Swyddi Cymraeg
2 swydd yn cyfateb
Golygydd Llyfrau Plant a Phobl Ifanc
Mae Y Lolfa Cyf yn edrych am Olygydd Llyfrau Plant a Phobl Ifanc
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Y prif orchwyl fydd llywio rhaglen blant a phobl ifanc Y Lolfa drwy’r wasg gan olygu’r llyfrau yn greadigol ac ymgymryd â phob gwaith cysylltiol. Yn ogystal â chydweithio â golygyddion eraill Y Lolfa bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn cydweithio gydag adran olygyddol y Cyngor Llyfrau ar rai teitlau. Bydd y Golygydd yn un o’n tîm golygyddol o chwech. Bydd yn atebol i Lefi Gruffudd, Pennaeth Cyhoeddi Y Lolfa. Rydym yn ystyried ymgeiswyr sydd am weithio isafswm o dri diwrnod ac uchafswm o bum diwrnod yr wythnos. Mae’r Lolfa yn hapus i ystyried ymgeiswyr sydd am weithio yn Y Lolfa neu o gartref neu gyfuniad o’r ddau, yn gyflogedig i’r Lolfa.
Disgrifiad:
Dyletswyddau
Mae’r cyfrifoldebau yn cynnwys gwneud y gwaith canlynol ar nifer o deitlau Cymraeg Y Lolfa i blant a phobl ifanc. Bydd hefyd y posibilrwydd gweithio ar rai llyfrau i oedolion.
· Rheoli a llywio nifer penodol o lyfrau trwy’r wasg.
· Sicrhau bod y testun yn gyflawn, yn glir, yn gywir ac yn gyson; ei fod yn cyfateb i ofynion y cytundeb, a’i fod yn cydymffurfio ag arddull y tŷ.
· Cydweithio gyda’r awdur er mwyn mireinio’r arddull, cywiro camgymeriadau ffeithiol a chyfeiriadau gwallus/absennol, cwtogi lle bo angen.
· Trefnu’r dalennau rhagarweiniol (teitl, awdur, nodyn hawlfraint, ISBN, tudalen gynnwys, cydnabyddiaethau, rhagair, etc.) a’r dalennau terfynol (atodiadau, llyfryddiaeth, mynegai, etc.)
· Cyd-gysylltu gyda’r awdur, adrannau’r Lolfa a’r Cyngor Llyfrau.
· Trefnu testun y clawr (yn cynnwys y broliant).
· Paratoi datganiadau i’r wasg a gwybodaeth hyrwyddo i’r adran farchnata.
· Chwilio am luniau a sicrhau caniatâd.
· Darllen a deall cywiriadau golygyddion copi a’u gosod i mewn ar y sgrin gan ddefnyddio Word a rhaglenni tudalennu fel InDesign. (Rhoddir hyfforddiant).
· Trefnu golygu testunol a phrawfddarllen allanol pan fo’r angen yn codi.
· Comisiynu gwaith celf a chynllun y clawr; comisiynu neu ddewis dylunwaith ar gyfer corff y llyfr.
· Cynnig syniadau ar gyfer cyfrolau a thrafod syniadau mewn cyfarfodydd golygyddol.
· Darllen a mynegi barn ar lawysgrifau sydd wedi dod i law.
· Paratoi deunydd gwybodaeth a marchnata am lyfrau ar wefannau mewnol ac allanol.
· Gwneud gwaith gweinyddol amrywiol cysylltiedig.
· Cyflawni tasgau eraill rhesymol yn ôl y galw.
Cyflog
💰 Cystadleuol
Lleoliad
📍 Talybont, O gartref, Hyblyg
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Swyddog Marchnata
Mae Y Lolfa Cyf yn edrych am Swyddog Marchnata
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Rydym yn chwilio am berson brwd, effeithiol a chreadigol i gynorthwyo gyda gwaith hyrwyddo’r wasg a’i chyhoeddiadau yn y cyfryngau print, radio, teledu ac ar-lein. Mae hon yn swydd am gyfnod penodol o 12 mis. Mae’n swydd amrywiol, diddorol a heriol fydd yn cynnig profiad unigryw o weithio mewn maes sy’n tyfu ac yn newid yn gyflym. Rhoddir hyfforddiant yn ôl y galw.
Disgrifiad:
- Datblygu a gweithredu cynlluniau marchnata ar gyfer llyfrau Cymraeg a Saesneg. Bydd angen trafod â golygyddion Y Lolfa, awduron y cyfrolau, Adran Farchnata Cyngor Llyfrau Cymru ac unrhyw sefydliadau perthnasol eraill.
- Datblygu a diweddaru gwefan Y Lolfa a gofalu am gyfrifon cymdeithasol y cwmni sy’n cynnwys Twitter,_ Facebook_, Instagram ac YouTube. Edrych i’r posibilrwydd o ddatblygu presenoldeb y cwmni ar Tiktok.
- Cynorthwyo gyda threfniadau lansiadau a sesiynau arwyddo a chydgysylltu gyda threfnwyr digwyddiadau eraill fel gwyliau llyfrau, ffeiriau ac ysgolion. Mynychu’r digwyddiadau yma a chadw trefn ar unrhyw daliadau.
- Cydweithio gyda’r Cyngor Llyfrau a dosbarthwyr a chyfanwerthwyr eraill i sicrhau fod y llyfrau ar werth yn eang a bod deunydd hyrwyddo yn y siopau. Paratoi dalennau gwybodaeth o flaen llaw, bwydo gwybodaeth i Gwales a mynychu Cynhadledd Werthu’r Cyngor Llyfrau.
- Gweithio yn stondinau’r Lolfa yn yr Eisteddfod Genedlaethol ac Eisteddfod yr Urdd, hefyd mynychu digwyddiadau gwerthu eraill, yn cynnwys ffeiriau llyfrau pan fo galw.
- Danfon datganiadau i’r wasg a chopïau adolygu i unigolion perthnasol yn y cyfryngau.
- Danfon cylchlythyron digidol i gwsmeriaid y cwmni.
- Archebu a pharatoi hysbysebion digidol a phrint.
- Dylunio a dosbarthu posteri a gwahoddiadau syml. Bydd Y Lolfa yn cynnig hyfforddiant.
- Cynnig syniadau ar sut i farchnata ein llyfrau yn fwy effeithiol gan fanteisio i’r eithaf ar y datblygiadau technolegol diweddaraf.
- Ymgymryd â gwaith gweinyddol a phrosesu data ynghlwm â marchnata llyfrau’r Lolfa.
- Fel â phob swydd yn Y Lolfa, rhaid bod yn barod i ymgymryd â gwaith mewn adrannau eraill yn ôl y gofyn.
Cyflog
💰 I'w drafod
Lleoliad
📍 Talybont
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Rydych wedi gweld yr holl swyddi.