Swyddi Cymraeg
2 swydd yn cyfateb
Swyddog Adnoddau Dynol Cynorthwyol - Addysg
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn edrych am Swyddog Adnoddau Dynol Cynorthwyol - Addysg
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mae’r gallu i gyfathrebu trwy gyfrwng y Gymraeg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon, er mwyn darparu gwasanaeth dwyieithog i’r ysgolion .
Manylion y Rheolwr ar gyfer trafodaeth anffurfiol am y swydd:
[Eleri Wyn Williams, Rheolwr AD Addysg 01492 575065 [email protected]
Ffion Morris, Prif Swyddog AD Addysg 01492 575064 [email protected] ]
Mae Conwy wedi ymrwymo i gyfle cyfartal ac rydym yn croesawu ymgeiswyr o bob rhan o'r gymuned. Rydym yn darparu opsiwn i bobl anabl wneud cais mewn gwahanol fformatau. Cysylltwch â'r Tîm AD ar 01492 576129 i gael cyngor pellach.
Mae’n rhaid i ymgeiswyr lenwi ein ffurflen gais ni i gael eu hystyried. Ni dderbynnir CVs ar eu pen eu hunain. Os nad ydych wedi cael gwahoddiad i gyfweliad o fewn tair wythnos o'r dyddiad cau, dylech gymryd yn ganiataol nad ydych ar y rhestr fer ar gyfer cyfweliad.
Mae Conwy wedi ymrwymo i ddiogelu. Bydd cymwysterau a geirdaon yn cael eu dilysu. Yn dilyn dyrchafiad deilydd blaenorol y swydd, gwahoddir ceisiadau am swydd Swyddog AD Cynorthwyol, Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn aelod o’r tîm gyda chyfrifoldeb am ddarparu gwasanaeth AD a chyflog cyfrinachol, effeithlon ac effeithiol i ysgolion a’r gwasanaeth Addysg.
Bydd y prif ddyletswyddau’n cynnwys darparu gwasanaeth recriwtio i ysgolion, paratoi cytundebau cyflogaeth, trefnu archwiliadau cyn cyflogi a chynorthwyo ysgolion gyda phrosesau cyflogres.
Byddwch yn berson sy’n mwynhau gweithio a cynorthwyo ystod eang o gydweithwyr ynghyd a’r gallu i ddelio gyda sefyllfaoedd cymhleth mewn modd sensitif a chyfrinachol. Byddwch hefyd yn berson sy’n gweithio’n bwyllog ac yn gallu cyrraedd terfynau amser gan gynnal cywirdeb.
“Mae Conwy yn datblygu fframwaith ar gyfer gweithio'n hyblyg ar ôl Covid, ble anogir gweithio gartref a defnyddio swyddfeydd ar gyfer cynnal cyfarfodydd, cydweithio a gweithgareddau tîm. Bydd y ffordd newydd o weithio yn lleihau amser teithio i’r gwaith, lleihau allyriadau carbon, gwella cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith a chynyddu cyfleoedd i’r rhai sydd â chyfrifoldebau gofalu.”
Mae’r gallu i gyfathrebu’n hyderus ar lafar ac ysgrifenedig trwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon.
Cysylltwch ag Eleri Wyn Williams neu Ffion Morris, ffôn 01492 575065/064 am drafodaeth anffurfiol Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy wedi ymrwymo i’w Safonau Iaith Gymraeg. Rydym yn croesawu ceisiadau yn y Gymraeg a’r Saesneg fel ei gilydd ac ni fydd ffurflenni cais a dderbynnir yn y naill iaith na’r llall yn cael eu trin yn llai ffafriol na’i gilydd.
Wrth fynd ati i hyrwyddo Cyfle Cyfartal, mae Conwy yn croesawu ymgeiswyr o bob rhan o’r gymuned. Bydd pob ymgeisydd anabl sy’n diwallu gofynion hanfodol y swydd yn cael cyfweliad. Bydd y Cyngor yn darparu cyfleusterau gwaith addas ychwanegol ar gyfer ymgeiswyr gydag anabledd.
Cyflog
💰 £20,852 - £22,129
Lleoliad
📍 Bae Colwyn
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Swyddog Adnoddau Dynol
Mae Cyngor Celfyddydau Cymru yn edrych am Swyddog Adnoddau Dynol
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mae Cyngor Celfyddydau Cymru yn chwilio am Swyddog Adnoddau Dynol i ymuno a’i dîm AD bach ond prysur. Mae’r Swyddog AD yn cefnogi gweithgareddau AD Cyngor y Celfyddydau trwy gynorthwyo’r Pennaeth AD i gyflawni amcanion strategol allweddol. Mae rôl y Swyddog AD yn amrywiol ac yn cynnwys gweithredu fel pwynt cyswllt cyntaf ar gyfer ymholiadau AD mewnol ac allanol, cynorthwyo gyda datblygu a gweithredu polisïau, gweithdrefnau a mentrau AD, arwain ar ymgyrchoedd penodol recriwtio a phenodi, a chynhyrchu data ac adroddiadau ar gyfer ystod o Bwyllgorau mewnol.
Amdanoch chi
Rydych yn gymwys hyd at lefel 5 CIPD neu mae gennych brofiad proffesiynol perthnasol mewn rôl AD o fewn tîm AD prysur, gyda dealltwriaeth dda o brosesau a gweithdrefnau AD. Rydych yn deall deddfwriaeth cyflogaeth, mae gennych sgiliau cyfathrebu rhagorol, ac mae gennych ymwybyddiaeth o’r cyfrifoldebau sy’n gysylltiedig â chefnogi staff mewn perthynas â materion cyfrinachol a sensitif. Rydych hefyd yn deall yn drylwyr gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant ac wedi ymrwymo iddynt.
Yr Iaith Gymraeg
Rydym yn gweithio yn Gymraeg a Saesneg. Mae rhuglder yn y Gymraeg (yn ysgrifenedig ac ar lafar) yn hanfodol ar gyfer y swydd hon. Ar ôl cael eich penodi gallwn eich cefnogi chi i ddatblygu a gwella’ch sgiliau iaith ymhellach ac i gynyddu eich hyder wrth siarad ac ysgrifennu yn y Gymraeg.
Sut i ymgeisio
Cyflwynwch Ffurflen Gais a Ffurflen Monitro Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant mewn fformat Word. Os hoffech chi gyflwyno’ch cais mewn fformat arall, fel nodyn llais, fideo neu fideo Iaith Arwyddion Prydain, cysylltwch â ni yn gyntaf os gwelwch yn dda.
Dyddiad cau: 12:00pm (canol dydd) dydd Mercher, 28 Medi 2022
Cyfweliadau: Dydd Iau, 13 Hydref 2022
Mae ein buddion yn cynnwys oriau/gwaith hyblyg, gwyliau hael a chynllun pensiwn cyflog terfynol.
Mae Cyngor Celfyddydau Cymru yn gyflogwr cynhwysol, a dymunwn adlewyrchu’r cymunedau amrywiol yr ydym yn eu gwasanaethu. Mae ceisiadau gan bobl ddiwylliannol ac ethnig amrywiol a grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn cael eu hannog a’u croesawu’n gynnes. Croesewir ceisiadau yng Nghymraeg neu Saesneg a byddwn yn gohebu â chi yn eich dewis iaith. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg. Ein nod yw cymryd camau cadarnhaol i sicrhau bod pob ymgeisydd yn cael ei ddewis ar gyfer swyddi yn ôl eu haddasrwydd ar gyfer y rôl yn unig.
Bydd y Cyngor Celfyddydau yn darparu cefnogaeth i sicrhau eich bod yn teimlo’n gyffyrddus yn ymuno â’r sefydliad, y math a all fod yn newydd neu’n anghyfarwydd i chi, fel y gallwch deimlo’ch gorau yn y gwaith. Bydd mentora neu hyfforddiant hefyd yn cael ei ddarparu yn ystod y cyfnod ymsefydlu, os bydd angen.
Cyflog
💰 £30,142
Lleoliad
📍 Caerfyrddin, Bae Colwyn, Bae Caerdydd, Hybrid
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Rydych wedi gweld yr holl swyddi.