Swyddi Cymraeg
2 swydd yn cyfateb
Uwch Weithiwr Chwarae
Mae Menter Iaith Casnewydd yn edrych am Uwch Weithiwr Chwarae
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mae Menter Iaith Casnewydd yn chwilio am Uwch-Weithiwr Chwarae i weithio yn ei Clybiau Sbort a Sbri.
Pwrpas y swydd:
• Datblygu a chynnal amgylchedd chwarae cyfoethog, effeithiol, hyblyg ac ysgogol
• Goruchwylio cynllunio ar gyfer chwarae plant a phobl ifanc
• Goruchwylio systemau rheoli budd risg sy’n effeithiol
• Sicrhau cydymffurfiad â’r rheoliadau ar ofal dydd, gan gyfeirio at y Safonau Gofynnol Cenedlaethol ar gyfer Gofal Plant a Reoleiddir.
**Prif ddyletswyddau **
• Sicrhau’r ddarpariaeth o amgylchedd chwarae cyfoethog, effeithiol, hyblyg ac ysgogol, lle gall y plant chwarae’n rhydd yn ôl yr hyn a ddarperir.
• Cydlynu a sicrhau y cesglir y plant o'r ysgol/ion.
• Goruchwylio cynllunio a pharatoi’r gweithgareddau chwarae, paratoi’r ardal chwarae a’r adnoddau, a fydd yn ateb eu hanghenion chwarae unigol.
• Meithrin perthnasoedd effeithiol ac onest gyda phlant a phobl ifanc, a’u rhieni/gofalwyr.
• Sicrhau bod asesiadau risg yn cael eu cynnal, a lle bo’n briodol yn cynnwys ymgymryd ag asesiadau risg: budd ar chwarae plant a phobl ifanc a chefnogi staff yn y broses hon.
• Creu cysylltiadau â’r gymuned ehangach er mwyn rhoi amryw o gyfleoedd i blant a phobl ifanc a chefnogi’r dealltwriaeth o hawl plant i chwarae.
• Dilyn y canllawiau a’r gweithdrefnau ar Ddiogelu fel yr argymhellir gan yr awdurdod sy’n cofrestru.
• Dilyn ac adolygu polisïau a gweithdrefnau’r Clwb, gan gynnwys diogelu, iechyd a diogelwch, ymddygiad, gweithdrefnau brys, a chyfrinachedd fel y cymeradwyir gan yr awdurdod sy’n cofrestru.
• Sicrhau bod staff yn dilyn, ac yn ymgysylltu â’r polisïau a’r gweithdrefnau, a’u hadolygu.
• Sicrhau y goruchwylir y plant a’r bobl ifanc yn briodol drwy gydol y sesiynau.
• Gweinyddu Cymorth Cyntaf fel y bo’n gymwys.
• Sicrhau y cesglir y plant a’r bobl ifanc gan rieni/gofalwyr yn gweithio o fewn y canllawiau polisi.
• Sicrhau y darperir ystod o opsiynau bwyd a diod yn unol â’r polisïau a’r gweithdrefnau.
• Unrhyw ddyletswydd arall perthynol i’r swydd ar gais y pwyllgor/perchennog/rheolwr.
Mae Menter Iaith Casnewydd yn gwmni cymunedol dielw sydd â’r nod o gynyddu defnydd y Gymraeg gan blant ac oedolion Casnewydd ac i alluogi pobl Casnewydd i fyw a gweithio yn y Gymraeg.
Mae Menter Iaith Casnewydd wedi ymrwymo i gefnogi egwyddorion cyfle cyfartal ac yn cydnabod manteision denu, cadw ac ysgogi gweithlu amrywiol a chynrychioliadol. Cysylltwch gyda [email protected] am fanylion pellach
Cyflog
💰 £21,000 pro rata
Lleoliad
📍 Casnewydd
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Swyddog Datblygu Cymunedol Menter Iaith Casnewydd
Mae Menter Iaith Casnewydd yn edrych am Swyddog Datblygu Cymunedol Menter Iaith Casnewydd
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mae Menter Iaith Casnewydd yn gwmni cymunedol di-elw sy’n bodoli i hybu’r defnydd o’r Gymraeg ac sydd â’r nod o gyfrannu at gynnal y defnydd o’r Gymraeg yn gymunedol, cefnogi rhwydweithiau cymdeithasol y Gymraeg a chynyddu statws y Gymraeg ym mhob sector o fewn Dinas a Sir Casnewydd.
Gwaith Swyddog Datblygu Cymunedol Menter Iaith Casnewydd yw datblygu a chryfhau cynnig a gwasanaethau’r Fenter i gymunedau Casnewydd a chodi ymwybyddiaeth o’n gwaith o fewn cymunedau Casnewydd. Prif ddyletswyddau’r rôl yw llunio, cydlynu a gweithredu rhaglen o weithgareddau a digwyddiadau amrywiol a chynhwysfawr i bobl o bob oed ar hyd a lled sir Dinas Casnewydd er mwyn iddynt gael mwy o gyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg.
Bydd yr unigolyn delfrydol yn gallu datblygu syniadau newydd ac arloesol i barhau i adeiladu a datblygu darpariaeth a rhaglenni presennol y Fenter. Chwiliwn am berson egnïol a brwdfrydig sydd yn gallu gweithio’n annibynnol ac yn rhan o dîm yn effeithiol. Byddwch yn gallu cysylltu’n hyderus gydag ystod o bobl ac yn awyddus ac yn barod i ddysgu pethau newydd ar hyd y ffordd hefyd.
Mae Menter Iaith Casnewydd wedi ymrwymo i gefnogi egwyddorion cyfle cyfartal ac yn cydnabod manteision denu, cadw ac ysgogi gweithlu amrywiol a chynrychioliadol.
Cyflog
💰 £21,074- £23,111
Lleoliad
📍 Casnewydd
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Rydych wedi gweld yr holl swyddi.