Swyddi Cymraeg
1 swydd yn cyfateb
Rheolwr Datblygu Busnes (Ynni)
Mae Menter Môn yn edrych am Reolwr Datblygu Busnes (Ynni)
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Rheoli staff: Cefnogi timau yn unol â systemau a gweithdrefnau'r cwmni, a rheoli perfformiad er mwyn sicrhau bod unigolion yn cyflawni eu rôl ac yn cyfrannu at nodau ac amcanion ehangach Menter Môn.
Rheoli a monitro prosiectau: Gweithio gyda byrddau prosiect i sicrhau bod prosiectau’n cael eu datblygu yn unol â phrosesau a gweithdrefnau, a chyflawni yn erbyn amcanion a bennwyd ymlaen llaw a nodwyd mewn ceisiadau.
Datblygu prosiectau: Cymryd cyfrifoldeb cyffredinol am brosiectau ynni, gan sicrhau gwerth am arian a bod cynlluniau'n cael eu darparu ar amser, i safon uchel a bod yr holl wybodaeth ofynnol yn cael ei rhoi i gleientiaid, rhanddeiliaid a chyllidwyr.
Datblygu prosiect ynni: Cymeryd cyfrifoldeb am bortffolio cynlluniau ynni. Mae rhain yn cynnwys cynlluniau mae MM y datblygu yn uniongyrchol e.e. Hwb Hydrogen Caergybi, a rhai mewn partneriaeth ag eraill cynlluniau solar. Bydd hefyd cyfrifoldeb am gynlluniau eraill wrth iddynt ddatblygu.
Llywodraethu corfforaethol: Chwarae rôl weithgar fel Uwch Reolwr er mwyn datblygu cyfeiriad strategol y Cwmni, gan gynnwys Bwrdd y Cyfarwyddwyr.
Cynrychioli'r cwmni: Mabwysiadu ymagwedd ragweithiol wrth ddatblygu cysylltiadau â rhanddeiliaid allanol er mwyn hyrwyddo'r cwmni a datblygu ei enw da yn lleol ac yn genedlaethol.
Cyflog
💰 £44,000 – £50,000
Lleoliad
📍 Ynys Môn
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Rydych wedi gweld yr holl swyddi.