Swyddi Cymraeg
1 swydd yn cyfateb
Cydlynydd Bro360
Mae Golwg Cyf. yn edrych am Gydlynydd Bro360
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Yn dilyn llwyddiant 8 o wefannau bro yn Arfon a Cheredigion, mae ardaloedd eraill yng Nghymru yn dangos diddordeb mewn ymuno â’r rhwydwaith, felly mae Golwg yn awyddus i benodi:
**Cydlynydd Bro360 **
Mae’r swydd hon yn allweddol i dwf y rhwydwaith o wefannau bro – yn bwynt cyswllt rhwng pawb sy’n ymwneud â’r prosiect ac yn aelod o dîm fydd yn gweithio’n agos gyda chymunedau i’w cynorthwyo i greu gwefannau straeon lleol bywiog.
Y swydd:
· Bod yn bwynt cyswllt sy’n gyrru’r prosiect yn ei flaen, gan gynnwys arwain gwaith Ysgogydd lleol.
· Hyrwyddo’r rhwydwaith yn ddigidol a thu hwnt.
· Cefnogi unigolion, mudiadau a grwpiau o bobol o bob math i gymryd rhan ac i gyfrannu at y gwefannau newydd a’r gwefannau presennol.
· Creu cysylltiadau, a meithrin perthynas â’r cymunedau, y cyfranogwyr a busnesau lleol.
· Cyfrannu syniadau at ddatblygu prosiectau creu cynnwys.
· Cyfrannu at raglen hyfforddiant.
· Cadw cofnodion at ddibenion monitro a chyllido.
Y person:
· Y gallu i drin pobol yn effeithiol.
· Sgiliau cyfathrebu cryf.
· Diddordeb yn y We a’r cyfryngau cymdeithasol a phrofiad o’u defnyddio.
· Sgiliau TG da.
· Syniadau ffresh ac unigryw.
· Trefnus.
· Egnïol a phenderfynol.
Lleoliad y Swydd: Yn ddelfrydol byddwch wedi’ch lleoli yng Ngwynedd (neu gydag adnabyddiaeth dda o ardaloedd y gwefannau bro). Gweithio o adre a/neu o un o swyddfeydd Golwg yng Nghaernarfon neu Lanbed.
Cyflog: £25,000
Cytundeb: Cyfnod penodol o flwyddyn. Cyfnod prawf cychwynnol o chwe mis.
Oriau gwaith: Llawn amser, 40 awr yr wythnos
Dyddiad cau: 23 Medi 2022
Anfonwch lythyr cais, CV llawn ac enw dau ganolwr.
Mwy o fanylion: [email protected] / 01570 423 529
Cyflog
💰 £25,000
Lleoliad
📍 O gartref, Unrhyw un o’n swyddfeydd
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Rydych wedi gweld yr holl swyddi.