Swyddi Cymraeg
1 swydd yn cyfateb
Cyfarwyddwr / Cynhyrchydd
Mae Telesgop yn edrych am Gyfarwyddwr / Gynhyrchydd
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mae cwmni Telesgop yn chwilio am gyfarwyddwr / cynhyrchydd profiadol, hyderus a dyfeisgar sydd â diddordeb gwirioneddol yn y byd darlledu a'r awydd i rannu straeon difyr, gan weithio ar amrywiaeth o raglenni teledu.
Disgrifiad:
Mae Telesgop yn cynhyrchu ystod o raglenni i S4C, i’r BBC a darlledwyr eraill, ac i blatfformau digidol. Fe fydd gofyn i’r person llwyddiannus weithio ar y gyfres FFERMIO a hefyd ar raglenni amrywiol a chyfresi newydd. Mae’n gyfle i ddatblygu syniadau newydd ac i weithio ar ystod o genres.
Mae Telesgop yn gwmni cyfeillgar ac yn ymfalchio yn y teimlad cartrefol a theuluol sydd yn ein gweithle, gyda gwerthoedd uchel o ran disgwyliadau a gofal staff. Mae’r prif swyddfa yn Abertawe ac mae gennym adrannau golygu, graffeg a digidol.
Dylai'ch sgiliau cyfathrebu fod yn ardderchog, eich bod yn gallu gweithio’n dda fel rhan o dîm, ac yn gallu gweithio o fewn cyfyngiadau amser tynn. Mae trwydded yrru yn hanfodol.
Byddwch hefyd yn meddu ar ddealltwriaeth o’r cyfryngau cymdeithasol fel Facebook, Instagram, Twitter a Zoom. Bydd gennych y gallu i siarad ac ysgrifennu Cymraeg a Saesneg cywir ac ystwyth.
Swydd cytundeb tymor penodol fydd hon am 6 mis i ddechrau gyda’r posiblrwydd o arwain at swydd lawn amser, 5 diwrnod yr wythnos. Croesawir cynigion gan ymgeiswyr o bob cefndir heb wahaniaethu.
Bydd disgwyl i’r ymgeisydd llwyddiannus weithio o swyddfa Telesgop yn Abertawe ac yn medru gweithio o gartref yn y tymor byr.
Os am ymgeisio ar gyfer y swydd, anfonwch ebost, a CV yn cyflwyno’ch hunan a’ch profiad wedi’i labeli ‘Cyfarwyddwr / Cynhyrchydd’ at [email protected], neu os am fwy o wybodaeth, ffoniwch 01792 82 45 67.
Cyflog
💰 Cystadleuol yn dibynnu ar brofiad
Lleoliad
📍 Abertawe, O gartref
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Rydych wedi gweld yr holl swyddi.