Swyddi Cymraeg
1 swydd yn cyfateb
Rheolwr Swyddfa / Cyfleusterau
Mae Banc Datblygu Cymru yn edrych am Reolwr Swyddfa / Cyfleusterau
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mae gennym gyfle i unigolyn profiadol a threfnus ymuno â’n swyddfa yn Wrecsam i sicrhau bod y swyddfeydd yn rhedeg yn effeithiol o ddydd i ddydd.
Yn y rôl amrywiol hon, byddwch yn barod i roi eich doniau i amrywiaeth o dasgau i helpu i gynnal rhediad esmwyth y swyddfa o drefnu lluniaeth ar gyfer cyfarfodydd i reoli iechyd a diogelwch holl staff ac ymwelwyr y safle. Fel rhan o'r rôl, byddwch hefyd yn rheoli'r cyfleusterau ac yn sicrhau bod yr holl waith cynnal a chadw cynlluniedig ac adweithiol yn cael ei wneud gyda chyn lleied o aflonyddwch â phosibl ac yn goruchwylio'r gwasanaethau diogelwch, adeiladu, glanhau a glanweithdra. Gyda dealltwriaeth dda o gyllid, byddwch yn adolygu contractau cyflenwyr a phrynu i sicrhau bod yr holl wasanaethau a chynhyrchion yn gost-effeithiol ac o fewn ein cyllidebau y cytunwyd arnynt ymlaen llaw. Yn gyfathrebwr cryf, byddwch yn teimlo’n gyfforddus wrth gysylltu â rhanddeiliaid mewnol ac allanol, gan ddangos agwedd sy’n canolbwyntio ar y cwsmer, wrth i chi ddatblygu perthnasoedd gwaith cadarnhaol a darparu safon uchel o wasanaeth cwsmeriaid o flaen y tŷ. Chi hefyd fydd y prif bwynt cyswllt ar gyfer dechreuwyr newydd, gan gynorthwyo gyda sesiynau cynefino a sicrhau bod pob unigolyn yn derbyn yr hyfforddiant perthnasol a bod yr holl staff yn ymwybodol o reoliadau iechyd a diogelwch.
Bydd gennych brofiad o reoli gwasanaethau swyddfa a chyfleusterau, gan gynnwys risgiau iechyd a diogelwch. Yn llythrennog mewn TG, gyda gwybodaeth ymarferol dda o MS Office, bydd gennych wybodaeth sylfaenol am offer TG / clyweledol. Yn agos atoch ac yn hyderus, byddwch yn gyfarwydd â darparu gwasanaethau cwsmeriaid rhagorol wyneb yn wyneb a thros y ffôn / galwadau fideo a byddwch yn gallu gweithio ar y cyd ag aelodau tîm ar draws gwahanol leoliadau. Mae hwn yn gyfle gwych i dyfu eich gyrfa o fewn rheolaeth cyfleusterau/swyddfa ac ymuno â chwmni a fydd yn darparu’r camau sydd eu hangen arnoch i lwyddo! Amdanom ni Ein cenhadaeth yw datgloi potensial economaidd yng Nghymru a gwella’r economi leol drwy ddarparu cyllid cynaliadwy ac effeithiol. Pan fydd ein busnesau yn ffynnu, maent yn creu nifer uwch o swyddi o ansawdd gwell. Mae'r trethi y maent yn eu talu yn cryfhau ein cyllid cyhoeddus. Mae'r bobl y maent yn eu cyflogi yn cryfhau ein cymunedau. Pan fo busnesau Cymreig yn gryf, mae Cymru yn gryf.
Cyflog
💰 £25,000 - £28,000
Lleoliad
📍 Wrecsam
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Rydych wedi gweld yr holl swyddi.