Swyddi Cymraeg
5 swydd yn cyfateb
Swyddog Etholaeth
Mae Elin Jones AS yn edrych am Swyddog Etholaeth
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Wyt ti'n chwilio am swydd ddiddorol ac amrywiol, ble galli di wneud gwahaniaeth i fywyd pobol Ceredigion?
Mae Elin Jones AS yn chwilio am aelod o staff i ymuno â thîm gweithgar ei Swyddfa Etholaeth yng Ngheredigion. Bydd y swydd yn cynnwys siarad gydag etholwyr y sir, i'w helpu i ddatrys problemau a chyflawni prosiectau. Mae pob diwrnod yn amrywiol, a bydd cyfle i gwrdd â phobl o bob rhan o'r gymdeithas sydd angen cymorth a chefnogaeth.
Byddwn yn darparu hyfforddiant ar systemau a gwaith y swyddfa, ac rydym yn barod iawn i drafod gweithio'n hyblyg, rhannu swydd, a gweithio yn rhannol o gartref.
*Noder os gwelwch yn dda taw swydd tymor benodol 1 blwyddyn yw hon.
Disgrifiad: Prif rôl y Swyddog Etholaeth fydd gweithio'n agos gydag etholwyr Ceredigion i'w cynorthwyo gydag amrywiaeth o broblemau a phrosiectau. Bydd trafod ar y ffôn ac ar ebost gyda phobol Ceredigion yn allweddol i’r swydd ac yna cyd-weithio gyda Elin a’r tîm i ddod o hyd i ddatrysiadau a chyfleon.
Yn ogystal â chefnogi Elin yn ei swydd, bydd y Swyddog hefyd yn mynychu cyfarfodydd, yn ymchwilio ac yn ymateb i ymholiadau, gan weithio fel rhan allweddol o'r tîm.
Cyflog
💰 £27,450-£38,740
Lleoliad
📍 Aberystwyth
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Rheolwr Prosiect – Ymlaen Gyda’r Dysgu – E-sgol
Mae Cyngor Sir Ceredigion yn edrych am Reolwr Prosiect – Ymlaen Gyda’r Dysgu – E-sgol
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mae prosiect e-sgol wedi bod yn rhedeg ers Medi 2018, yn cynnig gwersi trwy e-ddysgu i ddisgyblion ôl-14 na fyddai ar gael heb y ddarpariaeth arloesol hwn. Yn ychwanegol, mae e-sgol yn gyfrifol am redeg a darparu Carlam Cymru – cyfres o sesiynau adolygu ar ôl ysgol sydd yn atgyfnerthu’r gwaith sy’n digwydd yn yr ysgol. Prosiect cyffrous arall sydd ar y gweill yw gweithio mewn partneriaeth â’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Cenedlaethol i geisio gwireddu nod Llywodraeth Cymru o gynnig gwersi Cymraeg am ddim i bobol ifanc 16-18 oed ar draws Cymru gyfan.
Bydd deiliad y swydd hon yn gyfrifol am gydlynu’r prosiect newydd hwn trwy fod yn gyswllt cyson gyda’r Ganolfan Dysgu Cymraeg, yr ysgolion a’r tiwtoriaid Cymraeg yn ogystal â marchnata’r prosiect yn genedlaethol. Dewch i ymuno â thîm brwdfrydig e-sgol er mwyn arwain ar brosiect newydd a chyffrous.
Bydd y gallu i gyfathrebu yn y Gymraeg yn hanfodol i’r swydd hon.
Gweithio Hybrid: Gall yr ymgeisydd llwyddiannus, yn amodol ar fodloni ein gofynion sylfaenol o ran band eang, gweithle a diogelwch gwybodaeth, ddewis a yw’n gweithio gartref neu yn ei leoliad gwaith dan gontract.
Dyddiad cyfweliad: 18/11/2022
Am ragor o wybodaeth neu sgwrs anffurfiol mae croeso i chi gysylltu gyda Llifon Ellis, Pennaeth e-sgol, ar: [email protected]
Noder: Cedwir yr hawl i estyn y dyddiad cau.
Mae diogelu ac amddiffyn plant yn flaenoriaethau allweddol i ni. Ein nod yw cefnogi plant, pobl ifanc a’r rhai sydd mewn perygl i sicrhau eu bod mor ddiogel ag y gallant fod. Rydym yn cydnabod bod gan blant, pobl ifanc a’r rhai sydd mewn perygl hawl i gael eu a byddwn yn cymryd camau i ddiogelu’u lles. Disgwylir i bob aelod o staff a gwirfoddolwr rannu’r ymrwymiad hwn, a bydd angen Gwiriad Gwell gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS), CRB gynt.
Cyflog
💰 £29,174 - £30,984 pro rata
Lleoliad
📍 Aberystwyth
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Pennaeth - Ysgol Dyffryn Aeron
Mae Cyngor Sir Ceredigion yn edrych am Bennaeth - Ysgol Dyffryn Aeron
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Rydym yn chwilio am Bennaeth deinamig ac arloesol gydag egni a gweledigaeth i arwain Ysgol Ardal newydd ar gyfer disgyblion 3-11 oed sy’n cael ei hadeiladu yn Felin-fach, Dyffryn Aeron yn dilyn ad-drefnu addysg gynradd yn yr ardal honno. Bydd disgwyl i’r ymgeisydd llwyddiannus weithio gyda Chorff Llywodraethol Cysgodol ymroddedig a phrofiadol tuag at agoriad yr Ysgol newydd. Yn y cyfamser, bydd yn arwain un o’r ysgolion sy’n dod ynghyd i greu yr Ysgol Ardal, sef Ysgol Ciliau Parc, Ciliau Aeron.
Mae hwn yn gyfle ardderchog ac unigryw i arweinydd egnïol a llwyddiannus sy’n meddu ar yr adnoddau personol a’r brwdfrydedd i ysbrydoli a symbylu staff a disgyblion. Bydd angen sgiliau profedig mewn rheoli newid yn effeithiol, yn effeithlon ac yn sensitif er mwyn sicrhau bod yr holl staff wedi’u cefnogi’n llawn a’u hintegreiddio i dîm unedig. Bydd gan yr Ysgol hon adnoddau chwaraeon modern, a bydd y safle hefyd yn gartref i Ganolfan Iaith ac Uned Anghenion Dysgu Ychwanegol. Bydd yr Ysgol newydd yn chwarae rhan ganolog ym mywyd cymunedau lleol sy’n fwrlwm o weithgareddau diwylliannol a chymdeithasol, ac yn pontio cymunedau a charfannau cymdeithasol amrywiol a chynnig canolbwynt i ddiwylliant Cymraeg cadarnhaol.
Bydd y Pennaeth newydd:
· yn angerddol ynglŷn â gwella cyflawniadau plant, yn meddu ar weledigaeth glir am ragoriaeth addysgol, ac yn datblygu cysylltiadau cryf â’r gymuned a sefydliadau lleol
· yn ymrwymedig i weithio mewn partneriaeth er mwyn bodloni anghenion plant a’u teuluoedd yn y modd gorau posibl drwy greu un amgylchedd dysgu eithriadol
· yn meddu ar sgiliau cadarn o ran arwain a chyfathrebu gan ennyn hyder mewn eraill, ac ysbrydoli staff a disgyblion
· yn meddu ar sgiliau cyfathrebu rhagorol yn y Gymraeg a’r Saesneg ar lafar ac yn ysgrifenedig, ac yn dangos ymrwymiad cadarn i’r iaith Gymraeg a’i diwylliant
· yn meddu ar sgiliau rhyngbersonol cryf er mwyn adeiladu partneriaethau cadarn ymysg y cymunedau lleol
· â disgwyliadau uchel o ran cyrhaeddiad ac ymddygiad disgyblion
· â sgiliau addysgu rhagorol a disgwyliadau ar gyfer dyfodol yr ysgol ynghyd â’r gallu i ysbrydoli rhieni a’r gymuned ehangach i weld yr ysgol yn mynd o nerth i nerth
Disgrifiad Swydd a Manyleb Person
Rhaid i ymgeiswyr sy’n ceisio am eu swydd gyntaf fel Pennaeth feddu ar gymhwyster CPCP.
Bydd angen gwiriad troseddol manylach ar gyfer y swydd hon.
Os am sgwrs anffufiol mae croeso ichi gysylltu gyda Mary Davies, Pennaeth Gwella Ysgolion [email protected]
Cyfweliadau i’w cynnal ar ddydd Iau, 06 Hydref, 2022.
Am ragor o wybodaeth am y cyfle hwn ewch i'n gwefan gyrfaoedd.
Cyflog
💰 £52,302 - £60,624
Lleoliad
📍 Aberaeron
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Athro/Athrawes Cyflenwi – Carlam Cymru
Mae Cyngor Sir Ceredigion yn edrych am Athro/Athrawes Cyflenwi – Carlam Cymru
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Ym mis Ionawr 2021, comisiynwyd e-sgol gan Lywodraeth Cymru i gynnal cyfres o sesiynau adolygu byw ar gyfer myfyrwyr TGAU, Uwch Gyfrannol a Safon Uwch. Caiff y rhain eu recordio hefyd, er mwyn i fyfyrwyr ailymweld â hwy ar unrhyw adeg.
Nod y sesiynau yw cyfoethogi gwybodaeth y myfyrwyr mewn gwahanol bynciau ac i gynnig cymorth pellach i’r gwaith anhygoel mae’r athrawon yn eu cyflawni yn eu hysgolion. Mae’r sesiynau adolygu byw AM DDIM ac ar gael i bob myfyriwr ledled Cymru a thu hwnt.
Mae e-sgol yn edrych i benodi ymarferwyr profiadol o bob rhan o Gymru i gyflwyno a/neu hwyluso digwyddiadau byw ar-lein a fydd yn cael eu rhannu ag ysgolion ledled Cymru. Bydd y sesiynau yn cynorthwyo dysgwyr i ddatblygu ymhellach eu dealltwriaeth o wahanol destunau/unedau o fewn pynciau amrywiol.
Yn eich cais, cofiwch nodi pob pwnc rydych chi’n hapus i gynnig, ym mha iaith, ac i ba lefel.
Cyflog
💰 £27,491 - £42,333
Lleoliad
📍 Ceredigion
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Swyddog Gweinyddol
Mae Elin Jones AS yn edrych am Swyddog Gweinyddol
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Bydd prif ddyletswyddau'r swydd yma yn cynnwys:
Croesawu etholwyr/ymwelwyr i’r swyddfa, ateb y ffôn, cymryd negeseuon, gwneud apwyntiadau ac ymdrin ag ymholiadau a cheisiadau fel sy’n briodol.
Ymateb i negeseuon ebost ac ymholiadau tebyg yn broffesiynol gan ganolbwyntio ar y cwsmer.
Cynorthwyo i baratoi a threfnu ymgyrchoedd penodol.
Cynorthwyo’r Uwch Gynghorydd yn ôl y galw, gan gynnwys helpu i weinyddu’r system achosion ar-lein ac i gynnal y gwaith achos
Cynorthwyo’r Rheolwr Ymchwil a Chyfathrebu drwy ddrafftio datganiadau ac erthyglau i’r wasg yn ôl y galw, a monitro cynnwys y papurau newydd lleol.
Cynorthwyo gyda’r gwaith o brosesu a chofnodi gwariant y Swyddfa
Cynorthwyo gyda’r gwaith o gynnal cyfleusterau’r swyddfa, gan gynnwys sicrhau trefniadau cynnal y cyfleusterau ac archebu offer/nwyddau’r swyddfa
Mynychu cymorthfeydd yn ôl y galw, gan ddelio gydag unrhyw faterion sy’n codi
Cyflog
💰 £21,225 - £28,624 pro rata
Lleoliad
📍 Aberystwyth
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Rydych wedi gweld yr holl swyddi.