Swyddi Cymraeg
2 swydd yn cyfateb
Trefnydd Celfyddydol Eisteddfod yr Urdd
Mae Urdd Gobaith Cymru yn edrych am Drefnydd Celfyddydol Eisteddfod yr Urdd
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mae’r Urdd yn fudiad unigryw ac ers 1922 wedi cynnig profiadau gwerthfawr i fwy na 4 miliwn o blant a phobl ifanc yng Nghymru drwy feysydd Chwaraeon, Celfyddydol, Preswyl, Dyngarol, Rhyngwladol a Gwirfoddol.
Rydym wedi meithrin cenedlaethau o ferched a dynion ifanc i fod yn falch o’u gwlad, yn agored i’r byd ac yn ymgorfforiadau o’n hiaith a’n diwylliant, yn ogystal â meddu ar y gwerthoedd byd-eang y parchir yng Nghymru.
Dyma felly ddatgan ein huchelgais i barhau i ymestyn cyrhaeddiad ac effaith ein gwaith a’r bobl ifanc Cymru. Mae hyn yn allweddol os ydym am i’r Gymraeg fod yn ganolog ym mywydau plant a phobl ifanc ein gwlad, a sicrhau fod pawb yng Nghymru, boed yn siaradwyr Cymraeg ai pheidio, yn teimlo perchnogaeth ac ymdeimlad o berthyn tuag at yr iaith a’i thraddodiadau.
Y Swydd
Mae Adran yr Eisteddfod a’r Celfyddydau yn cynnal un o’r gwyliau teithiol mwyaf ar gyfer plant a phobl ifanc yn Ewrop, yn ogystal â chynnal nifer o brosiectau cymryd rhan i ieuenctid Cymru dros y flwyddyn. Ein prif nod yw cynnig Llwyfan i Bawb, drwy ddarparu profiadau a chyfleoedd celfyddydol o ansawdd uchel drwy’r Gymraeg i blant a phobl ifanc o bob cefndir yng Nghymru a thu hwnt.
Rydym yn chwilio am unigolyn creadigol fydd yn gallu datblygu elfennau celfyddydol a chystadleuol Eisteddfod Genedlaethol Urdd Gobaith Cymru, gan gynnwys datblygiadau’r ŵyl, y cystadlaethau, a’r arlwy ar y maes.
Am fwy o fanylion cysylltwch â Llio Elain Maddocks: [email protected]
Anfonwch Ffurflen Gais yr Urdd ar e-bost at [email protected]
Dyddiad Cau – 17:00 Dydd Mawrth, 1af o Fawrth 2023
Dyddiad Cyfweld – Dydd Mawrth, 14eg o Fawrth 2023
Mae’r Urdd yn cefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ein holl waith a gweithgareddau. Rydym yn croesawu ymgeiswyr o bob cefndir a chymuned, ac yn benodol y rhai sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn ein gweithlu ar hyn o bryd. Mae’r rhain yn cynnwys ond nid ydynt yn gyfyngedig i ymgeiswyr anabl a phobl ddiwylliannol ac ethnig amrywiol.
Cyflog
💰 £37,519 - £42,404
Lleoliad
📍 Unrhyw un o swyddfeydd yr Urdd, Hyblyg
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Trefnydd Technegol Eisteddfod yr Urdd
Mae Urdd Gobaith Cymru yn edrych am Drefnydd Technegol Eisteddfod yr Urdd
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Rydym yn chwilio am unigolyn threfnus a brwdfrydig i ymuno gyda’r tîm fel Trefnydd Technegol.
Amdanom ni
Urdd Gobaith Cymru yw mudiad ieuenctid cenedlaethol mwyaf Cymru sy’n darparu cyfleoedd i blant a phobl ifanc ymwneud â chwaraeon, y celfyddydau, gwirfoddoli, hyfforddiant, gwaith dyngarol, rhyngwladol a phreswyl, sy’n eu galluogi i wneud cyfraniad cadarnhaol i’w cymuned a’r byd yn ehangach.
Ers ei sefydlu yn 1922, mae’r mudiad wedi meithrin cenedlaethau o bobl ifanc i fod yn falch o’u gwlad, yn agored i eraill ac yn ymgorfforiadau o’n hiaith a’n diwylliant, yn ogystal â meddu ar y gwerthoedd byd-eang y parchir yng Nghymru. Hyd yma mae dros 4 miliwn o bobl wedi bod yn aelodau o’r Urdd ac eleni mae’r mudiad yn edrych ymlaen at ddathlu ei ganmlwyddiant a chydag nifer o ddigwyddiadau mawr wedi’u cynllunio’n arbennig.
Yr Urdd yw cyflogwr trydydd sector cyfrwng Cymraeg mwyaf yng Nghymru, gyda dros 200 o staff wedi’u lleoli mewn 12 swyddfa ledled Cymru. Roedd ei drosiant blynyddol cyn Covid bron yn £12M, a daeth â gwerth economaidd o £32M i Gymru yn ystod 2019/20. Y Swydd
Eisteddfod yr Urdd yw prif ŵyl gelfyddydol Ieuenctid Ewrop a rydym yn chwilio am unigolyn threfnus a brwdfrydig i ymuno gyda’r tîm fel Trefnydd Technegol. Mae’r rôl gyffrous hon yn delio gyda cytundebau, cyllidebau a gweithrediadau’r Ŵyl, rheoli staff, gwirfoddolwyr, a phartneriaid allweddol yr Eisteddfodau yn flynyddol.
Am fwy o fanylion cysylltwch â Siân Eirian, Cyfarwyddwr yr Eisteddfod a Chelfyddydau ar 07778 968153 neu [email protected].
Anfonwch Ffurflen Gais yr Urdd ar e-bost at [email protected] Dyddiad Cau: 12pm ar y 6ed o Orffennaf
Cyfweliadau: Wythnos yr 11eg i’r 15fed o Orffennaf Mae’r Urdd yn cefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ein holl waith a gweithgareddau. Rydym yn croesawu ymgeiswyr o bob cefndir a chymuned, ac yn benodol y rhai sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn ein gweithlu ar hyn o bryd. Mae’r rhain yn cynnwys ond nid ydynt yn gyfyngedig i ymgeiswyr anabl a phobl ddiwylliannol ac ethnig amrywiol.
Cyflog
💰 £37,519 - £42,404
Lleoliad
📍 Unrhyw un o swyddfeydd yr Urdd
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Rydych wedi gweld yr holl swyddi.