Swyddi Cymraeg
2 swydd yn cyfateb
Pennaeth Cymeradwyo a Dynodi Cymwysterau
Mae Cymwysterau Cymru yn edrych am Bennaeth Cymeradwyo a Dynodi Cymwysterau
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Ni yw Cymwysterau Cymru, y sefydliad annibynnol sy’n gyfrifol am reoleiddio cymwysterau cyffredinol a galwedigaethol yng Nghymru. Rydym yn canolbwyntio ar gymwysterau a ariennir yn gyhoeddus, gan gynnwys TGAU, Safon Uwch a chymwysterau galwedigaethol.
Rydym ar hyn o bryd yn chwilio am Bennaeth Cymeradwyo a Dynodi Cymhwyster i ymuno â ni ar sail barhaol, amser llawn, gan weithio 37 awr yr wythnos.
Y Manteision
- Cyflog o £51,380 - £61,440 y flwyddyn
- 30 diwrnod o wyliau blynyddol (yn ogystal â gwyliau cyhoeddus a hyd at dri diwrnod o gau swyddfa dros y Nadolig)
- Trefniadau gweithio hyblyg
- Aelodaeth o Gynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil
Mae hwn yn gyfle gwych i gyflwyno rhaglen waith i roi canlyniadau o ansawdd uchel i’r sector addysg ledled Cymru.
Y Rôl
Fel Pennaeth Cymeradwyo a Dynodi Cymwysterau, byddwch yn rheoli tîm rheoleiddio sy'n sicrhau bod cymwysterau'n bodloni'r meini prawf angenrheidiol i gael eu derbyn i'n fframwaith.
Yn benodol, byddwch yn goruchwylio'r broses o gynhyrchu tystiolaeth i lywio'r broses o wneud penderfyniadau a rhoi cyngor i sicrhau bod cymwysterau sy'n cael eu diwygio yn bodloni'r safonau angenrheidiol.
Byddwch yn goruchwylio’r gwaith o reoli’r tîm o ddydd i ddydd drwy nodi anghenion staffio, sicrhau bod cyllidebau’n cael eu bodloni a bod gwasanaeth rhagorol yn cael ei ddarparu’n gyson.
Yn ogystal, byddwch yn:
- Goruchwylio datblygiad cronfa ddata Cymwysterau yng Nghymru
- Sicrhau bod y prosesau cymeradwyo yn bodloni gofynion cyfreithiol
- Lleihau effaith andwyol cymwysterau a dynnir yn ôl ar ddysgwyr
Amdanoch Chi
I gael eich ystyried yn Bennaeth Cymeradwyo a Dynodi Cymhwyster, bydd angen y canlynol arnoch:
- Hanes o reoli, adeiladu ac ysgogi timau hyblyg
- Profiad mewn cyd-destun addysg neu gymwysterau
- Profiad o reoli rhaglenni a phrosiectau
- Gwybodaeth am egwyddorion rheoleiddio
- Gwybodaeth am y system addysg a chymwysterau yng Nghymru
- Gwybodaeth a dealltwriaeth o egwyddorion asesu
- Sgiliau rheoli rhaglen a phrosiect ardderchog
- Gradd (neu gyfwerth) mewn disgyblaeth berthnasol
Y dyddiad cau ar gyfer y rôl hon yw 27 Tachwedd 2022.
Gallai sefydliadau eraill alw'r rôl hon yn Arweinydd Cymeradwyo a Dynodi Cymhwyster, Arweinydd Rhaglen Cymeradwyo a Dynodi Cymhwyster, neu Bennaeth Cymeradwyo a Rheoleiddio Cymwysterau.
Felly, os gallwch sicrhau bod ein cymwysterau yn bodloni safonau rheoleiddio fel Pennaeth Cymeradwyo a Dynodi Cymwysterau, gwnewch gais drwy'r botwm a ddangosir. Mae'r swydd wag hon yn cael ei hysbysebu gan Webrecruit. Mae'r gwasanaethau a hysbysebir gan Webrecruit yn rhai Asiantaeth Gyflogaeth.
Cyflog
💰 £51,380 - £61,440
Lleoliad
📍 Casnewydd, O gartref
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Rheolwr Cymwysterau
Mae Cymwysterau Cymru yn edrych am Reolwr Cymwysterau
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Ni yw Cymwysterau Cymru, y sefydliad annibynnol sy’n gyfrifol am reoleiddio cymwysterau cyffredinol a galwedigaethol yng Nghymru. Rydym yn canolbwyntio ar gymwysterau a ariennir yn gyhoeddus, gan gynnwys TGAU, Safon Uwch a chymwysterau galwedigaethol.
Ar hyn o bryd rydym yn chwilio am o leiaf pedwar Rheolwr Cymwysterau i ymuno â ni ar gontractau cyfnod penodol tan 31 Mawrth 2025, gan weithio 37 awr yr wythnos.
Byddai gennym ddiddordeb mewn ystyried ceisiadau i ymgymryd â'r swyddi hyn fel cyfle secondiad o hyd at ddwy flynedd ar gyfer pob rôl.
Mae ein gweithwyr yn gweithio ar sail hybrid. Mae hyn yn golygu mai’r ganolfan gytundebol yw ein swyddfa ym Mharc Imperial, Casnewydd, NP10 8AR, ond y gall gweithwyr weithio’n hyblyg gyda chydbwysedd rhwng y cartref a’r swyddfa.
Ein nod yw penodi un siaradwr Cymraeg rhugl ar gyfer yr ymarfer recriwtio hwn.
Y Manteision
- Cyflog o £40,100 - £47,470 y flwyddyn
- 30 diwrnod o wyliau blynyddol (yn ogystal â gwyliau cyhoeddus a hyd at dri diwrnod ar gau dros y Nadolig)
- Trefniadau gweithio hyblyg
- Aelodaeth o Gynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil
Y Rôl
Fel Rheolwr Cymwysterau, byddwch yn ymuno â'r Gyfarwyddiaeth Polisi a Diwygio Cymwysterau i ddechrau.
Gan arwain ar brosiectau allweddol, byddwch yn ymwneud ag ystod eang o wahanol waith. Gall hyn gynnwys prosiectau ar gymwysterau ar gyfer y Cwricwlwm newydd i Gymru, cymwysterau galwedigaethol a thechnegol, adolygiadau sector, Tystysgrif Her Sgiliau (o fewn Bagloriaeth Cymru) neu Sgiliau Hanfodol Cymru.
Bydd eich gwaith yn broffil uchel ac yn ddylanwadol a byddwch yn chwarae rhan arweiniol mewn adolygu a diwygio cymwysterau.
Amdanat ti
I gael eich ystyried yn Rheolwr Cymwysterau, bydd angen y canlynol arnoch:
- Profiad o weithio ar lefel reoli mewn cyd-destun rheoleiddio, datblygu cymwysterau neu sicrhau ansawdd
- Profiad yn y sectorau cymwysterau, addysg neu hyfforddiant
- Profiad o reoli neu arwain prosiectau neu raglenni gwaith
- Profiad o ymgysylltu a thrafod ag ystod eang o randdeiliaid
- Dealltwriaeth amlwg o ddulliau o ddatblygu, adolygu, rheoleiddio neu sicrhau ansawdd cymwysterau a/neu raglenni addysg
- Dealltwriaeth amlwg o dirwedd cymwysterau ledled y DU
Byddai’r gallu i gyfathrebu trwy gyfrwng y Gymraeg o fudd mawr i’ch cais.
Gall sefydliadau eraill alw'r rôl hon yn Rheolwr Cydymffurfiaeth, Rheolwr Rheoleiddio, Rheolwr Rheoliadau Cymwysterau, Rheolwr Prosiect, neu Reolwr Rhaglen.
Felly, os ydych am ddatblygu eich gyrfa fel Rheolwr Cymwysterau, gwnewch gais drwy'r botwm a ddangosir. Mae'r swydd wag hon yn cael ei hysbysebu gan Webrecruit. Mae'r gwasanaethau a hysbysebir gan Webrecruit yn rhai Asiantaeth Gyflogaeth.
Cyflog
💰 £40,100 - £47,470
Lleoliad
📍 Casnewydd, Hyblyg
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Rydych wedi gweld yr holl swyddi.