Swyddi Cymraeg
1 swydd yn cyfateb
Swyddog Marchnata Digidol Eisteddfod yr Urdd
Mae Urdd Gobaith Cymru yn edrych am Swyddog Marchnata Digidol Eisteddfod yr Urdd
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Urdd Gobaith Cymru yw mudiad ieuenctid cenedlaethol mwyaf Cymru sy’n darparu cyfleoedd i blant a phobl ifanc ymwneud â chwaraeon, y celfyddydau, gwirfoddoli, hyfforddiant, gwaith dyngarol, rhyngwladol a phreswyl, sy’n eu galluogi i wneud cyfraniad cadarnhaol i’w cymuned a’r byd yn ehangach.
Ers ei sefydlu yn 1922, mae’r mudiad wedi meithrin cenedlaethau o bobl ifanc i fod yn falch o’u gwlad, yn agored i eraill ac yn ymgorfforiadau o’n hiaith a’n diwylliant, yn ogystal â meddu ar y gwerthoedd byd-eang y parchir yng Nghymru. Hyd yma mae dros 4 miliwn o bobl wedi bod yn aelodau o’r Urdd ac eleni mae’r mudiad yn edrych ymlaen at ddathlu ei ganmlwyddiant a chydag nifer o ddigwyddiadau mawr wedi’u cynllunio’n arbennig.
Yr Urdd yw cyflogwr trydydd sector cyfrwng Cymraeg mwyaf yng Nghymru, gyda dros 200 o staff wedi’u lleoli mewn 12 swyddfa ledled Cymru. Roedd ei drosiant blynyddol cyn Covid bron yn £12M, a daeth â gwerth economaidd o £32M i Gymru yn ystod 2019/20. Y Swydd
Wrth i ni gynllunio ar gyfer Eisteddfodau’r dyfodol bydd sicrhau cynnwys gwreiddiol a dawn i gysylltu’n ddigidol gyda’n aelodau a chynulleidfaoedd yn medru dyrchafu presenoldeb ar-lein yr Eisteddfod i gyrraedd cynulleidfaoedd newydd yng Nghymru a thu hwnt.
Bydd y Swyddog Marchnata Digidol yn gyfrifol am arwain ac ychwanegu gwerth i blatfformau a chynnwys digidol Eisteddfod yr Urdd drwy greu cynnwys sy’n berthnasol, apelgar a chyfoes. Un o brif nodau’r swydd bydd codi proffil yr Eisteddfod fel un o brif wyliau Ieuenctid Ewrop a chodi ymwybyddiaeth o waith celfyddydol yr adran trwy gydol y flwyddyn.
Bydd disgwyl i’r Swyddog Digidol i fod yn gyfrifol am greu cynnwys newydd ar gyfer ein cynulleidfaoedd amrywiol, creu ymgyrchoedd i hyrwyddo gwaith yr adran, arwain ar ddatblygu ein cyfrifon Cyfryngau Cymdeithasol, a denu incwm drwy ymgyrchoedd gwerthiant tocynnau ac ymgyrchoedd i ddenu noddwyr a chystadleuwyr newydd. Am fwy o fanylion cysylltwch â Sian Eirian (Cyfarwyddwr yr Eisteddfod a’r Celfyddydau) ar [email protected] Anfonwch Ffurflen Gais yr Urdd ar e-bost at [email protected] Dyddiad Cau: 12pm ar y 6ed o Orffennaf
Cyfweliadau: Wythnos yr 11eg i’r 15fed o Orffennaf Mae’r Urdd yn cefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ein holl waith a gweithgareddau. Rydym yn croesawu ymgeiswyr o bob cefndir a chymuned, ac yn benodol y rhai sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn ein gweithlu ar hyn o bryd. Mae’r rhain yn cynnwys ond nid ydynt yn gyfyngedig i ymgeiswyr anabl a phobl ddiwylliannol ac ethnig amrywiol.
Cyflog
💰 £28,505 - £31,757
Lleoliad
📍 Unrhyw un o swyddfeydd yr Urdd
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Rydych wedi gweld yr holl swyddi.