Swyddi Cymraeg
1 swydd yn cyfateb
Swyddog Ieuenctid Fflint a Wrecsam
Mae Urdd Gobaith Cymru yn edrych am Swyddog Ieuenctid Fflint a Wrecsam
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Darparu ac ymestyn, dan gyfarwyddyd y Cyfarwyddwr, gynnig gwaith ieuenctid cyfrwng Cymraeg i bobl ifanc yn seiliedig ac yn unol a thargedau yr Awdurdodau Lleol (Fflint a Wrecsam) a’r Urdd. Amdanom ni
Urdd Gobaith Cymru yw mudiad ieuenctid cenedlaethol mwyaf Cymru sy’n darparu cyfleoedd i blant a phobl ifanc ymwneud â chwaraeon, y celfyddydau, gwirfoddoli, hyfforddiant, gwaith dyngarol, rhyngwladol a phreswyl, sy’n eu galluogi i wneud cyfraniad cadarnhaol i’w cymuned a’r byd yn ehangach.
Ers ei sefydlu yn 1922, mae’r mudiad wedi meithrin cenedlaethau o bobl ifanc i fod yn falch o’u gwlad, yn agored i eraill ac yn ymgorfforiadau o’n hiaith a’n diwylliant, yn ogystal â meddu ar y gwerthoedd byd-eang y parchir yng Nghymru. Hyd yma mae dros 4 miliwn o bobl wedi bod yn aelodau o’r Urdd ac eleni mae’r mudiad yn edrych ymlaen at ddathlu ei ganmlwyddiant a chydag nifer o ddigwyddiadau mawr wedi’u cynllunio’n arbennig.
Yr Urdd yw cyflogwr trydydd sector cyfrwng Cymraeg mwyaf yng Nghymru, gyda dros 200 o staff wedi’u lleoli mewn 12 swyddfa ledled Cymru. Roedd ei drosiant blynyddol cyn Covid bron yn £12M, a daeth â gwerth economaidd o £32M i Gymru yn ystod 2019/20.
Anfonwch ffurflen gais ar e-bost at [email protected]
Cyflog
💰 £22,295 - £24,952
Lleoliad
📍 Hyblyg, Sir y Fflint, Wrecsam, Dinbych
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Rydych wedi gweld yr holl swyddi.