Swyddi Cymraeg
4 swydd yn cyfateb
Swyddog Gwybodaeth a Dysgu
Mae Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol yn edrych am Swyddog Gwybodaeth a Dysgu
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol yw ariannwr cymunedol mwyaf y DU. Rydym yn dyfarnu arian a godir gan chwaraewyr y Loteri Genedlaethol i brosiectau cymunedol sy’n dod â syniadau ac uchelgeisiau pobl yn fyw. Rydym yn cefnogi ystod eang o brosiectau iechyd, addysgol, amgylcheddol ac elusennol gyda grantiau’n amrywio o gyn lleied â £500 i raglenni gwerth miliynau o bunnoedd. Roedd 86% o'n grantiau newydd am lai na £10k.
Mae arian y Loteri Genedlaethol yn agored i bawb, ac mae’n fraint i ni allu gweithio gyda’r grwpiau lleiaf ar lawr gwlad hyd at elusennau mawr ledled y DU.
Mae cyfle wedi codi i ddau Swyddog Gwybodaeth a Dysgu parhaol llawn amser i ymuno â’n tîm yng Nghymru i gefnogi cydweithwyr, deiliaid grant a rhanddeiliaid i rannu, creu a defnyddio Gwybodaeth a Dysgu yn effeithiol drwy:
- Cefnogi datblygiad ein rhaglenni grant a dangos eu heffaith i’n rhanddeiliaid
- Ein helpu i ddeall ac ymateb i anghenion cymunedau ledled Cymru
- Cynnal gweithgareddau sy'n rhannu ac yn cyfnewid Gwybodaeth a Dysgu i gefnogi ein gwaith ni a gwaith eraill.
- Yn ogystal â defnyddio Gwybodaeth a Dysgu i lywio polisi ac arferion o fewn a thu allan i'r Gronfa, byddwch hefyd yn hwyluso gweithgareddau dysgu ar gyfer staff, deiliaid grant a rhanddeiliaid. Byddwch yn arwain gweithgarwch o amgylch ein themâu dysgu blaenaf ac yn cefnogi ein tri thîm rhanbarthol yng Nghymru i wneud hynny hefyd. Byddwch hefyd yn sganio'r amgylchedd allanol i gael gwybodaeth am yr hyn y mae eraill yn ei wneud.
Gan dynnu ar eich gwybodaeth am bolisi, a’r sectorau gwirfoddol a chyhoeddus yng Nghymru, byddwch yn cynghori cydweithwyr a phenderfynwyr am sut y gall ein cyllid gael yr effaith fwyaf.
Dyddiad y cyfweliad: Wythnos yn dechrau 20fed o Fawrth
**Lleoliad: **Caerdydd neu’r Drenewydd
Mae gennym ddull hybrid o weithio, a bydd patrwm gwaith a lleoliad yn cael eu cytuno arnynt gyda'r ymgeisydd llwyddiannus. Gall y rôl fod yn ein swyddfa yng Nghaerdydd neu'r Drenewydd.
Os hoffech chi gael sgwrs anffurfiol am y rôl hon, cysylltwch â: [email protected]
Meini prawf hanfodol
- Sgiliau ymchwil a dadansoddi
- Y gallu i ysgrifennu a siarad am syniadau a gwybodaeth gymhleth mewn ffordd ddifyr a syml
- Sgiliau hwyluso – profiad o gynnull a hwyluso trafodaethau lle mae pobl yn rhannu ac yn trafod syniadau gan ddefnyddio amrywiaeth o ddulliau
- Wedi’ch ysgogi gan werthoedd ac yn angerddol dros bwrpas y Gronfa
Meini prawf dymunol
- Gwybodaeth am amgylchedd polisi Cymru, yn enwedig Llywodraeth Cymru
- Gwybodaeth am y sector gwirfoddol a chymunedol yng Nghymru
- Y gallu i weithio'n hyblyg ac ymdrin â blaenoriaethau cystadleuol lluosog o fewn tîm bach
- Y gallu i gyfathrebu trwy gyfrwng y Gymraeg
Cyfle Cyfartal
Mae cymunedau yn y DU yn dod o bob siâp a maint. Mae arian y Loteri Genedlaethol ar gyfer pawb – rydym wedi ymrwymo i degwch, amrywiaeth a chynhwysiant ac rydym yn gweithio'n galed i sicrhau bod ein cyllid yn cyrraedd lle mae ei angen.
Credwn hefyd y dylai ein pobl gynrychioli'r cymunedau, y sefydliadau a'r unigolion rydym yn gweithio gyda nhw. Rydym wedi ymrwymo i fod yn lle cynhwysol a gwych i weithio, ac rydym yn cydnabod bod ein pobl yn dod o gefndiroedd amrywiol. O'r herwydd, rydym yn croesawu'n arbennig geisiadau gan bobl ag anableddau, cefndiroedd Du, Asiaidd neu Leiafrifoedd Ethnig (B.A.M.E), LGBTQ+ ac o wahanol gefndiroedd economaidd-gymdeithasol ac addysgol.
Rydym yn falch o fod yn Gyflogwr Hyderus o ran Anabledd. Rydym yn croesawu ceisiadau gan bobl anabl a byddwn yn gwneud addasiadau rhesymol os bydd angen drwy'r broses recriwtio ac yn ystod cyflogaeth. Gall hyn fod yn gysylltiedig â chyflyrau iechyd corfforol a meddyliol.
Cyflog
💰 £25,019 - £28,399
Lleoliad
📍 Caerdydd, Y Drenewydd
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Arweinydd Darparu Gwasanaethau – y Gymraeg
Mae Cyngor Caerdydd yn edrych am Arweinydd Darparu Gwasanaethau – y Gymraeg
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mae Cyngor Caerdydd yn darparu dros 700 o wahanol wasanaethau i'n dinasyddion, ymwelwyr a busnesau ledled y ddinas. Fel sefydliad llywodraeth leol, mae ein cwsmeriaid yn dibynnu arnom i ddarparu ein gwasanaethau hanfodol bob dydd, hyd yn oed yn ystod pandemig. P'un a ydynt yn cael eu cyflogi mewn rôl wyneb-yn-wyneb â chwsmeriaid, neu mewn rôl dechnegol, fasnach neu gymorth, mae ein gweithwyr yn ein helpu i wneud gwahaniaeth i'r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu.
Mae ein Tîm Academi Caerdydd yn awyddus i gyflogi Arweinydd Darparu Gwasanaethau – y Gymraeg a fydd yn gweithio’n hybrid ac o Neuadd y Ddinas, Caerdydd, CF10 3ND, am gyfran o’u hamser a gartref.
Mae Academi Caerdydd yn rhan o'n Gwasanaeth Adnoddau Dynol, gan ddarparu cyfleoedd hyfforddiant i weithwyr y Cyngor ac i gyrff eraill yn y sector cyhoeddus yng Nghaerdydd. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gweithio’n rhan o dîm i gynnig gwasanaeth o’r safon orau.
Yn y rôl hon:
Byddwch yn darparu cyrsiau a chyrsiau hyfforddiant a chyrsiau sy’n gysylltiedig â’r Gymraeg ac yn y Gymraeg, i staff mewnol a chyrff eraill yn y sector cyhoeddus, gan gefnogi dysgu a datblygu gweithwyr.
Byddwch yn gweithio'n agos gyda Swyddogion a chydweithwyr Tîm Cyfieithu Cymraeg y Cyngor (Caerdydd Ddwyieithog) i sicrhau bod yr hyfforddiant yn adlewyrchu anghenion pob maes gwasanaeth ac mae'r cynnwys yn adlewyrchu'n gywir Safonau'r Gymraeg a gofynion y Cwricwlwm Cenedlaethol Cymreig.
Bydd cyfran o'r hyfforddiant yn cael ei ddarparu'n rhithiol fodd bynnag bydd angen cyflwyno rhai cyrsiau ar y safle yn Neuadd y Ddinas. Byddwch yn cael y ddyfais/offer gofynnol i alluogi gweithio gartref.
Nodiadau Ychwanegol – Oriau gwaith safonol 9:00-17:00, dydd Llun i ddydd Gwener fodd bynnag bydd angen hyblygrwydd pan fo angen gweithio y tu allan i'r oriau hyn.
Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus brofiad helaeth o weithio fel hyfforddwr, creu a chyflwyno hyfforddiant wyneb yn wyneb ac ar-lein i gwsmeriaid a dangos dealltwriaeth dda o'r egwyddorion y tu ôl i ddysgu a datblygu o ansawdd uchel sy'n gysylltiedig â’r Gymraeg, a'r rôl y mae'n ei chwarae wrth gefnogi sefydliad.
Mae’r swydd yn addas i’w rhannu swydd ac mae'n un dros dro am 12 mis.
Dylai'r ymgeiswyr llwyddiannus allu cyfathrebu'n effeithiol yn Gymraeg i Lefel 5 – Hyfedredd.
Wrth gwblhau eich cais ar-lein, dylech deilwra eich cais i'r rôl yn yr adran Gwybodaeth Ategol, gan nodi sut rydych yn bodloni pob un o'r meini prawf hanfodol a restrir ar y Fanyleb Person. Dylech hefyd nodi sut rydych yn bodloni'r meini prawf dymunol gan y gallem ddefnyddio'r rhain i lunio'r rhestr fer os bydd nifer fawr o ymgeiswyr yn bodloni'r holl feini prawf hanfodol. Mae adran Gwybodaeth Ategol y ffurflen gais ar-lein wedi'i chyfyngu i 4,000 o arwyddnodau – gallwch lanlwytho Gwybodaeth Ategol ychwanegol ond peidiwch â chyflwyno CV gan nad yw’n debygol o gynnig y wybodaeth sydd ei hangen. Darllenwch y canllaw ar sut i wneud cais.
I gefnogi eich cais neu gyfweliad posibl efallai y bydd yn ddefnyddiol i chi gael gwybod ychydig mwy am rôl ehangach y Cyngor drwy ein dilyn ar Twitter, Facebook ac Instagram, tanysgrifio i'n sianel YouTube, neu drwy fynd i'n gwefan www.caerdydd.gov.uk
Rydym yn croesawu ceisiadau yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni chaiff ceisiadau Cymraeg eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg.
Os hoffech gael sgwrs anffurfiol am y rôl hon cyn ymgeisio, ffoniwch John Latchem-Agnew ar 07966 228534.
Cyflog
💰 £30,095 - £34,373
Lleoliad
📍 Caerdydd
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Arweinydd cyflenwi gwasanaethau – y Gymraeg
Mae Cyngor Caerdydd yn edrych am Arweinydd cyflenwi gwasanaethau – y Gymraeg
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mae Cyngor Caerdydd yn darparu dros 700 o wahanol wasanaethau i'n dinasyddion, ymwelwyr a busnesau ledled y ddinas. Fel sefydliad llywodraeth leol, mae ein cwsmeriaid yn dibynnu arnom i ddarparu ein gwasanaethau hanfodol bob dydd, hyd yn oed yn ystod pandemig. P'un a ydynt yn cael eu cyflogi mewn rôl wyneb-yn-wyneb â chwsmeriaid, neu mewn rôl dechnegol, fasnach neu gymorth, mae ein gweithwyr yn ein helpu i wneud gwahaniaeth i'r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu.
Mae ein Tîm Academi Caerdydd yn awyddus i gyflogi Arweinydd Darparu Gwasanaethau – y Gymraeg a fydd yn gweithio’n hybrid ac o Neuadd y Ddinas, Caerdydd, CF10 3ND, am gyfran o’u hamser a gartref.
Mae Academi Caerdydd yn rhan o'n Gwasanaeth Adnoddau Dynol, gan ddarparu cyfleoedd hyfforddiant i weithwyr y Cyngor ac i gyrff eraill yn y sector cyhoeddus yng Nghaerdydd. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gweithio’n rhan o dîm i gynnig gwasanaeth o’r safon orau.
Yn y rôl hon:
Byddwch yn darparu cyrsiau a chyrsiau hyfforddiant a chyrsiau sy’n gysylltiedig â’r Gymraeg ac yn y Gymraeg, i staff mewnol a chyrff eraill yn y sector cyhoeddus, gan gefnogi dysgu a datblygu gweithwyr.
Byddwch yn gweithio'n agos gyda Swyddogion a chydweithwyr Tîm Cyfieithu Cymraeg y Cyngor (Caerdydd Ddwyieithog) i sicrhau bod yr hyfforddiant yn adlewyrchu anghenion pob maes gwasanaeth ac mae'r cynnwys yn adlewyrchu'n gywir Safonau'r Gymraeg a gofynion y Cwricwlwm Cenedlaethol Cymreig.
Bydd cyfran o'r hyfforddiant yn cael ei ddarparu'n rhithiol fodd bynnag bydd angen cyflwyno rhai cyrsiau ar y safle yn Neuadd y Ddinas. Byddwch yn cael y ddyfais/offer gofynnol i alluogi gweithio gartref.
Nodiadau Ychwanegol – Oriau gwaith safonol 9:00-17:00, dydd Llun i ddydd Gwener fodd bynnag bydd angen hyblygrwydd pan fo angen gweithio y tu allan i'r oriau hyn.
Cyflog
💰 £30,095 - £34,373
Lleoliad
📍 Caerdydd, O gartref
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Swyddog Addysg ac Ieuenctid
Mae Stonewall Cymru yn edrych am Swyddog Addysg ac Ieuenctid
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Allwch chi ddychmygu'ch hunan yn creu adnoddau hyfforddi i athrawon ar gyfer elusen hawliau dynol flaenllaw? Hoffech chi ddefnyddio'ch sgiliau a'ch profiad i gefnogi ysgolion, colegau a gwasanaethau ieuenctid i gael mwy o effaith yn eu gwaith ar gynhwysiant LHDTC+? Oes gennych chi'r sgiliau a'r offer i ysgogi ystod eang o gynulleidfaoedd i ddatblygu eu dealltwriaeth o arfer da o ran cynhwysiant LHDTC+? Os yw hyn yn eich disgrifio chi, gwnewch gais i ymuno â ni fel Swyddog Addysg ac Ieuenctid yn Stonewall Cymru.
Mae Stonewall yn elusen hawliau dynol. Rydym yn sefyll dros bobl lesbiaidd, hoyw, deurywiol, traws, queer, cwestiynu ac ace (LHDTC+) ym mhobman. Rydym yn dychmygu byd lle mae pob person LHDTC+ yn rhydd i fod yn nhw eu hunain a gallwn fyw ein bywydau i'r eithaf.
Dros y 30+ mlynedd diwethaf, rydym wedi helpu i greu newid trawsnewidiol ym mywydau pobl LHDTC+ yn y DU. Mae ein hymgyrchoedd yn sbarduno newid cadarnhaol yn agweddau'r cyhoedd a pholisi cyhoeddus. Rydym yn sicrhau y gall pobl LHDTC+ ffynnu drwy gydol ein bywydau drwy adeiladu rhaglenni newid dwfn a pharhaus gyda'r sefydliadau sy'n cael yr effaith fwyaf arnom, p'un a'i ydym yn dysgu, yn gweithio, yn gweddïo neu'n chwarae chwaraeon.
Fel Swyddog Addysg ac Ieuenctid Stonewall Cymru, byddech yn rhan allweddol o dîm o bobl angerddol sy'n gweithio gyda'n gilydd i gyflawni ein Strategaeth Rhydd i Fod (2021-25). Ar gyfer y rôl hon rydym yn chwilio am swyddog dwyieithog profiadol gyda gwybodaeth a dealltwriaeth o'r sector addysg ac ieuenctid, profiad o feithrin perthynas â rhanddeiliaid a'r gallu i ysbrydoli ystod o gynulleidfaoedd trwy siarad cyhoeddus a chyflwyno.
Mae ein pobl yn ffurfio cymuned fywiog a deinamig. Mae gan lawer o'n staff fuddsoddiad personol yn y gwaith a wnawn, ac rydym yn dod o amrywiaeth eang o gefndiroedd. Rydym yn falch o'r amrywiaeth hwn, ac o'n cefnogaeth i'n gilydd – yn ein timau, ein grwpiau rhwydwaith, a'n cyfeillgarwch.
Cyflog
💰 £27,440
Lleoliad
📍 Caerdydd
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Rydych wedi gweld yr holl swyddi.