Swyddi Cymraeg
3 swydd yn cyfateb
Cydlynydd Prosiect (1 FTE)
Mae Menter a Busnes yn edrych am Gydlynydd Prosiect (1 FTE)
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Cyfle gwych i ymuno â thîm Cyswllt Ffermio i gydlynu a chefnogi’r gwaith o ddarparu Agrisgôp, y rhaglen fentora ac academi Amaeth i ffermwyr yng Nghymru.
Disgrifiad:
Mae Cyswllt Ffermio, sy’n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru, yn brosiect integredig ac uchel ei broffil sy’n cynnig cefnogaeth, cyngor a hyfforddiant i’r sector amaeth trwy Gymru gyfan. Ei brif ffocws yw i gynorthwyo ffermwyr i baratoi tuag at y Cynllun Ffermio Cynaliadwy gan annog y sector i addasu ac i barhau i fod yn gystadleuol tra’n symud tuag at economi carbon isel. Nod
Cydlynu a chefnogi'r gwaith o ddarparu Agrisgôp, y rhaglen fentora ac academi Amaeth i ffermwyr yng Nghymru gan sicrhau bod targedau'n cael eu cyflawni a bod y gwasanaeth sy'n cael ei ddarparu o'r safon uchaf. Prif Gyfrifoldebau
· Cydlynu pob elfen o gadw cofnodion ac adrodd ar gyfer elfennau perthnasol rhaglen Cyswllt Ffermio a gweithredu gwelliannau i brosesau gweinyddu lle bo angen
· Darparu cymorth gweinyddu i'r tîm o arweinwyr Agrisgôp i sicrhau bod cofnodion o'u gweithgareddau a'u grwpiau yn cael eu cofnodi a'u dadansoddi i'r terfynau amser y cytunwyd arnynt a mynd ar drywydd gwaith papur coll lle bo angen
· Rhoi cymorth gweinyddol ar gyfer fframwaith mentoriaid ffermwr i sicrhau bod dyddiaduron ac anfonebau mentora yn cael eu derbyn yn unol â'r terfynau amser y cytunwyd arnynt a mynd ar drywydd gwaith papur coll lle bo angen
· Ymdrin ag ymholiadau'n ymwneud â'r rhaglen a datblygu asesiad clir a dealltwriaeth o anghenion y ffermwr a'r coedwigwr cyn eu cofrestru gyda'r pecyn cymorth mwyaf priodol
· Cynorthwyo cwsmeriaid sydd wedi cofrestru gyda'r rhaglen i wneud cais am wasanaethau eraill a fydd yn cefnogi eu dilyniant drwy Cyswllt Ffermio
· Cyfathrebu â ffermwyr yn rheolaidd gan weithredu fel prif bwynt cyswllt i'r rhai sy'n dymuno gwneud cais am fentor, gan eu tywys drwy gydol y broses fentora
· Gweithio gydag arweinydd y tîm i neilltuo mentoriaid i fentoreion pan fydd ceisiadau'n cael eu cyflwyno a chyhoeddi'r gwaith papur perthnasol
· Sicrhau bod yr holl gofnodion sy'n ymwneud â'r gweithgareddau o'r safonau uchaf ac yn cydlynu coladu adborth cwsmeriaid
· Cysylltu ag Arweinwyr yr Academi Amaeth i'w cefnogi gyda threfnu a chynnal dosbarthiadau'r Academi Amaeth
· Cydlynu proses recriwtio’r Academi Amaeth a hysbysu ymgeiswyr llwyddiannus/aflwyddiannus
· Bod yn gyfrifol am archebu lleoliadau, lluniaeth a threfnu cludiant pan fo angen
· Sicrhau bod gweithgareddau a digwyddiadau'n rhedeg yn llyfn a rhoi gwerth i gwsmeriaid · Bod yn gyfrifol am gasglu gwybodaeth cleientiaid ar yr holl gyfranogwyr a'r mynychwyr a sicrhau eu bod yn cael eu lanlwytho i'r gronfa ddata ganolog (BAS)
· Gweithio'n agos gyda'r Swyddogion Datblygu i sicrhau bod ymholiadau yn ymwneud â gweithgareddau Datblygu a Mentora yn cael eu trin yn unol â hynny
· Cyflenwi ystadegau cywir ar gyfer yr adroddiadau misol a monitro niferoedd sy'n mynychu gweithgareddau gan sicrhau bod y cronfeydd data a'r systemau canolog (BAS a CMS) yn cael eu diweddaru mewn modd amserol
· Coladu'r gwaith papur a gyflwynir gan is-gontractwyr a gwirio ei fod yn bodloni'r gofynion angenrheidiol **Arall **
· Sicrhau bod safonau ansawdd, gwasanaeth cwsmeriaid, cydraddoldeb ac amrywiaeth, iechyd a diogelwch a bioddiogelwch yn cael eu bodloni
· Derbyn dyletswyddau a chyfrifoldebau rhesymol eraill a chynrychioli Menter a Busnes yn ôl yr angen Sgiliau a Phrofiad
Hanfodol
· Addysg hyd at lefel gradd mewn amaeth neu bwnc perthnasol neu brofiad dangosadwy o weithio yn y sector amaeth yng Nghymru
· Gallu i asesu a deall yn glir anghenion busnesau fferm/coedwigaeth, y gefnogaeth sydd angen a’i gofynion
· Sgiliau cydlynu a threfnu rhagorol
· Sgiliau gweinyddol a rhyngbersonol gwych
· Gallu asesu a delio gydag ymholiadau’n gyflym ac effeithiol
· Gallu adnabod anghenion y cwsmer a thynnu’r wybodaeth berthnasol i deilwra cyngor i ofynion penodol y cwsmer
· Cyfathrebu llafar o safon uchel
· Sgiliau ysgrifenedig dwyieithog cywir
· Sgiliau gwasanaeth cwsmer rhagorol
· Dealltwriaeth dda neu brofiad o’r sector amaethyddiaeth / gwledig
· Gallu mewnbynnu data’n gywir a chydymffurfio gyda deddfau diogelu data perthnasol
· Gallu ysgogi ei hun i weithio gan dderbyn y cyfrifoldeb am osod ac adolygu blaenoriaethau i gyflawni ei amcanion a’i waith ei hun, gan ystyried anghenion y cwsmer
· Rhagweithiol a brwdfrydig am waith yr Adran Wledig
· Gallu bod yn rhagweithiol a gyrru pethau ymlaen yn effeithlon
· Gallu parhau gyda’i waith ei hun yn ogystal â bod yn rhan o dîm
· Sgiliau TG rhagorol gan gynnwys - Windows; Meddalwedd cynhyrchiant (e-bost, prosesu geiriau, taenlenni, ffeilio data); Defnydd diogel o gyfrifiaduron a'r rhyngrwyd (chwilio a phori'r we, defnyddio gwefannau a chymwysiadau ar-lein)
· Os yn gweithio o adref am unrhyw adeg, bydd gofyn bod gennych gysylltiad rhyngrwyd addas yn barod
· Trwydded yrru lawn a char i’w ddefnyddio
· Ar gael i weithio gyda’r nos fel y bo’r gofyn **Dymunol **
· Gwybodaeth am raglen Cyswllt Ffermio Gwneud Cais
Gellir gwneud ceisiadau am y swydd hon drwy lawrlwytho a chwblhau’r ffurflen gais a’r ffurflen monitro cyfle cyfartal (sydd ar gael ar ein gwefan: www.menterabusnes.co.uk) a’u dychwelyd at [email protected] Os hoffech gael trafodaeth anffurfiol am y swydd hon, cysylltwch ag Einir Davies ar 07985 155 514 neu [email protected] Dyddiad Cau
Y dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau yw 10.00yb, dydd Llun, 13 Mawrth 2023. Cyfweliadau Cynhelir cyfweliadau ar gyfer y swydd hon yn rhithiol ar wythnos cychwyn 20 Mawrth 2023. Os yw’r dyddiad yn anghyfleus, nodwch hynny ar eich ffurflen gais. Polisi Cydraddoldeb ac Amrywiaeth Mae ein Polici Cydraddoldeb ac Amyrwiaeth i’w weld ar ein gwefan.
Cyflog
💰 £21,979 - £23,749
Lleoliad
📍 Unrhyw un o’n swyddfeydd, O gartref
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Swyddog Cefnogi a Chydlynydd Digwyddiadau
Mae Menter a Busnes yn edrych am Swyddog Cefnogi a Chydlynydd Digwyddiadau
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mae Cywain, a ddarperir gan Menter a Busnes, yn fodel sy’n darparu cefnogaeth wedi’i dargedu ar gyfer busnesau micro a BBaCh sy’n gweithredu yn y sector bwyd a diod yng Nghymru. Rydym yn dechrau cyfnod newydd ac rydym wedi derbyn cyllid trwy Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig 2014 - 2020 i ddarparu gwasanaeth diwygiedig. Mae cyllid y prosiect wedi cael ei gadarnhau tan Mehefin 2023. Darperir gwasanaethau i ddatblygu capasiti a gallu busnesau, hwyluso trosglwyddo gwybodaeth a gwybodaeth y diwydiant ac atgyfnerthu integreiddiad y gadwyn gyflenwi. Mae’r ddarpariaeth ar gael ledled Cymru gyda phwyslais ar gydweithio drwy glystyru, ychwanegu gwerth a datblygu’r farchnad ar gyfer twf a chreu swyddi. Mae Cywain wedi datblygu rhwydwaith eang o randdeiliaid ac mae dull gweithredu cydlynol gyda phartneriaid datblygu eraill yn ganolog i ddatblygiad y cleientiaid. Mae tair elfen i’r prosiect: · Cefnogaeth i fusnesau newydd a micro
· Cefnogaeth diagnosteg ar gael i holl fusnesau bwyd a diod yng Nghymru
· Clystyru a chyd weithio rhwng busnesau er mwyn hyrwyddo twf ac effeithlonrwydd. Nod Cyffredinol y Swydd Nod y swydd hon yw i ddarparu cefnogaeth i dîm Cywain trwy: · gydlynu a darparu cefnogaeth i dîm y prosiect, a fydd yn cynnwys darparu gwybodaeth, gweithredu a chofnodi gweithgareddau ar fasdata a systemau rheoli cwsmer
· bod yn gyfrifol dros ddarparu gwybodaeth am y prosiect, megis data allbynnau, at ddefnydd mewnol yn ogystal â phartneriaid a rhanddeiliaid allanol
· sicrhau fod holl ddogfennaeth y prosiect yn gywir ac wedi cael ei archifo
· cynnal a datblygu systemau gweinyddol y cynllun
· bod yn rhyngweithiol a gweithio’n annibynnol heb oruchwyliaeth
· bod yn gyfrifol am gydlynu trefniadau gweithdai a digwyddiadau Prif Gyfrifoldebau Darparu gwybodaeth a chefnogaeth swyddfa i dîm y prosiect · Darparu cymorth gweinyddol dibynadwy ac effeithlon a chefnogaeth i dîm Cywain.
· Trefnu a chymryd cofnodion mewn cyfarfodydd (mewnol ac allanol)
· Gweithio’n agos gyda thîm Cywain i baratoi a threfnu rhaglen o weithdai a digwyddiadau
· Arwain ar gydlynu trefniadau gweithdai a digwyddiadau o ddydd i ddydd, gan gynnwys trefniadau gyda lleoliadau, hwyluswyr allanol a chleientiaid
· Bod yn gyfrifol am restru a hyrwyddo gweithdai Cywain drwy amryw o sianeli
· Cynrychioli Cywain fel y pwynt cyswllt cyntaf ar gyfer ymholiadau mynychwyr gweithdai a digwyddiadau
· Adolygu trefniadau a niferoedd ar gyfer pob digwyddiad er mwyn adnabod anghenion marchnata a hyrwyddo perthnasol
· Cyfathrebu yn rheolaidd ac yn effeithiol gyda Swyddog Marchnata Cywain i sicrhau llwyddiant y rhaglen o weithdai a digwyddiadau
· Teithio i leoliadau ledled Cymru i fynychu digwyddiadau, gweithdai a lansiadau prosiect ayyb
· Sicrhau bod digwyddiadau yn rhedeg yn llyfn a darparu gwerth i gwsmeriaid a gwesteion
· Cwblhau proses parhaus o werthuso llwyddiannau gweithdai gan fewnbynnu a dadansoddi data ar systemau rheoli cwsmer y cwmni
· Cyfathrebu gydag asiantaethau allanol perthnasol
· Cydlynu a chrynhoi gweithgareddau misol aelodau’r tîm er mwyn cynhyrchu adroddiadau misol a chwarterol (meintiol ac ansoddol)
· Casglu, cyflwyno a storio'r holl wybodaeth angenrheidiol yn unol â gofynion cyllid a monitro’r cynllun
· Sicrhau bod ffeiliau’r tîm yn cynnwys yr wybodaeth sy’n ofynnol a chefnogi’r Rheolwr Prosiect i gynnal archwiliad rheolaidd
· Datblygu a rheoli cronfa ddata cleientiaid a systemau ar gyfer casglu gwybodaeth a deilliannau’r prosiect
· Cofnodi targedau’r tîm a’u gwirio yn erbyn dogfennau cymeradwyaeth
· Sicrhau cydymffurfiaeth gyda’r ddeddfwriaeth diogelu data priodol
· Ymdrin ag ymholiadau ar lein a thros y ffôn a’u hanfon ar y swyddogion priodol mewn modd amserol a phroffesiynol
· Cadw cofnodion yn effeithlon o fewn fframwaith cytûn i fodloni gofynion ariannol Llywodraeth Cymru/Ewrop a dilysrwydd allbynnau
· Mynychu cyfarfodydd a chynrychioli’r prosiect yn ôl y galw **Ymchwil a Monitro **
· Cefnogi'r Arweinydd Tim Marchnata a Digwyddiadau i gofnodi, casglu a dadansoddi adborth cleientiaid
· Mewnbynnu data’n gywir
· Dadansoddi cyflawniad y prosiect o’i dargedau trwy sicrhau bod y data yn gyfredol
· Cefnogi'r Arweinydd Tîm Marchnata a Digwyddiadau i gasglu unrhyw waith papur a data monitro perthnasol
· Sicrhau bod system Rheoli Perthynas Cwsmer a chronfeydd data’rprosiect yn cael eu cynnal a'u bod yn gyfredol ac yn effeithlon
· Cysylltu â chleientiaid, darparwyr a phartneriaid allanol i gydlynu gweithgareddau / digwyddiadau **Arall **
· Sicrhau bod safonau ansawdd, gwasanaeth cwsmer, cydraddoldeb ac amrywiaeth, iechyd a diogelwch a bioddiogelwch yn cael eu cyrraedd
· Derbyn unrhyw ddyletswyddau a chyfrifoldebau rhesymol eraill yn ôl y galw
· Cynrychioli Menter a Busnes yn ôl y galw Sgiliau a Phrofiad Hanfodol
· Cymhwyster CGC lefel 3 neu uwch, a/neu brofiad dangosadwy mewn maes perthnasol
· Brwdfrydedd dros waith yr adran
· Sgiliau trefnu a chydgysylltu rhagorol gyda’r gallu i weithio i ddyddiadau tynn
· Sgiliau gweinyddol a rhyngbersonol ardderchog
· Sgiliau cyfathrebu llafar ac ysgrifenedig dwyieithog (Cymraeg/Saesneg) rhagorol
· Sgiliau prawf ddarllen da
· Gallu asesu ac ymdrin ag ymholiadau’n effeithlon ac yn brydlon
· Gallu cymryd cofnodion mewn cyfarfodydd sy’n glir, cryno a chywir
· Gallu ysgogi ei hun yn greadigol gan dderbyn y cyfrifoldeb am osod ac adolygu blaenoriaethau i gyflawni targedau, gyda ffocws clir ar ansawdd
· Yn rhagweithiol ac yn gallu gyrru pethau ymlaen yn effeithlon
· Gallu gweithio’n annibynnol neu fel rhan o dîm
· Sgiliau TG rhagorol gan gynnwys - Windows; Meddalwedd cynhyrchiant (e-bost, prosesu geiriau, taenlenni, ffeilio data); Defnydd diogel o gyfrifiaduron a'r rhyngrwyd (chwilio a phori'r we, defnyddio gwefannau a chymwysiadau ar-lein)
· Os yn gweithio o adref am unrhyw adeg, bydd gofyn bod gennych gysylltiad rhyngrwyd addas yn barod
· Trwydded yrru lawn a defnydd o gar Manteisiol
· Gwybodaeth a dealltwriaeth am y sectorau amaeth, gwledig a bwyd yng Nghymru
· Profiad o drefnu arddangosfeydd a digwyddiadau phroffil uchel
· Profiad dangosadwy o weithio yn y diwydiant amaethyddol neu fwyd yng Nghymru
· Profiad o ddefnyddio systemau megis Salesforce, Mailchimp a Wordpress. Gwneud Cais
Gallwch wneud cais am y swydd hon drwy lenwi ffurflen gais a ffurflen cyfle cyfartal (sydd ar gael ar ein gwefan www.menterabusnes.co.uk) a’u dychwelyd at [email protected]. Os hoffech gael sgwrs anffurfiol am y swydd hon, cysylltwch ag Ynyr Roberts ar 02920 467 404. Cyfweliadau Byddwn yn cynnal y cyfweliadau ar gyfer y swydd hon yn rhithiol ar ddydd Gwener, 3ydd o Fawrth 2023. Os yw’r dyddiad hwn yn anghyfleus, nodwch hynny ar eich ffurflen gais os gwelwch yn dda. Dyddiad Cau
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw: 10 y bore, dydd Llun, 27 Chwefror 2023. Polisi Cydraddoldeb ac Amrywiaeth
Gwelwch ein gwefan i gael copi o’n Polisi Cydraddoldeb ac Amrywiaeth
Cyflog
💰 £21,979 - £23,749
Lleoliad
📍 Unrhyw un o’n swyddfeydd, O gartref
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Swyddog Cymorth Busnes (3 swydd), Y Gwasanaeth Cyfieithu
Mae Llywodraeth Cymru yn edrych am Swyddog Cymorth Busnes (3 swydd), Y Gwasanaeth Cyfieithu
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Dyma gyfle arbennig i chi weithio ar lefel Cymorth Tîm yn Llywodraeth Cymru i ddarparu gwasanaeth dwyieithog (Cymraeg a Saesneg), proffesiynol a chyfeillgar i’n cwsmeriaid.
Disgrifiad:
Swyddog Cymorth Busnes (3 swydd), Y Gwasanaeth Cyfieithu
Graddfa gyflog: TS - £21,300 - £24,630
Lleoliad: Cymru gyfan. Mae staff y Gwasanaeth Cyfieithu yn gweithio gartref yn bennaf, ond mae desgiau gennym yn y swyddfeydd canlynol: Aberystwyth, Caerdydd, Caerfyrddin, Caernarfon a Chyffordd Llandudno.
2 x Parhaol, 1 x Cyfnod penodol 12 mis
Dyma gyfle arbennig i chi weithio ar lefel Cymorth Tîm yn Llywodraeth Cymru i ddarparu gwasanaeth dwyieithog (Cymraeg a Saesneg), proffesiynol a chyfeillgar i’n cwsmeriaid.
Uned Fusnes y Gwasanaeth Cyfieithu yw’r pwynt cyswllt cyntaf i gwsmeriaid, sef gweision sifil o bob rhan o Lywodraeth Cymru, er mwyn cefnogi’r sefydliad i gydymffurfio â Safonau’r Gymraeg a Rheolau Sefydlog y Senedd. Byddwch yn defnyddio systemau TG arbenigol i ddadansoddi a pharatoi dogfennau ar gyfer y broses gyfieithu; yn darparu cymorth busnes a chyllid i’r tîm rheoli a’r cyfieithwyr yn gyffredinol; yn cysylltu â chyfieithwyr mewnol ac allanol, ac yn cydlynu’r gwaith cyfieithu allanol.
**PRIF GYFRIFOLDEBAU **
Cefnogi prosiectau cyfieithu (cyfieithu cyffredinol a deddfwriaethol, a chyfieithu ar y pryd)
1. Bod yn gyfrifol am fonitro a blaenoriaethu ceisiadau am wasanaethau cyfieithu.
2. Ymateb yn brydlon i geisiadau, gan drafod â’r cwsmer yn ôl y galw er mwyn cael y wybodaeth angenrheidiol (ee dyddiadau dychwelyd a gofynion penodol) ar gyfer darparu gwasanaeth safonol ac amserol.
3. Paratoi prosiectau cyfieithu yn seiliedig ar geisiadau gan gwsmeriaid - dadansoddi pob cais yn drylwyr, dehongli natur y cais yng nghyd-destun safonau’r Gymraeg a/neu’r Rheolau Sefydlog, a thrafod y gwaith ag arweinwyr y timau cyfieithu.
4. Manteisio ar bob cyfle i baratoi'r gwaith mewn ffordd sy'n sicrhau proses gyfieithu effeithlon, ee drwy ddefnyddio meddalwedd cyfieithu i ddadansoddi a pharatoi prosiectau cyfieithu.
5. Dilyn prosesau sy'n gyson ag arferion ar draws yr Uned Fusnes wrth brosesu ceisiadau cyfieithu a chyfieithu ar y pryd, ac awgrymu gwelliannau i’r prosesau os oes angen.
6. Defnyddio’r fframwaith cyfieithu allanol i gomisiynu gwaith cyfieithu a chyfieithu ar y pryd, a bod yn bwynt cyswllt cyntaf i gyfieithwyr allanol.
7. Cymryd rhan yn rota gwaith yr Uned Fusnes i sicrhau gwasanaethau di-dor yn ystod oriau swyddfa (08:30 tan 16:30)
Cefnogi’r busnes
1. Cyflawni tasgau amrywiol sy'n cael eu rhannu rhwng aelodau'r Uned Fusnes, ee trefnu cyfarfodydd a chyflwyniadau, cadw cofnodion, casglu data ac ystadegau, archebu offer a nwyddau swyddfa, a helpu i osod a chynnal offer cyfieithu ar y pryd.
2. Datblygu a defnyddio sgiliau TG arbenigol sy'n allweddol i waith y Gwasanaeth Cyfieithu (ee defnyddio meddalwedd cof cyfieithu i greu prosiectau, cysoni a dadansoddi dogfennau, a mewnforio ac allforio cofau cyfieithu a ddarperir ar gyfer cyfieithwyr allanol) a systemau corfforaethol.
3. Cynorthwyo gydag unrhyw agwedd arall ar weinyddiaeth a phrosiectau corfforaethol cyffredinol y gangen, yn unol â chyfarwyddiadau’r rheolwr llinell neu staff uwch.
Mae angen sgiliau Cymraeg ar gyfer y swyddi hyn – mae rhagor o wybodaeth yn yr hysbyseb ar wefan y Llywodraeth.
Dyddiad cau: 09/01/23 16:00
Cyflog
💰 £21,300 - £24,630
Lleoliad
📍 Cymru, Unrhyw un o’n swyddfeydd
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Rydych wedi gweld yr holl swyddi.