Swyddi Cymraeg — Un o swyddfeydd Mudiad Meithrin
9 swydd yn cyfateb
Swyddog Ti a Fi Teithiol Ceredigion hyd at 31/03/23
Mae Mudiad Meithrin yn edrych am Swyddog Ti a Fi Teithiol Ceredigion hyd at 31/03/23
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Rhoddir pwyslais gan y Mudiad ar sicrhau bod gan rhieni/gwarchodwyr a phlant ifainc fynediad hwylus i gylchoedd Ti a Fi sy’n agos i’w cartrefi ac sy’n darparu cyfleoedd chwarae a chymdeithasu o ansawdd. Nod y Mudiad yw ceisio sicrhau bod pob cylch Ti a Fi yn cyflogi Arweinydd i fod yn gyfrifol am arwain gweithgareddau cyfrwng Cymraeg ar gyfer y plant a’u rhieni/gwarchodwyr. Mae hyn eisoes yn digwydd mewn nifer sylweddol o Gylchoedd Ti a Fi. Fodd bynnag mewn ardaloedd lle ceir anhawster recriwtio Arweinyddion parhaol i gylchoedd Ti a Fi, mae’r Mudiad yn chwilio am berson brwdfrydig i arwain gweithgareddau a rhannu negeseuon am ddilyniant i Addysg Gymraeg ar gyfer plant a’u rhieni/gwarchodwyr mewn hyd at 5 cylch Ti a Fi yn yr ardal. Disgwylir i’r person a benodir fod â phrofiad o arwain gweithgareddau chwarae ar gyfer plant o dan oed ysgol ynghyd â phrofiad o drefnu rhaglen o weithgareddau cefnogol ar gyfer rhieni/gwarchodwyr. Dylai’r person fod yn frwd dros y Gymraeg ac yn gallu trosglwyddo negeseuon i rieni/gwarchodwyr am werth dwyieithrwydd yn ogystal â phwysigrwydd dilyniant o gylch Ti a Fi i Gylch Meithrin ac ymlaen i addysg cyfrwng Cymraeg. Ar hyn o bryd oherwydd y cyfyngiadau o ganlyniad i’r pandemig, rydym yn cynnal Cylchoedd Ti a Fi tu allan er mwyn cwrdd â mesuriadau diogelu Llywodraeth Cymru. Yn arferol cynhelir y sesiynau tu mewn.
Cyflog
💰 £19,138 pro rata
Lleoliad
📍 O gartref, Un o swyddfeydd Mudiad Meithrin
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Swyddog Ti a Fi Teithiol Sir Benfro
Mae Mudiad Meithrin yn edrych am Swyddog Ti a Fi Teithiol Sir Benfro
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Rhoddir pwyslais gan y Mudiad ar sicrhau bod gan rieni a phlant ifainc fynediad hwylus i gylchoedd Ti a Fi sy’n agos i’w cartrefi ac sy’n darparu cyfleoedd chwarae a chymdeithasu o ansawdd. Nod y Mudiad yw ceisio sicrhau bod pob cylch Ti a Fi yn cyflogi Arweinydd i fod yn gyfrifol am arwain gweithgareddau cyfrwng Cymraeg ar gyfer y plant a’u rhieni. Mae hyn eisoes yn digwydd mewn nifer sylweddol o gylchoedd. Fodd bynnag mewn ardaloedd lle ceir anhawster recriwtio Arweinyddion parhaol i gylchoedd Ti a Fi, mae’r Mudiad yn chwilio am berson brwdfrydig i arwain gweithgareddau ar gyfer plant a’u rhieni/gwarchodwyr mewn 5 cylch Ti a Fi yn yr ardal. Disgwylir i’r person a benodir fod a phrofiad o arwain gweithgareddau chwarae ar gyfer plant o dan oed ysgol ynghyd â phrofiad o drefnu rhaglen o weithgareddau cefnogol ar gyfer rhieni/gwarchodwyr. Dylai’r person fod yn frwd dros y Gymraeg ac yn gallu trosglwyddo negeseuon i rieni am werth dwyieithrwydd yn ogystal â phwysigrwydd dilyniant o gylch Ti a Fi i Gylch Meithrin ac ymlaen i addysg cyfrwng Cymraeg. Ar hyn o bryd oherwydd y cyfyngiadau o ganlyniad I’r pandemig, rydym yn cynnal Cylchoedd Ti a Fi tu allan er mwyn cwrdd â mesuriadau diogelu Llywodraeth Cymru.
Cyflog
💰 £19,138 pro rata
Lleoliad
📍 O gartref, Un o swyddfeydd Mudiad Meithrin
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Swyddog Ti a Fi Teithiol yn y De Orllewin (Sir Gaerfyrddin)
Mae Mudiad Meithrin yn edrych am Swyddog Ti a Fi Teithiol yn y De Orllewin (Sir Gaerfyrddin)
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Rhoddir pwyslais gan y Mudiad ar sicrhau bod gan rhieni/gwarchodwyr a phlant ifainc fynediad hwylus i gylchoedd Ti a Fi sy’n agos i’w cartrefi ac sy’n darparu cyfleoedd chwarae a chymdeithasu o ansawdd. Nod y Mudiad yw ceisio sicrhau bod pob cylch Ti a Fi yn cyflogi Arweinydd i fod yn gyfrifol am arwain gweithgareddau cyfrwng Cymraeg ar gyfer y plant a’u rhieni/gwarchodwyr. Mae hyn eisoes yn digwydd mewn nifer sylweddol o Gylchoedd Ti a Fi. Fodd bynnag mewn ardaloedd lle ceir anhawster recriwtio Arweinyddion parhaol i gylchoedd Ti a Fi, mae’r Mudiad yn chwilio am berson brwdfrydig i arwain gweithgareddau a rhannu negeseuon am ddilyniant i Addysg Gymraeg ar gyfer plant a’u rhieni/gwarchodwyr mewn hyd at 5 cylch Ti a Fi yn yr ardal. Disgwylir i’r person a benodir fod â phrofiad o arwain gweithgareddau chwarae ar gyfer plant o dan oed ysgol ynghyd â phrofiad o drefnu rhaglen o weithgareddau cefnogol ar gyfer rhieni/gwarchodwyr. Dylai’r person fod yn frwd dros y Gymraeg ac yn gallu trosglwyddo negeseuon i rieni/gwarchodwyr am werth dwyieithrwydd yn ogystal â phwysigrwydd dilyniant o gylch Ti a Fi i Gylch Meithrin ac ymlaen i addysg cyfrwng Cymraeg. Ar hyn o bryd oherwydd y cyfyngiadau o ganlyniad i’r pandemig, rydym yn cynnal Cylchoedd Ti a Fi tu allan er mwyn cwrdd â mesuriadau diogelu Llywodraeth Cymru. Yn arferol cynhelir y sesiynau tu mewn.
Cyflog
💰 £19,138 pro rata
Lleoliad
📍 O gartref, Un o swyddfeydd Mudiad Meithrin
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Tiwtor Ôl 16 - Ysgolion y Strade, Bro Myrddin a Maes y Gwendraeth
Mae Mudiad Meithrin yn edrych am Diwtor Ôl 16 - Ysgolion y Strade, Bro Myrddin a Maes y Gwendraeth
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Rydym yn chwilio am berson sydd wedi cymhwyso fel asesydd ac yn unol â gofynion CBAC / City and Guilds i ddysgu’r cwrs Diploma Lefel 3 mewn Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant (GChDDP). Os na fydd cymhwyster asesu gan yr unigolyn, byddwn yn ystyried rhoi’r unigolyn ar gwrs asesu. Rydym yn chwilio am berson sy’n gallu cyfathrebu yn effeithiol yn y Gymraeg ac sy’n frwdfrydig ac â sgiliau rhyngbersonol o’r radd uchaf.
Dyletswyddau’r Swydd:
Bydd yn atebol i Brif Weithredwr Mudiad Meithrin trwy'r Rheolwr Cynllun Hyfforddi Cenedlaethol a Chynllun Ysgolion Cam Wrth Gam i gyflawni’r dyletswyddau canlynol:
Cyflwyno’r cymhwyster Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant Lefel 2/3 o fewn amser penodedig i ddisgyblion mewn ysgol/ion uwchradd
Cyflwyno elfennau theori’r cwrs yn yr ysgol pan yn berthnasol
Cynhyrchu adnoddau dysgu ar gyfer unedau’r cwrs Lefel 2 craidd a Lefel 2/3 Ymarfer a Theori GChDDP, gan ystyried elfennau ychwanegol fel integreiddio’r sgiliau allweddol i’r gwaith galwedigaethol
Asesu gwaith y dysgwyr yn ôl gofynion y bwrdd dyfarnu a threfnu achrediad portffolios
Dylid bod yn brydlon, yn gyfrifol ac yn medru darparu ar gyfer holl anghenion y dysgwyr o fewn eu gofal
Cynnal sesiwn anwytho gyda’r dysgwr ar ddechrau’r cwrs
Datblygu a chytuno ar gynlluniau realistig ar gyfer dysgu ac asesu gyda’r dysgwyr, gan ystyried anghenion yr unigolyn, ac anghenion darparwr y lleoliad gwaith
Sicrhau bod dysgwyr yn deall diben, gofynion a phrosesau asesiad
Defnyddio dull asesu dilys, teg, dibynadwy a diogel
Nodi a chasglu tystiolaeth sy’n ddilys, cywir a digonol
Gwneud penderfyniadau asesu yn erbyn meini prawf penodol
Cefnogi, tiwtora a mentora dysgwyr i gwblhau’r gwaith wrth ymweld, ac o bell
Sicrhau bod gwaith portffolio pob dysgwr yn cael ei gwblhau yn brydlon
Gosod gwaith y dysgwyr ar y system electroneg Valid-8
Sicrhau fod y dysgwr yn derbyn adborth teg ac adeiladol sy’n cadarnhau cyflawniad ac yn nodi unrhyw ofynion ychwanegol
Sicrhau fod pob gwaith wedi’i gwblhau o fewn amser
Cyrraedd targedau fel y nodir gan y cwmni
Hyrwyddo perthynas bositif gyda phob lleoliad gwaith
Mynychu cyfarfodydd safoni
Gwirio dogfennaeth Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd y dysgwyr (GDG)
Mynychu sesiynau hyfforddiant mewn swydd yn ôl y galw
Unrhyw waith arall perthnasol a chyffredinol i swyddogaeth y Cynllun Hyfforddi Cenedlaethol yn ôl cyfarwyddyd y Prif Weithredwr
Cyfrannu’n weithredol at hyrwyddo cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant ym mhob agwedd o’r gwaith, gan wrthod unrhyw ragfarn, ac ymdrin ag unrhyw wrthdaro neu ddigwyddiad yn brydlon yn unol â’r Polisi Cydraddoldeb ac Amrywiaeth
Cyflog
💰 £22,234 pro rata
Lleoliad
📍 Un o swyddfeydd Mudiad Meithrin, Hyblyg
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Swyddog Cefnogi (Dros Dro)
Mae Mudiad Meithrin yn edrych am Swyddog Cefnogi (Dros Dro)
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Rydym yn chwilio am berson brwdfrydig i weithio gyda darpariaethau Mudiad Meithrin o fewn dalgylch daearyddol penodol. Dylai’r person fod yn frwd dros y Gymraeg, gyda phersonoliaeth sy’n caniatáu iddi/iddo gyfathrebu yn effeithiol ar sawl lefel. Bydd disgwyl i’r person fod yn swyddog cyswllt i glwstwr o ddarpariaethau mewn ardal ddaearyddol benodol.
Dyletswyddau’r Swydd:
Bydd yn atebol i Brif Weithredwr Mudiad Meithrin trwy’r Rheolwr Talaith am gyflawni’r dyletswyddau canlynol:
Cefnogaeth Gyffredinol
Gweithredu yn unol â nod ac amcanion Mudiad Meithrin, yn benodol Polisi Iaith Mudiad Meithrin.
Cefnogi, cynghori a bugeilio darpariaethau gofal plant e.e. Cylchoedd Meithrin, Cylchoedd Ti a Fi, a Meithrinfeydd Dydd trwy ymweliadau a chyswllt cyson.
Cynnig cefnogaeth busnes i Bwyllgorau Rheoli gwirfoddol (sef yr endidau sy’n rheoli cylchoedd meithrin gan amlaf) ar amryw o faterion e.e. materion ariannol/busnes, cynaliadwyedd, materion elusennol ac anwytho pwyllgorau, trwy dynnu ar arbenigeddau canolog ac adnoddau Mudiad Meithrin.
Datblygu ac ehangu gwasanaethau’r darpariaethau o fewn yr ardal.
Cynghori a chynnig arweiniad ar faterion rheoleiddio AGC gan sicrhau bod pwyllgorau a staff yn cwrdd â safonau'r Arolygaeth.
Cydweithio gyda phartneriaid i sicrhau ansawdd a safon megis AGC, Estyn, yr Awdurdod Lleol, Dechrau’n Deg, Athrawon Ymgynghorol ac Adran Iechyd.
Darparu gwybodaeth a pharatoi adroddiadau a data (ar lafar ac yn ysgrifenedig) at bwrpas cynllunio strategol ar lefel lleol a chenedlaethol e.e. Adroddiad Diweddaru Gwybodaeth, P1 ayyb.
Eirioli a hyrwyddo gwaith darpariaethau Mudiad Meithrin a manteision gofal ac addysg Gymraeg a dilyniant o fewn y gymuned ac mewn cyfarfodydd amrywiol e.e. taith plentyn o’r Cylch Ti a Fi i’r Cylch Meithrin ac yna i Addysg Gymraeg.
Cyfrannu at grwpiau Arbenigedd Mudiad Meithrin.
Hyrwyddo gwasanaethau Mudiad Meithrin e.e. hyfforddiant Academi, Mewnrwyd a gwefan, polisïau a gwasanaeth cyfieithu hyfforddiant Academi, gwasanaeth cyfieithu.
Manteisio ar gyfleoedd i fynychu hyfforddiant proffesiynol parhaus.
Mynychu digwyddiadau ac achlysuron lleol perthnasol e.e. sioeau, eisteddfodau a digwyddiadau perthnasol eraill o fewn y cymunedau yn ôl yr angen.
Mynychu cyfarfodydd tîm taleithiol yn dymhorol a chyfarfodydd eraill yn ôl y gofyn.
Unrhyw waith arall perthnasol a chyffredinol i swyddogaeth y Mudiad yn ôl cyfarwyddyd y Prif Weithredwr.
Cyfrannu’n weithredol at hyrwyddo cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant ym mhob agwedd o’r gwaith, gan wrthod unrhyw ragfarn, ac ymdrin ag unrhyw wrthdaro neu ddigwyddiad yn brydlon yn unol â’r Polisi Cydraddoldeb ac Amrywiaeth.
Cyflog
💰 £21,032 - £24,526 pro rata
Lleoliad
📍 O gartref, Un o swyddfeydd Mudiad Meithrin
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Cysylltydd Cynllun Cyfeirio Gogledd Ceredigion
Mae Mudiad Meithrin yn edrych am Gysylltydd Cynllun Cyfeirio Gogledd Ceredigion
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Rydym yn chwilio am berson dwyieithog sydd â pheth gwybodaeth o’r sector wirfoddol ac sy’n argyhoeddedig o werth cynhwysiant i blant ag anghenion ychwanegol yn y blynyddoedd cynnar. Bydd y person yma yn gweithio gyda Chylchoedd Meithrin a darpariaethau gofal plant yn y sir, er mwyn sicrhau bod cyfle i blant ag anghenion ychwanegol elwa o brofiadau a gweithgareddau blynyddoedd cynnar yn ei gymuned leol.
Dyletswyddau’r Swydd: Bod yn atebol i Brif Weithredwr Mudiad Meithrin trwy’r Rheolwr Talaith a Rheolwr Cynllun Cyfeirio am gyflawni’r dyletswyddau canlynol: · Derbyn cyfeiriadau am blant sydd ag anghenion ychwanegol gan rieni/gofalwyr, darpariaethau gofal plant neu unigolion proffesiynol
· Cynnig cymorth a chefnogaeth i rieni/gofalwyr plant ag anghenion ychwanegol gan gyfeirio i wybodaeth bellach
· Sicrhau bod y lleoliadau gofal plant yn darparu ethos cynhwysol
· Cysylltu ag arweinyddion a swyddogion darpariaethau gofal plant i baratoi’r lleoliadau i dderbyn plant ag anghenion ychwanegol
· Cynnig cymorth a chefnogaeth i ddarpariaeth gofal plant i benodi cynorthwywyr
· Cyd-weithio a phartneriaid megis Therapyddion Iaith a Lleferydd, Ymwelwyr Iechyd, Seicolegyddion Addysg, Dechrau’n Deg, Tîm o Amgylch y Teulu a Swyddog Arweiniol ADY
· Cadw cofnodion cyfrinachol a chyflwyno adroddiadau rheolaidd i Rheolwr Cynllun Cyfeirio ac asiantaethau perthnasol a chydymffurfio gyda rheolau GDPR
· Paratoi adroddiadau yn ôl y gofyn
· Mynychu cyfarfodydd amrywiol yn ôl y gofyn gan gynnwys Panelu Plant a byrddau llywio
· Cefnogi darpariaethau Gofal Plant i gydymffurfio a gofynion y Côd ADY
· Trefnu a mynychu cyfarfodydd rhwng y lleoliad gofal plant, rhieni/gofalwyr ac unigolion proffesiynol
· Trefnu a mynychu hyfforddiant yn ôl y gofyn
· Unrhyw waith arall perthnasol a chyffredinol i swyddogaeth y Mudiad yn ôl cyfarwyddyd y Prif Weithredwr
Cyflog
💰 £19,453
Lleoliad
📍 O gartref, Un o swyddfeydd Mudiad Meithrin
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Swyddog Croesi’r Bont (Cynllun Trochi Iaith Cenedlaethol Mudiad Meithrin) – Talaith y De Ddwyrain
Mae Mudiad Meithrin yn edrych am Swyddog Croesi’r Bont (Cynllun Trochi Iaith Cenedlaethol Mudiad Meithrin) – Talaith y De Ddwyrain
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Rydym yn chwilio am berson brwdfrydig i weithio gyda darpariaethau Mudiad Meithrin i arwain ar ymestyn a datblygu sgiliau ieithyddol staff a phlant y darpariaethau drwy hyfforddiant iaith a mentora ac yn benodol trwy gyflwyno cynllun Croesi’r Bont sef rhaglen trochi iaith benodol ar gyfer Cylchoedd Meithrin. Dylai’r person fod yn frwd dros y Gymraeg, gyda phersonoliaeth sy’n caniatáu iddi/iddo gyfathrebu yn effeithiol ar sawl lefel.
Dyletswyddau’r Swydd: Bydd yn atebol i Brif Weithredwr Mudiad Meithrin drwy Reolwr Cenedlaethol Croesi’r Bont am gyflawni’r dyletswyddau canlynol:
· Cefnogi a chynorthwyo Cylchoedd Meithrin i sicrhau’r ansawdd ieithyddol orau o fewn y ddarpariaeth gan ddefnyddio cynllun arloesol Mudiad Meithrin, ‘Croesi’r Bont’.
· Darparu gwasanaeth cefnogi’r iaith Gymraeg trwy gynllun trochi Croesi’r Bont yn y gweithle i staff sydd angen datblygu eu sgiliau Cymraeg ymhellach.
· Trefnu ymweliadau rheolaidd i'r Cylchoedd gan arwain trafodaethau a chyfathrebu’n broffesiynol gydag arweinyddion y Cylchoedd, athrawon / penaethiaid ysgol, rheolwyr a’r oedolion eraill o fewn y lleoliad.
· Datblygu a chytuno ar gynlluniau realistig ar gyfer cynllun Croesi’r Bont gyda’r staff, gan gymryd i ystyriaeth anghenion y staff, y plant a’r ddarpariaeth yn gyffredinol.
· Cytuno ar y cyd â staff y Cylch ar ddulliau priodol i gynyddu’r defnydd o gynllun Croesi’r Bont a throchi iaith gan osod targedau ar gyfer yr ymweliad nesaf. Sicrhau fod yr arweinydd a staff y Cylch yn derbyn adborth teg ac adeiladol a chadarnhad o’r targedau trwy ddarparu adroddiad ffurfiol ar ôl bob ymweliad.
· Mewn ymgynghoriad â’r Prif Swyddog cynorthwyo a chydweithio â’r awdurdod lleol i sicrhau bod y cylchoedd yn ateb gofynion Estyn o ran datblygu’r Iaith Gymraeg.
· Mewn ymgynghoriad â’r Prif Swyddog, trefnu a chynnal hyfforddiant / gweithdai iaith perthnasol yn dymhorol o fewn y dalaith/ yn genedlaethol i atgyfnerthu trochi iaith a defnydd cynllun Croesi’r Bont yn y Cylchoedd Meithrin.
· Hyrwyddo’r defnydd o Dewin a Doti ac adnoddau pellach y Mudiad o fewn ein Cylchoedd Meithrin.
· Datblygu deunyddiau ieithyddol pellach dan arweiniad y Prif swyddog.
· Cyd weithio’n agos gyda Swyddog Cefnogi’r sir gan rannu gwybodaeth er mwyn sicrhau cysondeb.
· Mynychu cyfarfodydd tîm lleol yn ol y galw, a chyfarfod Tîm cenedlaethol unwaith bob tymor.
· Mynychu cyfarfodydd talaith yn rheolaidd er mwyn adrodd ar waith Croesi’r Bont yn y Cylchoedd Meithrin.
· Ymgymryd ag unrhyw waith arall perthnasol fydd yn hybu sgiliau iaith yr oedolion a’r plant.
· Cyfrannu’n weithredol at hyrwyddo cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant ym mhob agwedd o’r gwaith, gan wrthod unrhyw ragfarn, ac ymdrin ag unrhyw wrthdaro neu ddigwyddiad yn brydlon yn unol â’r Polisi Cydraddoldeb ac Amrywiaeth.
· Unrhyw waith arall perthnasol a chyffredinol i swyddogaeth y Mudiad yn ôl cyfarwyddyd y Prif Weithredwr.
Cyfweliadau: 14.7.2022 dros Teams
Cyflog
💰 £21,049 pro rata
Lleoliad
📍 Un o swyddfeydd Mudiad Meithrin
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Asesydd dan Hyfforddiant - Cytundeb o'r 1.9.2022 hyd at 31.5.2024
Mae Mudiad Meithrin yn edrych am Asesydd dan Hyfforddiant - Cytundeb o'r 1.9.2022 hyd at 31.5.2024
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Rydym yn chwilio am berson addas i hyfforddi fel aseswyr i gyflwyno hyfforddiant ac i asesu dysgwyr yn unol â’r Safonau Cenedlaethol, a gofynnion y Cyrff Dyfarnu CBAC / City and Guilds. Bydd disgwyl i’r person llwyddiannus ddefnyddio amrywiaeth o ddulliau asesu. Rydym yn chwilio am berson sy’n gallu cyfathrebu’n effeithiol yn y Gymraeg ac sy’n frwdfrydig ac â sgiliau rhyngbersonol o’r radd uchaf.
Dyletswyddau’r Swydd: Bydd yn atebol i Brif Weithredwr Mudiad Meithrin trwy Reolwr Cynllun Hyfforddi Cenedlaethol a Chynllun Ysgolion Cam wrth Gam am gyflawni’r dyletswyddau canlynol: Mynychu hyfforddiant i ennill cymhwyster Tystysgrif Lefel 3 mewn Asesu Cyflawniad Galwedigaethol TAQA o fewn 18 mis o ddyddiad cychwyn y swydd drwy gwblhau:
· (Uned 301) uned theori gychwynnol (cyfanswm o 16 awr) o bell drwy Zoom/Google Meet.
· Unedau ymarferol dilynol drwy sesiynau 1 i 1 gyda’r asesydd TAQA yn fisol wedi’r sesiynau cyflwyno, a chasglu a chyflwyno portffolio o dystiolaeth briodol.
· Cyflwyno’r cymhwyster Diploma Lefel 2/3 mewn Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant (GChDDP) o fewn amser penodedig.
· Dylai’r asesydd o dan hyfforddiant fod yn brydlon, yn gyfrifol ac yn darparu ar gyfer holl anghenion y dysgwyr o fewn eu gofal o dan arweiniad y mentor.
· Mae’n gyfrifoldeb ar yr asesydd o dan hyfforddiant i drefnu ymweliadau, arwain trafodaethau ac i gyfathrebu’n broffesiynol gyda’r dysgwyr, arweinyddion y Cylch, athrawon / penaethiaid ysgol, rheolwyr a’r oedolion eraill o fewn y lleoliad.
· Datblygu a chytuno ar gynlluniau realistig ar gyfer dysgu ac asesu gyda’r dysgwyr, gan gymryd i ystyriaeth anghenion yr unigolyn, ac anghenion darparwr y lleoliad gwaith, o dan arweiniad y mentor.
· Cefnogi, tiwtora a mentora dysgwyr i gwblhau’r gwaith, wrth ymweld ac o bell, o dan arweiniad y mentor.
· Sicrhau fod pob gwaith wedi’i gwblhau o fewn amser.
· Gosod gwaith y dysgwyr ar system electroneg Valid-8.
· Sicrhau fod y dysgwr yn derbyn adborth teg ac adeiladol ar bob penderfyniad asesu.
· Cymryd rhan mewn gweithdai hyfforddi ar gyfer y cymhwyster Lefel 2 Craidd mewn GChDDP.
· Cyrraedd targedau fel y nodir gan y cwmni.
· Hyrwyddo perthynas bositif gyda phob lleoliad gwaith.
· Mynychu Cyfarfodydd Safoni unwaith bob tymor.
· Mynychu sesiynau hyfforddiant mewn swydd yn ôl y galw.
· Paratoi adnoddau mewn cydweithrediad ag eraill yn ôl yr angen.
· Mynychu Seremoni Wobrwyo flynyddol.
· Unrhyw waith arall perthnasol a chyffredinol i swyddogaeth Cynllun Hyfforddi Cenedlaethol a Chynllun Ysgolion Cam wrth Gam yn ôl cyfarwyddyd y Prif Weithredwr.
· Cyfrannu’n weithredol at hyrwyddo cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant ym mhob agwedd o’r gwaith, gan wrthod unrhyw ragfarn, ac ymdrin ag unrhyw wrthdaro neu ddigwyddiad yn brydlon yn unol â’r Polisi Cydraddoldeb ac Amrywiaeth. Cyfweliadau: Wythnos dechrau 25.7.2022 dros Teams
Cyflog
💰 £22,234 pro rata
Lleoliad
📍 Un o swyddfeydd Mudiad Meithrin, O gartref
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Asesydd (Lefel 5) Cynllun Prentisiaeth - Cytundeb o'r 1.9.2022 hyd at 31.8.2024
Mae Mudiad Meithrin yn edrych am Asesydd (Lefel 5) Cynllun Prentisiaeth - Cytundeb o'r 1.9.2022 hyd at 31.8.2024
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mae hon yn swydd 1 neu 2 diwrnod yr wythnos yn ddibynnol ar y nifer o ddysgwyr. Yn ystod yr amser yma bydd angen i’r person llwyddiannus ymweld â phob dysgwr yn y lleoliad gwaith am 2 awr o gyswllt uniongyrchol bob mis. Yn ogystal â hyn bydd angen i’r person llwyddiannus gyflwyno’r cymhwyster Lefel 4 Paratoi i Arwain a Rheoli Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant mewn cyfres o weithdai tiwtorialau trwy gydol y cwrs. Rhaid hefyd treulio amser i gwblhau’r dogfennau perthnasol sy’n gysylltiedig gyda’r Brentisiaeth.
Dyletswyddau’r Swydd:
Bydd yn atebol i Brif Weithredwr Mudiad Meithrin trwy Reolwr Cenedlaethol Cynllun Hyfforddi Cenedlaethol am gyflawni’r dyletswyddau canlynol:
· Cyflwyno’r cymhwyster Lefel 5 Arwain a Rheoli Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant o fewn amser penodedig.
· Dylai’r aseswyr fod yn brydlon, yn gyfrifol ac yn darparu ar gyfer holl anghenion y dysgwyr o fewn eu gofal.
· Mae’n gyfrifoldeb ar yr aseswyr i drefnu ymweliadau, arwain trafodaethau ac i gyfathrebu’n broffesiynol gyda’r dysgwyr, arweinyddion y Cylch, athrawon / penaethiaid ysgol, rheolwyr a’r oedolion eraill o fewn y lleoliad.
· Cynnal sesiwn anwytho gyda’r dysgwr ar ddechrau’r cwrs.
· Cynnal cyfarfodydd cynnydd yn rheolaidd gyda’r dysgwr ac arweinydd/athro/ rheolwr y lleoliad.
· Datblygu a chytuno ar gynlluniau realistig ar gyfer dysgu ac asesu gyda’r dysgwyr, gan gymryd i ystyriaeth anghenion yr unigolyn, ac anghenion darparwr y lleoliad gwaith.
· Sicrhau bod dysgwyr yn deall diben, gofynion a phrosesau asesiad.
· Defnyddio dulliau asesu dilys, teg dibynadwy a diogel.
· Nodi a chasglu tystiolaeth sy'n ddilys, cywir a digonol.
· Gwneud penderfyniadau asesu yn erbyn meini prawf penodol.
· Cefnogi, tiwtora a mentora dysgwyr i gwblhau’r gwaith yn unol ag ymrwymiad cytundeb Cynllun Prentisiaethau Mudiad Meithrin, wrth ymweld ag o bell.
· Sicrhau bod gwaith portffolio electroneg (Valid-8) pob ymgeisydd yn cael ei gwblhau yn brydlon.
· Sicrhau fod y dysgwr yn derbyn adborth teg ac adeiladol syn cadarnhau cyflawniad ac yn nodi unrhyw ofynion ychwanegol.
· Cynnal cofnodion gofynnol o’r broses asesu, ei ddeilliannau a chynnydd y dysgwr.
· Gweithio gydag eraill i sicrhau y safonir arfer a deilliannau eraill.
· Sicrhau fod pob gwaith wedi’i gwblhau o fewn amser.
· Cyrraedd targedau fel y nodir gan y cwmni.
· Hyrwyddo perthynas bositif gyda phob lleoliad gwaith.
· Mynychu 2 weithdy / tiwtorial y mis trwy gydol y cwrs.
· Cyflwyno yn y gweithdai yn ôl yr angen.
· Cwblhau dogfennau sy’n berthnasol i’r Fframwaith Brentisiaethau yn fisol yn unol ag ymrwymiad cytundeb Cynllun Prentisiaethau Mudiad Meithrin.
· Mynychu Cyfarfodydd Safoni unwaith bob tymor.
· Mynychu sesiynau hyfforddiant mewn swydd yn ôl y galw.
· Mynychu Seremoni Wobrwyo flynyddol.
· Cynorthwyo yn ôl yr angen i recriwtio dysgwyr mewn ardal benodedig.
· Unrhyw waith arall perthnasol a chyffredinol i swyddogaeth y Cynllun Hyfforddi Cenedlaethol yn ôl cyfarwyddyd y Prif Weithredwr.
· Cyfrannu’n weithredol at hyrwyddo cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant ym mhob agwedd o’r gwaith, gan wrthod unrhyw ragfarn, ac ymdrin ag unrhyw wrthdaro neu ddigwyddiad yn brydlon yn unol â’r Polisi Cydraddoldeb ac Amrywiaeth. Cyfweliadau: Wythnos dechrau 25.7.2022 dros Teams
Cyflog
💰 £25,834 pro rata
Lleoliad
📍 Un o swyddfeydd Mudiad Meithrin, O gartref
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Rydych wedi gweld yr holl swyddi.