Mae Dyfodol i'r Iaith yn edrych am Brif Weithredwr (Swydd Rhan Amser)
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mae Dyfodol i’r Iaith yn chwilio am berson sy’n angerddol dros y Gymraeg i arwain gwaith y mudiad a’i gweithgareddau polisi a lobio. Mae'n swydd diddorol ac amrywiol ei natur.
Rydym yn awyddus i gyfweld unigoliion sydd â phrofiad ym maes polisi a/neu lobio i gydweithio yn agos gydag aelodau’r Bwrdd.
Gallai’r swydd fod yn addas i rywun profiadol neu berson sy’n awyddus i weithio’n rhan amser tra’n cymryd y cam nesaf yn ei (g)yrfa.
Disgrifiad:
Oriau: 15- 20 awr yr wythnos ar gyfartaledd (i’w trafod a chytuno)
Cyflog: £28,000 - £33,000 pro rata*, yn dibynnu ar brofiad a chymwysterau