Swyddi Cymraeg
1 swydd yn cyfateb
Rheolwr Marchnata
Mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn edrych am Reolwr Marchnata
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Y prif gampws fydd Abertawe neu Gaerfyrddin, ond dylid bod yn gallu gweithio gartref ac mewn lleoliadau eraill yn ôl yr angen, a bod yn barod i wneud hynny
£36,382 - £42,149 y flwyddyn
- AMDANOM NI -
Mae Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) yn brifysgol sy'n canolbwyntio ar gyflogaeth ac sy'n ymroddedig i sicrhau bod myfyrwyr o gefndiroedd amrywiol yn datblygu'r wybodaeth academaidd a'r sgiliau ymarferol i ffynnu.
Cawsom ein gosod yn y 13eg safle ar gyfer ansawdd yr addysgu yng Nghanllaw Prifysgolion Da 2022 The Times a'r Sunday Times, ac yn yr wythfed safle yn y DU ar gyfer ‘Cynhwysiant Cymdeithasol’ yn nhabl y gynghrair hon eleni.
Rydym 'nawr yn chwilio am Reolwr Marchnata i ymuno â ni ar gampws Abertawe neu Gaerfyrddin, a hynny'n llawn-amser ac yn barhaol, gan weithio 37 awr yr wythnos.
- Y RÔL -
Byddwch yn gyfrifol am reoli tîm o Swyddogion Marchnata, a byddwch yn cael eich rheoli gan y Pennaeth Marchnata. Byddwch yn cynllunio, rheoli a gweithredu prosesau a fydd yn galluogi'r tîm Marchnata i gyflawni ei gynlluniau marchnata blynyddol. Byddwch yn datblygu strategaeth gynnwys 'orau yn y dosbarth' a phrosesau cwbl archwiliadwy er mwyn sicrhau cydymffurfedd parhaus â gofynion rheoliadol.
Byddwch yn gyfrifol am gynllunio, rheoli, mesur ac adrodd ar weithgarwch ac ymgyrchoedd marchnata, a disgwylir y bydd deiliad y swydd yn goruchwylio'r gwaith o lunio cynnwys, gan fonitro a gwerthuso gweithgarwch marchnata yn barhaus. Bydd hyn yn cynnwys cysylltu â rhanddeiliaid mewnol ac allanol i feithrin perthnasoedd partneriaid busnes cynhyrchiol. Bydd disgwyl i chi hefyd ddirprwyo ar ran y Pennaeth Marchnata yn ôl yr angen. Darllenwch y Swydd-ddisgrifiad i gael rhagor o wybodaeth, lle cewch hefyd restr o feini prawf hanfodol a dymunol ‘Manyleb y Person'. -** AMDANOCH CHI** -
I gael eich ystyried ar gyfer swydd Rheolwr Marchnata, bydd arnoch angen y canlynol:
- Cymhwyster lefel gradd neu gymhwyster cyfatebol
- Cymhwyster proffesiynol mewn marchnata neu faes perthnasol arall
- Profiad blaenorol o weithio mewn amgylchedd marchnata
- Profiad amlwg o reoli prosiectau
- Profiad amlwg o lunio a lledaenu dirnadaeth farchnata, a hynny ym maes Addysg Uwch yn ddelfrydol
- Profiad o gyflwyno i gynulleidfaoedd lefel uchel
- Sgiliau rhwydweithio, negodi a dylanwadu mewn perthynas â rhanddeiliaid uwch
- Profiad o'r gallu i flaenoriaethu'n effeithiol a rheoli nifer o brosiectau ar yr un pryd
- Y gallu i roi sylw i fanylion
- Sgiliau TG rhagorol
- Profiad blaenorol o weithio ym maes Addysg Uwch
- Profiad o reoli cyllideb
- Yn gallu gweithio'n rhan o dîm, mewn partneriaeth ag eraill, a heb oruchwyliaeth
- Yn cydnabod yr angen am gyfrinachedd ac yn amlygu cyfrinachedd priodol
- Yn gallu gweithio'n hyblyg ac yn barod i wneud hynny, gan gynnwys teithio rhwng campysau a lleoliadau eraill yn ôl y gofyn Byddai hefyd o fantais i'ch cais pe byddech yn meddu ar y canlynol:
- Profiad blaenorol o reoli llinell
- Y gallu i gyfathrebu trwy gyfrwng y Gymraeg (ar lafar ac yn ysgrifenedig). Gwybodaeth am arferion cyfathrebu effeithiol a phrofiad o lunio deunyddiau marchnata dwyieithog atyniadol
- BUDDION -
- Bydd gennych hawl i 35 diwrnod o wyliau blynyddol y flwyddyn, yn ogystal ag wyth gŵyl banc a phedwar diwrnod pan fydd y Brifysgol ynghau
Mae ein cyflogeion yn cael mynediad at becyn cyflog a buddion gwych yn gydnabyddiaeth am eu cyfraniad gwerthfawr, sy'n cynnwys:
- Cyflog ac amodau da; rydym yn gyflogwr cyflog byw achrededig ac yn cynnig cyflog cystadleuol
- Aelodaeth o gynllun pensiwn gan yr USS i ddarparu buddion i chi a'ch teulu
- Polisïau sy'n ystyriol o deuluoedd ac sy'n darparu ar gyfer gweithio'n hyblyg, gan gynnwys absenoldeb mamolaeth a thadolaeth ychwanegol â thâl
- Cyfleoedd o ran gyrfa a datblygiad, gan gynnwys cymorth i ennill rhagor o gymwysterau
- Cymorth ar gyfer iechyd meddwl a llesiant, gan gynnwys gwasanaethau iechyd galwedigaethol a chymorth cwnsela
- Gostyngiadau i staff ar ystod o gynhyrchion a gwasanaethau
- Cynlluniau teithio, gan gynnwys y cynllun beicio i'r gwaith Felly, os ydych yn awyddus i chwarae rhan allweddol yn y gwaith o gynnal ein Prifysgol yn rôl Rheolwr Marchnata, gwnewch gais trwy'r botwm a ddangosir.
Nodwch nad yw'r broses ymgeisio hon yn cynnwys yr opsiwn i gyflwyno CV. Felly, asesir eich cais ar sail eich atebion i gwestiynau'r cais yn unig, ac yn arbennig ar sail eich Datganiad Personol.
Cyflog
💰 £36,382 - £42,149
Lleoliad
📍 Abertawe, Caerfyrddin, O gartref
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Rydych wedi gweld yr holl swyddi.