Swyddi Cymraeg
5 swydd yn cyfateb
Swyddog Gweinyddol
Mae Age Cymru yn edrych am Swyddog Gweinyddol
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mae Age Cymru, yr elusen genedlaethol sy’n cefnogi pobl hŷn yng Nghymru, yn chwilio am swyddog gweinyddol i ymuno â thîm llwyddiannus. Dyma gyfle gwych i chi ddefnyddio eich sgiliau gweinyddol er mwyn sicrhau ein bod ni’n darparu gwasanaeth arbennig i bobl hŷn.
Fel Swyddog Gweinyddol, bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn helpu Age Cymru i wireddu ein gweledigaeth strategol a’n cenhadaeth drwy ddarparu cefnogaeth gweinyddol. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn helpu i drefnu cyfarfodydd gyda phartneriaid allanol ac yn cyflawni amrywiaeth o dasgau gweinyddol a fydd yn galluogi’r Elusen i weithredu’n effeithiol.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn rhannu eu hamser rhwng gweithio mewn swyddfa a gweithio yn eu cartrefi, felly bydd angen iddynt deithio i’r swyddfa yng Nghaerdydd yn gyson yn ôl yr angen.
A wnewch chi anfon llythyr eglurhaol gyda’ch cais, gan egluro sut rydych chi’n ateb y meini prawf a nodwyd ym manyleb y person. Ni fyddwn yn ystyried ceisiadau heb lythyr eglurhaol.
Mi fydd gennych chi:
- Brofiad o weithio mewn swyddfa brysur fel swyddog gweinyddol.
- Profiad o ddarparu gwasanaeth cwsmeriaid arbennig, yn fewnol ac allanol.
- Dull cadarnhaol a hyderus wrth ryngweithio.
- Profiad o gadw cofnodion, defnyddio taenlenni a chronfeydd data, a delio gyda gwybodaeth gyfrinachol.
- Y gallu i weithio’n hyblyg ac yn rhagweithiol ar eich liwt eich hun ac fel rhan o dîm.
- Sgiliau ysgrifenedig a llafar gwych.
- Rydych chi’n deall sut i weithio gyda phecyn Microsoft Office 365.
Yr hyn rydyn ni’n ei gynnig:
- Cyflog cystadleuol, 27 diwrnod o wyliau blynyddol + gwyliau’r banc + system brynu gwyliau blynyddol
- Cynllun pensiwn arbennig, sicrwydd bywyd, cynllun arian-yn-ôl ar gyfer iechyd a Rhaglen Cymorth i Weithwyr
Gwybodaeth ychwanegol:
Bydd angen bod gan yr ymgeisydd llwyddiannus gar i deithio ledled Cymru. Bydd yr unigolyn yn teithio tu hwnt i Gymru ac yn gweithio oriau anghymdeithasol yn achlysurol. Bydd trefniadau yn cael eu gwneud ymlaen llaw.
Mae Age Cymru yn gyflogwr cyfle cyfartal. Rydyn ni’n annog pob ymgeisydd cymwys i ymgeisio. Rydyn ni’n croesawu ceisiadau gan bawb, waeth beth fo’u hoedran, rhyw, hil, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth o ran rhywedd, crefydd neu gred, statws priodasol/partneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth. Rydyn ni’n croesawu ceisiadau i weithio’n hyblyg.
Mae Age Cymru wedi ymrwymo i ddiogelu oedolion a phlant sy’n agored i niwed, camdriniaeth ac esgeulustod. Rydyn ni’n disgwyl i bawb sy’n gweithio gyda ni i rannu’r ymrwymiad hwn.
Rydyn ni’n eich annog i wneud cais cyn gynted â phosib. Byddwn ni’n edrych ar y ceisiadau drwy gydol y cyfnod hysbysebu, ac mae gennym hawl i gau’r hysbyseb ar unrhyw bryd.
Ni fyddwn ni’n derbyn cyfathrebiadau gan asiantaethau recriwtio nac asiantaethau gwerthu cyfryngau. Ni fyddwn yn derbyn CV ar hap gan asiantaethau recriwtio na’r ffioedd sy’n gysylltiedig â nhw.
Cytundeb: 35 awr yr wythnos - Cyfnod penodol tan ddiwedd mis Mawrth 2025 Dyddiad cau: 19 Tachwedd 2024
Cyflog
💰 £24,669
Lleoliad
📍 Caerdydd
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Cynorthwy-ydd Cefnogi Cofrestru
Mae Gofal Cymdeithasol Cymru yn edrych am Gynorthwy-ydd Cefnogi Cofrestru
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Yn Gofal Cymdeithasol Cymru, rydym yn darparu arweinyddiaeth ac arbenigedd ym maes gofal cymdeithasol a’r blynyddoedd cynnar yng Nghymru.
Ein gweledigaeth yw gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i ofal a chymorth i blant, oedolion a’u teuluoedd a’u gofalwyr. I wneud hyn, rydym yn arwain ar ddatblygu a rheoleiddio’r gweithlu gofal cymdeithasol, gwella gwasanaethau, data ac ymchwil i wella gofal.
Rydym nawr yn chwilio am Gynorthwyydd Cefnogi Cofrestru i ymuno â'n Tîm Cofrestru. Mae dwy rôl ar gael, un ar sail amser llawn am gontract chwe mis ac un ar sail amser llawn ar gyfer contract 12 mis.
Y Manteision
- Cyflog o £22,152 - £24,707 y flwyddyn
- 28 diwrnod o wyliau ynghyd â gwyliau banc (cynyddu gyda hyd gwasanaeth)
- Diwrnodau ychwanegol i ffwrdd rhwng y Nadolig a'r Flwyddyn Newydd
- Cynllun pensiwn llywodraeth leol
- Polisi gwaith hyblyg
- Gweithio hybrid
- Polisi absenoldeb teuluol
Oes gennych chi lygad am fanylion a diddordeb mewn prosesu data? Allwch chi ateb ymholiadau yn hyderus a darparu gwybodaeth dros y ffôn? Ydych chi eisiau ymuno â thîm cyfeillgar a chefnogol y mae eu gwaith yn helpu i amddiffyn y cyhoedd yng Nghymru? Os felly, rydym am glywed gennych.
Y Rôl
Fel Cynorthwyydd Cymorth Cofrestru, byddwch yn prosesu ceisiadau i gofrestru ar Gofrestr Gofal Cymdeithasol Cymru.
Gan weithredu fel eu pwynt cyswllt cyntaf, byddwch yn darparu cefnogaeth i gwsmeriaid ac yn ymateb i ymholiadau dros y ffôn, e-bost ac wyneb yn wyneb.
Gan ddarparu cymorth gweinyddol rhagorol, byddwch yn adolygu, prosesu a chofnodi gwybodaeth a ddarperir, gan sicrhau bod y gofynion ar gyfer cofrestru yn cael eu bodloni a bod y manylion yn gywir.
Yn ogystal, byddwch yn:
- Diweddaru manylion personol a chyflogaeth y bobl gofrestredig
- Prosesu taliadau ar gyfer cofrestru
- Coladu gwybodaeth i gynorthwyo gyda chynhyrchu adroddiadau
Amdanat ti
I gael eich ystyried yn Gynorthwyydd Cymorth Cofrestru, bydd angen:
- Profiad mewn amgylchedd gwasanaeth cwsmeriaid
- Sgiliau Microsoft Office Suite, yn benodol Word, Outlook ac Excel
- Y gallu i ddilyn gweithdrefnau a phrosesu data yn drefnus ac yn gywir
- Y gallu i graffu ar ddata i sicrhau cywirdeb
- Sgiliau cyfathrebu effeithiol
Byddai'r gallu i ddarllen, ysgrifennu a siarad Cymraeg yn rhugl o fudd i'ch cais.
Y dyddiad cau ar gyfer y rôl hon yw 12 Mawrth 2023.
Byddwn yn adolygu ceisiadau wrth iddynt ddod i mewn, felly gall y rôl hon gau yn gynt na'r dyddiad a hysbysebwyd.
Gallai sefydliadau eraill alw'r swydd hon yn Weinyddwr, Gweinyddwr Mewnbynnu Data, Gweinyddwr Gwasanaeth Cwsmer, Cydlynydd Gwasanaeth Cwsmer, Cynorthwyydd Gweinyddol Gwasanaeth Cwsmer, neu Gynorthwyydd Gweinyddol.
Felly, os ydych chi am ddatblygu eich set sgiliau fel Cynorthwyydd Cymorth Cofrestru, gwnewch gais trwy'r botwm a ddangosir. Mae'r swydd wag hon yn cael ei hysbysebu gan Webrecruit. Mae'r gwasanaethau a hysbysebir gan Webrecruit yn rhai Asiantaeth Gyflogaeth.
Cyflog
💰 £22,152 - £24,707
Lleoliad
📍 Caerdydd, Llanelwy, Hybrid
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Swyddog Cyllid
Mae Estyn yn edrych am Swyddog Cyllid
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Rydym yn chwilio am unigolyn sy’n angerddol ynghylch Cyllid a Gwasanaeth Cwsmeriaid i ymuno â ni fel Swyddog Cyllid. Byddwch yn cefnogi datblygu a chynnal ein cofnodion ariannol, yn darparu cymorth technegol i’n deiliaid cyllideb ac uwch reolwyr ac yn helpu cynorthwyo’r Tîm Cyllid ehangach.
Fel Swyddog Cyllid, bydd gennych chi rôl bwysig mewn rheoli a chyflawni’r prosesau ariannol sy’n darparu ar gyfer monitro cyllidebau, adrodd a chreu ein cyfrifon adnoddau blynyddol. Byddwch yn cynorthwyo’r Rheolwr Gwasanaethau Ariannol i ddatblygu a chynnal systemau, polisïau a gweithdrefnau cyllid. Byddwch yn rheolwr llinell ar 3 swyddog gweinyddol. Os ydych chi’n siarad Cymraeg, byddwch chi’n defnyddio eich medrau cyfathrebu yn Gymraeg ac yn Saesneg, fel ei gilydd.
Meini prawf yn benodol i’r swydd
Mae’n hanfodol eich bod:
· yn meddu ar gymhwyster cyllid (o leiaf AAT lefel 3 neu gyfwerth)
· yn meddu ar brofiad mewn cynnal cofnodion manwl a chywir, e.e. cofnodion cyllid neu asedau a stocrestrau
· yn meddu ar fedrau cyfathrebu, llythrennedd, rhifedd a TG da (gan gynnwys Microsoft Office)
· yn drefnus ac yn meddu ar alluoedd da o ran rheoli amser ac yn gallu blaenoriaethu gwaith a chwblhau tasgau o fewn graddfeydd amser cytunedig
· yn unigolyn hawdd mynd atoch ac yn gallu ffurfio perthnasoedd gweithio effeithiol
· yn deall sut i gyflwyno gwasanaeth cwsmeriaid da
· yn gallu nodi tueddiadau a materion mewn data er mwyn cyfleu a chyflwyno gwybodaeth dechnegol / arbenigol mewn ffordd y gall pobl eraill (gan gynnwys pobl nad ydynt yn arbenigwyr) ei deall
· yn gallu canfod a datrys problemau yn gyflym, gan ddilyn prosesau sefydledig
· yn gallu gweithio’n gywir gan roi sylw i fanylder
· yn gallu gweithio’n annibynnol a defnyddio’ch blaengaredd, tra byddwch chi hefyd yn cydweithio ag aelodau’r tîm a phobl eraill yn y sefydliad
· yn gallu canolbwyntio a chyflwyno mewn amgylchedd gweithio hybrid
Mae’n fanteisiol eich bod:
yn meddu ar ymwybyddiaeth o weithgarwch a mentrau twyll cyfredol a nodwyd ac ystyried yr effaith ar sefydliadau
yn gallu gweithio trwy gyfrwng y Gymraeg (yn ysgrifenedig ac ar lafar)
Ymddygiadau allweddol
· Gweld y darlun mawr
· Newid a gwella
· Rheoli gwasanaeth o ansawdd da
· Cyflawni ar gyflymdra
· Gweithio gyda’n gilydd
Cyflog - £26,900 - £30,610 y flwyddyn
Oriau gwaith a gweithio hyblyg: Yr oriau amser llawn yw 37 awr, 5 diwrnod yr wythnos (dydd Llun i ddydd Gwener), ac eithrio breaks. Rydym yn croesawu ceisiadau i weithio’n rhan-amser/oriau llai, rhannu swydd neu ar sail hyblyg arall.
Lleoliad – Caerdydd, lle mae lleoedd parcio ar gael am ddim. Rydym yn gweithredu trefniadau gweithio hybrid anffurfiol ar hyn o bryd, yn amodol ar anghenion y busnes a chytundeb eich rheolwr.
Mae manylion ar sut i wneud cais ar gael o www.estyn.llyw.cymru
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 10:00am, Ddydd Llun, 6 Chwefror 2023.
Cyflog
💰 £26,900 - £30,610
Lleoliad
📍 Caerdydd, Hybrid
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Gweinyddwr Systemau Gwybodaeth (Gradd AO)
Mae Estyn yn edrych am Weinyddwr Systemau Gwybodaeth (Gradd AO)
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Ydych chi’n frwd am TG a gwasanaeth cwsmeriaid? Rydym yn chwilio am Weinyddwr Systemau Gwybodaeth i ymuno â’n tîm Gwasanaethau Canolog. Fel rhan o’n tîm Systemau Gwybodaeth a Hysbysrwydd yn y Gwasanaethau Canolog, bydd gennych chi rôl hanfodol mewn cefnogi cyflawni ein hamcanion allweddol.
Mae ein Gweinyddwyr Systemau Gwybodaeth yn helpu i gynnal a chefnogi’r systemau busnes hanfodol sy’n ategu ein gwaith arolygu a chyngor.
Byddwch yn cefnogi’r gwaith o ddatblygu a chynnal a chadw ein cofnodion a’n systemau rheoli gwybodaeth (gan gynnwys SharePoint ar-lein, yr allrwyd a systemau pwrpasol eraill) ac yn cynnig cefnogaeth a chymorth TG technegol i ddefnyddwyr systemau i sicrhau y caiff ein swyddogaethau allweddol eu cyflawni. Os ydych chi’n siarad Cymraeg, byddwch chi’n defnyddio eich medrau cyfathrebu yn Gymraeg ac yn Saesneg, fel ei gilydd.
Bydd eich rôl yn cynnwys amrywiaeth o gyfrifoldebau gwahanol gan ddefnyddio pecynnau meddalwedd a systemau TG, er enghraifft:
· Darparu cymorth gweinyddol a thechnegol effeithiol a defnyddiol ar gyfer yr holl systemau TG wyneb-yn-wyneb, drwy’r e-bost a thros y ffôn, gan gymryd camau angenrheidiol, lle bo hynny’n briodol
· Ychwanegu, tynnu a diweddaru caniatâd defnyddwyr a strwythurau safleoedd
· Awgrymu gwelliannau i brosesau gan ddefnyddio technoleg
· Datrys unrhyw faterion y rhoddir gwybod amdanynt
· Ymateb i ymholiadau technegol a helpu defnyddwyr systemau TG i ddatrys problemau
· Paratoi nodiadau arweiniad a fideos ‘sut i’ i gynorthwyo defnyddwyr a datrys problemau cyffredin
· Paratoi a darparu hyfforddiant i ddefnyddwyr
· Darparu cymorth technegol ar gyfer prosiectau systemau gwybodaeth
· Sicrhau diogelwch safleoedd drwy reolyddion mynediad, creu copïau wrth gefn a chynnal a chadw polisïau diogelwch
· Ymgymryd ag unrhyw ddyletswyddau eraill a all fod yn rhesymol ofynnol gan reolwyr
Meini prawf yn benodol i’r swydd
Mae’n hanfodol:
· bod gennych fedrau cyfathrebu, llythrennedd a rhifedd da
· eich bod yn defnyddio systemau TG yn hyderus, gan gynnwys Microsoft Office 365
· eich bod yn drefnus, yn gallu rheoli amser yn dda a’ch bod yn gallu blaenoriaethu gwaith a chwblhau tasgau o fewn terfynau amser cytûn
· eich bod yn hawdd mynd atoch ac yn gallu meithrin perthnasoedd gwaith effeithiol
· eich bod yn deall sut i ddarparu gwasanaeth cwsmeriaid o ansawdd da
· eich bod yn gallu nodi a datrys problemau’n gyflym gan ddilyn prosesau sefydledig
· eich bod yn gallu gweithio’n gywir a bod gennych lygad craff
· eich bod yn gallu gweithio’n annibynnol a defnyddio eich menter eich hun, wrth gydweithio ag aelodau’r tîm a phobl eraill yn y sefydliad ar yr un pryd
· eich bod yn gallu canolbwyntio a chyflawni mewn amgylchedd gweithio hybrid
Mae’n fanteisiol:
· bod gennych brofiad o greu cynnwys a gweinyddu SharePoint Online
· bod gennych brofiad o weinyddu systemau gwybodaeth ac egwyddorion diogelwch
· bod gennych brofiad o ddatblygu/cymhwyso dangosfyrddau Microsoft Power Apps, Power Automate a Power BI
· eich bod yn gallu gweithio trwy gyfrwng y Gymraeg (yn ysgrifenedig ac ar lafar)
Ymddygiadau allweddol
· Gweld y darlun cyflawn
· Newid a gwella
· Rheoli gwasanaeth o ansawdd da
· Cyflawni’n gyflym
Cyflog - £21,300 - £24,630 (codiad cyflog yn yr arfaeth)
Oriau gwaith – Yr oriau gweithio amser llawn yw 37 awr dros wythnos pum niwrnod (dydd Llun i ddydd Gwener), ac eithrio egwylion. Rydym yn croesawu ceisiadau am swyddi rhan-amser / llai o oriau, rhannu swydd neu ar sail hyblyg arall.
Lleoliad – Caerdydd, lle mae lleoedd parcio ar gael am ddim.
Rydym yn gweithredu trefniadau gweithio hybrid anffurfiol ar hyn o bryd, yn amodol ar anghenion y busnes a chytundeb eich rheolwr.
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 10am, ddydd Llun, 14 Tachwedd 2022.
Cyflog
💰 £21,300 - £24,630
Lleoliad
📍 Caerdydd, Hybrid
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Swyddog Cyfathrebu a Digwyddiadau (Cyfnod penodol hyd at 2 flynedd)
Mae Estyn yn edrych am Swyddog Cyfathrebu a Digwyddiadau (Cyfnod penodol hyd at 2 flynedd)
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Fel Swyddog Cyfathrebu a Digwyddiadau, byddwch yn cefnogi creu, gweithredu a gwerthuso gweithgareddau cyfathrebu digidol yn ein rhaglen digwyddiadau a hyfforddi, ac ar draws cyfryngau a berchnogir, a enillir ac y telir amdanynt i helpu cyflawni ein Strategaeth Ymgysylltu â Rhanddeiliaid. Byddwch yn defnyddio eich medrau cyfathrebu a’ch gwybodaeth i gefnogi ein hymagwedd ddigidol at gyfathrebu i gyrraedd ein cynulleidfa darged a chefnogi ein nodau strategol.
Meini prawf yn benodol i swydd
Mae’n hanfodol:
· fod gennych chi brofiad neu gymhwyster perthnasol mewn amgylchedd cyfathrebu – yn enwedig arbenigedd mewn defnyddio technoleg ddigidol mewn ymgyrchoedd, fel gweminarau, ffrydio byw a chreu fideo difyr
· bod gennych chi hanes profedig o gynnal ymgyrchoedd cyfathrebu
· eich bod yn dilyn hynt a helynt tueddiadau sy’n dod i’r amlwg mewn cyfathrebu digidol ac yn cymhwyso a rhannu’r wybodaeth hon
· eich bod yn meddu ar fedrau cyfathrebu, llythrennedd a rhifedd rhagorol
· eich bod yn meddu ar fedrau ysgrifenedig cryf a phrofiad profedig o ysgrifennu copi ac yn gallu trosi a chyflwyno gwybodaeth dechnegol / arbenigol mewn ffordd y gall pobl eraill ei deall (gan gynnwys pobl nad ydynt yn arbenigwyr)
· eich bod yn unigolyn hawdd mynd ato/ati ac yn gallu ffurfio perthnasoedd gweithio effeithiol gyda rhanddeiliaid mewnol ac allanol ar bob lefel i sicrhau bod gwybodaeth yn cyrraedd y bobl gywir ar yr adeg gywir
· eich bod yn hyderus yn defnyddio systemau TG, gan gynnwys Microsoft Office
· eich bod yn drefnus ac yn meddu ar fedrau rheoli amser da, ac yn gallu blaenoriaethu gwaith a chwblhau tasgau o fewn graddfeydd amser cytûn
· eich bod yn gallu gweithio’n annibynnol, defnyddio’ch blaengaredd, gan hefyd gydweithio â phobl eraill ar draws y sefydliad, gan gynnwys uwch reolwyr
Mae’n fanteisiol eich bod yn meddu ar y canlynol:
· y gallu i fonitro a dadansoddi effeithiolrwydd ymgyrch gyfathrebu, gan ddefnyddio ystod o ffynonellau sydd ar gael i werthuso gwybodaeth
· medrau dylunio sylfaenol neu brofiad a gwybodaeth ymarferol am Adobe PremierPro, Photoshop ac InDesign
· medrau Cymraeg (ysgrifenedig a llafar)
Ymddygiadau allweddol
· Gweld y darlun mawr
· Cyfathrebu a dylanwadu
· Rheoli gwasanaeth o ansawdd da
· Cyflawni ar gyflymdra
· Gwneud penderfyniadau effeithiol
Dyma’r Cymwyseddau Proffesiynol Cyfathrebu ar gyfer y rôl hon:
· Defnyddio mewnwelediad i nodi cynulleidfaoedd targed a phartneriaid a llywio amcanion, negeseuon ac atebion cyfathrebu · Datblygu’r strategaeth a’r cynllun cyfathrebu. Dewis sianelau a datblygu negeseuon a chynnwys allweddol ar gyfer cynulleidfaoedd targed
· Nodi meini prawf gwerthuso
· Datblygu a gweithredu strategaethau a chynlluniau cyfathrebu effeithiol. Gweithio gyda rhanddeiliaid a phartneriaid i gyflawni cyfathrebu
· Asesu effaith ac effeithiolrwydd cyfathrebu. Adolygu cyflawni amcanion. Nodi’r gwersi a ddysgwyd a rhannu adborth
Cyflog: £25,860 - £29,430
Oriau gwaith a gweithio hyblyg: Yr oriau amser llawn yw 37 awr, 5 diwrnod yr wythnos (dydd Llun i ddydd Gwener), ac eithrio breaks. Rydym yn croesawu ceisiadau i weithio’n rhan-amser/oriau llai, rhannu swydd neu ar sail hyblyg arall.
Lleoliad – Caerdydd, lle mae lleoedd parcio ar gael am ddim. Rydym yn treialu cynllun gweithio hybrid ar hyn o bryd.
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 10am, Dydd Llun 8 Awst 20
Cyflog
💰 £25,860 - £29,430
Lleoliad
📍 Hybrid, Caerdydd
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Rydych wedi gweld yr holl swyddi.