Swyddi Cymraeg
4 swydd yn cyfateb
Swyddog Cymorth Busnes (3 swydd), Y Gwasanaeth Cyfieithu
Mae Llywodraeth Cymru yn edrych am Swyddog Cymorth Busnes (3 swydd), Y Gwasanaeth Cyfieithu
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Dyma gyfle arbennig i chi weithio ar lefel Cymorth Tîm yn Llywodraeth Cymru i ddarparu gwasanaeth dwyieithog (Cymraeg a Saesneg), proffesiynol a chyfeillgar i’n cwsmeriaid.
Disgrifiad:
Swyddog Cymorth Busnes (3 swydd), Y Gwasanaeth Cyfieithu
Graddfa gyflog: TS - £21,300 - £24,630
Lleoliad: Cymru gyfan. Mae staff y Gwasanaeth Cyfieithu yn gweithio gartref yn bennaf, ond mae desgiau gennym yn y swyddfeydd canlynol: Aberystwyth, Caerdydd, Caerfyrddin, Caernarfon a Chyffordd Llandudno.
2 x Parhaol, 1 x Cyfnod penodol 12 mis
Dyma gyfle arbennig i chi weithio ar lefel Cymorth Tîm yn Llywodraeth Cymru i ddarparu gwasanaeth dwyieithog (Cymraeg a Saesneg), proffesiynol a chyfeillgar i’n cwsmeriaid.
Uned Fusnes y Gwasanaeth Cyfieithu yw’r pwynt cyswllt cyntaf i gwsmeriaid, sef gweision sifil o bob rhan o Lywodraeth Cymru, er mwyn cefnogi’r sefydliad i gydymffurfio â Safonau’r Gymraeg a Rheolau Sefydlog y Senedd. Byddwch yn defnyddio systemau TG arbenigol i ddadansoddi a pharatoi dogfennau ar gyfer y broses gyfieithu; yn darparu cymorth busnes a chyllid i’r tîm rheoli a’r cyfieithwyr yn gyffredinol; yn cysylltu â chyfieithwyr mewnol ac allanol, ac yn cydlynu’r gwaith cyfieithu allanol.
**PRIF GYFRIFOLDEBAU **
Cefnogi prosiectau cyfieithu (cyfieithu cyffredinol a deddfwriaethol, a chyfieithu ar y pryd)
1. Bod yn gyfrifol am fonitro a blaenoriaethu ceisiadau am wasanaethau cyfieithu.
2. Ymateb yn brydlon i geisiadau, gan drafod â’r cwsmer yn ôl y galw er mwyn cael y wybodaeth angenrheidiol (ee dyddiadau dychwelyd a gofynion penodol) ar gyfer darparu gwasanaeth safonol ac amserol.
3. Paratoi prosiectau cyfieithu yn seiliedig ar geisiadau gan gwsmeriaid - dadansoddi pob cais yn drylwyr, dehongli natur y cais yng nghyd-destun safonau’r Gymraeg a/neu’r Rheolau Sefydlog, a thrafod y gwaith ag arweinwyr y timau cyfieithu.
4. Manteisio ar bob cyfle i baratoi'r gwaith mewn ffordd sy'n sicrhau proses gyfieithu effeithlon, ee drwy ddefnyddio meddalwedd cyfieithu i ddadansoddi a pharatoi prosiectau cyfieithu.
5. Dilyn prosesau sy'n gyson ag arferion ar draws yr Uned Fusnes wrth brosesu ceisiadau cyfieithu a chyfieithu ar y pryd, ac awgrymu gwelliannau i’r prosesau os oes angen.
6. Defnyddio’r fframwaith cyfieithu allanol i gomisiynu gwaith cyfieithu a chyfieithu ar y pryd, a bod yn bwynt cyswllt cyntaf i gyfieithwyr allanol.
7. Cymryd rhan yn rota gwaith yr Uned Fusnes i sicrhau gwasanaethau di-dor yn ystod oriau swyddfa (08:30 tan 16:30)
Cefnogi’r busnes
1. Cyflawni tasgau amrywiol sy'n cael eu rhannu rhwng aelodau'r Uned Fusnes, ee trefnu cyfarfodydd a chyflwyniadau, cadw cofnodion, casglu data ac ystadegau, archebu offer a nwyddau swyddfa, a helpu i osod a chynnal offer cyfieithu ar y pryd.
2. Datblygu a defnyddio sgiliau TG arbenigol sy'n allweddol i waith y Gwasanaeth Cyfieithu (ee defnyddio meddalwedd cof cyfieithu i greu prosiectau, cysoni a dadansoddi dogfennau, a mewnforio ac allforio cofau cyfieithu a ddarperir ar gyfer cyfieithwyr allanol) a systemau corfforaethol.
3. Cynorthwyo gydag unrhyw agwedd arall ar weinyddiaeth a phrosiectau corfforaethol cyffredinol y gangen, yn unol â chyfarwyddiadau’r rheolwr llinell neu staff uwch.
Mae angen sgiliau Cymraeg ar gyfer y swyddi hyn – mae rhagor o wybodaeth yn yr hysbyseb ar wefan y Llywodraeth.
Dyddiad cau: 09/01/23 16:00
Cyflog
💰 £21,300 - £24,630
Lleoliad
📍 Cymru, Unrhyw un o’n swyddfeydd
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Uwch-gyfieithydd
Mae Llywodraeth Cymru yn edrych am Uwch-gyfieithydd
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Dyma gyfle gwych i ddatblygu eich sgiliau mewn gwasanaeth mawr, amlddisgyblaeth a chael profiad o feysydd arbenigol fel cyfieithu deddfwriaeth a safoni terminoleg. Bydd hefyd yn gyfle ardderchog i feithrin dealltwriaeth o waith y Llywodraeth.
Disgrifiad:
UWCH-GYFIEITHYDD
Graddfa gyflog: HEO (£31,210 i £38,160)
Cyfnod penodol hyd at 19 Medi 2023, â phosibilrwydd o drosi yn swydd barhaol ar ddiwedd y cyfnod
Lleoliad – Mae staff y Gwasanaeth Cyfieithu yn gweithio gartref yn bennaf, ond mae desgiau gennym yn y swyddfeydd canlynol: Aberystwyth, Caerdydd, Caerfyrddin, Caernarfon a Chyffordd Llandudno.
Dyddiad cau: 13 Rhagfyr 2022, 16:00
Profiad o weithio fel cyfieithydd neu olygydd?
Diddordeb brwd mewn materion cyfoes?
Chwilio am her newydd?
Croesewir ceisiadau i drosglwyddo dros dro ar fenthyciad neu secondiad os ydych yn gweithio mewn adran arall o’r llywodraeth neu sefydliad o’r tu allan i’r gwasanaeth sifil.
Bydd yr Uwch-gyfieithydd yn:
- Cyfieithu heb oruchwyliaeth o’r Saesneg i’r Gymraeg ac, o bryd i’w gilydd, o’r Gymraeg i’r Saesneg. Bydd natur y testunau yn amrywio o ddogfennau polisi i sgriptiau ac areithiau, a gall y gwaith gynnwys amrediad eang o gyweiriau o’r creadigol i’r deddfwriaethol
- Meithrin perthynas â chwsmeriaid mewn meysydd polisi gweinidogol neu dimau cyfreithiol penodol. Bydd hyn yn golygu deall gofynion cyfieithu Llywodraeth Cymru yng nghyd-destun y Safonau Iaith Gymraeg a Rheolau Sefydlog y Senedd, deall y gweithdrefnau deddfu a’r meysydd pwnc, a mynd i’r afael â materion sy’n codi wrth drefnu gwaith cyfieithu
- Atebol am ei waith cyfieithu o’i ddechrau i’w ddiwedd, ac yn cymryd y cyfrifoldeb am gyfathrebu’n briodol ac yn brydlon â chwsmeriaid a chydweithwyr eraill i sicrhau gwasanaeth effeithiol ac effeithlon
- Adolygu testunau a gynhyrchir gan gyd-gyfieithwyr a/neu gyfieithwyr llai profiadol, ôl-olygu testunau sydd wedi’u cynhyrchu gan gyfuniad o gof cyfieithu a chyfieithu peirianyddol, a phrawfddarllen cyfieithiadau er mwyn cyhoeddi testunau sy’n cyfateb yn y Gymraeg a’r Saesneg.
Cyflog
💰 £31,210 - £38,160
Lleoliad
📍 O gartref, Unrhyw un o’n swyddfeydd
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Cyfieithydd a Swyddog y Gymraeg
Mae Asiantaeth Safonau Bwyd yng Nghymru yn edrych am Gyfieithydd a Swyddog y Gymraeg
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Rydym yn chwilio am Gyfieithydd a Swyddog Iaith Gymraeg a all ddod â’i angerdd dros y Gymraeg i’r ASB a’n helpu i gyflwyno ein negeseuon o safon fyd-eang i ddefnyddwyr ledled y DU.
Nod yr ASB yw sicrhau bwyd diogel ledled Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon. Un o’r ffyrdd gorau y gallwn gefnogi defnyddwyr yng Nghymru yw sicrhau bod gan bawb fynediad at yr wybodaeth rydym yn ei rhannu. Mae’r Uned Iaith Gymraeg yn chwarae rhan hanfodol wrth rannu negeseuon hygyrch â phawb yng Nghymru, gan helpu i gyflawni gwaith pwysig yr ASB yn Gymraeg.
Disgrifiad:
Fel Cyfieithydd a Swyddog y Gymraeg, byddwch yn darparu cyfieithiadau ysgrifenedig, prawfddarllen, golygu, creu ymgyrchoedd a llawer mwy wrth i ni geisio sicrhau darpariaeth gyson o ansawdd uchel sy’n cwmpasu cylch gwaith eang yr ASB yng Nghymru. Yn ogystal â gweithio gyda chydweithwyr yn fewnol, byddwch yn gweithio gyda sefydliadau eraill yn y sector cyfieithu Cymraeg er mwyn helpu i safoni terminoleg newydd a rhannu arferion gorau. Ar ben hynny, byddwch yn uwchlwytho cynnwys Cymraeg i’n gwefannau ac yn rheoli ein cyfrifon cyfryngau cymdeithasol Cymraeg.
Dyma gyfle cyffrous i ymgymryd â gwaith cyfieithu diddorol, amrywiol ac eang sydd yn cefnogi gwaith pwysig yr ASB er budd iechyd y cyhoedd, yn ogystal â hyrwyddo defnydd o’r Gymraeg.
Os ydych yn siaradwr Cymraeg rhugl sy’n gallu ysgrifennu a chyfieithu i’r safon uchaf, bydd y rôl hon yn rhoi’r cyfle i chi wneud gwahaniaeth gwirioneddol mewn maes sy’n cyffwrdd â’n bywydau ni i gyd, bob dydd. Manteisiwch ar y cyfle i wneud cais i weithio gyda ni fel Cyfieithydd a Swyddog y Gymraeg.
Cyflog
💰 £30,957
Lleoliad
📍 Caerdydd, Unrhyw un o’n swyddfeydd
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Rheolwr Polisi (Cynhyrchion wedi'u rheoleiddio) (SEO)
Mae Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) yn edrych am Reolwr Polisi (Cynhyrchion wedi'u rheoleiddio) (SEO)
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Rydym yn chwilio am Reolwr Polisi i ymuno â’r tîm Polisi Rheoleiddio yng Nghymru i ddatblygu polisïau a deddfwriaethau sy’n diogelu ac yn hysbysu’r cyhoedd ym Mhrydain am eu bwyd, wrth geisio cynnwys anghenion rhanddeiliaid Cymru ym mhenderfyniadau canolog y llywodraeth.
Disgrifiad:
Gweithio o sawl lleoliad yn unrhyw un o Swyddfeydd yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) (Caerdydd, Belfast, Birmingham, Llundain neu Gaerefrog), neu gartref yn y Deyrnas Unedig (DU). Dim ond yn y DU y gellir ymgymryd â’r rôl hon ac nid dramor. Bydd angen teithio ledled y DU yn achlysurol, ac aros dros nos o bosib.
Mae’r Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) yn adran anweinidogol gyda thros 1300 o aelodau staff. Ers ymadael â’r Undeb Ewropeaidd (UE), mae gennym ran bwysig wrth ddiogelu iechyd y cyhoedd a buddiannau ehangach defnyddwyr mewn perthynas â bwyd ledled Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon. Mae ein gweledigaeth yn un bwysig – ysgogi newid, sicrhau “bwyd y gallwch ymddiried ynddo”, a gweithio tuag at system fwyd iachach a mwy cynaliadwy.
Mae gan yr ASB gylch gwaith eithriadol o eang am adran lywodraethol gymharol fach. Gan ddiogelu bwyd a sicrhau ei fod yn ddiogel i’w fwyta, ei fod yn cyd-fynd â’r hyn sydd ar y label, ac ei fod yn gynyddol iachus a chynaliadwy, mae gwaith yr ASB yn cyffwrdd â bywydau pawb yn y wlad.
Rydym yn chwilio am Reolwr Polisi i ymuno â’r tîm Polisi Rheoleiddio yng Nghymru i ddatblygu polisïau a deddfwriaethau sy’n diogelu ac yn hysbysu’r cyhoedd ym Mhrydain am eu bwyd, wrth geisio cynnwys anghenion rhanddeiliaid Cymru ym mhenderfyniadau canolog y llywodraeth.
Mae rheolwyr polisi wrth wraidd y tîm hwn, gan weithio ar draws yr ASB, yn ogystal â Llywodraeth Cymru ac ystod o adrannau canolog y llywodraeth, i ddatblygu deddfwriaeth bwyd ar ran Gweinidogion Cymru. Mae gwaith y tîm Polisi Rheoleiddio yn cyffwrdd â chynifer o feysydd, a byddwch yn cyd-weithio â melinau trafod, academyddion ac ymchwilwyr, a ffigurau’r diwydiant, yn ogystal â nifer o randdeiliaid eraill o fewn systemau bwyd Cymru.
Yn ogystal â dwyn deddfwriaeth yn ei blaen a sicrhau bod buddiannau Cymru yn cael ystyriaeth briodol wrth ddatblygu polisi’r ASB, byddwch yn cefnogi’r tîm mewn ystod eang o feysydd, gan gynnwys rheoli risgiau tocsicoleg a hyrwyddo safonau bwyd uchel y DU yn rhyngwladol.
Mae hon yn rôl hynod ddiddorol ac amrywiol a fydd yn cynnig y cyfle i chi feithrin eich dealltwriaeth o ddatblygu polisi wrth gynnig eich arbenigedd cyfredol mewn ffordd sy’n cael effaith hirhoedlog ar les y cyhoedd.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gallu cyfathrebu’n ardderchog, yn gallu gweithio ochr yn ochr â phobl o bob rhan o’r llywodraeth a’r diwydiant ei hun a dylanwadu arnyn nhw. Byddant yn deall pwysigrwydd yr ASB, a pham rydym bob amser yn rhoi buddiannau’r defnyddwyr yn gyntaf – ond byddant hefyd yn awyddus i sicrhau bod buddiannau Cymru yn cael eu hystyried hefyd. Dyma gyfle i sicrhau newid cenedlaethol a lleol, a byddwch yn awyddus i weithio’n galed tuag at hynny, gan edrych ar y sefydliad o’ch cwmpas a gofyn bob amser sut gallwn ni wella ein dulliau. Os ydych chi’n awyddus i gael effaith wirioneddol ar y bwyd ar fyrddau’r genedl, ac yn barod i weithio’n agos gyda gweddill ein tîm i wneud hynny, rydym yn edrych ymlaen at glywed gennych chi.
Darllenwch y Pecyn i Ymgeiswyr sydd ynghlwm i gael rhagor o fanylion am y rôl, ein sefydliad, yr ymgeisydd rydym ni’n chwilio amdano a’r meini prawf y byddwn ni’n eich asesu yn eu herbyn yn ystod y broses ddethol. Edrychwn ymlaen at weld eich cais, a dymunwn bob llwyddiant i chi.
Cyflog
💰 £37,350 - £40, 350
Lleoliad
📍 O gartref, Unrhyw un o’n swyddfeydd
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Rydych wedi gweld yr holl swyddi.