Swyddi Cymraeg
1 swydd yn cyfateb
Swyddog Marchnata
💰 I'w drafod 📍 Talybont Ar gau
Mae Y Lolfa Cyf yn edrych am Swyddog Marchnata
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Rydym yn chwilio am berson brwd, effeithiol a chreadigol i gynorthwyo gyda gwaith hyrwyddo’r wasg a’i chyhoeddiadau yn y cyfryngau print, radio, teledu ac ar-lein. Mae hon yn swydd am gyfnod penodol o 12 mis. Mae’n swydd amrywiol, diddorol a heriol fydd yn cynnig profiad unigryw o weithio mewn maes sy’n tyfu ac yn newid yn gyflym. Rhoddir hyfforddiant yn ôl y galw.
Disgrifiad:
- Datblygu a gweithredu cynlluniau marchnata ar gyfer llyfrau Cymraeg a Saesneg. Bydd angen trafod â golygyddion Y Lolfa, awduron y cyfrolau, Adran Farchnata Cyngor Llyfrau Cymru ac unrhyw sefydliadau perthnasol eraill.
- Datblygu a diweddaru gwefan Y Lolfa a gofalu am gyfrifon cymdeithasol y cwmni sy’n cynnwys Twitter,_ Facebook_, Instagram ac YouTube. Edrych i’r posibilrwydd o ddatblygu presenoldeb y cwmni ar Tiktok.
- Cynorthwyo gyda threfniadau lansiadau a sesiynau arwyddo a chydgysylltu gyda threfnwyr digwyddiadau eraill fel gwyliau llyfrau, ffeiriau ac ysgolion. Mynychu’r digwyddiadau yma a chadw trefn ar unrhyw daliadau.
- Cydweithio gyda’r Cyngor Llyfrau a dosbarthwyr a chyfanwerthwyr eraill i sicrhau fod y llyfrau ar werth yn eang a bod deunydd hyrwyddo yn y siopau. Paratoi dalennau gwybodaeth o flaen llaw, bwydo gwybodaeth i Gwales a mynychu Cynhadledd Werthu’r Cyngor Llyfrau.
- Gweithio yn stondinau’r Lolfa yn yr Eisteddfod Genedlaethol ac Eisteddfod yr Urdd, hefyd mynychu digwyddiadau gwerthu eraill, yn cynnwys ffeiriau llyfrau pan fo galw.
- Danfon datganiadau i’r wasg a chopïau adolygu i unigolion perthnasol yn y cyfryngau.
- Danfon cylchlythyron digidol i gwsmeriaid y cwmni.
- Archebu a pharatoi hysbysebion digidol a phrint.
- Dylunio a dosbarthu posteri a gwahoddiadau syml. Bydd Y Lolfa yn cynnig hyfforddiant.
- Cynnig syniadau ar sut i farchnata ein llyfrau yn fwy effeithiol gan fanteisio i’r eithaf ar y datblygiadau technolegol diweddaraf.
- Ymgymryd â gwaith gweinyddol a phrosesu data ynghlwm â marchnata llyfrau’r Lolfa.
- Fel â phob swydd yn Y Lolfa, rhaid bod yn barod i ymgymryd â gwaith mewn adrannau eraill yn ôl y gofyn.
Cyflog
💰 I'w drafod
Lleoliad
📍 Talybont
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Rydych wedi gweld yr holl swyddi.