Swyddi Cymraeg
2 swydd yn cyfateb
Clerc y Dref a Swyddog Ariannol Cyfrifol
Mae Cyngor Tref Rhuthun yn edrych am Glerc y Dref a Swyddog Ariannol Cyfrifol
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Gwahoddir ceisiadau ar gyfer swydd Clerc Tref a Swyddog Ariannol i fod yn gyfrifol am reolaeth weinyddol effeithiol Cyngor Tref Rhuthun a’i adnoddau, ac i sicrhau bod y Cyngor yn cydymffurfio â’i gyfrifoldebau ariannol a’i gyfrifoldebau archwilio statudol.
Disgrifiad:
Disgwylir i Glerc y Dref weithio cyfanswm o 30 awr yr wythnos yn cynnwys mynychu cyfarfodydd gyda’r nos a chefnogi digwyddiadau ar benwythnosau achlysurol. Bydd y Clerc wedi’i leoli yn Yr Hen Lys, Sgwar San Pedr, Rhuthun sydd ar agor i’r cyhoedd. Bydd disgwyl i’r Clerc weithio’n hyblyg dros 5 diwrnod yr wythnos o ddydd Llun i ddydd Gwener mewn cyswllt â Dirprwy Glerc y Dref/Rheolwr yr Hen Lys. Byddai hyn fel bod deiliad y swydd yn gallu cyfrannu at redeg Cyngor y Dref a’i adeiladau yn effeithiol gydag oriau agor rhwng 10.00am a 3.00pm.
Mae'r gallu i withio drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg yn hanfodol.
Mae pecyn gwybodaeth i ymgeiswyr sy'n cynnwys ffurflen gais, disgrifiad swydd a manyleb person ar gael gan Gyngor Tref Rhuthun ar y ddolen hon: www.cyngortrefrhuthun.gov.uk
Cysylltwch â Siân Clark, Clerc Cyngor Tref Rhuthun ar [email protected] ar gyfer unrhyw wybodaeth bellach sydd ei angen arnoch. Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 12.00pm ar ddydd Iau 8 o Ragfyr 2022. Cynhelir cyfweliadau ddydd Gwener 16 o Ragfyr 2022.
Rhan-amser: 30 awr yr wythnos yn cynnwys mynychu cyfarfodydd gyda’r nos/ penwythnosau achlysurol
Cyflog: LC2 (26-32) £32,909 i £38,296 y flwyddyn pro rata (£17.10 - £19.90 yr awr)
Mae’n hanfodol fod y person yn gyfathrebwr hyderus ar bob lefel ar lafar ac yn ysgrifenedig trwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg.
Dyddiad cau: Hanner dydd ddydd Iau 8 o Ragfyr 2022 Cyfweliadau: I’w cynnal ar ddydd Gwener 16 o Ragfyr 2022 I gael rhagor o fanylion ynglŷn â’r swydd hon a ffurflen gais e-bostiwch: [email protected]
Os dymunwch drafod unrhyw agwedd ar y swydd, cysylltwch â Siân Clark, Clerc Cyngor Tref Rhuthun ar rif ffôn 01824 703797 os gwelwch yn dda.
**Gwybodaeth ychwanegol **
· Gwybodaeth ddigonol dda o weinyddiaeth, strwythurau ac arferion Llywodraeth Leol
· Wedi cwblhau neu barodrwydd i weithio tuag at Dystysgrif mewn Gweinyddiaeth Cynghorau Lleol (CiLCA) sy’n ofynnol i bob Clerc Tref
· Profiad o wasanaethu a chynghori pwyllgorau, yn cynnwys cadw cofnodion a gweithio gyda’r aelodau
· Sgiliau trefnu a chwrdd â therfynau amser rhagorol, gyda sylw astud i fanylion
· Yn gymwys mewn rheolaeth ariannol, yn gyfarwydd ag arferion cyfrifeg a gallu i gynhyrchu adroddiadau ariannol, gan ddefnyddio pecyn cadw cyfrifon megis SAGE
· Cyfathrebwr hyderus ar bob lefel ar lafar ac yn ysgrifenedig trwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg
· Yn hyddysg â Microsoft Office (Word ac Excel)
· Gwybodaeth am reoli risg a rheoli asedau
· Gallu i wybod canlyniadau gwleidyddol/cyfreithiol camau gweithredu sy’n cael eu hargymell gan aelodau
· Gwybodaeth am a phrofiad o ddefnydd technoleg ar gyfer cynnal cyfarfodydd neu ar gyfer dibenion eraill
· Gallu i weithio’n effeithiol ar eich pen eich hun neu fel rhan o dîm
· Agwedd ystwyth a hyblyg at unrhyw newidiadau sy’n digwydd
· Parodrwydd i weithio gyda’r nos a phenwythnosau achlysurol pan fydd angen
· Parodrwydd a’r gallu i deithio
Cyflog
💰 £32,909 - £38,296 pro rata
Lleoliad
📍 Rhuthun
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus
Mae Comisiynydd y Gymraeg yn edrych am Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Swydd: Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus
Contract: Tymor penodol neu secondiad am 2 flynedd
Oriau Gwaith: 37 awr yr wythnos
Cyflog: £31,210 - £38,160 y flwyddyn
Lleoliad: Hyblyg - gweithredir trefniant gweithio hybrid. Lleolir swyddfeydd y Comisiynydd yng Nghaerdydd, Caernarfon, Caerfyrddin, a Rhuthun
Dyddiad cau: 12.00 canol dydd, 13 Mai 2022 Cyfweliadau: 23 Mai 2022 (cynhelir dros Teams)
Pwrpas
Fel aelod o’r tîm cyfathrebu byddwch yn gyfrifol am rannu gwybodaeth a hyrwyddo pob elfen o waith Comisiynydd y Gymraeg. Byddwch yn defnyddio eich sgiliau a thechnegau i gyfleu negeseuon a denu sylw yn y wasg ac ar y cyfryngau cymdeithasol er mwyn sicrhau bod cynulleidfaoedd ym mhobman yn ymwybodol o waith y Comisiynydd.
Dyletswyddau craidd
- Darparu gwasanaeth cyfathrebu cyflym, arbenigol a dibynadwy, gan ymdrin ag ymholiadau a cheisiadau gan y wasg a’r cyfryngau.
- Rhoi cyngor i aelodau staff y Comisiynydd ynghylch rhannu gwaith y sefydliad a darparu sesiynau briffio cyn cyfweliadau ar y cyfryngau.
- Llunio safbwyntiau ac ymatebion y Comisiynydd mewn modd rhagweithiol ac adweithiol.
- Ysgrifennu datganiadau i’r wasg, a pharatoi a chomisiynu deunydd gweledol addas i gyd-fynd â’r straeon hynny gan sicrhau eu dosbarthu’n eang.
- Cyfathrebu gyda rhan-ddeiliaid y Comisiynydd, drwy gyfarfodydd, cyflwyniadau a thrwy ysgrifennu a chylchredeg cylchlythyr i ran-ddeiliaid.
- Datblygu perthnasoedd gwaith cryf, rhagweithiol gyda newyddiadurwyr ar draws Cymru a’r Deyrnas Unedig.
- Ysgrifennu, golygu a phrawf ddarllen copi ar gyfer yr adroddiad blynyddol ac adroddiadau eraill, cyhoeddiadau, y wefan, datganiadau ac erthyglau, a deunydd ar gyfer y cyfryngau cymdeithasol gan gynnig syniadau o ran deunydd addas i gynulleidfaoedd amrywiol.
- Gweithredu Strategaeth Gyfathrebu’r Comisiynydd drwy weithio gyda thimoedd ar gynlluniau cyfathrebu penodol, hyrwyddo prif negeseuon ac ymgyrchoedd yn y wasg a llunio datganiadau i ddwyn perswâd ar olygyddion a newyddiadurwyr i gynnwys y straeon.
- Datblygu sgiliau digidol e.e ffilmio a golygu fideo er mwyn cynhyrchu cynnwys ar gyfer y cyfryngau a’r cyfryngau cymdeithasol sy’n ddeniadol, i gefnogi a hyrwyddo gwaith y Comisiynydd.
- Cynorthwyo gyda chynnal a chreu cynnwys ar gyfer cyfrifon cyfryngau cymdeithasol y Comisiynydd, gan ateb yn ôl yr angen.
- Diweddaru gwefan y Comisiynydd a’r adran newyddion yn rheolaidd gan sicrhau bod y cynnwys yn cael ei hyrwyddo a’i rannu yn eang.
- Cadw golwg ar ddatblygiadau o bwys a newyddion y dydd a’u rhannu yn ôl yr angen.
- Creu a chylchredeg negeseuon wythnosol a chylchlythyron mewnol yn crynhoi pynciau pwysig a gwybodaeth berthnasol i staff y Comisiynydd.
- Monitro ein sylw yn y cyfryngau a helpu i werthuso ein hymdrechion cyfathrebu er mwyn gwella perfformiad.
Cyflog
💰 £31,210 - £38,160
Lleoliad
📍 Caerdydd, Caernarfon, Caerfyrddin, Rhuthun
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Rydych wedi gweld yr holl swyddi.