Swyddi Cymraeg
1 swydd yn cyfateb
Prif Weithredwr
Mae Cyngor Celfyddydau Cymru yn edrych am Brif Weithredwr
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
£101,830 + pensiwn rhagorol. Gall y Prif Weithredwr fod yn gymwys i gael bonws blynyddol ychwanegol, yn unol â chyfarwyddyd Llywodraeth Cymru, ar ôl cwblhau’r holl amcanion strategol yn llwyddiannus.
Caerdydd, Caerfyrddin neu Bae Colwyn. Bydd disgwyl i'r Prif Weithredwr dreulio o leiaf 8 diwrnod y mis yn swyddfa Caerdydd.
Mae Cyngor Celfyddydau Cymru yn bodoli i gefnogi a datblygu'r celfyddydau yng Nghymru. Mae’n gwneud hynny er budd pobl ledled Cymru ac i hyrwyddo celfyddydau Cymru yn rhyngwladol. Wedi’i sefydlu gan Siarter Frenhinol, mae hefyd yn Gorff a Noddir gan Lywodraeth Cymru, yn ddosbarthwr y Loteri Genedlaethol ac yn Elusen gofrestredig.
Y Prif Weithredwr yw'r uwch aelod o staff Cyngor Celfyddydau. Maent yn arwain yr Uwch Dîm Arwain (UDA) o bum person, gyda'r pedwar aelod arall yn Gyfarwyddwyr. Yr UDA yw prif gorff gwneud penderfyniadau gweithredol y Cyngor. Ei rôl yw llywio amcanion a blaenoriaethau cyffredinol Cyngor Celfyddydau ac arwain y gwaith o gyflawni polisïau. Mae’r UDA hefyd yn gyfrifol am reoli cyllid, adnoddau a phobl Cyngor Celfyddydau yn effeithiol, gan sicrhau bod busnes y Cyngor yn cael ei reoli mewn modd atebol a phriodol.
Pedwar prif ffocws cyfredol y rôl yw:
* Cynyddu cydraddoldeb mynediad i’r celfyddydau ar draws cymunedau Cymru a meithrin gwytnwch a chynaliadwyedd y sector * Ymgorffori strategaeth iaith Gymraeg newydd yng ngwaith y Cyngor * Arwain ein Hadolygiad Buddsoddi nesaf a fydd yn cyflwyno Portffolio Celfyddydau newydd o sefydliadau a ariennir gan refeniw ar gyfer Ebrill 2024 * Datblygu ein Cynllun Corfforaethol newydd 2023-28
Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus brofiad proffesiynol o weithredu ar lefel uwch reoli o fewn amgylchedd ariannol cymhleth ac sy'n atebol i'r cyhoedd. Mae profiad o weithio yn y celfyddydau, y diwydiannau creadigol neu’r sector diwylliannol yn hanfodol. Dylai ymgeiswyr fod yn gyfarwydd â chymhlethdodau a nawsau’r ffordd y mae corff cyhoeddus yn ymdrin â’i berthynas â rhanddeiliaid allweddol, sef y weinyddiaeth ddatganoledig yng Nghymru yn yr achos hwn. Bydd angen i'r ymgeisydd llwyddiannus ddangos ymwybyddiaeth a gwerthfawrogiad o nodweddion arbennig cymdeithas Gymreig, gan gynnwys ei diwylliant dwyieithog. Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol. Fodd bynnag, os nad yw’r unigolyn penodedig yn rhugl yn y Gymraeg bydd yn cael ei h/annog a’i ch/gefnogi i wneud cynnydd da wrth ddysgu’r Gymraeg fel y gall ddefnyddio’r iaith yn y cwrs arferol o gyflawni ei dd/dyletswyddau ac ar lefel sydd y tu hwnt i’w defnydd o ychydig o ymadroddion sylfaenol. Byddwn yn darparu mynediad i wersi Cymraeg, hyfforddiant a chefnogaeth bersonol.
Rydym yn cynnig ystod eang o fuddion gan gynnwys gwyliau hael a phensiwn cyflog terfynol.
Dyddiad cau: Hanner dydd, dydd Gwener 13 Mai 2022
Dyddiadau cyfweliadau: Dydd Mawrth 5 neu ddydd Mercher 6 Gorffennaf 2022
Cyflog
💰 £101,830
Lleoliad
📍 Caerdydd, Caerfyrddin, Bae Colwyn
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Rydych wedi gweld yr holl swyddi.