Swyddi Cymraeg
1 swydd yn cyfateb
Cyfieithydd
Mae Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru yn edrych am Gyfieithydd
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mae cyfle gwych wedi codi yn ein tîm cyfieithu ym Mhartneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru. Hoffem benodi cyfieithydd profiadol a chymwys i ymuno â'n tîm ymroddedig sydd wedi'i hen sefydlu i ddarparu gwasanaethau cyfieithu i nifer o sefydliadau'r GIG yng Nghymru. Os hoffech chi fod yn rhan o dîm deinamig ac ymroddedig, sy'n darparu gwasanaethau cyfieithu i hwyluso gwasanaethau Cymraeg i GIG Cymru, cleifion, defnyddwyr gwasanaeth a'r cyhoedd, dyma'r swydd i chi!
Crynodeb o'r swydd
Fel Cyfieithydd byddwch yn gweithio o fewn tîm cyfieithu sefydledig yn Uned yr Iaith Gymraeg ym Mhartneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru (NWSSP). Mae Uned yr Iaith Gymraeg wedi ei sefydlu gyda dwy brif swyddogaeth. Y cyntaf yw cynnig arweiniad, cymorth a chyngor i adrannau a meysydd gwasanaeth y sefydliad ar ddarparu gwasanaethau dwyieithog a chydymffurfio â Safonau'r Gymraeg (Rhif 7) 2018 o dan Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011. Yn ail mae Uned y Gymraeg yn darparu gwasanaethau cyfieithu i bob adran a maes darparu gwasanaeth ar draws PCGC ac i sefydliadau GIG eraill trwy gytundebau lefel gwasanaeth.
Rydym am recriwtio Cyfieithydd cymwys a phrofiadol ble mae o leiaf dwy flynedd o brofiad ym maes cyfieithu yn hanfodol, gyda'r gallu i gyfieithu a phrawfddarllen testun rhwng 2,500 a 3,000 o eiriau'r dydd ar amrywiaeth o wahanol bynciau.
Byddwch yn gweithio mewn amgylchedd ble mae trosiant gwaith yn gyflym, lle byddwn yn trosi mwy na 100,000 o eiriau yr wythnos fel tîm craidd. Bydd y gallu i reoli eich llwyth gwaith eich hun, blaenoriaethu eich llwyth gwaith a chwrdd â therfynau amser tyn sy'n gwrthdaro yn hynod o bwysig.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Darparu cyfieithiadau ysgrifenedig o'r Saesneg i'r Gymraeg ac o'r Gymraeg i'r Saesneg gan ddefnyddio amrywiaeth o offer TG gan gynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i apiau Microsoft Office a'r defnydd o dermau a meddalwedd cof cyfieithu.
Prawfddarllen a sicrhau ansawdd eich gwaith a gwaith eraill yn y tîm cyn ei gyhoeddi.
Cydgysylltu ag aelodau'r tîm a chleientiaid sy'n defnyddio ein gwasanaethau bob dydd.
Dilyn protocolau a gweithdrefnau adrannol a rheoli eich llwyth gwaith yn effeithiol ac yn effeithlon gydag ychydig iawn o oruchwyliaeth.
Ymchwilio a sicrhau cysondeb yn y derminoleg a ddefnyddir.
Amdanom ni
Sefydlwyd Uned Iaith Gymraeg Cydwasanaethau GIG Cymru yn 2016. Mae'r adran wedi datblygu a thyfu ers hynny, i fodloni'r galw o fewn GIG Cymru am wasanaethau cyfieithu. Rydym yn darparu gwasanaethau cyfieithu o'r radd flaenaf i PCGC a Sefydliadau GIG eraill.
Byddwch yn gweithio mewn amgylchedd cyflym, lle na fydd unrhyw ddiwrnod yr un fath, yn cyfieithu a phrawfddarllen amrywiaeth o ddogfennau a chynnwys testun.
Rydym yn dîm proffesiynol a chefnogol sy'n cynnig cyfleoedd ar gyfer hyfforddiant a datblygiad o fewn y rôl.
Cyflog
💰 £25,655 - £31,534
Lleoliad
📍 Hyblyg, Unrhyw swyddfa yng Nghymru
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Rydych wedi gweld yr holl swyddi.