drefnu a chynnal gweithgareddau eu hunain. Cynnal asesiadau risg fel bo’n berthnasol.
- Cyd-weithio’n agos gyda’r Tîm Cynnal a Chadw i gynnal safonau a chyflwr eiddo’r Gymdeithas; adrodd am waith trwsio yn amserol a sicrhau mynediad i weithwyr gyflawni’r gwaith angenrheidiol. Monitro safon gwaith contractwyr ar safle e.e. glanhau neu arddio.
- Mewn cydweithrediad â’r Rheolwr Iechyd a Diogelwch, gwirio materion iechyd a diogelwch y cynllun yn unol â gweithdrefnau’r Gymdeithas, gan gynnwys asesiadau risg, profi system tân, CCTV a theleofal. Sicrhau bod y trigolion yn ymwybodol o’r trefniadau argyfwng a sicrhau bod proses PEEPS y Gymdeithas (Personal Emergency Evacuation Plans) yn cael ei gweithredu. Cadw cofrestr o ddodrefn ac offer cymunedol a sicrhau eu bod mewn cyflwr safonol a diogel. Cydweithio i sicrhau bod y tîm gofal ar-safle, ymgymerwyr allanol ayb yn ymwybodol o drefniadau argyfwng y cynllun. Cadw cofrestr o ddodrefn ac offer cymunedol a sicrhau eu bod mewn cyflwr safonol a diogel.
- Sicrhau bod y ddarpariaeth llinell gofal yn cael ei drosglwyddo yn ystod cyfnodau pan nad oes staff ar safle. Bod yn gyfrifol am wirio bod y ddarpariaeth llinell gofal yn gweithio. Sicrhau fod y darparwr llinell gofal yn derbyn gwybodaeth gywir a chyfredol am y tenantiaid.
- Rheoli defnydd yr ystafell ymwelwyr.
- Rheoli a monitro unrhyw fân incwm a gwariant yn unol â gweithdrefnau’r Gymdeithas.
- Creu cysylltiadau cadarnhaol gyda’r gymuned ehangach er budd y tenantiaid a sicrhau fod y cynllun yn adnodd defnyddiol i’r gymuned leol. Cydweithio gyda’r Uwch Swyddog i farchnata’r cynllun yn effeithiol.
- Cynorthwyo’r Arweinydd Tîm i adrodd am ddeilliannau neu ddangosyddion perfformiad fel bo angen.
- Cyd-weithio’n agos gyda chynllun tai gwarchod Maes y Mor (a bod ar gael i gynorthwyo yno ar adegau o wyliau a salwch y staff).
Cyflog
💰 £25,667 pro rata
Lleoliad
📍 Porthmadog
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Rydych wedi gweld yr holl swyddi.