Swyddi Cymraeg — Y Drenewydd
3 swydd yn cyfateb
Swyddog Gwybodaeth a Dysgu
Mae Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol yn edrych am Swyddog Gwybodaeth a Dysgu
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol yw ariannwr cymunedol mwyaf y DU. Rydym yn dyfarnu arian a godir gan chwaraewyr y Loteri Genedlaethol i brosiectau cymunedol sy’n dod â syniadau ac uchelgeisiau pobl yn fyw. Rydym yn cefnogi ystod eang o brosiectau iechyd, addysgol, amgylcheddol ac elusennol gyda grantiau’n amrywio o gyn lleied â £500 i raglenni gwerth miliynau o bunnoedd. Roedd 86% o'n grantiau newydd am lai na £10k.
Mae arian y Loteri Genedlaethol yn agored i bawb, ac mae’n fraint i ni allu gweithio gyda’r grwpiau lleiaf ar lawr gwlad hyd at elusennau mawr ledled y DU.
Mae cyfle wedi codi i ddau Swyddog Gwybodaeth a Dysgu parhaol llawn amser i ymuno â’n tîm yng Nghymru i gefnogi cydweithwyr, deiliaid grant a rhanddeiliaid i rannu, creu a defnyddio Gwybodaeth a Dysgu yn effeithiol drwy:
- Cefnogi datblygiad ein rhaglenni grant a dangos eu heffaith i’n rhanddeiliaid
- Ein helpu i ddeall ac ymateb i anghenion cymunedau ledled Cymru
- Cynnal gweithgareddau sy'n rhannu ac yn cyfnewid Gwybodaeth a Dysgu i gefnogi ein gwaith ni a gwaith eraill.
- Yn ogystal â defnyddio Gwybodaeth a Dysgu i lywio polisi ac arferion o fewn a thu allan i'r Gronfa, byddwch hefyd yn hwyluso gweithgareddau dysgu ar gyfer staff, deiliaid grant a rhanddeiliaid. Byddwch yn arwain gweithgarwch o amgylch ein themâu dysgu blaenaf ac yn cefnogi ein tri thîm rhanbarthol yng Nghymru i wneud hynny hefyd. Byddwch hefyd yn sganio'r amgylchedd allanol i gael gwybodaeth am yr hyn y mae eraill yn ei wneud.
Gan dynnu ar eich gwybodaeth am bolisi, a’r sectorau gwirfoddol a chyhoeddus yng Nghymru, byddwch yn cynghori cydweithwyr a phenderfynwyr am sut y gall ein cyllid gael yr effaith fwyaf.
Dyddiad y cyfweliad: Wythnos yn dechrau 20fed o Fawrth
**Lleoliad: **Caerdydd neu’r Drenewydd
Mae gennym ddull hybrid o weithio, a bydd patrwm gwaith a lleoliad yn cael eu cytuno arnynt gyda'r ymgeisydd llwyddiannus. Gall y rôl fod yn ein swyddfa yng Nghaerdydd neu'r Drenewydd.
Os hoffech chi gael sgwrs anffurfiol am y rôl hon, cysylltwch â: [email protected]
Meini prawf hanfodol
- Sgiliau ymchwil a dadansoddi
- Y gallu i ysgrifennu a siarad am syniadau a gwybodaeth gymhleth mewn ffordd ddifyr a syml
- Sgiliau hwyluso – profiad o gynnull a hwyluso trafodaethau lle mae pobl yn rhannu ac yn trafod syniadau gan ddefnyddio amrywiaeth o ddulliau
- Wedi’ch ysgogi gan werthoedd ac yn angerddol dros bwrpas y Gronfa
Meini prawf dymunol
- Gwybodaeth am amgylchedd polisi Cymru, yn enwedig Llywodraeth Cymru
- Gwybodaeth am y sector gwirfoddol a chymunedol yng Nghymru
- Y gallu i weithio'n hyblyg ac ymdrin â blaenoriaethau cystadleuol lluosog o fewn tîm bach
- Y gallu i gyfathrebu trwy gyfrwng y Gymraeg
Cyfle Cyfartal
Mae cymunedau yn y DU yn dod o bob siâp a maint. Mae arian y Loteri Genedlaethol ar gyfer pawb – rydym wedi ymrwymo i degwch, amrywiaeth a chynhwysiant ac rydym yn gweithio'n galed i sicrhau bod ein cyllid yn cyrraedd lle mae ei angen.
Credwn hefyd y dylai ein pobl gynrychioli'r cymunedau, y sefydliadau a'r unigolion rydym yn gweithio gyda nhw. Rydym wedi ymrwymo i fod yn lle cynhwysol a gwych i weithio, ac rydym yn cydnabod bod ein pobl yn dod o gefndiroedd amrywiol. O'r herwydd, rydym yn croesawu'n arbennig geisiadau gan bobl ag anableddau, cefndiroedd Du, Asiaidd neu Leiafrifoedd Ethnig (B.A.M.E), LGBTQ+ ac o wahanol gefndiroedd economaidd-gymdeithasol ac addysgol.
Rydym yn falch o fod yn Gyflogwr Hyderus o ran Anabledd. Rydym yn croesawu ceisiadau gan bobl anabl a byddwn yn gwneud addasiadau rhesymol os bydd angen drwy'r broses recriwtio ac yn ystod cyflogaeth. Gall hyn fod yn gysylltiedig â chyflyrau iechyd corfforol a meddyliol.
Cyflog
💰 £25,019 - £28,399
Lleoliad
📍 Caerdydd, Y Drenewydd
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Anogwr Gwaith Dwyieithog (Cymraeg/Saesneg)
Mae Adran Gwaith a Phensiynau yn edrych am Anogwr Gwaith Dwyieithog (Cymraeg/Saesneg)
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
A ydych yn siaradwr Cymraeg?
A fyddech yn mwynhau'r cyfle i siarad Cymraeg yn eich gwaith bob dydd, i ddarparu gwasanaeth i'n cwsmeriaid sy'n siarad Cymraeg?
Mae'r Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) yn gyfrifol am les, pensiynau a pholisi cynnal a chadw plant ac mae'n gyfrifol am helpu pobl i symud i gyflogaeth, cefnogi pensiynwyr a gwarchod rhai o'r rhai mwyaf bregus yn ein cymdeithas.
Yn DWP rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod ein gweithlu yn adlewyrchu'r cymunedau yr ydym yn eu gwasanaethu ac felly rydym am ychwanegu at ein rhwydwaith presennol o gydweithwyr sy'n siarad Cymraeg, drwy recriwtio sawl Anogwr Gwaith dwyieithog (Cymraeg/Saesneg) ledled Cymru.
Fel Anogwr Gwaith dwyieithog (Cymraeg/Saesneg) byddwch yn chwarae rhan allweddol wrth wneud gwahaniaeth go iawn i fywydau pobl, yn enwedig ein cwsmeriaid sy'n siarad Cymraeg drwy eu cefnogi i gael mynediad at wasanaethau'r DWP
Swydd ddisgrifiad
Bydd eich rôl yn cynnwys
- Cael llwyth achosion o gwsmeriaid y byddwch yn gyfrifol amdanynt.
- Meithrin perthnasoedd cadarnhaol gyda'ch cwsmeriaid sy'n eu hannog a'u hysgogi i wneud y gorau o'u potensial gwaith ac enillion a dod yn annibynnol yn ariannol.
- Cynnig cyngor a chefnogaeth i helpu eich cwsmeriaid i chwilio am waith a lle bo angen eu cefnogi i ddatblygu sgiliau i fod yn llwyddiannus yn eu chwiliad swydd mewn amgylchedd digidol e.e. gwefannau chwilio am swydd, e-bost, uwchlwytho dogfennau ac ati
- Cynnal trafodaethau wyneb yn wyneb, digidol a ffôn gyda chwsmeriaid yn ddyddiol, yn Gymraeg neu Saesneg.
- Datblygu gwybodaeth fanwl am y farchnad lafur leol yn rhagweithiol, gan gydnabod y rolau sydd gan ein Partneriaid a Chyflogwyr wrth helpu ein cwsmeriaid i sicrhau cyflogaeth.
Gwneud penderfyniadau amserol, yn seiliedig ar anghenion y cwsmer, i'w cyfeirio at gymorth priodol.
Manyleb bersonol
Meini Prawf Allweddol
I fod yn llwyddiannus bydd angen i chi
- Fod â’r gallu i siarad a deall Cymraeg llafar (Meini Prawf Hanfodol). Cyfyngir Cymraeg ysgrifenedig i ysgrifennu nodiadau byr neu negeseuon. (gweler yr Adran Iaith)
- Cyfathrebu'n dda gyda grŵp amrywiol o gwsmeriaid, partneriaid a chyflogwyr gyda'r nod yn y pen draw o gefnogi pobl i mewn i waith. (Meini Prawf Arweiniol);
Ieithoedd
Y gallu i siarad a deall Cymraeg llafar
Safon Cymraeg Llafar –
Dylai ymgeiswyr allu sgwrsio’n glir a deall Cymraeg llafar i:
- Trafod amgylchiadau personol cwsmeriaid, hanes gwaith ac archwilio nodau swydd
- Egluro rheolau, gofynion a phenderfyniadau budd-daliadau
- Deall cwestiynau cwsmeriaid a gallu ymateb.
Safon Cymraeg Ysgrifenedig -
- Bydd Cymraeg ysgrifenedig yn gyfyngedig i ysgrifennu nodiadau byr neu negeseuon i'ch cwsmeriaid trwy e-bost, neges destun, ac ati.
Sylwer: Lle nad yw ymgeiswyr yn cyrraedd y safon ar gyfer Swyddog Gweithredol o ffin fach, efallai y cynigir swydd ar lefel Swyddog Gweinyddol (AO) iddynt fel ymgeisydd a fu bron â methu. Gall y rolau hyn fod yn benodiadau parhaol neu Gyfnod Penodol yn dibynnu ar ofynion busnes.
Ymddygiadau
Byddwn yn eich asesu yn erbyn yr ymddygiadau hyn yn ystod y broses ddethol:
- Cyfathrebu a Dylanwadu
- Gwneud Penderfyniadau Effeithiol
- Rheoli Gwasanaeth o Ansawdd
Buddion
- Gwyliau blynyddol hael 23 diwrnod ar gyfer staff newydd Llawn Amser (yn codi i 25 ar ôl 1 flwyddyn)
- Holl wyliau’r banc
- Patrymau gweithio hyblyg ar gael
- Absenoldeb mamolaeth, tadolaeth a rhiant cystadleuol
- Pensiwn y Gwasanaeth Sifil gyda chyfraniad cyflogwr cyfartalog o 27%
- Rhaglen Gymorth i Weithwyr gyda phwyslais ar les
- Datblygiad Gyrfa a Phersonol trwy Broffesiwn Cyflenwi Gweithredol - ee: cyfle i ymgymryd â Phrentisiaeth Lefel 2 neu 3 mewn Gwasanaeth Cwsmeriaid neu Gweinyddiaeth Busnes
- Cynlluniau disgownt i weithwyr
Cyflog
💰 £28,117
Lleoliad
📍 Y Fenni, Bargod, Y Barri, Cil-y-coed, Cas-gwent, Cwmbrân, Casnewydd, Pont-y-pŵl, Aberdâr, Llanelli, Aberdaugleddau, Doc Penfro, Pontypridd, Port Talbot, Tonypandy, Treorci, Aberhonddu, Bae Colwyn, Llandrindod, Llandudno, Machynlleth, Yr Wyddgrug, Y Drenewydd, Y Trallwng
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Swyddog Datblygu'r Gymraeg - Prosiect Cynnig Rhagweithiol
Mae Cymdeithas Sefydliadau Gwirfoddol Powys yn edrych am Swyddog Datblygu'r Gymraeg - Prosiect Cynnig Rhagweithiol
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Rôl Swyddog Datblygu’r Gymraeg ar gyfer y prosiect Cynnig Rhagweithiol yw cefnogi grwpiau a sefydliadau ar eu taith i ddarparu gwasanaeth dwyieithog.
Cyfnod Penodol (hyd at ddiwedd Mawrth 2023 - parhad yn dibynnu ar gyllid)
Cyflog: £21,208 am 28 awr yr wythnos (£26,511 pro rata am 35 awr yr wythnos)
Lleoliad: Swyddfeydd PAVO Y Drenewydd / Llandrindod / Cartref (gweithio gartref yn ystod Covid)
Mae rhuglder yn y Gymraeg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon. Rôl Swyddog Datblygu’r Gymraeg ar gyfer y prosiect Cynnig Rhagweithiol yw cefnogi grwpiau a sefydliadau ar eu taith i ddarparu gwasanaeth dwyieithog.
Mae’r Cynnig Rhagweithiol yn un o ofynion polisi Llywodraeth Cymru ar gyfer gwasanaethau iechyd a gofal, Mwy Na Geiriau. Ei nod yw sicrhau bod gwasanaethau yn hygyrch yn Gymraeg heb i'r defnyddiwr gwasanaeth orfod gofyn amdano.
Mae llawer o grwpiau a sefydliadau ym Mhowys naill ai’n methu neu ddim yn gweld y budd o gynnig eu gwasanaethau yn Gymraeg. Rôl y Swyddog Datblygu yw cefnogi grwpiau a sefydliadau ar eu taith i gyflwyno’r Cynnig Rhagweithiol trwy gymryd camau bach tuag at nod mwy. Gall hyn fod mor syml ag amlygu manteision cynnig gwasanaethau yn y Gymraeg, darparu hyfforddiant pwrpasol i grwpiau a sefydliadau neu roi Cynlluniau Gweithredu ar waith i gefnogi’r grwpiau a’r sefydliadau ar eu taith.
Cyflog
💰 £21,208
Lleoliad
📍 Y Drenewydd, Llandrindod
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Rydych wedi gweld yr holl swyddi.