Swyddi Cymraeg
1 swydd yn cyfateb
Rheolwr Rhagoriaith (cyfnod mamolaeth)
Mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn edrych am Reolwr Rhagoriaith (cyfnod mamolaeth)
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Rheolwr Rhagoriaith (cyfnod mamolaeth)
Abertawe am gyfran o’r wythnos waith (gyda theithio i leoliadau eraill yn ôl yr angen)
£43,434 - £51,799 pro rata y flwyddyn
AMDANOM NI
- Mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) yn brifysgol sy’n canolbwyntio ar gyflogadwyedd, sy’n ymroddedig i sicrhau bod myfyrwyr o gefndiroedd amrywiol yn datblygu’r wybodaeth academaidd a’r sgiliau ymarferol i ffynnu.
Rydym yn cynnig addysgu arloesol, offer a chyfarpar o’r radd flaenaf a chefnogaeth wych ar draws ystod eang o leoliadau a chyrsiau dysgu.
Cawson ein rhestru yn safle 13 am ansawdd y dysgu yn The Times a The Sunday Times Good University Guide 2022.
Dyma gyfle gwych i unigolyn brwdfrydig a phrofiadol gael cyfle i arwain ar brosiectau Canolfan Gwasanaethau Cymraeg y Brifysgol sy’n perthyn yn benodol i frand Rhagoriaith. Swydd ar gytundeb blwyddyn fydd hon yn absenoldeb rheolwr presennol _Rhagoriaith _ar gyfnod mamolaeth ac ystyrir ceisiadau secondiad gan unigolion cymwys sy’n chwilio am brofiadau newydd a chyfleoedd uwch-sgilio.
- Y RÔL –
Bydd y sawl a apwyntir i’r swydd hon yn gyfrifol am y gwaith o reoli prosiectau iaith_ Rhagoriaith_. Mae hyn yn cynnwys rheoli cyrsiau iaith y Brifysgol a’r Cynllun Sabothol Cymraeg i Athrawon a gartrefir yn y Ganolfan. Mae’n gyfle gwych i unigolyn profiadol a brwdfrydig ennill profiad pellach o weithio oddi fewn i Ganolfan ragweithiol sy’n arbenigo mewn cynnig rhaglenni hyfforddiant iaith i’r sector addysg yng Nghymru.
-AMDANOCH CHI -
I gael eich ystyried fel Rheolwr Rhagoriaith, bydd angen y canlynol arnoch:
- profiad o reoli, gweithredu a monitro prosiectau
- adnabyddiaeth dda o’r sector addysg yng Nghymru
- profiad o gynllunio rhaglenni hyfforddiant gan gynnwys sgopio ac awduro cynnwys
- profiad o baratoi ac addysgu cyrsiau’n gyfunol yn ogystal ag wyneb-yn wyneb
- angerdd ac awydd i wneud gwahaniaeth wrth gyflwyno’r Gymraeg i amrywiol gynulleidfaoedd.
- BUDDION –
Hawl i wyliau blynyddol o 35 diwrnod, ynghyd ag 8 gŵyl banc a 4 diwrnod cau’r Brifysgol
Mae ein gweithwyr yn cael mynediad at becyn tâl a buddion gwych i gydnabod eu cyfraniad gwerthfawr gan gynnwys:
- Tâl ac amodau da; fel cyflogwr cyflog byw achrededig, rydym yn cynnig tâl cystadleuol
- Aelodaeth cynllun pensiwn o USS i ddarparu buddion i chi a'ch teulu
- Polisïau sy’n ystyriol o deuluoedd ac sy’n darparu ar gyfer gweithio hyblyg, gan gynnwys absenoldeb mamolaeth a thadolaeth â thâl ychwanegol
- Cyfleoedd gyrfa a datblygiad, gan gynnwys cymorth i ennill cymwysterau pellach
- Cefnogaeth ar gyfer iechyd meddwl a lles, gan gynnwys iechyd galwedigaethol a gwasanaethau cymorth cwnsela
- Gostyngiadau staff ar amrywiaeth o gynhyrchion a gwasanaethau
- Cynlluniau teithio, gan gynnwys y cynllun beicio i'r gwaith
Sylwch nad yw'r broses ymgeisio hon yn cynnwys yr opsiwn i gyflwyno CV. Felly, bydd eich cais yn cael ei asesu ar sail eich atebion i gwestiynau'r cais yn unig ac, yn benodol, eich Datganiad Ategol.
Dyddiad cau: 20 Mai, 2022, 11:59pm
Cyflog
💰 £43,434 - £51,799 pro rata
Lleoliad
📍 Abertawe
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Rydych wedi gweld yr holl swyddi.