Swyddi Cymraeg
10 swydd yn cyfateb
Anogwr Gwaith Dwyieithog (Cymraeg/Saesneg)
Mae Adran Gwaith a Phensiynau yn edrych am Anogwr Gwaith Dwyieithog (Cymraeg/Saesneg)
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
A ydych yn siaradwr Cymraeg?
A fyddech yn mwynhau'r cyfle i siarad Cymraeg yn eich gwaith bob dydd, i ddarparu gwasanaeth i'n cwsmeriaid sy'n siarad Cymraeg?
Mae'r Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) yn gyfrifol am les, pensiynau a pholisi cynnal a chadw plant ac mae'n gyfrifol am helpu pobl i symud i gyflogaeth, cefnogi pensiynwyr a gwarchod rhai o'r rhai mwyaf bregus yn ein cymdeithas.
Yn DWP rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod ein gweithlu yn adlewyrchu'r cymunedau yr ydym yn eu gwasanaethu ac felly rydym am ychwanegu at ein rhwydwaith presennol o gydweithwyr sy'n siarad Cymraeg, drwy recriwtio sawl Anogwr Gwaith dwyieithog (Cymraeg/Saesneg) ledled Cymru.
Fel Anogwr Gwaith dwyieithog (Cymraeg/Saesneg) byddwch yn chwarae rhan allweddol wrth wneud gwahaniaeth go iawn i fywydau pobl, yn enwedig ein cwsmeriaid sy'n siarad Cymraeg drwy eu cefnogi i gael mynediad at wasanaethau'r DWP
Swydd ddisgrifiad
Bydd eich rôl yn cynnwys
- Cael llwyth achosion o gwsmeriaid y byddwch yn gyfrifol amdanynt.
- Meithrin perthnasoedd cadarnhaol gyda'ch cwsmeriaid sy'n eu hannog a'u hysgogi i wneud y gorau o'u potensial gwaith ac enillion a dod yn annibynnol yn ariannol.
- Cynnig cyngor a chefnogaeth i helpu eich cwsmeriaid i chwilio am waith a lle bo angen eu cefnogi i ddatblygu sgiliau i fod yn llwyddiannus yn eu chwiliad swydd mewn amgylchedd digidol e.e. gwefannau chwilio am swydd, e-bost, uwchlwytho dogfennau ac ati
- Cynnal trafodaethau wyneb yn wyneb, digidol a ffôn gyda chwsmeriaid yn ddyddiol, yn Gymraeg neu Saesneg.
- Datblygu gwybodaeth fanwl am y farchnad lafur leol yn rhagweithiol, gan gydnabod y rolau sydd gan ein Partneriaid a Chyflogwyr wrth helpu ein cwsmeriaid i sicrhau cyflogaeth.
Gwneud penderfyniadau amserol, yn seiliedig ar anghenion y cwsmer, i'w cyfeirio at gymorth priodol.
Manyleb bersonol
Meini Prawf Allweddol
I fod yn llwyddiannus bydd angen i chi
- Fod â’r gallu i siarad a deall Cymraeg llafar (Meini Prawf Hanfodol). Cyfyngir Cymraeg ysgrifenedig i ysgrifennu nodiadau byr neu negeseuon. (gweler yr Adran Iaith)
- Cyfathrebu'n dda gyda grŵp amrywiol o gwsmeriaid, partneriaid a chyflogwyr gyda'r nod yn y pen draw o gefnogi pobl i mewn i waith. (Meini Prawf Arweiniol);
Ieithoedd
Y gallu i siarad a deall Cymraeg llafar
Safon Cymraeg Llafar –
Dylai ymgeiswyr allu sgwrsio’n glir a deall Cymraeg llafar i:
- Trafod amgylchiadau personol cwsmeriaid, hanes gwaith ac archwilio nodau swydd
- Egluro rheolau, gofynion a phenderfyniadau budd-daliadau
- Deall cwestiynau cwsmeriaid a gallu ymateb.
Safon Cymraeg Ysgrifenedig -
- Bydd Cymraeg ysgrifenedig yn gyfyngedig i ysgrifennu nodiadau byr neu negeseuon i'ch cwsmeriaid trwy e-bost, neges destun, ac ati.
Sylwer: Lle nad yw ymgeiswyr yn cyrraedd y safon ar gyfer Swyddog Gweithredol o ffin fach, efallai y cynigir swydd ar lefel Swyddog Gweinyddol (AO) iddynt fel ymgeisydd a fu bron â methu. Gall y rolau hyn fod yn benodiadau parhaol neu Gyfnod Penodol yn dibynnu ar ofynion busnes.
Ymddygiadau
Byddwn yn eich asesu yn erbyn yr ymddygiadau hyn yn ystod y broses ddethol:
- Cyfathrebu a Dylanwadu
- Gwneud Penderfyniadau Effeithiol
- Rheoli Gwasanaeth o Ansawdd
Buddion
- Gwyliau blynyddol hael 23 diwrnod ar gyfer staff newydd Llawn Amser (yn codi i 25 ar ôl 1 flwyddyn)
- Holl wyliau’r banc
- Patrymau gweithio hyblyg ar gael
- Absenoldeb mamolaeth, tadolaeth a rhiant cystadleuol
- Pensiwn y Gwasanaeth Sifil gyda chyfraniad cyflogwr cyfartalog o 27%
- Rhaglen Gymorth i Weithwyr gyda phwyslais ar les
- Datblygiad Gyrfa a Phersonol trwy Broffesiwn Cyflenwi Gweithredol - ee: cyfle i ymgymryd â Phrentisiaeth Lefel 2 neu 3 mewn Gwasanaeth Cwsmeriaid neu Gweinyddiaeth Busnes
- Cynlluniau disgownt i weithwyr
Cyflog
💰 £28,117
Lleoliad
📍 Y Fenni, Bargod, Y Barri, Cil-y-coed, Cas-gwent, Cwmbrân, Casnewydd, Pont-y-pŵl, Aberdâr, Llanelli, Aberdaugleddau, Doc Penfro, Pontypridd, Port Talbot, Tonypandy, Treorci, Aberhonddu, Bae Colwyn, Llandrindod, Llandudno, Machynlleth, Yr Wyddgrug, Y Drenewydd, Y Trallwng
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Prif Weithredwr
Mae Tribiwnlys Prisio Cymru yn edrych am Brif Weithredwr
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mae Tribiwnlys Prisio Cymru yn chwilio am arweinydd talentog i weithredu fel ei Brif Weithredwr nesaf.
Disgrifiad:
Rhaid i’r sawl a benodir medru rheoli'r hyn sydd yn ein hanfod yn fusnes bach sy’n cynnwys 16 aelod o staff, 75 aelod tribiwnlys a chyllideb flynyddol o £1.1m. Rhaid iddynt fedru gwneud hyn yng nghyd-destun y sector cyhoeddus, gyda’r holl graffu ac atebolrwydd sy’n gysylltiedig â hynny.
Mae tact a diplomyddiaeth, doethineb a dawn, treiddgarwch a gweledigaeth oll yn rhinweddau hanfodol. Mae gwybodaeth drwyadl am ardrethu annomestig a’r dreth gyngor yn ddymunol iawn hefyd gan mai’r Prif Weithredwr, yn ôl y gyfraith, yw Clerc y Tribiwnlys - er nad yw ymdrin â’r materion hynny yn weithgaredd o ddydd i ddydd. Byddai sgiliau cyfreithiol trosglwyddadwy o feysydd eraill y gyfraith yn dderbyniol. Yn ddelfrydol bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn siaradwr Cymraeg rhugl; ond os nad yw bydd rhaid dangos ymrwymiad brwdfrydig i ddysgu’r Gymraeg a’i defnyddio ym mywyd a busnes dyddiol Tribiwnlys Prisio Cymru.
Bydd y broses benodi yn cynnwys o leiaf un diwrnod asesu, a ddilynir gan gyfweliad ffurfiol ar ddiwrnod arall gerbron Cyngor Llywodraethu Tribiwnlys Prisio Cymru Bydd y swydd yn dechrau yng ngwanwyn 2023, yn dilyn ymddeoliad ein Prif Weithredwr presennol, Andrew Shipsides.
Cewch ragor o fanylion a ffurflen gais ar wefan Tribiwnlys Prisio Cymru: www.tribiwnlysprisio.cymru.
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw dydd Gwener 6 Ionawr 2023.
Cyflog
💰 hyd at £69,496
Lleoliad
📍 Casnewydd, O gartref
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Clercod Tribiwnlys
Mae Tribiwnlys Prisio Cymru yn edrych am Glercod Tribiwnlys
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mae Tribiwnlys Prisio Cymru am benodi hyd at ddau Glerc Tribiwnlys. Mae Clercod Tribiwnlys yn darparu gwasanaethau cymorth i aelodau'r tribiwnlys. Un o'r prif swyddogaethau yw darparu cyngor yng ngwrandawiad y Tribiwnlys ar gyfraith trethiant lleol yng Nghymru (y Dreth Gyngor ac Ardrethi Busnes). Rhoddir hyfforddiant ar hyn.
Disgrifiad:
Rydym yn agored i geisiadau gan raddedigion prifysgol neu bobl sydd â phrofiad a/neu gymwysterau refeniw lleol. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael eu penodi i bwynt ar y raddfa gyflog sy'n briodol i'w cymwysterau a'u gwybodaeth gyfredol.
Os ydych yn byw yng Nghasnewydd neu’n agos ato, eich gweithle fydd ein swyddfa yng Nghasnewydd. Os ydych yn byw yn rhywle arall, byddwch yn gweithio gartref. Bydd angen teithio’n rheolaidd ledled Cymru, ac o bryd i’w gilydd bydd hyn yn golygu bod angen aros oddi cartref dros nos. Bydd y Tribiwnlys yn talu eich costau teithio. Mae lwfans defnyddiwr car blynyddol (£1,239) hefyd yn daladwy.
Ewch i www.tribiwnlysprisio.cymru am ragor o fanylion. Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw dydd Gwener 16 Rhagfyr 2022.
Cyflog
💰 £25,878 - £40,478
Lleoliad
📍 Casnewydd, O gartref
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Pennaeth Ysgol Gymraeg Casnewydd
Mae Cyngor Dinas Casnewydd yn edrych am Bennaeth Ysgol Gymraeg Casnewydd
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mae Ysgol Gymraeg Casnewydd yn lle gwych i weithio – dewch i ymuno â'r tîm!
Yn gyfnewid am eich gwaith caled a'ch ymroddiad rydym yn cynnig telerau ac amodau deniadol. Gwahoddir ymgeiswyr i wneud cais am y cyfle unigryw a chyffrous hwn i ddod yn Bennaeth Ysgol Gymraeg Casnewydd. Mewn partneriaeth â rhieni a'r gymuned, nod Ysgol Gymraeg Casnewydd yw cynnig amgylchedd dysgu Cymraeg ysbrydoledig sy'n gwerthfawrogi ac yn datblygu pawb. Rydym yn falch iawn bod Ysgol Gymraeg Casnewydd yn Arloeswr Dysgu Proffesiynol / Cwricwlwm ers mis Ebrill 2016 ac hefyd yn Ysgol Fraenaru ar gyfer y Cwricwlwm ers 2019. Yn ogystal, rydym yn ysgol arweiniol ar gyfer Partneriaeth Prifysgol De Cymru.
Mae Ysgol Gymraeg Casnewydd wedi'i lleoli'n gyfleus ar gyrion dwyreiniol y ddinas, llai na 2 filltir o gyffordd 24 yr M4 ac ond 12 milltir o Gaerdydd.
Mae gennym gyfleusterau ysgol rhagorol wedi'u lleoli mewn mannau gwyrdd a chymuned ysgol groesawgar. Anogir darpar ymgeiswyr i ymweld a gweld hyn drostynt eu hunain! Os hoffech wneud hynny, cysylltwch â [email protected] i drefnu.
Cymraeg yw prif gyfrwng gwaith a bywyd yr ysgol. Ein datganiad o genhadaeth yw: ‘Meithrin meddyliau yfory gyda’n gilydd’. Ein nôd yw meithrin disgyblion i gyrraedd safonau uchaf posib ac i’w datblygu i feddwl yn ddwys am eu byd a’u rhan o fewn y byd ehangach.
Am fwy o wybodaeth amdanom, gweler ein cyfrif Trydar: @YsgolGCasnewydd a’n gwefan:
https://www.ysgolgymraegcasnewydd.com/
Mae'r Corff Llywodraethu wedi ymrwymo i benodi Pennaeth sy’n:
· Arweinydd ysbrydoledig sydd â gweledigaeth glir ar gyfer ein hysgol, gan gynnal a datblygu ethos addysg Gymraeg
· Meddu ar ddyhead am ragoriaeth ac am feithrin a datblygu ein disgyblion i gyflawni eu llawn botensial
· Meddu ar sgiliau arwain, rheoli, cyfathrebu a rhyngbersonol amlwg i hyrwyddo gwaith tîm effeithiol
· Dangos ac yn hyrwyddo cydraddoldeb a disgwyliadau uchel o ran cyflawniad ac ymddygiad.
· Gallu meithrin perthynas o barch cyffredin gyda'r plant, y rhieni, y gymuned, y staff, a’r Corff Llywodraethu.
· Ceisio datblygu trefniadau cydweithio cryf gyda'r holl bartneriaid a sefydliadau sy'n cefnogi'r ysgol.
Bydd llywodraethwyr yn cefnogi'r ymgeisydd llwyddiannus ym mhob agwedd ar fywyd yr ysgol er mwyn sicrhau parhad a gwelliant yr ysgol lwyddiannus iawn hon.
**Dyddiadau Allweddol **
Dyddiad Cau : 18/10/22
Llunio rhestr fer: 19/10/22
Dyddiad cyfweld arfaethedig: 27/10/22
Dyddiad Cychwyn: 01/01/2023
Rhaid i ni ofyn i chi gyflwyno tystiolaeth o'ch hawl i weithio yn y DU. Os cewch eich gwahodd i gyfweliad, gofynnir i chi gyflwyno dogfennau priodol fel eich tystysgrif geni lawn/pasbort/trwydded waith yn unol â Deddf Lloches a Mewnfudo 1996.
Mae’r swydd hon wedi ei heithrio o’r Ddeddf Adsefydlu Troseddwyr (1974) a chynhelir proses sgrinio gynhwysfawr ar gyfer pob ymgeisydd. Bydd hyn yn cynnwys gwiriad manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Cyflog
💰 £65,266 - £74,847
Lleoliad
📍 Casnewydd
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Rheolwr Cymwysterau
Mae Cymwysterau Cymru yn edrych am Reolwr Cymwysterau
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Ni yw Cymwysterau Cymru, y sefydliad annibynnol sy’n gyfrifol am reoleiddio cymwysterau cyffredinol a galwedigaethol yng Nghymru. Rydym yn canolbwyntio ar gymwysterau a ariennir yn gyhoeddus, gan gynnwys TGAU, Safon Uwch a chymwysterau galwedigaethol.
Ar hyn o bryd rydym yn chwilio am o leiaf pedwar Rheolwr Cymwysterau i ymuno â ni ar gontractau cyfnod penodol tan 31 Mawrth 2025, gan weithio 37 awr yr wythnos.
Byddai gennym ddiddordeb mewn ystyried ceisiadau i ymgymryd â'r swyddi hyn fel cyfle secondiad o hyd at ddwy flynedd ar gyfer pob rôl.
Mae ein gweithwyr yn gweithio ar sail hybrid. Mae hyn yn golygu mai’r ganolfan gytundebol yw ein swyddfa ym Mharc Imperial, Casnewydd, NP10 8AR, ond y gall gweithwyr weithio’n hyblyg gyda chydbwysedd rhwng y cartref a’r swyddfa.
Ein nod yw penodi un siaradwr Cymraeg rhugl ar gyfer yr ymarfer recriwtio hwn.
Y Manteision
- Cyflog o £40,100 - £47,470 y flwyddyn
- 30 diwrnod o wyliau blynyddol (yn ogystal â gwyliau cyhoeddus a hyd at dri diwrnod ar gau dros y Nadolig)
- Trefniadau gweithio hyblyg
- Aelodaeth o Gynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil
Y Rôl
Fel Rheolwr Cymwysterau, byddwch yn ymuno â'r Gyfarwyddiaeth Polisi a Diwygio Cymwysterau i ddechrau.
Gan arwain ar brosiectau allweddol, byddwch yn ymwneud ag ystod eang o wahanol waith. Gall hyn gynnwys prosiectau ar gymwysterau ar gyfer y Cwricwlwm newydd i Gymru, cymwysterau galwedigaethol a thechnegol, adolygiadau sector, Tystysgrif Her Sgiliau (o fewn Bagloriaeth Cymru) neu Sgiliau Hanfodol Cymru.
Bydd eich gwaith yn broffil uchel ac yn ddylanwadol a byddwch yn chwarae rhan arweiniol mewn adolygu a diwygio cymwysterau.
Amdanat ti
I gael eich ystyried yn Rheolwr Cymwysterau, bydd angen y canlynol arnoch:
- Profiad o weithio ar lefel reoli mewn cyd-destun rheoleiddio, datblygu cymwysterau neu sicrhau ansawdd
- Profiad yn y sectorau cymwysterau, addysg neu hyfforddiant
- Profiad o reoli neu arwain prosiectau neu raglenni gwaith
- Profiad o ymgysylltu a thrafod ag ystod eang o randdeiliaid
- Dealltwriaeth amlwg o ddulliau o ddatblygu, adolygu, rheoleiddio neu sicrhau ansawdd cymwysterau a/neu raglenni addysg
- Dealltwriaeth amlwg o dirwedd cymwysterau ledled y DU
Byddai’r gallu i gyfathrebu trwy gyfrwng y Gymraeg o fudd mawr i’ch cais.
Gall sefydliadau eraill alw'r rôl hon yn Rheolwr Cydymffurfiaeth, Rheolwr Rheoleiddio, Rheolwr Rheoliadau Cymwysterau, Rheolwr Prosiect, neu Reolwr Rhaglen.
Felly, os ydych am ddatblygu eich gyrfa fel Rheolwr Cymwysterau, gwnewch gais drwy'r botwm a ddangosir. Mae'r swydd wag hon yn cael ei hysbysebu gan Webrecruit. Mae'r gwasanaethau a hysbysebir gan Webrecruit yn rhai Asiantaeth Gyflogaeth.
Cyflog
💰 £40,100 - £47,470
Lleoliad
📍 Casnewydd, Hyblyg
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Cynghorydd Polisi - Y Gymraeg
Mae Awdurdod Ystadegau'r Deyrnas Unedig yn edrych am Gynghorydd Polisi - Y Gymraeg
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Ydych chi'n angerddol ynglŷn â’r Gymraeg? Hoffech chi roi gwell gwybodaeth i bobl Cymru am y materion economaidd a chymdeithasol sy'n effeithio arnyn nhw? Hoffech chi wella llais y rhai sy’n siarad Cymraeg er mwyn llywio polisi'r Llywodraeth yn well? Os felly, mae'r rôl hon yn cynnig cyfle cyffrous i gefnogi swyddogaeth Gymraeg gryfach yn y Swyddfa Ystadegau Gwladol; cydlynu gweithgareddau Cymraeg, a chynorthwyo cymuned o siaradwyr a dysgwyr Cymraeg.
Swydd ddisgrifiad
Mae Awdurdod Ystadegau'r Deyrnas Unedig yn gorff annibynnol hyd braich oddi wrth y Llywodraeth, a’i amcan yw hybu a diogelu'r gwaith o gynhyrchu a chyhoeddi ystadegau er lles y cyhoedd. Mae'r Awdurdod yn goruchwylio gwaith y Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG), Gwasanaeth Ystadegol y Llywodraeth (GSS), a'r Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau (SRY). Mae'r Awdurdod yn adrodd yn uniongyrchol i Senedd y Deyrnas Unedig, Senedd yr Alban, Senedd Cymru, a Chynulliad Gogledd Iwerddon. Mae'r rôl hon o fewn yr Ysgrifenyddiaeth Polisi Ganolog, sydd wrth wraidd system ystadegol y Deyrnas Unedig ac sy'n adrodd yn uniongyrchol i'r Ystadegydd Gwladol. Rydym yn ymgymryd ag ystod eang o waith gan gynnwys cefnogaeth ar y lefel uchaf i Fwrdd yr Awdurdod, Cadeirydd yr Awdurdod a'r Ystadegydd Gwladol; a goruchwylio’r adrannau materion cyfreithiol a rhyngwladol, datblygu rhyngwladol, a’r adrannau polisi a seneddol. Mae'r amgylchedd yn gyflym ac yn heriol; serch hynny, yn gyfnewid am hyn, rydym yn cynnig amgylchedd tîm croesawgar a chefnogol lle bydd croeso bob amser i'ch syniadau am sut y gallem wneud pethau'n well, a lle mae digon o gyfleoedd ichi ddysgu a datblygu eich sgiliau chi’ch hun. Mae gennyn ni fodel gweithio Hybrid ar waith. Mae hyn yn golygu ein bod yn cynnig mwy o hyblygrwydd o ran ble a phryd rydym yn gweithio. Bydd y rôl hon wedi'i lleoli yn ein prif swyddfa yng Nghasnewydd.
Cyfrifoldebau
Cyfrifoldebau Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gyfrifol am y canlynol:
• Cefnogi adolygiad o Gynllun Iaith Gymraeg yr SYG, a helpu i'w roi ar waith, er mwyn sicrhau cydymffurfiaeth a chynwysoldeb.
• Monitro gallu staff yr Awdurdod, yr SYG a’r SRY yn y Gymraeg.
• Cynorthwyo rhwydwaith ffurfiol a chymuned ehangach o siaradwyr a dysgwyr Cymraeg yn yr SYG, gan gynnal digwyddiadau hyrwyddo cysylltiedig.
• Helpu i redeg rhwydwaith traws-sefydliad o dimau’r SYG sy'n ymgymryd â gweithgareddau Cymraeg, gan gynnwys arbenigwyr allanol.
• Monitro cyfieithiadau Cymraeg, prawf-ddarllen gwaith allanol i sicrhau safonau uchel.
Manyleb Person
1. Yn meddu ar brofiad o ddatblygu, gweithredu neu werthuso polisi.
2. Yn gallu ymgysylltu â nifer fawr o randdeiliaid ar draws y sefydliad a chynnal rhwydwaith o gydberthnasau gwaith.
3. Yn meddu ar sgiliau trefnu rhagorol gyda'r gallu i fonitro ac adrodd ar gynnydd, a sicrhau bod gweithgareddau'n cael eu cwblhau'n brydlon ac i safon uchel.
4. Yn meddu ar y gallu i gyfathrebu'n effeithiol ac yn effeithlon.
5. Yn gallu darllen ac ysgrifennu Cymraeg i safon dda (er enghraifft, Lefel Uwch y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol, lefel B2 y Fframwaith Cyfeirio Ewropeaidd Cyffredin ar gyfer Ieithoedd, neu lefel 3 Cymdeithas y Profwyr Iaith yn Ewrop) ac yn gallu sicrhau ansawdd cyfieithiadau allanol a darparu cyfieithiadau byr fel rhan o'r cyfrifoldebau swydd uchod.
Ymddygiadau
Byddwn yn eich asesu yn erbyn yr ymddygiadau hyn yn ystod y broses ddethol:
Rheoli Gwasanaeth o Ansawdd
Cydweithio
Cyfathrebu a Dylanwadu
Sgiliau technegol
Byddwn yn eich asesu yn erbyn y sgiliau technegol hyn yn ystod y broses ddethol.
Cyflog
💰 £23,880
Lleoliad
📍 Casnewydd, Hybrid
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Uwch Gynghorydd Polisi - Y Gymraeg
Mae Awdurdod Ystadegau'r Deyrnas Unedig yn edrych am Uwch Gynghorydd Polisi - Y Gymraeg
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Ydych chi'n angerddol ynglŷn â’r Gymraeg? Hoffech chi roi gwell gwybodaeth i bobl Cymru am y materion economaidd a chymdeithasol sy'n effeithio arnyn nhw? Hoffech chi wella llais y rhai sy’n siarad Cymraeg er mwyn llywio polisi'r Llywodraeth yn well? Os felly, mae'r rôl hon yn cynnig cyfle newydd a chyffrous i sefydlu swyddogaeth Gymraeg gryfach yn y Swyddfa Ystadegau Gwladol; cydlynu a hybu gweithgareddau Cymraeg, ac adeiladu cymuned o siaradwyr a dysgwyr Cymraeg.
Beth fydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn ei wneud?
Mae Awdurdod Ystadegau'r Deyrnas Unedig yn gorff annibynnol hyd braich oddi wrth y Llywodraeth, a’i amcan yw hybu a diogelu'r gwaith o gynhyrchu a chyhoeddi ystadegau er lles y cyhoedd. Mae'r Awdurdod yn goruchwylio gwaith y Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG), Gwasanaeth Ystadegol y Llywodraeth (GSS), a'r Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau (SRY). Mae'r Awdurdod yn adrodd yn uniongyrchol i Senedd y Deyrnas Unedig, Senedd yr Alban, Senedd Cymru, a Chynulliad Gogledd Iwerddon.
Mae'r rôl hon o fewn yr Ysgrifenyddiaeth Polisi Ganolog, sydd wrth wraidd system ystadegol y Deyrnas Unedig ac sy'n adrodd yn uniongyrchol i'r Ystadegydd Gwladol. Rydym yn ymgymryd ag ystod eang o waith gan gynnwys cefnogaeth ar y lefel uchaf i Fwrdd yr Awdurdod, Cadeirydd yr Awdurdod a'r Ystadegydd Gwladol; a goruchwylio’r adrannau materion cyfreithiol a rhyngwladol, datblygu rhyngwladol, a’r adrannau polisi a seneddol. Mae'r amgylchedd yn gyflym ac yn heriol; serch hynny, yn gyfnewid am hyn, rydym yn cynnig amgylchedd tîm croesawgar a chefnogol lle bydd croeso bob amser i'ch syniadau am sut y gallem wneud pethau'n well, a lle mae digon o gyfleoedd ichi ddysgu a datblygu eich sgiliau chi’ch hun.
Mae gennyn ni fodel gweithio Hybrid ar waith. Mae hyn yn golygu ein bod yn cynnig mwy o hyblygrwydd o ran ble a phryd rydym yn gweithio. Bydd y rôl hon wedi'i lleoli yn ein prif swyddfa yng Nghasnewydd.
Cyfrifoldebau
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gyfrifol am y canlynol:
· Sbarduno trawsnewid yn y Gymraeg ar draws y swyddfa, gan ddylanwadu'n effeithiol ar y rhanddeiliaid a defnyddio ystod eang o ddulliau.
· Adolygu Cynllun Iaith Gymraeg presennol yr SYG gyda'r nod o foderneiddio a darparu ffocws clir o fewn yr SYG, gan gydlynu'r broses weithredu ar draws y busnes.
· Cynnal archwiliad o allu staff yr Awdurdod, yr SYG a’r SRY yn y Gymraeg i ddeall y sefyllfa bresennol a datblygu dull o ddiwallu anghenion y dyfodol.
· Datblygu ac arwain rhwydwaith ffurfiol a chymuned ehangach o siaradwyr a dysgwyr Cymraeg yn yr SYG, gan gynnal digwyddiadau hyrwyddo cysylltiedig, gan gefnogi twf y Gymraeg.
· Sefydlu a rhedeg rhwydwaith traws-sefydliad o dimau’r SYG sy'n ymgymryd â gweithgareddau Cymraeg, gan gynnwys arbenigwyr allanol gyda'r nod o rannu a hybu’r arferion gorau yn yr SYG.
· Darparu a rheoli pob agwedd ar gyfieithiadau Cymraeg, gan gynnwys caffael gwasanaeth yn effeithiol er mwyn sicrhau bod y gwaith yn uchel ei safon ac yn brydlon.
· Sefydlu a rheoli tîm bach i gyflawni'r uchod.
Byddwch yn gweithio mewn partneriaeth â gweddill yr is-adran, gan ddefnyddio'r arbenigedd sydd ar gael mewn strategaeth, llywodraethu, y gyfraith a busnes y Senedd i ategu’ch arbenigedd chi’ch hun.
Manyleb Person
1. Yn meddu ar hanes llwyddiannus o ddatblygu, gweithredu a gwerthuso polisi; a dealltwriaeth gadarn o'r prosesau sy'n arwain at gyflawni canlyniadau llwyddiannus yn y naill gyd-destun neu'r llall.
2. Yn gallu ymgysylltu'n llwyddiannus â nifer fawr o randdeiliaid, gan gynnwys cydweithwyr uwch, a meithrin cydberthnasau gwaith yn effeithiol ar draws y sefydliad.
3. Yn meddu ar sgiliau trefnu rhagorol gyda'r gallu i gydlynu ffrydiau gwaith, monitro ac adrodd ar gynnydd, a datrys materion i sicrhau bod gweithgareddau'n cael eu cwblhau'n brydlon ac i safon uchel.
4. Yn gallu cyfathrebu'n effeithiol ac yn effeithlon er mwyn sicrhau'r ddealltwriaeth a'r effaith fwyaf posibl.
5. Yn gallu darllen ac ysgrifennu Cymraeg i safon dda (er enghraifft, Lefel Uwch y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol, lefel B2 y Fframwaith Cyfeirio Ewropeaidd Cyffredin ar gyfer Ieithoedd, neu lefel 3 Cymdeithas y Profwyr Iaith yn Ewrop) ac yn gallu sicrhau ansawdd cyfieithiadau allanol a darparu cyfieithiadau byr fel rhan o'r cyfrifoldebau swydd uchod.
Cyflog
💰 £36,838
Lleoliad
📍 Hyblyg, O gartref, Casnewydd
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Athro Dosbarth, Ysgol Gymraeg Nant Gwenlli
Mae Cyngor Dinas Casnewydd yn edrych am Athro Dosbarth, Ysgol Gymraeg Nant Gwenlli
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mae Llywodraethwyr yr ysgol yn awyddus i benodi athro / athrawes egnïol i ymuno â staff Ysgol Gymraeg Nant Gwenlli ym mis Medi 2022 i ddarparu gwasanaeth trochi ar gyfer disgyblion sy’n trosglwyddo i addysg Gymraeg o fewn y ddinas. Lleolir y ganolfan drochi ar safle dros dro Ysgol Gymraeg Nant Gwenlli yng Nghaerllion sydd ond 12 milltir o Gaerdydd ac yna fe fydd yn symud i ganol dinas Casnewydd pan fydd y safle parhaol yn barod. Disgwylir i’r athro ymweld a chyfathrebu gydag ysgolion y disgyblion a’i rhieni i sicrhau cydweithio effeithiol er mwyn trosglwyddo’r disgyblion i’w hysgolion parhaol yn rhugl yn y Gymraeg.
Gwahoddir ceisiadau am y swydd cytundeb cyfnod penodol (2il o Fedi 2022 – 31ain o Awst 2023) hon oddi wrth athrawon brwdfrydig ac ymroddgar sydd yn barod i gyfrannu i fywyd allgyrsiol yr ysgol. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn cyd-weithio’n agos gyda’r holl staff i ddarparu amgylchedd a phrofiadau cyffrous i’r plant i’w trochi yn yr iaith Gymraeg.
Am sgwrs anffurfiol cysylltwch â’r Pennaeth Gweithredol Mrs Lona Jones-Campbell ar 01633 850804 / neu 01633 414698.
MAE YN OFYNNOL I CHI GOFRESTRU GYDA CGA AM Y SWYDD HON
Cyflog
💰 £27,491 - £42,333
Lleoliad
📍 Casnewydd
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Cynorthwyydd Dysgu Cyfnod Penodol Lefel 2 - Ysgol Gymraeg Bro Teyrnon
Mae Cyngor Dinas Casnewydd yn edrych am Gynorthwyydd Dysgu Cyfnod Penodol Lefel 2 - Ysgol Gymraeg Bro Teyrnon
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Cynorthwyydd Dysgu Cyfnod Penodol Lefel 2 - Ysgol Gymraeg Bro Teyrnon
Ref: NCC7887
Cyflog: Gradd 3, £19,650 - £20,043 yf pro-rata
Rhif Swydd: EDSCH01731.5 - Cynorthwyydd Dysgu Cyfnod Penolol (Lefel 2) - Ysgol Gymraeg Bro Teyrnon
Medi 2022 neu cyn gynted â phosib
Mae Ysgol Gymraeg Bro Teyrnon am apwyntio 2 Gynorthwyydd Dysgu Lefel 2 (Gradd 3) ar gytundeb penodol am flwyddyn ar gyfer Mis Medi neu i gychwyn cyn gynted â phosib.
Dyma gyfle i fod yn rhan o ysgol gynradd cyfrwng Cymraeg a sefydlwyd ym mis Medi 2011. Mae’r ysgol wedi symud i’w safle parhaol ar Rhodfa Brynglas ers mis Medi 2013, sydd wedi ei lleoli yng Ngogledd y ddinas ac ond 12 milltir o Gaerdydd. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gweithio fel rhan o dîm, yn cynorthwyo’r staff addysgu a chefnogi disgyblion ar draws yr ysgol.
Yn ddelfrydol bydd gennych gymhwyster mewn gofal plant a phrofiad o weithio gyda phlant. Gwerthfawrogir manylion am ddatblygiad proffesiynol ac unrhyw fanylion o weithio gyda phlant ag anghenion ychwanegol.
Cynigir y swydd llawn amser ar sail 31 awr a hanner yr wythnos yn gweithio yn ystod y tymor ysgol yn unig (6 awr a hanner y dydd – 8:45 – 15:30 (8:30 – 3:30 ar Ddydd Llun) – cynnwys hanner awr y dydd ar gyfer cinio).Rhaid cymryd gwyliau blynyddol yn ystod cyfnodau gwyliau ysgol. Rydyn ni’n hapus i drafod yr oriau’n bellach os oes angen.
Am sgwrs anffurfiol cysylltwch â’r Pennaeth Mrs Lona Jones-Campbell ar 01633 850804.
Mae’r swydd hon wedi ei heithrio o Ddeddf Adfer Troseddwyr (1974) ac yn ddibynnol ar wiriad gan y Gwasanaeth Datgelu a Rhwystro.
Dyddiad Cau: Dydd Gwener 17eg o Fehefin 2022
Dyddiad Cyfweliadau:- Wythnos yn cychwyn y 20fed o Fehefin 2022
Mae Cyngor Dinas Casnewydd yn ymrwymedig i weithio tuag at gael gweithlu sy’n fwy cynrychioliadol o’r boblogaeth yr ydym yn ei gwasanaethu ac yn arbennig fe groesewir ceisiadau gan bobl o gymunedau lleiafrifoedd ethnig a gynrychiolir (neu sy’n byw) yn y ddinas. Caiff penodiad ei wneud yn seiliedig ar y gallu a’r sgiliau i gyflawni'r rôl.
Cyflog
💰 £19,650 - £20,043 pro rata
Lleoliad
📍 Casnewydd
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Cynorthwyydd Dysgu Cyfnod Penolol (Lefel 2+3) - Ysgol Gymraeg Nant Gwenlli
Mae Cyngor Dinas Casnewydd yn edrych am Gynorthwyydd Dysgu Cyfnod Penolol (Lefel 2+3) - Ysgol Gymraeg Nant Gwenlli
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Cynorthwyydd Dysgu Cyfnod Penolol (Lefel 2+3) - Ysgol Gymraeg Nant Gwenlli
Ref: NCC7886
Cyflog: Lefel 2 - Gradd 3, PCG 5 - 6, £19,650 - £20,043 y flwyddyn bro-rata / Lefel 3 - Gradd 5, PCG 12 - 17, £22,571 - £24,920 pro-rata y flwyddyn
Rhif Swydd: POSN002047 - Cynorthwyydd Dysgu Cyfnod Penolol (Lefel 3) POSN002049 Cynorthwyydd Dysgu Cyfnod Penodol (Lefel 2) - Ysgol Gymraeg Nant Gwenlli
Mae Ysgol Gymraeg Nant Gwenlli am apwyntio 1 Cynorthwyydd Dysgu Lefel 3 ac 1 cynorthwyydd Dysgu Lefel 2 ar gytundeb penodol o flwyddyn i gefnogi disgyblion y Cyfnod Sylfaen.
Ym mis Medi 2021 agorwyd y bedwaredd ysgol gynradd Gymraeg yng Nghasnewydd sef Ysgol Gymraeg Nant Gwenlli. Dyma gyfle i fod yn rhan o daith hanesyddol ysgol gynradd cyfrwng Cymraeg newydd. Mae Llywodraethwyr yr ysgol yn awyddus i apwyntio cynorthwy-ydd egnïol i gydweithio gyda’r athro dosbarth. Lleolir yr Ysgol am gyfnod ar ei safle dros dro yng Nghaerllion ac yna fe fydd yn symud i ganol dinas Casnewydd pan fydd y safle parhaol yn barod. Ym mis Medi fe fydd dosbarth cymysg oed Meithrin, Derbyn a Blwyddyn 1.
Yn ddelfrydol bydd gennych gymhwyster mewn gofal plant a phrofiad o weithio gyda phlant. Gwerthfawrogir manylion am ddatblygiad proffesiynol ac unrhyw fanylion o weithio gyda phlant ag anghenion ychwanegol.
Cynigir y ddwy swydd ar sail 31 awr a hanner yr wythnos, yn gweithio yn ystod y tymor ysgol yn unig. Rhaid cymryd gwyliau blynyddol yn ystod cyfnodau gwyliau ysgol.
Am sgwrs anffurfiol cysylltwch â Mrs Lona Jones-Campbell, Pennaeth Gweithredol, ar 01633 850804 (rhif cyswllt dros dro).
Mae’r swydd hon wedi ei heithrio o Ddeddf Adfer Troseddwyr (1974) ac yn ddibynnol ar wiriad gan y Gwasanaeth Datgelu a Rhwystro.
Dyddiad Cau: Dydd Gwener 17eg o Fehefin 2022
Dyddiad Cyfweliadau:- Wythnos yn cychwyn y 20fed o Fehefin 2022
Mae Cyngor Dinas Casnewydd yn ymrwymedig i weithio tuag at gael gweithlu sy’n fwy cynrychioliadol o’r boblogaeth yr ydym yn ei gwasanaethu ac yn arbennig fe groesewir ceisiadau gan bobl o gymunedau lleiafrifoedd ethnig a gynrychiolir (neu sy’n byw) yn y ddinas. Caiff penodiad ei wneud yn seiliedig ar y gallu a’r sgiliau i gyflawni'r rôl.
Cyflog
💰 Lefel 2 £19,650 - £20,043 yf pro-rata / Lefel 3 - £22,571 - £24,920
Lleoliad
📍 Casnewydd
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Rydych wedi gweld yr holl swyddi.