Mae Urdd Gobaith Cymru yn edrych am Swyddi Cegin a Llety Glan-llyn
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mae Gwersyll Glan-Llyn yn chwilio am staff yn yr Adran Cegin a Llety ar gyfer swyddi coginio, gweini a pharatoi bwyd yn ogystal a swyddi glanhau.
Cyflog: £11.30 yr awr (£20,566 y flwyddyn, pro rata).
Cytundeb: Parhaol, gyda’r oriau gwaith i’w trafod. Gellir trafod patrwm shifftiau hyblyg.
Am fwy o fanylion cysylltwch â Huw Symonds ar 01678 541000 neu [email protected].
Mae’r cyfle hwn yn agored i siaradwyr Cymraeg yn ogystal ag unigolion di-gymraeg gyda’r awydd i ddysgu.
Mae’r Urdd yn cefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ein holl waith a gweithgareddau. Rydym yn croesawu ymgeiswyr o bob cefndir a chymuned, ac yn benodol y rhai sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn ein gweithlu ar hyn o bryd. Mae’r rhain yn cynnwys ond nid ydynt yn gyfyngedig i ymgeiswyr anabl a phobl ddiwylliannol ac ethnig amrywiol.
Cyflog
💰 £11.30 yr awr (£20,566 pro rata)
Lleoliad
📍 Y Bala
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!