Swyddi Cymraeg
1 swydd yn cyfateb
Ymchwilydd / Gohebydd Materion Gwledig
Mae Telesgop yn edrych am Ymchwilydd / Gohebydd Materion Gwledig
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mae cwmni Telesgop yn chwilio am ymchwilydd/gohebydd hyderus a dyfeisgar sydd â diddordeb gwirioneddol yn y byd darlledu a'r awydd i rannu straeon difyr gan weithio ar amrywiaeth o raglenni radio a theledu.
Disgrifiad:
Mae Telesgop yn cynhyrchu ystod o raglenni ond yn chwilio am bobl i weithio yn benodol ar y gyfres ‘Ffermio’ ar S4C, ‘Bwletin Amaeth’ a ‘Troi’r Tir’ sydd ar BBC Radio Cymru. Mae'r swydd yn gofyn am berson brwdfrydig, trefnus a chreadigol sy’n barod i ymchwilio, recordio a golygu cyfweliadau radio. Bydd gennych ddiddordeb yn y byd amaethyddol a gwledig, a byddai dealltwriaeth o olygu clipiau sain ar raglenni fel Audacity neu Adobe Audition yn fanteisiol, ond nid yn hanfodol, gan y bydd hyfforddiant sylfaenol yn cael ei gynnig i chi baratoi, recordio a lleisio dau fwletin bob tair wythnos, eu pecynnu a'u cyfleu ar gyfer yr orsaf.
Dylai'ch sgiliau cyfathrebu fod yn ardderchog, ynghyd â’ch gallu i weithio’n dda fel rhan o dîm, a gweithio o fewn cyfyngiadau amser tynn.
Byddwch hefyd yn meddu ar ddealltwriaeth o’r cyfryngau cymdeithasol fel Facebook, Instagram, Twitter a Zoom. Bydd gennych hefyd y gallu i siarad ac ysgrifennu Cymraeg a Saesneg cywir ac ystwyth.
Swydd cytundeb tymor penodol fydd hon am oddeutu 3 mis i ddechrau gyda’r posiblrwydd o arwain at swydd llawn amser, 5 diwrnod yr wythnos. Croesawir cynigion gan ymgeiswyr di-brofiad, a rhai mwy profiadol o bob cefndir.
Bydd disgwyl i’r ymgeisydd llwyddiannus weithio o swyddfeydd Telesgop yn Abertawe ac yn medru gweithio o gartref yn y tymor byr gyda'r offer recordio'n cael ei ddarparu.
Os am ymgeisio ar gyfer y swydd, anfonwch ebost, CV a ffeil mp3 munud o hyd o'ch llais yn cyflwyno’ch hunan wedi’i labeli ‘CAIS AM SWYDD YMCHWILYDD/GOHEBYDD MATERION GWLEDIG’ at [email protected], neu os am fwy o wybodaeth, ffoniwch 01792 82 45 67.
Cyflog
💰 I'w drafod
Lleoliad
📍 Abertawe, O gartref
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Rydych wedi gweld yr holl swyddi.