Swyddi Cymraeg — Sir Fôn
2 swydd yn cyfateb
Uwch Swyddog Marchnata a Chyfathrebu
Mae Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru yn edrych am Uwch Swyddog Marchnata a Chyfathrebu
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Rydym yn chwilio am Uwch Swyddog Marchnata a Chyfathrebu i ymuno â'n tîm arbennig yma yn Ynys Môn a Llŷn. Ydych chi’n gyfathrebwr gwych â dealltwriaeth dda o dechnegau marchnata a llygad am stori dda? Os felly, gallai’r swydd hon fod yn berffaith i chi. Os ydych yn frwdfrydig dros rannu straeon a chreu cynnwys gwych, hoffem glywed gennych.
Mae’r gallu i gyfathrebu trwy gyfrwng y Gymraeg yn hanfodol. Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynglŷn â’r rôl, cysylltwch â [email protected]
Sut brofiad yw gweithio yma
Mae Ynys Môn a Llŷn yn bortffolio gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol a ffurfiwyd yn ddiweddar gan ddwyn y ddwy ardal ynghyd i ganolbwyntio’n well ar ein safleoedd arfordirol a’n cymunedau yng ngogledd orllewin Cymru.
Fel portffolio mae ein gwaith yn ymwneud â gofalu am wledd o gynefinoedd arfordirol sy’n gyfoeth o fioamrywiaeth. Nid yw'n syndod felly y bydd llawer o'ch gwaith yn canolbwyntio ar ymgysylltu pobl â'r amgylchedd naturiol y gofalwn amdano. Gallai hyn fod drwy ysgrifennu datganiad i'r wasg i rannu hanes un o'n prosiectau cadwraeth niferus neu hyrwyddo digwyddiad, cyfle gwirfoddoli neu daith dywys i gynulleidfaoedd newydd drwy sianeli cyfryngau cymdeithasol a’n gwefan.
Mae gennym hefyd lawer o draethau poblogaidd a mannau mynediad arfordirol dan ein gofal, yn ogystal â gerddi ac eiddo adeiledig. Mae Tŷ a Gardd Plas Newydd yn blasty godidog ac yn ardd restredig Gradd 1 ar lannau’r Fenai. Maenordy bychan yw Plas yn Rhiw sy’n swatio mewn gardd brydferth a choetir o’i amgylch ar arfordir de Pen Llŷn, ac mae Porth y Swnt yn ganolfan ymwelwyr ddifyr yn Aberdaron a gynlluniwyd i ysbrydoli pobl i grwydro rhagor ym Mhen Llŷn. Mae’r holl eiddo yn wahanol iawn a byddwch yn gyfrifol am farchnata'r lleoedd arbennig hyn a'r gwaith a wnawn yma yn ddychmygus ac effeithiol gan wella cefnogaeth i'n hachos.
Beth fyddwch chi'n ei wneud
O ddydd i ddydd, byddwch yn datblygu ein cynllun marchnata blynyddol i helpu i gyflawni ein targedau uchelgeisiol, a chyrraedd cynulleidfaoedd newydd. Bydd hyn yn cynnwys diffinio gweithgareddau hysbysebu a chreu deunyddiau a chynnwys hyrwyddo ar draws y cyfryngau gwahanol - yn cynnwys ar y wefan a'r cyfryngau cymdeithasol, ysgrifennu a dosbarthu datganiadau i'r wasg, cefnogi ymgyrchoedd, rheoli delweddau, a'n cynrychioli wrth ffilmio mewn lleoliadau ac ar y cyfryngau darlledu, pan fo angen.
Rydym yn chwilio am rywun a all ein helpu i gyrraedd cynulleidfaoedd mwy a mwy amrywiol ochr yn ochr â meithrin perthnasoedd gyda’n cymunedau a’n rhanddeiliaid lleol. Bydd gennych yr hyder, sgiliau cyfathrebu a chwilfrydedd i gysylltu'n rhagweithiol â chydweithwyr i ddysgu am yr hyn sy'n mynd ymlaen ym mhob cwr o'r portffolio. Byddwch yn gweithio fel rhan o dîm i sicrhau ein bod yn rhannu'r straeon gorau posibl. Byddwch yn cynnal ymgyrchoedd marchnata i ddenu ymwelwyr i’n lleoedd, lledaenu’r neges am leoedd i ymweld â nhw yn yr awyr agored a chodi ymwybyddiaeth o’n gwaith cadwraeth.
Bydd gweithio mewn partneriaeth â sefydliadau allanol yn bwysig, gan alinio negeseuon rhwng partneriaid lle bo'n briodol. Bydd cyfathrebu mewnol hefyd yn rhan o'ch rôl, gan wneud yn siŵr bod staff a gwirfoddolwyr o fewn portffolio mor eang yn ddaearyddol yn teimlo wedi'u cysylltu a'u hymgysylltu â'r hyn sy'n mynd ymlaen ar lawr gwlad yn y lleoliadau gwahanol.
Er y byddwch wedi’ch lleol ym Mhlas Newydd yn bennaf, byddwch yn gweithio ar draws y portffolio cyfan yn eich swydd. Disgwylir y byddwch yn treulio o leiaf 60% o’ch amser ym Mhlas Newydd lle byddwch yn chwarae rhan weithredol yn y tîm gweithrediadau eiddo ac ar y rota rheolwr ar ddyletswydd yn rheolaidd. Byddwch yn treulio gweddill eich amser yn mynd allan gan ryngweithio â chydweithwyr ac ymweld ag eiddo eraill ar draws y portffolio.
Gall fod gofyn ichi weithio gyda’r nos, ar benwythnosau ac ar wyliau banc. Byddai trafnidiaeth eich hun yn fuddiol oherwydd lleoliadau amrywiol ein safleoedd ar draws y portffolio. Gofynnir i chi hefyd ddarllen y proffil swydd llawn sydd ynghlwm â'r hysbyseb hon.
Am bwy rydyn ni'n chwilio
· Dealltwriaeth dda o dechnegau marchnata a phrofiad o ddatblygu a chyflwyno cynlluniau cyfathrebu a marchnata yn ogystal â gwerthuso
· Dealltwriaeth o bwysigrwydd presenoldeb ar-lein diddorol gyda phrofiad o reoli systemau rheoli cynnwys gwefannau
· Sgiliau digidol ardderchog, gan gynnwys profiad o reoli sianeli cyfryngau cymdeithasol a chreu cynnwys o safon, gyda delweddau a fideo gwych
· Sgiliau cyfathrebu ysgrifenedig a geiriol rhagorol gyda phrofiad o ysgrifennu i'r wasg a'r sylw i fanylion i allu ysgrifennu copi a phrawf-ddarllen
· Sgiliau TG Uwch (gan gynnwys Microsoft Office)
· Sgiliau rhyngbersonol a rhwydweithio rhagorol
· y gallu i siarad Cymraeg
Y pecyn
Yr arwyddair sydd wrth wraidd yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yw 'I bawb, am byth'. Rydym yn gweithio'n galed i greu diwylliant cynhwysol, lle mae pawb yn teimlo eu bod yn perthyn iddo. Mae'n bwysig bod ein pobl yn adlewyrchu ac yn cynrychioli amrywiaeth y cymunedau a'r cynulleidfaoedd yr ydym yn eu gwasanaethu. Rydym yn croesawu ac yn gwerthfawrogi gwahaniaeth, felly pan ddywedwn ein bod ar gyfer pawb, rydym eisiau i bawb deimlo'n gartrefol yn ein timau hefyd.
- Cynllun pensiwn sylweddol hyd at 10% o gyflog sylfaenol
- Mynediad am ddim i eiddo'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, i chi, gwestai a'ch plant (dan 18 oed)
- Cynllun gofal plant di-dreth
- Cynllun benthyciad blaendal rhent
- Benthyciad tocyn tymor
- Gostyngiadau buddion y gweithle, h.y. aelodaeth gampfa, codau gostyngiad siopa, gostyngiadau ar gyfer y sinema
- Lwfans gwyliau hyd at 32 diwrnod mewn perthynas â hyd y gwasanaeth, yn ogystal â chynllun prynu gwyliau, yn amodol ar fodloni meini prawf gofynnol
- Oriau gweithio hyblyg lle bynnag y bo'n bosibl
- Rhaglen cynorthwyo cyflogai
- Parcio am ddim yn y rhan fwyaf o leoliadau
- Cyngor ariannol annibynnol
Cyflog
💰 £25,662
Lleoliad
📍 Sir Fôn
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Swyddog Cyllid a Gweinyddol
Mae Cymdeithas Amaethyddol Môn yn edrych am Swyddog Cyllid a Gweinyddol
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mae Cymdeithas Amaethyddol Ynys Môn yn trefnu amryw o ddigwyddiadau drwy’r flwyddyn gan gynnwys y Sioe Sir, Sioe Aeaf, digwyddiadau codi arian, ynghyd â marchnata'r safle barhaol gyda'i holl gyfleusterau i ddarparwyr allanol.
Mae'r Gymdeithas yn chwilio am berson arbennig i weithio fel rhan annatod o'r tîm gweinyddol. Mae hon yn swydd sy'n adrodd i Swyddog Datblygu’r Gymdeithas, a gall fod yn llawn-amser neu ran-amser gan ddibynnu ar ddymuniad yr ymgeisydd. Bydd angen i’r person llwyddiannus fod yn dangos mentergarwch a’r gallu i aml-dasgio, gan bod yna amrywiaeth o ofynnion yn rhan o’r swydd.
Mae'r gallu i gyfathrebu ar lefel uchel yn Gymraeg a Saesneg yn hanfodol, a byddai profiad o weithio ym maes cyllid, marchnata a/neu wasanaeth cwsmer yn fanteisiol, ynghyd â bod yn llythrennog mewn TG. Byddai dealltwriaeth a diddordeb mewn materion amaethyddol a chefn gwlad hefyd yn fanteisiol.
Disgrifiad:
Bydd cyflog rhwng £23,149-£26,357 gan ddibynnu ar sgiliau a phrofiad.
Am ragor o wybodaeth ewch ar wefan y Gymdeithas www.angleseyshow.org.uk, neu E-bost i: [email protected] neu ffoniwch 01407 720072.
Ceisiadau ysgrifenedig gan gynnwys CV cyfredol at sylw: Miss Cain Owen, Cymdeithas Amaethyddol Môn, “Ty Glyn Williams”, Maes Y Sioe, Gwalchmai, Caergybi, Ynys Môn LL65 4RW.
Dyddiad cau: hanner dydd dydd Iau, Ionawr 5ed, 2023
Cyflog
💰 £23,149 - £26,357
Lleoliad
📍 Sir Fôn
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Rydych wedi gweld yr holl swyddi.