Swyddi Cymraeg
8 swydd yn cyfateb
Swyddog Marchnata: Llysgenhadon
Mae Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn edrych am Swyddog Marchnata: Llysgenhadon
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mae’r Coleg yn dymuno penodi unigolyn trefnus, gweithgar ac arloesol i weithredu fel aelod o’r tîm marchnata sydd yn gweithredu strategaeth farchnata’r Coleg gan ganolbwyntio ar arwain a datblygu cynlluniau llysgenhadon dysgwyr a myfyrwyr y Coleg Cymraeg.
Mae’r cynlluniau llysgenhadon yn allweddol i waith marchnata’r Coleg ac mae hwn yn gyfle gwych i unigolyn rhagweithiol i gymryd perchnogaeth tra’n cyd weithio gydag eraill i ddatblygu’r cynlluniau hyn. Byddwch hefyd yn gweithredu fel aelod o’r tîm marchnata er mwyn cyflawni’r gwaith marchnata a hyrwyddo gwahanol elfennau o strategaeth farchnata’r Coleg gan gynnwys cynnal ymweliadau ysgolion a cholegau addysg bellach yn gyson yn ardal y Gogledd a’r Canolbarth.
Cyflog
💰 £27,929 - £34,308
Lleoliad
📍 Caernarfon, Aberystwyth
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Swyddog Ymgyrchoedd Marchnata
Mae Prifysgol Aberystwyth yn edrych am Swyddog Ymgyrchoedd Marchnata
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Bydd y Brifysgol yn ystyried ceisiadau gan y rhai sy'n dymuno gweithio o bell. Noder y bydd yn ofynnol i ymgeiswyr llwyddiannus fynychu Digwyddiadau Prifysgol Aberystwyth ar y campws (Diwrnodau Agored, Digwyddiadau Ymgeiswyr, Teithiau Campws, Canolfan Alwadau Clirio) ar wahanol adegau yn ystod y flwyddyn, bydd hefyd yn ofynnol i ymgeiswyr llwyddiannus fynychu cyfarfodydd staff ym Mhrifysgol Aberystwyth.
Arweinir y Tîm Ymgyrchoedd Marchnata gan Bennaeth Tîm Ymgyrchoedd Marchnata. Bydd y Swyddog Ymgyrchoedd Marchnata yn adrodd yn uniongyrchol i'r Rheolwr Ymgyrchoedd Marchnata ac yn gyfrifol am ddatblygu a chyflwyno ymgyrchoedd marchnata sy'n cyflawni strategaeth farchnata a recriwtio myfyrwyr y Brifysgol.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gweithio ar draws y cyfryngau digidol a thraddodiadol ac yn cefnogi'r Tîm Ymgyrchoedd Marchnata i gyflawni ymgyrchoedd i recriwtio myfyrwyr Israddedig ac Ôl-raddedig ym mhob marchnad (DU a Rhyngwladol).
Bydd gofyn i Ddeilydd y Swydd weithio 14 awr dros 2 ddiwrnod.
Gellir gwneud ymholiadau anffurfiol drwy gysylltu â/ag Lucy Stevenson [email protected].
Fel arfer fe benodir i swyddi o fewn 4 - 8 wythnos wedi’r dyddiad cau.
Beth fyddwch chi’n ei wneud
Y mae’r disgrifiad swydd hwn yn amodol ar ei adolygu a’i ddiwygio yng ngoleuni anghenion cyfnewidiol y Brifysgol, i ddarparu cyfleoedd datblygu priodol ac/neu i ychwanegu dyletswyddau ychwanegol eraill.
- Gweithio gyda'r Pennaeth Ymgyrchoedd Marchnata a'r Rheolwr Ymgyrchoedd Marchnata i ddatblygu cynlluniau marchnata ar gyfer ymgyrchoedd recriwtio allweddol, i farchnata cyrsiau israddedig ac ôl-raddedig yn y DU ac yn Rhyngwladol.
- Arwain ar weithredu ymgyrchoedd a phrosiectau yn erbyn cyllideb benodol a dangosyddion perfformiad allweddol a ddarperir gan y Pennaeth Ymgyrchoedd Marchnata. Adrodd ar gynnydd yr ymgyrch i'r Rheolwr Marchnata yn rheolaidd.
- Olrhain, monitro a dadansoddi cynnydd ac effeithiolrwydd yr ymgyrch - cynhyrchu adroddiadau dadansoddi gan ddangos gwybodaeth cyllidebu a dangosyddion perfformiad allweddol a chreu argymhellion i'r Rheolwr Marchnata a’r Pennaeth Ymgyrchoedd Marchnata ar ddiwedd ymgyrch.
- Arwain gyda syniadau arloesol i ddatblygu ymgyrchoedd creadigol a chystadleuol sy'n integreiddio cyfryngau digidol a thraddodiadol, sy'n sefyll allan yn y farchnad Addysg Uwch.
- Datblygu ac arwain ar weithgareddau meithrin a throsi ar gyfer darpar fyfyrwyr ac ymgeiswyr.
- Datblygu perthynas gref gyda staff o adrannau academaidd ac adrannau gwasanaeth yn y Brifysgol.
- Datblygu a rheoli perthynas â chwmnïau trydydd parti (fel UCAS, The Student Room, Find a Masters) a datblygu cynnwys i farchnata Prifysgol Aberystwyth yn effeithiol.
- Datblygu perthynas gref ag asiantaethau hysbysebu yn y DU ac yn rhyngwladol i gyfrannu at ddatblygu ymgyrchoedd hysbysebu y gellir eu tracio yn erbyn cyllideb benodol a dangosyddion perfformiad allweddol.
Datblygu ac arwain ar weithgareddau ymgysylltu ar-lein i ddarpar fyfyrwyr ac ymgeiswyr i fodloni dangosyddion perfformiad allweddol.
- Ysgrifennu cynnwys deniadol ar gyfer deunyddiau marchnata i fachu sylw’r gynulleidfa.
- Ymchwilio am syniadau ac ysgrifennu a golygu cynnwys ar draws sianeli cyfathrebu marchnata (gwefan, e-byst, sianeli cyfryngau cymdeithasol, llwyfannau ar-lein) i hyrwyddo’r Brifysgol i’n cynulleidfaoedd targed.
- Dilyn canllawiau brand y Brifysgol pryd yn creu deunyddiau marchnata.
- Sicrhau bod cyflenwyr yn cael eu briffio'n llawn ar sut i weithredu Brand gweledol y Brifysgol.
- Cynrychioli'r Brifysgol mewn digwyddiadau allanol a mewnol gan gynnwys Diwrnodau Agored, ffeiriau UCAS ac arddangosfeydd eraill (nid dyma’r rhestr gyflawn).
- Bydd gofyn i ddeiliad y swydd i weithio'n hyblyg ac ar benwythnosau a gyda'r nos o dro i dro.
- Ymgymryd â dyletswyddau a chyfrifoldebau iechyd a diogelwch sy’n briodol i’r swydd.
- Bod yn ymroddedig i Bolisi Cyfle Cyfartal ac Amrywioldeb y Brifysgol, ynghyd â dealltwriaeth ynglŷn â sut y mae’n gweithredu o fewn cyfrifoldebau’r swydd.
- Bod yn ymroddedig i’ch datblygiad eich hunan a datblygiad eich staff, drwy ddefnyddio proses ‘Cynllun Cyfraniad Effeithiol y Brifysgol yn effeithiol.
- Unrhyw ddyletswydd resymol a gofynnir sy'n gymesur â gradd y rôl.
Cyflog
💰 £29,619 - £35,333 pro rata
Lleoliad
📍 Aberystwyth, Hybrid
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Swyddog Marchnata Trosi Ceisiadau Marchnata a Denu Myfyrwyr
Mae Prifysgol Aberystwyth yn edrych am Swyddog Marchnata Trosi Ceisiadau Marchnata a Denu Myfyrwyr
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Bydd y Swyddog Marchnata Trosi Ceisiadau yn atebol i’r Rheolwr Marchnata Trosi Ceisiadau, a’i waith fydd datblygu ac arwain ar Farchnata Trosi Ceisiadau a Throsi Ysgoloriaethau ar gyfer y tîm Marchnata Trosi Ceisiadau.
Mae'r tîm Marchnata Trosi Ceisiadau yn gyfrifol am yr holl weithgareddau trosi, gan feithrin ein myfyrwyr o'r cyfnod ymgeisio hyd at y cyfnod cofrestru, a hynny gan ddefnyddio system gyfathrebu integredig sy’n defnyddio sawl cyfrwng. Mae’r tîm yn gyfrifol hefyd am y gwaith arwain strategol ar y system newydd i reoli cysylltiadau â chwsmeriaid (CRM) sy’n cael ei datblygu yn yr adran Marchnata a Denu Myfyrwyr.
Bydd deiliad y swydd yn cyfrannu’n weithredol at arwain prosiectau o fewn y tîm Marchnata Trosi Ceisiadau trwy ddefnyddio dulliau marchnata traddodiadol a digidol ar gyfer pob lefel o recriwtio (Israddedig ac Uwchraddedig) ym mhob marchnad (Y DU ac yn Rhyngwladol).
Gellir gwneud ymholiadau anffurfiol drwy gysylltu â Sulwen Richards, Rheolwr Marchnata Trosi Ceisiadau [email protected].
Cyflog
💰 £29,619 - £35,333
Lleoliad
📍 Aberystwyth
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Rheolwr Marchnata a Hyrwyddo / Swyddog Marchnata
Mae Cwmni Theatr Arad Goch yn edrych am Reolwr Marchnata a Hyrwyddo / Swyddog Marchnata
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mae Cwmni Theatr Arad Goch am benodi person brwdfrydig i reoli gwaith marchnata a hyrwyddo y cwmni neu i fod yn swyddog marchnata (yn ddibynnol ar brofiad). Mae'r gallu i gyfathrebu yn y Gymraeg ar Saesneg yn hanfodol ar gyfer y swydd. Bydd yr ymgesiydd llwyddiannus yn gyfrifol am hyrwyddo a marchnata cynyrchiadau'r cwmni a gweithgareddau yng Nghanolfan Arad Goch.
Bydd gan yr ymgeisydd delfrydol:
· profiad o hyrwyddo digwyddiadau
· sgiliau cyfryngau cymdeithasol
· sgiliau cyfathrebu da
Os am fanylion pellach - cysylltwch a [email protected]
Dyddiad cychwyn: mor fuan a phosib.
Cyflog: £21,460 - £30,023 (pro rata) yn dibynnu ar brofiad
Ceisiadau: Dylid anfon ceisiadau ar ffurf llythyr a CV gydag enwau dau ganolwr at [email protected] erbyn 5pm ar 25/11/22. Elusen Cofrestredig: 702506
Anela Arad Goch at fod yn gyflogwr cyfle cyfartal.
Cyflog
💰 £21,460 – £30,023 pro rata
Lleoliad
📍 Aberystwyth
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Pennaeth Marchnata a Chynulleidfaoedd
Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn edrych am Bennaeth Marchnata a Chynulleidfaoedd
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Pwrpas cyffredinol y rôl:
Arwain gweithgareddau marchnata ar draws y Llyfrgell ac ar y cyfryngau cymdeithasol yn ogystal â rheoli ymgyrchoedd, digwyddiadau a phrosiectau hyrwyddo’r sefydliad.
Cyfrifoldeb am ddarparu gwasanaeth lletygarwch a chroeso o’r radd flaenaf i’r rhai hynny sy’n ymweld â’r Llyfrgell gan greu a gweithredu cynlluniau i gynyddu nifer yr ymwelwyr a sicrhau eu bod yn cael y profiad gorau bosib iddynt.
Creu a gweithredu strategaethau i ddenu ystod ehangach o bobl a phlant i’r Llyfrgell gyda phwyslais gref ar gynyddu amrywedd ein defnyddwyr.
Datblygu a gweithredu cynlluniau i hyrwyddo ac ehangu’r defnydd a wneir o wasanaethau a chasgliadau, ehangu’r brand ac adnabod a chlustnodi adnoddau i gyflawni amrywiol brosiectau a blaenoriaethau gan osod targedau tymor byr a thymor hir.
Bydd elfennau cydlynol cryf yn perthyn i’r swydd wrth i chi ysbrydoli, arwain, annog a chydweithio gydag eraill, o fewn eich cyfarwyddiaeth, a thu allan iddi, i gyrraedd nodau strategol yn y meysydd hynny y byddwch yn gyfrifol amdanynt.
Byddwch yn chwarae rhan allweddol yn ein nod o ddarparu’r mynediad ehangaf posibl i’n casgliadau a’n gwasanaethau yn ein hadeilad yn Aberystwyth, ar ein gwefan ac mewn cymunedau ledled Cymru.
Byddwch yn gyfrifol am arwain ar strategaeth farchnata ddigidol, digwyddiadau ac hyrwyddo’r Llyfrgell.
Cyflog
💰 £43,445 - £56,869
Lleoliad
📍 Aberystwyth
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Swyddog Marchnata
Mae Menter a Busnes yn edrych am Swyddog Marchnata
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Dyma gyfle gwych i weithio ar brosiect yn niwydiant byrlymus bwyd a diod Cymru sy’n hollbwysig i dŵf yr economi Gymreig.
Cywain
Mae Cywain, a ddarperir gan Menter a Busnes, yn fodel sy’n darparu cefnogaeth wedi’i dargedu ar gyfer busnesau micro a BBaCh sy’n gweithredu yn y sector bwyd a diod yng Nghymru. Rydym yn dechrau cyfnod newydd ac rydym wedi derbyn cyllid trwy Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig 2014 - 2020 i ddarparu gwasanaeth diwygiedig. Mae cyllid y prosiect wedi cael ei gadarnhau tan Mehefin 2023.
Mae’r gwasanaeth yn cefnogi busnesau i gryfhau a thyfu, yn eu helpu i drosglwyddo gwybodaeth a dealltwriaeth o’r diwydiant, yn ogystal â chryfhau eu hintegreiddiad yn y gadwyn gyflenwi. Mae’n darparu gwasanaethau drwy Gymru gyfan gyda phwyslais ar gydweithredu drwy glystyru, ychwanegu gwerth, datblygu’r farchnad er mwyn tyfu a chreu swyddi. Mae Cywain wedi datblygu rhwydwaith eang o randdeiliaid ac, yn ganolog i ddatblygiad y cleient, mae gennym agwedd gydlynol tuag at weithio gyda phartneriaid darparu eraill.
Mae tair elfen i’r prosiect:
● Cefnogaeth i fusnesau newydd a micro ● Cefnogaeth diagnosteg ar gael i holl fusnesau bwyd a diod yng Nghymru
● Clystyru a chyd weithio rhwng busnesau er mwyn hyrwyddo twf ac effeithlonrwydd
**Nod y Rôl **
Cefnogi’r Arweinydd Tîm Marchnata a Digwyddiadau i lunio a gweithredu’r cynllun marchnata a chyfathrebu o ddydd i ddydd, gyda ffocws arbennig ar gefnogi cyfathrebiadau allanol gyda budd-ddeiliad allweddol. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn hyblyg, gyda’r gallu i addasu unrhyw weithgareddau marchnata a chyfathrebu yn ôl yr angen, a hyn yn seiliedig ar ymchwil, newidiadau i’r farchnad a/neu mewn ymateb i ffactorau allanol.
Prif Gyfrifoldebau
● Cyd weithio gyda’r Arweinydd Tîm Marchnata a Digwyddiadaui weithredu cynllun marchnata a chyfathrebu ar gyfer y prosiect
● Datblygu brand a hunaniaeth y prosiect; dewis a datblygu sianelau cyfathrebu perthnasol
● Rheoli sianelau cyfryngau cymdeithasol a chynhyrchu copi ar gyfer gwefan y prosiect
● Cyfrannu at gyflawni targedau marchnata a chyfathrebu y rhaglen, gan sicrhau bod y gwasanaeth a ddarperir o’r safon uchaf
● Cynorthwyo i ddylunio, gweithredu a gwerthuso gweithgareddau marchnata a chyfathrebu y rhaglen
● Ysgrifennu a golygu copi, gan sicrhau bod datganiadau i’r wasg, ymgyrchoedd cymdeithasol/digidol yn y cyfryngau, cynnwys ar y we a chyhoeddiadau mewn print, gan gynnwys ffeithlenni a chyhoeddiadau technegol ac erthyglau, oll yn cael eu cynhyrchu’n amserol a chywir, yn unol â chanllawiau’r arianwyr
● Prawf ddarllen copi’n gydwybodol, gan sicrhau bod unrhyw wallau neu ymholiadau am ramadeg, sillafu, atalnodi, arddull a/neu gywirdeb yn cael eu canfod a’u cywiro, yn ogystal â sicrhau darpariaeth a chyfathrebiad cyson brand y prosiect
● Cynnal llyfrgell o gyhoeddiadau’r prosiect
● Cynorthwyo i weithredu portffolio o ddigwyddiadau ac arddangosfeydd mewn ffordd broffesiynol, yn lleol a chenedlaethol, gan sicrhau amserlen gynnwys berthnasol ac ymgysylltiol
● Cydweithio â’r cyfryngau’n lleol, yn rhanbarthol ac yn genedlaethol, gan ddelio gydag ymholiadau fel y bo’n ofynnol
● Cyflawni tasgau ymchwil farchnad penodol a darparu arweiniad i gytundebwyr allanol
● Gweithio gyda’r Arweinydd Tîm Marchnata a Digwyddiadau i oruchwylio a rheoli isgontractwyr sy’n darparu gwasanaeth marchnata a chyfathrebu i’r rhaglen
● Profi, mesur a gwerthuso gweithgareddau marchnata a chyfathrebu’r rhaglen yn barhaus, gan sicrhau bod adroddiadau’n cael eu creu a’u dosbarthu i’r rhanddeiliaid perthnasol
● Monitro, adolygu ac adrodd am ganlyniadau cyfathrebu a marchnata, gwariant a pherfformiad yn unol â gofynion y rhaglen, gan gynnwys creu a chynnal systemau rheoli effeithiol er mwyn bodloni gofynion Archwilio perthnasol
**Arall **
● Sicrhau bod y safonau’n cael eu cyrraedd ar gyfer gwasanaethau’r cwsmer, ansawdd, cydraddoldeb ac amrywiaeth, iechyd a diogelwch a bioddiogelwch
● Derbyn dyletswyddau a chyfrifoldebau rhesymol eraill yn ôl y galw
● Cynrychioli Menter a Busnes yn ôl y galw
Sgiliau a Phrofiad
Hanfodol
● Addysg hyd lefel gradd, neu gyfatebol, mewn pwnc perthnasol megis marchnata, cyfathrebu, busnes neu faes tebyg, neu brofiad dangosadwy mewn rôl farchnata, gyfathrebu a/neu ddigwyddiadau
● Gwybodaeth a dealltwriaeth am y sectorau bwyd, diod ac amaeth yng Nghymru
● Profiad dangosadwy o helpu gyda datblygiad, gweithrediad a gwerthusiad effeithiol o gynlluniau marchnata a chyfathrebu integredig
● Profiad eang o ysgrifennu copi clir, cywir a manwl ar gyfer ei brintio a/neu gyhoeddiadau digidol sy’n berthnasol i’r gynulleidfa ac o fewn canllawiau penodol
● Sgiliau prawf ddarllen ragorol
● Profiad o reoli cyfrifon cyfryngau cymdeithasol busnes, gan gynnwys paratoi calendr cynnwys misol, monitro ac adrodd ar berfformiad cyfryngau cymdeithasol a chanlyniadau ymgyrchoedd
● Profiad o reoli ac optimeiddio ymgyrchoedd hysbysebu digidol gan ddefnyddio chwiliad taledig a chyfryngau cymdeithasol taledig
● Profiad o ddiweddaru cynnwys y we
● Rhwydweithiau wedi eu datblygu’n dda gyda’r cyfryngau yng Nghymru
● Profiad o gynhyrchu adroddiadau clir, cywir a manwl sy’n berthnasol i’r gynulleidfa
● Sgiliau trefnu a chydgysylltu rhagorol gyda’r gallu i weithio i ddyddiadau tynn
● Gallu ysgogi ei hun yn greadigol gan dderbyn y cyfrifoldeb am osod ac adolygu blaenoriaethau i gyflawni targedau, gyda ffocws clir ar ansawdd
● Gweithio’n dda fel aelod o dîm gydag agwedd ragweithiol a’r hyder i gymryd yr awenau ac arwain gweithwyr eraill pan fo raid
● Sgiliau cyfathrebu dwyieithog (Cymraeg/Saesneg) llafar ac ysgrifenedig rhagorol
● Sgiliau TG o safon uwch, gan gynnwys Word, Excel, PowerPoint, Ebost, cronfeydd data a’r we
● Trwydded yrru lawn a char i’w ddefnyddio Manteisiol
● Meddu ar gymhwyster proffesiynol perthnasol, megis cymhwyster y Sefydliad Marchnata Siartredig
● Profiad o drefnu arddangosfeydd a digwyddiadau
● Profiad dangosadwy o weithio yn y diwydiant amaeth, bwyd a diod yng Nghymru Gwneud Cais
Gallwch wneud cais am y swydd hon drwy lenwi ffurflen gais a ffurflen cyfle cyfartal (sydd ar gael ar ein gwefan www.menterabusnes.co.uk) a’u dychwelyd at [email protected]. Os hoffech gael sgwrs anffurfiol am y swydd hon, cysylltwch ag Alex James ar 07539 173732. Cyfweliadau Byddwn yn cynnal y cyfweliadau ar gyfer y swydd hon yn rhithiol ar ddydd Gwener, 15 Gorffennaf 2022. Os yw’r dyddiad hwn yn anghyfleus, nodwch hynny ar eich ffurflen gais os gwelwch yn dda. Dyddiad Cau
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw: 10.00yb, dydd Mawrth, 12 Gorffennaf 2022. **Polisi Cydraddoldeb ac Amrywiaeth ** Gwelwch ein gwefan i gael copi o’n Polisi Cydraddoldeb ac Amrywiaeth.
Cyflog
💰 £27,433 - £30,205
Lleoliad
📍 Aberystwyth, Bangor, Caerdydd, Caerfyrddin, Meifod, O gartref
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Swyddog Gweithredol Datblygu'r Farchnad Allforio
Mae Hybu Cig Cymru yn edrych am Swyddog Gweithredol Datblygu'r Farchnad Allforio
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mae tair diben i’r swydd; dadansoddi a lledaenu gwybodaeth i helpu i wneud penderfyniadau ar sail tystiolaeth o weithgareddau marchnata HCC mewn marchnadoedd allforio; cynnal perthynas ag allforwyr cig coch Cymru a rheoli rhaglenni a phrosiectau hyrwyddo ar gyfer Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru mewn marchnadoedd allforio; nodi datblygiadau / cyfleoedd / cyfyngiadau'r farchnad allforio ar gyfer cig o Gymru gan gynnwys sgil-gynhyrchion.
Cyflog
💰 £33,954 - £42,216
Lleoliad
📍 Aberystwyth
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Swyddog Marchnata a Chefnogi
Mae Menter a Busnes yn edrych am Swyddog Marchnata a Chefnogi
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Cyflog
💰 £21,979 - £23,749
Lleoliad
📍 Aberystwyth, Bangor, Caerfyrddin, Caerdydd
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Rydych wedi gweld yr holl swyddi.