Swyddi Cymraeg — Talybont
3 swydd yn cyfateb
Golygydd Llyfrau Plant a Phobl Ifanc
Mae Y Lolfa Cyf yn edrych am Olygydd Llyfrau Plant a Phobl Ifanc
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Y prif orchwyl fydd llywio rhaglen blant a phobl ifanc Y Lolfa drwy’r wasg gan olygu’r llyfrau yn greadigol ac ymgymryd â phob gwaith cysylltiol. Yn ogystal â chydweithio â golygyddion eraill Y Lolfa bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn cydweithio gydag adran olygyddol y Cyngor Llyfrau ar rai teitlau. Bydd y Golygydd yn un o’n tîm golygyddol o chwech. Bydd yn atebol i Lefi Gruffudd, Pennaeth Cyhoeddi Y Lolfa. Rydym yn ystyried ymgeiswyr sydd am weithio isafswm o dri diwrnod ac uchafswm o bum diwrnod yr wythnos. Mae’r Lolfa yn hapus i ystyried ymgeiswyr sydd am weithio yn Y Lolfa neu o gartref neu gyfuniad o’r ddau, yn gyflogedig i’r Lolfa.
Disgrifiad:
Dyletswyddau
Mae’r cyfrifoldebau yn cynnwys gwneud y gwaith canlynol ar nifer o deitlau Cymraeg Y Lolfa i blant a phobl ifanc. Bydd hefyd y posibilrwydd gweithio ar rai llyfrau i oedolion.
· Rheoli a llywio nifer penodol o lyfrau trwy’r wasg.
· Sicrhau bod y testun yn gyflawn, yn glir, yn gywir ac yn gyson; ei fod yn cyfateb i ofynion y cytundeb, a’i fod yn cydymffurfio ag arddull y tŷ.
· Cydweithio gyda’r awdur er mwyn mireinio’r arddull, cywiro camgymeriadau ffeithiol a chyfeiriadau gwallus/absennol, cwtogi lle bo angen.
· Trefnu’r dalennau rhagarweiniol (teitl, awdur, nodyn hawlfraint, ISBN, tudalen gynnwys, cydnabyddiaethau, rhagair, etc.) a’r dalennau terfynol (atodiadau, llyfryddiaeth, mynegai, etc.)
· Cyd-gysylltu gyda’r awdur, adrannau’r Lolfa a’r Cyngor Llyfrau.
· Trefnu testun y clawr (yn cynnwys y broliant).
· Paratoi datganiadau i’r wasg a gwybodaeth hyrwyddo i’r adran farchnata.
· Chwilio am luniau a sicrhau caniatâd.
· Darllen a deall cywiriadau golygyddion copi a’u gosod i mewn ar y sgrin gan ddefnyddio Word a rhaglenni tudalennu fel InDesign. (Rhoddir hyfforddiant).
· Trefnu golygu testunol a phrawfddarllen allanol pan fo’r angen yn codi.
· Comisiynu gwaith celf a chynllun y clawr; comisiynu neu ddewis dylunwaith ar gyfer corff y llyfr.
· Cynnig syniadau ar gyfer cyfrolau a thrafod syniadau mewn cyfarfodydd golygyddol.
· Darllen a mynegi barn ar lawysgrifau sydd wedi dod i law.
· Paratoi deunydd gwybodaeth a marchnata am lyfrau ar wefannau mewnol ac allanol.
· Gwneud gwaith gweinyddol amrywiol cysylltiedig.
· Cyflawni tasgau eraill rhesymol yn ôl y galw.
Cyflog
💰 Cystadleuol
Lleoliad
📍 Talybont, O gartref, Hyblyg
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Swyddog Marchnata
Mae Y Lolfa Cyf yn edrych am Swyddog Marchnata
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Rydym yn chwilio am berson brwd, effeithiol a chreadigol i gynorthwyo gyda gwaith hyrwyddo’r wasg a’i chyhoeddiadau yn y cyfryngau print, radio, teledu ac ar-lein. Mae hon yn swydd am gyfnod penodol o 12 mis. Mae’n swydd amrywiol, diddorol a heriol fydd yn cynnig profiad unigryw o weithio mewn maes sy’n tyfu ac yn newid yn gyflym. Rhoddir hyfforddiant yn ôl y galw.
Disgrifiad:
- Datblygu a gweithredu cynlluniau marchnata ar gyfer llyfrau Cymraeg a Saesneg. Bydd angen trafod â golygyddion Y Lolfa, awduron y cyfrolau, Adran Farchnata Cyngor Llyfrau Cymru ac unrhyw sefydliadau perthnasol eraill.
- Datblygu a diweddaru gwefan Y Lolfa a gofalu am gyfrifon cymdeithasol y cwmni sy’n cynnwys Twitter,_ Facebook_, Instagram ac YouTube. Edrych i’r posibilrwydd o ddatblygu presenoldeb y cwmni ar Tiktok.
- Cynorthwyo gyda threfniadau lansiadau a sesiynau arwyddo a chydgysylltu gyda threfnwyr digwyddiadau eraill fel gwyliau llyfrau, ffeiriau ac ysgolion. Mynychu’r digwyddiadau yma a chadw trefn ar unrhyw daliadau.
- Cydweithio gyda’r Cyngor Llyfrau a dosbarthwyr a chyfanwerthwyr eraill i sicrhau fod y llyfrau ar werth yn eang a bod deunydd hyrwyddo yn y siopau. Paratoi dalennau gwybodaeth o flaen llaw, bwydo gwybodaeth i Gwales a mynychu Cynhadledd Werthu’r Cyngor Llyfrau.
- Gweithio yn stondinau’r Lolfa yn yr Eisteddfod Genedlaethol ac Eisteddfod yr Urdd, hefyd mynychu digwyddiadau gwerthu eraill, yn cynnwys ffeiriau llyfrau pan fo galw.
- Danfon datganiadau i’r wasg a chopïau adolygu i unigolion perthnasol yn y cyfryngau.
- Danfon cylchlythyron digidol i gwsmeriaid y cwmni.
- Archebu a pharatoi hysbysebion digidol a phrint.
- Dylunio a dosbarthu posteri a gwahoddiadau syml. Bydd Y Lolfa yn cynnig hyfforddiant.
- Cynnig syniadau ar sut i farchnata ein llyfrau yn fwy effeithiol gan fanteisio i’r eithaf ar y datblygiadau technolegol diweddaraf.
- Ymgymryd â gwaith gweinyddol a phrosesu data ynghlwm â marchnata llyfrau’r Lolfa.
- Fel â phob swydd yn Y Lolfa, rhaid bod yn barod i ymgymryd â gwaith mewn adrannau eraill yn ôl y gofyn.
Cyflog
💰 I'w drafod
Lleoliad
📍 Talybont
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Prif Weithredwr (Swydd Rhan Amser)
Mae Dyfodol i'r Iaith yn edrych am Brif Weithredwr (Swydd Rhan Amser)
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mae Dyfodol i’r Iaith yn chwilio am berson sy’n angerddol dros y Gymraeg i arwain gwaith y mudiad a’i gweithgareddau polisi a lobio. Mae'n swydd diddorol ac amrywiol ei natur.
Rydym yn awyddus i gyfweld unigoliion sydd â phrofiad ym maes polisi a/neu lobio i gydweithio yn agos gydag aelodau’r Bwrdd. Gallai’r swydd fod yn addas i rywun profiadol neu berson sy’n awyddus i weithio’n rhan amser tra’n cymryd y cam nesaf yn ei (g)yrfa.
Disgrifiad:
Oriau: 15- 20 awr yr wythnos ar gyfartaledd (i’w trafod a chytuno)
Cyflog: £28,000 - £33,000 pro rata*, yn dibynnu ar brofiad a chymwysterau
Dyddiad cau: 27 Mehefin 2022
Cais trwy lythyr a CV i [email protected]
Cysylltwch â [email protected] i drefnu sgwrs anffurfiol.
Cyflog
💰 £28,000 - £33,000 pro rata
Lleoliad
📍 Talybont
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Rydych wedi gweld yr holl swyddi.