Swyddi Cymraeg
4 swydd yn cyfateb
Rheolwr Prosiect Cymunedau Cymru
Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn edrych am Reolwr Prosiect Cymunedau Cymru
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Pwrpas cyffredinol y rôl:
Bydd Rheolwr Prosiect Cymunedau Cymru yn sefydlu, datblygu, a gweithredu prosiect newydd i helpu plant mewn ysgolion ledled Cymru i groesawu a dathlu eu treftadaeth ddiwylliannol amrywiol. Nod y prosiect yw gweithio gydag ysgolion mewn cymunedau ledled Cymru i adrodd straeon trwy lens y bobl amrywiol sydd wedi symud i Gymru ac wedi helpu i lunio’r cymunedau hynny. Bydd y prosiect yn gweithio gyda nhw i gydddatblygu a chyflwyno deunyddiau addysg a dysgu sydd yn dathlu amrywiaeth ac yn annog ymgysylltiad gwrth-hiliaeth.
Y GYFARWYDDIAETH
Mae’r Gyfarwyddiaeth yn gyfrifol am gyflawni nifer o ffwythiannau strategol pwysig, megis cyfathrebu a phartneriaethau, ymgysylltu, adnabod a datblygu cynulleidfaoedd, gwirfoddoli, cyfranogi a dysgu, hyrwyddo a marchnata, arddangosfeydd, profiad yr ymwelydd, codi incwm, Casgliad y Werin ac mewn cydweithrediad â’r Prif Weithredwr a Llyfrgellydd codi arian. Mae pob un o’r ffwythiannau hyn yn elfennau allweddol a hanfodol o Gynllun Strategol y Llyfrgell ac yn ymwneud â meysydd sydd ymhlith blaenoriaethau pennaf y Llyfrgell. Bydd y Gyfarwyddiaeth yn cael ei harwain gan y Cyfarwyddwr Cyfathrebu, Ymgysylltu a Phartneriaethau a bydd gan y Cyfarwyddwr dri / tair Pennaeth Adran yn atebol.
Cyflog
💰 £26,209 - £33,813
Lleoliad
📍 Aberystwyth
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Rheolwr Prosiect – Ymlaen Gyda’r Dysgu – E-sgol
Mae Cyngor Sir Ceredigion yn edrych am Reolwr Prosiect – Ymlaen Gyda’r Dysgu – E-sgol
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mae prosiect e-sgol wedi bod yn rhedeg ers Medi 2018, yn cynnig gwersi trwy e-ddysgu i ddisgyblion ôl-14 na fyddai ar gael heb y ddarpariaeth arloesol hwn. Yn ychwanegol, mae e-sgol yn gyfrifol am redeg a darparu Carlam Cymru – cyfres o sesiynau adolygu ar ôl ysgol sydd yn atgyfnerthu’r gwaith sy’n digwydd yn yr ysgol. Prosiect cyffrous arall sydd ar y gweill yw gweithio mewn partneriaeth â’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Cenedlaethol i geisio gwireddu nod Llywodraeth Cymru o gynnig gwersi Cymraeg am ddim i bobol ifanc 16-18 oed ar draws Cymru gyfan.
Bydd deiliad y swydd hon yn gyfrifol am gydlynu’r prosiect newydd hwn trwy fod yn gyswllt cyson gyda’r Ganolfan Dysgu Cymraeg, yr ysgolion a’r tiwtoriaid Cymraeg yn ogystal â marchnata’r prosiect yn genedlaethol. Dewch i ymuno â thîm brwdfrydig e-sgol er mwyn arwain ar brosiect newydd a chyffrous.
Bydd y gallu i gyfathrebu yn y Gymraeg yn hanfodol i’r swydd hon.
Gweithio Hybrid: Gall yr ymgeisydd llwyddiannus, yn amodol ar fodloni ein gofynion sylfaenol o ran band eang, gweithle a diogelwch gwybodaeth, ddewis a yw’n gweithio gartref neu yn ei leoliad gwaith dan gontract.
Dyddiad cyfweliad: 18/11/2022
Am ragor o wybodaeth neu sgwrs anffurfiol mae croeso i chi gysylltu gyda Llifon Ellis, Pennaeth e-sgol, ar: [email protected]
Noder: Cedwir yr hawl i estyn y dyddiad cau.
Mae diogelu ac amddiffyn plant yn flaenoriaethau allweddol i ni. Ein nod yw cefnogi plant, pobl ifanc a’r rhai sydd mewn perygl i sicrhau eu bod mor ddiogel ag y gallant fod. Rydym yn cydnabod bod gan blant, pobl ifanc a’r rhai sydd mewn perygl hawl i gael eu a byddwn yn cymryd camau i ddiogelu’u lles. Disgwylir i bob aelod o staff a gwirfoddolwr rannu’r ymrwymiad hwn, a bydd angen Gwiriad Gwell gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS), CRB gynt.
Cyflog
💰 £29,174 - £30,984 pro rata
Lleoliad
📍 Aberystwyth
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Rheolwr Academaidd: Addysg Bellach a Phrentisiaethau
Mae Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn edrych am Reolwr Academaidd: Addysg Bellach a Phrentisiaethau
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mae’r Coleg yn dymuno penodi unigolyn cymwys, trefnus, a chreadigol i reoli’r tîm Addysg Bellach a Phrentisiaethau a rheoli’r prosiectau sy’n ymwneud â chynyddu darpariaeth cyfrwng Cymraeg a dwyieithog yn y sectorau addysg bellach a phrentisiaethau. Bydd y prosiectau yn gysylltiedig â’r gwahanol elfennau sef dysgwyr, staffio, darpariaeth, adnoddau, cymwysterau a chyflogwyr er mwyn gweithredu’r strategaeth ‘Tuag at Cymraeg 2050: Miliwn o siaradwyr’.
Byddwch yn rheoli’r gwaith o ddatblygu’r sectorau addysg bellach a phrentisiaethau fel ran o waith cynllunio academaidd y Coleg a chynlluniau ehangach dan arweiniad Llywodraeth Cymru i geisio cynyddu’r niferoedd sy’n astudio yn y Gymraeg ac yn ddwyieithog yn y colegau addysg bellach a gyda darparwyr prentisiaethau.
Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus ddealltwriaeth o’r sector addysg bellach a phrentisiaethau a phrofiad o reoli tîm a phrosiectau amrywiol.
Cyflog
💰 £44,737 – £51,805
Lleoliad
📍 Aberystwyth, Bangor, Caerdydd, Caerfyrddin
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Swyddog Sefydlu a Symud yn y De Orllewin x2
Mae Mudiad Meithrin yn edrych am Swyddog Sefydlu a Symud yn y De Orllewin x2
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Rydym yn chwilio am berson brwdfrydig, egnïol a threfnus i weithio ar gynllun penodol sef sefydlu ac agor Cylchoedd Meithrin/Ti a Fi mewn ardal ddaearyddol penodol.
Dylai’r person fod yn frwd dros y Gymraeg, gyda phersonoliaeth sy’n caniatáu iddi/iddo gyfathrebu yn effeithiol ar sawl lefel a chyd-weithio ag eraill
Cyflog
💰 £21,453 - £25,017 pro rata
Lleoliad
📍 Ceredigion
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Rydych wedi gweld yr holl swyddi.