Swyddi Cymraeg
1 swydd yn cyfateb
Rheolwr Datblygu Sector Bwyd (canolbarth Cymru)
Mae Menter a Busnes yn edrych am Reolwr Datblygu Sector Bwyd (canolbarth Cymru)
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Dyma gyfle gwych i weithio ar brosiect o fewn y diwydiant bwyd a diod ffyniannus yng Nghymru sy’n hanfodol i dwf yr economi yng Nghymru.
O ganlyniad i gynnydd mewn galw am gefnogaeth y prosiect, mae Cywain yn chwilio am Reolwr Datblygu i weithio ar draws canolbarth Cymru i gefnogi busnesau bychain a micro i ddechrau ac i dyfu.
Cefndir
Mae Cywain, a ddarperir gan Menter a Busnes, yn fodel sy’n rhoi cymorth wedi’i dargedu i fusnesau bach a chanolig a micro yn y sector bwyd a diod yng Nghymru. Rydym yn cychwyn cam newydd erbyn hyn ac rydym wedi derbyn arian drwy Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig 2014- 2020. Mae cyllid wedi’i sicrhau ar gyfer y prosiect tan fis Mehefin 2023.
Mae cefnogaeth yn cael ei ddarparu i ddatblygu capasiti a gallu busnesau, hwyluso trosglwyddo gwybodaeth a dealltwriaeth o’r diwydiant, yn ogystal â chryfhau eu hintegreiddiad yn y gadwyn gyflenwi. Darperir gwasanaethau ledled Cymru gyda phwyslais ar gydweithio gyda busnesau sy’n ychwanegu gwerth a datblygu’r farchnad er mwyn tyfu a chreu swyddi. Mae Cywain wedi datblygu rhwydwaith eang o randdeiliaid ac, yn ganolog i ddatblygiad y cleient, mae gennym agwedd gydlynol tuag at weithio gyda phartneriaid darparu eraill.
Mae tri llinyn i’r prosiect:
Cefnogaeth i fusnesau newydd a busnesau micro
Cefnogaeth ddiagnostig ar gael i bob busnes o fewn y sector bwyd a diod yng Nghymru
Clystyru a chydweithio rhwng busnesau i hybu effeithiolrwydd a thwf busnesau
Nod y Rôl
- Arwain ar ddatblygu’r prosiect a darparu’r gwasanaeth i fusnesau newydd neu’r rhai sy’n tyfu’n bennaf o fewn yr ardal ddaearyddol benodol a darparu arbenigedd sy’n benodol i’r sector bwyd a diod. Disgwylir i ddeiliad y swydd ddarparu gwybodaeth a hwyluso datblygiad busnesau yn y rhanbarth, adnabod ac ymateb i ofynion y sector a chydlynu’r ddarpariaeth o fewn y gyllideb.
Prif Gyfrifoldebau
Datblygu Prosiect a Darparu Gwasanaeth
Sicrhau bod gwasanaethau’r prosiect yn cael eu darparu i gynhyrchwyr a busnesau bwyd a diod o fewn yr ardal benodol
Meithrin perthynas agos gyda chynhyrchwyr a phroseswyr i ganfod eu hanghenion ar gyfer twf drwy asesiad diagnostig a chreu rhaglen gefnogaeth briodol
Recriwtio grwpiau ac unigolion ar draws y gadwyn gyflenwi i'r prosiect gan ganolbwyntio ar y potensial ar gyfer twf a chreu swyddi
Gweithio gyda grwpiau o gynhyrchwyr ac unigolion i ganfod a datblygu cynnyrch a marchnadoedd newydd
Paratoi cynllun gweithredu a chynnal asesiad diagnostig ar ddechrau’r gwaith gyda phob grŵp unigolyn a rheoli’r adnoddau o fewn cyllideb y prosiect
Cydlynu gweithgaredd a rhannu gwybodaeth sy’n deillio o fentrau thematig y rhaglen yn yr ardal, gan sicrhau cyfraniad gan y cleient lle bo angen
Creu cysylltiadau gydag unigolion, busnesau a chyrff eraill sy’n ymwneud ag arloesedd, datblygu cynnyrch a datblygu marchnadoedd newydd er mwyn sicrhau darpariaeth gydlynol
Gweithio’n agos gyda’r Rheolwr Llinell, Rheolwr y Prosiect a’r Rheolwyr Datblygu eraill i gynllunio, rheoli a gweithredu portffolio o ddigwyddiadau/arddangosfeydd a theithiau astudio yn lleol ac yn genedlaethol, gan sicrhau cynnwys perthnasol a diddorol
Trefnu a darparu gweithdai ar themâu penodol o fewn y rhanbarth
Adnabod anghenion, cynllunio a chynghori busnesau ynglŷn â’u datblygiad, gan gyfeirio at ffynonellau eraill o gefnogaeth lle bo’n briodol
Annog perchnogaeth o’r busnes a’i ddatblygiad trwy gydol y broses gefnogi gan yr aelodau
Rheoli/monitro’r gyllideb a osodir gan Reolwr y Prosiect, gan sicrhau gwerth am arian a darpariaeth ar y cyd lle bo hynny’n ymarferol
Derbyn cyfrifoldeb am bob gweithgaredd a datblygiad cleientiaid yn y rhanbarth a sicrhau bod targedau daearyddol yn cael eu cyrraedd.
Parhau i ddatblygu gwybodaeth a dealltwriaeth o arbenigeddau eraill, gan sicrhau darpariaeth o wasanaethau holistig i’r cwsmer, gydag ymrwymiad i gynnal unrhyw waith ymchwil a dysgu a datblygu sy’n ofynnol er mwyn bodloni’r anghenion hynny
Bod yn weladwy ac yn hyblyg wrth ddarparu’r gwasanaeth yn y rhanbarth
Monitro a Gwerthuso
Sicrhau bod adroddiadau cywir a pherthnasol yn cael eu darparu trwy gydol oes y prosiect a bod deilliannau’n cael eu monitro’n fanwl, yn cael eu hadolygu a’u hadrodd i’r Rheolwr Prosiect a Llywodraeth Cymru yn unol â gofynion y cytundeb, ac er mwyn bodloni gofynion archwilio perthnasol
Cadw adroddiadau manwl o weithgareddau a gwaith papur er mwyn monitro a chyrraedd targedau’r prosiect i gydymffurfio â systemau monitro ac adrodd Llywodraeth Cymru
Cymryd cyfrifoldeb dros sicrhau bod yr holl ddogfennau ar gyfer y gwaith a gwblhawyd yn gyfredol ac wedi’i gwblhau yn unol â gofynion y cynllun
Cynhyrchu adroddiad terfynol ar ddiwedd y gwaith gyda phob grŵp/unigolyn, sy’n adrodd ar gryfderau a gwendidau’r gweithgaredd/cymorth a dderbyniwyd.
Arall
Sicrhau bod safonau ansawdd, gofal cwsmer, cydraddoldeb ac amrywiaeth, iechyd a diogelwch a bioddiogelwch yn cael eu bodloni
Derbyn unrhyw ddyletswyddau a chyfrifoldebau eraill, a chymryd rhan mewn gwaith arall yn ymwneud â bwyd ar ran Menter a Busnes yn ôl yr angen
Cynrychioli Menter a Busnes yn ôl yr angen
Sgiliau a Phrofiad
Hanfodol
Addysg hyd lefel gradd neu gyfwerth mewn busnes, economeg, amaeth, bwyd, diwydiannau’r tir, neu bwnc perthnasol
Dealltwriaeth drylwyr o’r sectorau amaeth a diwydiannau’r tir yng Nghymru, gyda’r gallu i adnabod y wybodaeth a’r gwaith ymchwil sy’n berthnasol i’r sector(au) hynny
Dealltwriaeth eang o ddatblygiad polisi, yn ogystal â strategaethau a pholisïau Llywodraeth Cymru.
Dealltwriaeth dda a/neu brofiad dangosadwy o weithio gyda chynhyrchwyr bwyd cynradd a’r sector preifat
Profiad dangosadwy o reoli cleientiaid ac ymgysylltu gyda chleientiaid / busnesau naill ai wyneb i wyneb, dros e-bost neu dros y ffôn.
Gallu gwerthuso a defnyddio tystiolaeth mewn modd clir ac ymarferol sy’n berthnasol i’r gynulleidfa ac i feddwl yn greadigol, gan fynegi manteision, anfanteision a risgiau gwahanol opsiynau
Gallu asesu a datblygu dealltwriaeth glir o anghenion cleientiaid, a’u cefnogi yn unol â’u gofynion unigol
Dealltwriaeth dda o gyfrifon busnes a chynlluniau busnes
Sgiliau a phrofiad o ddatblygu rhwydweithiau gwych ar wahanol lefelau (e.e. cysylltiadau ffurfiol ac anffurfiol) o fuddiolwyr posibl i bobl broffesiynol mewn sefydliadau partneriaeth
Sgiliau trefnu a chydlynu rhagorol, gyda phrofiad o drefnu arddangosfeydd a digwyddiadau
Gallu datblygu ac integreiddio gwasanaethau newydd mewn modd effeithiol ac amserol
Sgiliau cyflwyno a rhyngbersonol rhagorol, gyda’r gallu i wneud penderfyniadau anodd a’u cyfathrebu mewn modd diduedd
Gallu cymell ei hun, a derbyn cyfrifoldeb dros osod ac adolygu blaenoriaethau ar gyfer cyflawni targedau, gyda ffocws clir ar ansawdd
Ymwybyddiaeth o safonau bwyd a gofynion rheoliadol o fewn y diwydiant
Sgiliau cyfathrebu dwyieithog (Cymraeg/Saesneg) llafar ac ysgrifenedig ardderchog
Sgiliau TG ar lefel uchel gan gynnwys pecynnau Microsoft, cronfeydd data a’r we
Trwydded yrru lawn a defnydd o gar (gallai’r swydd olygu teithio ledled Cymru)
Ar gael i weithio gyda’r nos a thros y penwythnos yn achlysurol.
**Dymunol **
Profiad dangosadwy o redeg ymgyrchoedd marchnata a chyfathrebu
Profiad dangosadwy o weithio / rheoli prosiect ar raddfa debyg
Gwneud Cais
Gallwch wneud cais am y swydd hon drwy gwblhau ffurflen gais a ffurflen cyfleoedd cyfartal (ar gael ar ein gwefan:
www.menterabusnes.co.uk) a’u dychwelyd at [email protected].
Os hoffech sgwrs anffurfiol ynglŷn â’r swydd hon, cysylltwch â Nerys Davies ar 07539 030 849
**Cyfweliadau **
Byddwn yn cynnal y cyfweliadau ar gyfer y swydd hon yn swyddfa Menter a Busnes yn Aberystwyth ar ddydd 13 Mehefin 2022. Os nad yw’r dyddiad yma’n gyfleus, nodwch hynny ar eich ffurflen gais.
Dyddiad Cau
Y dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau yw: 10am, 6 Mehefin 2022.
Polisi Cydraddoldeb ac Amrywiaeth
Ceir copi o’n Polisi Cydraddoldeb ac Amrywiaeth ar ein gwefan
Cyflog
💰 £34,198 - £36,335
Lleoliad
📍 Aberystwyth
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Rydych wedi gweld yr holl swyddi.