Swyddi Cymraeg
4 swydd yn cyfateb
Pennaeth Cyfathrebu a Marchnata
Mae RSPB Cymru yn edrych am Bennaeth Cyfathrebu a Marchnata
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mae hwn yn gyfle gwych i ymuno â thîm gwych sy’n achub byd natur ac yn ysbrydoli pobl yn un o dirweddau harddaf y DU.
Rydyn ni’n chwilio am arbenigwr Cysylltiadau Cyhoeddus i arwain ein gwaith cyfathrebu lleol yng Nghymru, gan weithio gyda chymheiriaid ledled y DU, i ddatblygu cynlluniau cyfathrebu i ymgysylltu a grymuso, gan addasu dulliau gweithredu sy’n addas i gyd-destun Cymru.
Mae’r Pennaeth Cyfathrebu a Marchnata yn creu strategaethau cyfathrebu i gefnogi ein gweledigaeth bod pobl yn deall, yn cefnogi ac yn ymgysylltu â gwaith RSPB Cymru. Mae’r swydd hon yn arwain y gwaith o ddatblygu a darparu cyfathrebu yng Nghymru, yn unol â strategaeth gyfathrebu’r RSPB.
Mae’r swydd yn rhan o’r tîm Codi Arian a Chyfathrebu, yn arwain tîm o bedwar ac yn adrodd i’r Pennaeth Codi Arian a Chyfathrebu.
Sgiliau, gwybodaeth a phrofiad hanfodol:
1. Gwybodaeth gadarn a phrofiad o gynllunio a strategaeth gyfathrebu, rheoleiddio a chydymffurfiaeth a rheoli risg enw da
2. Dealltwriaeth o strategaeth y brand a sut y dylid gweithredu hyn yng nghyd-destun y wlad
3. Sgiliau arwain a rheoli pobl - profiad o arwain a datblygu timau i ddatblygu aelodau o’r tîm ar gyfer sicrhau perfformiad o safon uchel a meithrin diwylliant cadarnhaol
4. Sgiliau cyfathrebu rhagorol ar lafar ac ar bapur i gyflwyno, dylanwadu a chynrychioli’r sefydliad
5. Profiad o ddarparu cyngor ac arbenigedd proffesiynol ynglyn â chyfathrebu
6. Cymhwyster lefel gradd mewn pwnc perthnasol neu’n gallu dangos gallu cyfatebol drwy brofiad gwaith
Mae hon yn swydd Amser Llawn, Parhaol am 37.5 awr yr wythnos.
Mae hon yn swydd hybrid a gallwch fod yn unrhyw le yng Nghymru. Disgwylir i chi deithio. Mae sgiliau yn y Gymraeg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon.
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 23:59, Dydd Sul 11 Rhagfyr 2022
Cynhelir cyfweliadau ar gyfer y swydd hon ddydd Gwener 16 Rhagfyr drwy Microsoft Teams.
Fel rhan o’r broses ymgeisio, gofynnir i chi lenwi ffurflen gais gan gynnwys tystiolaeth ynghylch sut rydych chi’n bodloni’r sgiliau, yr wybodaeth a’r profiad a restrir uchod.
Mae’r RSPB yn gyflogwr cyfle cyfartal. Mae Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 yn berthnasol i’r swydd hon.
Cyflog
💰 £42,768 - £47,446
Lleoliad
📍 Caerdydd
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Pennaeth Polisi ac Eiriolaeth
Mae WWF Cymru yn edrych am Bennaeth Polisi ac Eiriolaeth
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mae amser yn brin, ac mae ein planed dy angen di. Rydyn ni yn WWF Cymru yn chwilio am gefnogwr brwd o’r amgylchedd naturiol sydd â sgiliau eiriolaeth arbennig i arwain ar ddatblygu a chyflwyno ein gwaith polisi ac eiriolaeth yng Nghymru.
Fel Pennaeth Polisi ac Eiriolaeth byddi’n chwarae rôl allweddol er mwyn cyflawni ein nod o fyd lle mae pobl a natur yn ffynnu. Bydd hyn yn cynnwys dylanwadu ar uwch benderfynwyr yn y Senedd, sefydliadau allanol a busnesau. Byddwn yn dibynnu arnat i sicrhau ein bod yn llwyddo i gael effaith yng Nghymru, yn y DU ac yn rhyngwladol. Byddi yn cydweithio gyda chydweithwyr i ddatblygu ymgyrchoedd integredig yn ogystal ag adeiladu cysylltiadau ag elusennau â’r sectorau cyhoeddus a phreifat yng Nghymru er mwyn ennill cefnogaeth ar gyfer ein cynigion allweddol. Byddi hefyd yn cyfrannu at ddatblygiad cynlluniau gweithgaredd, eiriolaeth gwleidyddol a pholisïau y DU. Bydd hyn yn cynnwys adrodd ar gynnydd mewn cynlluniau a rhannu llwyddiannau ar er mwyn cael effaith ar benderfyniadau ar lefel y DU a byd-eang. Yn arwain tîm bychan, byddi’n rheoli cyllidebau a gweithredu fel llefarydd yn y cyfryngau. Byddi’n ein cynrychioli ar lefel uwch mewn nifer o rwydweithiau allweddol yn ogystal a darparu arweiniad i gydweithwyr lefel uwch ar faterion polisi.
I chwarae dy ran i wireddu ein effaith yng Nghymru, bydd angen profiad sylweddol arnat o arwain datblygu a gweithredu polisi amgylcheddol a dealltwriaeth gryf o llywodraeth a gwleidyddiaeth yng Nghymru. Byddi hefyd yn arbenigwr ar arwain cynnydd strategol a gweithredu ar waith polisi ac yn meddu ar wybodaeth arbenigol ar faterion amgylcheddol. Yn rwydweithiwr a dylanwadwr heb ei ail, yn ddiplomydd a pherswadiwr sydd â sgiliau llafar ac ysgrifenedig rhagorol, byddi’n arbennig am adeiladu perthnasau.
Os wyt ti’n angerddol dros wneud ein byd yn le gwell drwy dy waith, rydyn ni eisiau clywed gen ti. Clicia ar y linc i ymgeisio drwy ein gwefan. Cofrestra ar-lein a danfon copi o dy CV diweddaraf gyda’r Datganiad Cefnogol yn dangos sut wyt ti’n addas i weithio gyda ni.
Mae pob rôl yn WWF yn agored i geisiadau gan bob rhan o’r gymdeithas. Credwn ym mhotensial pawb heb ystyried; rhyw, hil, crefydd neu gred, tarddiad ethnig, gallu corfforol gwahanol, strwythur teuluol, ffactorau economaidd-gymdeithasol, oed, cenedligrwydd neu ddinasyddiaeth, partneriaeth briodasol, ddomestig neu sifil, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth o ran rhywedd, neu unrhyw agwedd arall sy’n golygu mai chi yw chi. Yma yn WWF, rydym wedi ymrwymo i gynhwysiant ymwybodol sy’n helpu i feithrin ethos o berthyn, cysylltiad a nod cyffredin. Yn ein barn ni, po fwyaf amrywiol ydym ni, gorau y byddwn ni; mae hyn yn ein dwyn ynghyd ac yn ein grymuso i ddatblygu, ymgysylltu ac ysbrydoli; ac yn hollbwysig, i helpu i greu dyfodol lle gall pobl fyw mewn cytgord â natur.
Mae ein polisïau a’n buddion yn adlewyrchu’r ffaith ei bod yn bwysig i bobl allu cael cydbwysedd da rhwng bywyd a gwaith a gallu dod â’u ‘hunan llawn’ i’r gwaith.
Mae ar ein byd eich angen chi mwy nag erioed o’r blaen. Ni yw’r genhedlaeth gyntaf sy’n gwybod ein bod ni’n dinistrio’r byd ac mae’n bosibl mai ni yw’r genhedlaeth olaf a all wneud unrhyw beth yn ei gylch. Rydyn ni’n chwilio am bobl sy’n teimlo’n angerddol ynghylch ei gwneud yn annerbyniol yn wleidyddol, yn gymdeithasol ac yn economaidd dinistrio adnoddau naturiol ein planed. Mae arnom angen ichi ymuno yn y frwydr dros ein byd.
Cyflog
💰 £52,303
Lleoliad
📍 Caerdydd
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Swyddog Polisi (x 2 swydd)
Mae WWF Cymru yn edrych am Swyddog Polisi (x 2 swydd)
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Dyma gyfle gwych i weithio gyda thîm ymroddedig a defnyddio’ch angerdd dros ddatblygu polisïau ym meysydd cadwraeth a chynaliadwyedd i helpu i achub ein planed.
Cyflog
💰 £26,713
Lleoliad
📍 Caerdydd
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Arbenigwr Materion
Mae WWF Cymru yn edrych am Arbenigwr Materion
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Ymunwch â ni fel Arbenigwr Materion Cyhoeddus a defnyddiwch eich arbenigedd ym maes materion cyhoeddus i ddylanwadu ar system wleidyddol Cymru a’r rhanddeiliaid perthnasol.
Cyflog
💰 £38,433
Lleoliad
📍 Caerdydd, Hybrid
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Rydych wedi gweld yr holl swyddi.