Swyddi Cymraeg — Conwy
32 swydd yn cyfateb
Cymhorthydd Cefnogi Gweinyddol
Mae GwE yn edrych am Gymhorthydd Cefnogi Gweinyddol
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
GwE yw gwasanaeth gwella ysgolion Gogledd Cymru. Mae’n wasanaeth a gyd-rennir ar draws Chwe Awdurdod Lleol, gan gydweithio’n agos ag ysgolion. Mae holl randdeiliaid GwE wedi ymrwymo i wella cyfleoedd a chanlyniadau addysgol ar gyfer ein dysgwyr. Yr hyn sydd yn gyrru ein gwaith yw uchelgais ddiffuant i weld yr ysgolion a'r sefydliadau yr ydym ni'n gweithio gyda nhw yn cyflawni eu dyheadau a gweld pob dysgwr yn llwyddo.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gweithio mewn tîm i ddarparu cymorth gweinyddol o safon uchel o fewn GwE a bydd yn ymrwymedig i ddarparu gwasanaeth effeithlon ac effeithiol a chyfrannu tuag at alluogi’r gwasanaeth i gyflawni ei amcanion a’i nod.
Mae’r gallu i gyfathrebu’n rhugl yn y Gymraeg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon.
Bydd Telerau ac Amodau Llywodraeth Leol yn berthnasol.
DYDDIAD CAU: 10.00yb, Dydd Iau, 23 Mehefin 2022
Am sgwrs anffurfiol cysylltwch â Ann Grenet / Bethan Eleri Roberts ar 07580 711022 neu 01286 685044, neu e-bost [email protected] / [email protected]
Cyflog
💰 GS3
Lleoliad
📍 Bae Colwyn
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Cydlynydd Dysgu Cymraeg
Mae Cyngor Celfyddydau Cymru yn edrych am Gydlynydd Dysgu Cymraeg
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Canlyniad partneriaeth newydd rhwng y Cyngor Celfyddydau Cymru a’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Cenedlaethol yw’r swydd hon gyda nawdd ychwanegol o’r Ganolfan trwy’r cynllun Cymraeg Gwaith. Ei bwriad yw i greu, cynnal a chydlynu gwasanaeth newydd ‘Cymraeg Gwaith’ ar gyfer y sector gelfyddydol.
Bydd y cydlynydd yn darparu cyfleoedd i staff y cyngor, artistiaid unigol, mudiadau a chanolfannau celfyddydol i ddatblygu a thyfu eu sgiliau a hyder yn y Gymraeg trwy ddarparu cyrsiau dysgu Cymraeg perthnasol, cydlynu cyfleoedd i fagu hyder yn eu Cymraeg a chreu adnoddau dysgu Cymraeg perthnasol i’r maes celfyddydol.
Bydd y cydlynydd yn ymateb i argymhellion ymchwil ‘Llwybrau datblygu’r Gymraeg o fewn y celfyddydau’ gan ganolbwyntio ar anghenion artistiaid, mudiadau a chanolfannau celfyddydol wrth ddatblygu eu sgiliau Cymraeg.
Amdanoch chi
Bydd gofyn defnyddio gwybodaeth a phrofiad dysgu Cymraeg wrth ymateb i ofynion o fewn y sector. Bydd profiad neu sgiliau creadigol yn fanteisiol i’r swydd am y bydd angen ymateb yn greadigol i heriau a chreu dulliau dysgu perthnasol i’r sector.
Bydd gennych ddealltwriaeth am y maes dysgu Cymraeg a chodi hyder yn y defnydd o’r Gymraeg, dealltwriaeth am sector y celfyddydau a sector y Gymraeg yng Nghymru a sut maent yn gweithredu, profiad o weithio gydag amryw bartneriaid ac unigolion, a’r gallu i ysbrydoli pobl i gofleidio'r Gymraeg. Gweler y disgrifiad swydd am fanylion llawn gofynion y rôl.
Yr Iaith Gymraeg
Rydym yn gweithio yn Gymraeg a Saesneg. Mae rhuglder yn y Gymraeg (yn ysgrifenedig ac ar lafar) yn hanfodol ar gyfer y swydd hon.
Mae ein buddion yn cynnwys oriau/gwaith hyblyg, gwyliau hael a chynllun pensiwn.
Mae Cyngor Celfyddydau Cymru yn gyflogwr cynhwysol, a dymunwn adlewyrchu’r cymunedau amrywiol yr ydym yn eu gwasanaethu. Mae ceisiadau gan bobl ddiwylliannol ac ethnig amrywiol a grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn cael eu hannog a’u croesawu’n gynnes. Croesewir ceisiadau yng Nghymraeg neu Saesneg a byddwn yn gohebu â chi yn eich dewis iaith. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg. Ein nod yw cymryd camau cadarnhaol i sicrhau bod pob ymgeisydd yn cael ei ddewis ar gyfer swyddi yn ôl eu haddasrwydd ar gyfer y rôl yn unig.
Bydd Cyngor y Celfyddydau yn darparu cefnogaeth i sicrhau eich bod yn teimlo’n gyffyrddus yn ymuno â’r sefydliad, y math a all fod yn newydd neu’n anghyfarwydd i chi, fel y gallwch deimlo’ch gorau yn y gwaith. Bydd mentora neu hyfforddiant hefyd yn cael ei ddarparu yn ystod y cyfnod ymsefydlu, os bydd angen.
Cyflog
💰 £30,142
Lleoliad
📍 Bae Colwyn, Bae Caerdydd, Caerfyrddin
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Rheolwr Busnes, Twristiaeth ac Adfywio
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn edrych am Reolwr Busnes, Twristiaeth ac Adfywio
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mae Conwy wedi ymrwymo i gyfle cyfartal ac rydym yn croesawu ymgeiswyr o bob rhan o'r gymuned. Rydym yn darparu opsiwn i bobl anabl wneud cais mewn gwahanol fformatau. Cysylltwch â'r Tîm AD ar 01492 576129 i gael cyngor pellach.
Mae’n rhaid i ymgeiswyr lenwi ein ffurflen gais ni i gael eu hystyried. Ni dderbynnir CVs ar eu pen eu hunain. Os nad ydych wedi cael gwahoddiad i gyfweliad o fewn tair wythnos o'r dyddiad cau, dylech gymryd yn ganiataol nad ydych ar y rhestr fer ar gyfer cyfweliad.
Mae Conwy wedi ymrwymo i ddiogelu. Bydd cymwysterau a geirdaon yn cael eu dilysu. Ydych chi awydd bod yn rhan o siapio un o gyrchfannau twristiaeth fwyaf poblogaidd y DU (a byddem yn dadlau yn y byd)?
Mae Llandudno wedi’i henwi fel un o’r wyth lle gorau yn y byd i deithwyr ymweld â nhw yn 2022 yn ogystal ag ennill teitl prifddinas cychwyn busnes y Deyrnas Unedig (DU). Mae Abergele wedi dod yn fyd-enwog fel cartref “I’m A Celebrity” yn y DU. Mae Conwy, gyda’i chastell eiconig a statws Treftadaeth y Byd UNESCO ac yn un o’r trefi canoloesol sydd wedi’i chadw orau ym Mhrydain. Mae Bae Colwyn yn gartref i gemau Undeb Rygbi Cymru dan 20 oed ac mae'r dref wedi elwa o fuddsoddiad cyfalaf o £70 miliwn dros y pymtheg mlynedd diwethaf. Mae De'r Sir yn gorwedd yn rhannol yn Eryri sef Parc Cenedlaethol mwyaf Cymru ac sydd â statws gwarchodfa Awyr Dywyll. Mae gennym y cyfan - môr, mynyddoedd, llynnoedd a threfi a phentrefi ffyniannus yr ydym yn hynod falch ohonynt. A allech chi fod yn berson perffaith i’n helpu i barhau â’n rhaglen gyffrous o ddatblygiad economaidd yn yr ardal amrywiol a hardd hon?
Rydym yn chwilio am berson arloesol a phrofiadol i arwain ein timau Busnes, Twristiaeth a Chymunedol. Bydd angen i chi fod yn rhagweithiol ac yn arloesol wrth i ni ddechrau deall y tueddiadau ôl-Covid sy'n dod i'r amlwg ac sy'n effeithio ar ein heconomi a'n patrymau gwaith. Byddwch yn uchelgeisiol ac yn greadigol, yn gallu dehongli ein strategaethau allweddol ar gyfer awdurdodau lleol a’r Llywodraeth, deall pwysau’r diwydiant a nodi cyfleoedd.
Mae’r rôl hon yn ganolog i ddatblygu canol ein holl drefi ac aneddiadau, gan helpu i gyflawni prosiectau adfywio sy’n gwella ein heconomi ymwelwyr, yn cefnogi busnesau lleol ac yn helpu i dyfu’r economi.
Gan weithio gyda’r sector lletygarwch a thwristiaeth, byddwch yn ymateb i anghenion ymwelwyr a masnach, gan sicrhau bod ein henw da am ragoriaeth yn cael ei gynnal a’i adeiladu arno er mwyn cynyddu gwariant ymwelwyr wrth sicrhau twristiaeth barchus ar draws ein sir.
Yn rheolwr profiadol, byddwch yn arwain tîm deinamig a llawn cymhelliant o weithwyr proffesiynol sydd â chyfoeth o wybodaeth ac arbenigeddau unigol ac sydd â chymunedau Conwy yn ganolog iddynt.
Mae partneriaethau yn allweddol i lwyddiant y rôl hon o fewn a thu allan i'r Cyngor. Byddwch yn gyfathrebwr, cyflwynydd a rhwydweithydd rhagorol sy'n hyderus wrth weithio gydag uwch gydweithwyr, Aelodau etholedig, y Trydydd Sector a'r gymuned fusnes.
Bydd deiliad y swydd wedi'i leoli yng Nghanolfan Busnes Conwy, ond gydag opsiynau gweithio o gartref hyblyg.
Os ydych chi eisiau bod yn rhan o dîm sy’n helpu i arwain, siapio a gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i’n cymunedau, busnesau a’n harlwy i dwristiaid yna rydym eisiau clywed gennych, ac edrychwn ymlaen at dderbyn eich cais.
Cyflog
💰 £42,614 - £45,648
Lleoliad
📍 Conwy
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Uwch Swyddog Rhaglennu a Phartneriaethau
Mae Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru yn edrych am Uwch Swyddog Rhaglennu a Phartneriaethau
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
A ydych yn unigolyn brwdfrydig sydd â phrofiad o weithio mewn cymunedau Cymreig? A hoffech chwarae rôl allweddol yn datblygu dyfodol newydd a chyffrous ar gyfer Tŷ Mawr? Os ydych, hoffem glywed gennych. Helpwch ni i roi Tŷ Mawr Wybrnant a gwaddol cyfieithiad yr Esgob William Morgan o’r Beibl yn ôl yn gadarn ar fap treftadaeth Cymru yn dilyn cyfnod o fod wedi cau oherwydd y pandemig. Rydym yn cydweithio gyda phartneriaid a’r gymuned i archwilio opsiynau o ran beth yw’r ffordd orau i ni ddefnyddio ac ymgysylltu â’r lleoliad arbennig hwn wrth symud ymlaen. Rydym yn chwilio am unigolyn i arwain y gwaith hwn fel bod gennym y model cywir a’r cymorth cymunedol ar waith er mwyn iddo ffynnu.
Mae'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yng Nghymru yn sefydliad dwyieithog a rhaid i'r holl staff a gwirfoddolwyr ddangos ymrwymiad i weithio mewn amgylchedd cwbl ddwyieithog. Cwblhewch yr Asesiad Cymhwysedd Iaith Gymraeg ynghlwm a'i uwchlwytho ochr yn ochr â'ch CV os gwelwch yn dda. Rydym yn chwilio am isafswm o lefel 3 Gwrando a Deall a Siarad. Mae croeso mawr i ddysgwyr Cymraeg wneud cais a bydd cyfleoedd i ddatblygu eich sgiliau Cymraeg.
Rydym yn croesawu ymgeiswyr mewnol sy’n edrych am ddatblygiad gyrfaol.
Cyfweliadau: 31 Mai.
Mae hwn yn gontract rhan amser cyfnod penodol sy’n golygu gweithio tri diwrnod yr wythnos hyd at ddiwedd Tachwedd 2023. Gall patrymau gwaith gael eu trafod ond bydd yn cynnwys gweithio ar benwythnos a gwyliau’r banc yn achlysurol. Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y rôl neu ofynion iaith cysylltwch â: [email protected]
Sut beth yw gweithio yma
Mae Tŷ Mawr yn ffermdy traddodiadol o’r 16eg ganrif sydd wedi’i leoli yng nghwm Wybrnant ger Penmachno. Yma y ganed yr Esgob William Morgan, ac ef oedd y cyntaf i gyfieithu’r Beibl cyfan i'r Gymraeg, ac i raddau helaeth mae ei rôl yn cael ei hystyried yn allweddol i sicrhau parhad yr iaith. Rydym hefyd yn gofalu am gasgliad anhygoel o dros 200 o Feiblau gan gynnwys un o gyfieithiadau gwreiddiol 1588 a chopïau mewn nifer o ieithoedd ar draws y byd.
Byddwch wedi’ch lleoli yn Nhŷ Mawr yn rheolaidd a byddwch hefyd yn gallu gweithio o’n swyddfa lawr y ffordd yn ein Swyddfa Ystad Dinas. Bydd eich cyrhaeddiad yn ymestyn drwy ddyffryn Conwy, gan weithio’n rheolaidd gyda chymunedau yn lleoliadau fel Pentrefoelas, Penmachno, Llanrwst a Chonwy. Mae hon yn ardal wledig sy’n gyfoethog o ran traddodiadau, a’r Gymraeg yn iaith bob dydd i’r mwyafrif. Mae balchder amlwg ymysg y cymunedau oherwydd arwyddocâd diwylliannol Tŷ Mawr ac rydym yn ymrwymedig i ddathlu ei stori arbennig am genedlaethau i ddod.
Beth y byddwch yn ei wneud
Yn rhan allweddol o dîm ehangach sy’n awyddus i ddatblygu Tŷ Mawr Wybrnant, bydd eich gwaith yn canolbwyntio ar feithrin perthynas â’r gymuned leol, sefydliadau partner ac unigolion sy’n awyddus i chwarae rhan yn nyfodol Tŷ Mawr. Gan weithio ochr yn ochr â phartneriaid presennol a newydd, byddwch yn gyfrifol am drefnu, hwyluso a darparu ystod o gyfleoedd i bobl ymgysylltu â straeon Tŷ Mawr a’r Beibl. Gall hyn fod ar ffurfiau amrywiol e.e. diwrnodau agored, gweithdai, pererindodau, ymweliadau addysgol, gweithgareddau allgymorth o fewn cymunedau a chynnwys ar-lein. Eich gwaith chi fydd meddwl am syniadau creadigol sy’n ein galluogi i ymgysylltu pobl o bob cwr o Gymru - a'r byd - gyda’r lleoliad arbennig hwn a’r casgliad beiblaidd rhyfeddol sydd dan ein gofal.
Byddwch yn profi ac yn gwerthuso gweithgareddau ymgysylltu amrywiol ac yn gweithio i ddeall yn llawn sut yr hoffai ein cefnogwyr a’n partneriaid weld Tŷ Mawr yn gweithredu yn y dyfodol. Bydd y gwaith yn llywio ein cynllun ar gyfer y dyfodol o ran sut fydd pobl yn ymgysylltu â Thŷ Mawr o 2024 ymlaen.
Am bwy ydym yn chwilio
Unigolyn egnïol a hyblyg i ddatblygu amrywiaeth o bartneriaethau a phrofiadau, ar y safle ac oddi ar y safle, a fydd yn arwain at ddyfodol disglair a chyffrous i Dŷ Mawr.
Os ydych chi'n bodloni'r canlynol, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych:
Sgiliau cyfathrebu rhagorol. Y gallu i gyfathrebu’n effeithiol yn y Gymraeg a’r Saesneg
Sgiliau pobl da, sy'n galluogi perthnasoedd gweithio da yn fewnol ac yn allanol
Profiad o weithio o fewn cymunedau Cymreig
Diddordeb mewn hanes Cymru, ei hiaith a’i llenyddiaeth, gan gynnwys arwyddocâd Tŷ Mawr Wybrnant
Profiad o gyfleu syniadau creadigol yn effeithiol i ystod o randeiliaid gyda’r gallu i addasu cynlluniau ar gyfer anghenion partneriaid, aelodau tîm a chynulleidfaoedd
Profiad o fagu, cynnal a datblygu partneriaethau er mwyn cynnig cyfleoedd ymgysylltu i ymwelwyr, gwirfoddolwyr neu gyfranogwyr cymunedol
Dealltwriaeth am yr hyn sy’n gwneud profiad da i ymwelwyr
Profiad o gyflwyno rhaglenni ymwelwyr a/neu weithio gyda chymuned neu bartneriaid masnachol i gyflwyno digwyddiadau a gweithgareddau, yn ddelfrydol ar gyfer cynulleidfaoedd y sector treftadaeth, ac ar eu cyfer
Diddordeb mewn cadwraeth adeiladau neu gasgliadau
Y pecyn
Mae’r arwyddair ‘I bawb, am byth’ yn ganolbwynt yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Rydym yn gweithio’n galed i greu diwylliant cynhwysol, ble mae pawb yn teimlo eu bod yn perthyn. Mae’n bwysig bod ein pobl yn adlewyrchu a chynrychioli amrywiaeth y cymunedau a’r cynulleidfaoedd yr ydym yn eu gwasanaethu. Rydym yn croesawu ac yn gwerthfawrogi gwahaniaeth, felly pan ddywedwn ni ein bod ar gyfer pawb, rydym eisiau i bawb dderbyn croeso yn ein timau hefyd.
O ba le bynnag y dewch, a waeth beth yw’ch cefndir, rydym yn awyddus i glywed gennych – p’un ai ydych yn rhoi jam yn gyntaf, hufen yn gyntaf, neu’n casáu sgons hyd yn oed, d’oes dim ots. Mae croeso i bawb.
Mae’r buddion o weithio gyda’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn cynnwys:
Gweithio hyblyg pryd bynnag y bo modd
Parcio am ddim yn y rhan fwyaf o leoliadau
Mynediad am ddim i’n heiddo i chi, i’ch gwestai a’ch plant (dan 18)
Cynllun pensiwn sylweddol hyd at 10% o gyflog sylfaenol
Cyflog
💰 £16,380
Lleoliad
📍 Betws y Coed
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Prif Swyddog Y Cyfnod Sylfaen (Dros cyfnod secondiad mewnol hyd at 31 Mawrth 2023)
Mae Mudiad Meithrin yn edrych am Prif Swyddog Y Cyfnod Sylfaen (Dros cyfnod secondiad mewnol hyd at 31 Mawrth 2023)
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Ry’n ni’n chwilio am berson gweithgar, brwd a chydwybodol i ymgymryd â’r swydd hon fel rhan o adran Cyfnod Sylfaen a hyfforddiant Mudiad Meithrin. Disgwylir i’r person a benodir fod â’r gallu i gyfathrebu ar lafar ac yn ysgrifenedig yn y Gymraeg a’r Saesneg. Rhaid i’r person a benodir fod â sgiliau rhyngbersonol da iawn, gan arddangos hyder i gyfathrebu â rhanddeiliaid ac eirioli ar ran y sector yn effeithiol. Mae’r gallu i gydlynu prosiectau yn drefnus a llwyddiannus yn hanfodol. Bydd angen i’r person a benodir fod â gwybodaeth am y blynyddoedd cynnar a dealltwriaeth o waith Mudiad Meithrin. Mae’r gallu i weithio’n hyblyg, yn annibynnol ac fel rhan o dîm hefyd yn hanfodol.
Mae hwn yn gyfnod pwysig a chyffrous i’r blynyddoedd cynnar ac mae’r swydd hon yn gyfle i ddylanwadu ar ansawdd y gofal a’r addysg drwy gydweithio â staff y Mudiad, aelodau ac ymarferwyr a hynny oddi mewn i adran sydd yn datblygu yn gyson.
Bod yn atebol i Brif Weithredwr Mudiad Meithrin trwy’r Pennaeth Hyfforddiant, Datblygu a Dysgu am gyflawni’r dyletswyddau canlynol:
Darparu cymorth i Gylchoedd Meithrin a Meithrinfeydd dydd (lleoliadau nas cynhelir)
· gweithio mewn partneriaeth ag Arweinydd Cwricwlwm i Gymru Cyfnod Sylfaen oddi mewn i adran hyfforddiant y Mudiad
· darparu cyngor amserol a chywir i leoliadau ar ddarpariaeth addysg gynnar o safon, gan ystyried y cwricwlwm perthnasol a'r trefniadau asesu
· rhoi cyngor a chymorth i leoliadau i roi’r cwricwlwm ar gyfer lleoliadau meithrin nas cynhelir a ariennir ar waith yn llwyddiannus
· adnabod anghenion hyfforddi ymarferwyr a chydlynu hyfforddiant mewn partneriaeth ag Academi Mudiad Meithrin
· gweithio gydag Awdurdodau Lleol (ALl) a sefydliadau eraill i drefnu cymorth a hyfforddiant i ymarferwyr
· sicrhau bod hyfforddiant yn dylanwadu ar arferion da
· cydweithio â Swyddogion Cefnogi y Mudiad er mwyn cefnogi darpariaethau (e.e. Cylchoedd Ti a Fi, Dechrau’n Deg) gyda threfniadau pontio rhwng lleoliadau acysgolion
· gweithio gydag ymarferwyr Cylchoedd Meithrin i ddatblygu adnoddau e.e. astudiaethau achos neu ddatblygiadau ECEC sy'n hyrwyddo arferion rhagorol i'w rhannu ag eraill a’u cyhoeddi ar Hwb
· darparu adroddiadau rheolaidd ar gynnydd ac effaith y gwaith yn ôl y galw
Datblygu polisi
Bydd disgwyl i'r Prif Swyddog hefyd weithio mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru a chymryd rhan mewn datblygiadau polisi pwysig gan gynnwys
· gweithredu'r cwricwlwm drwy gydweithio â’r Arweinydd Cwricwlwm
· datblygu trefniadau asesu priodol ar gyfer lleoliadau nas cynhelir a ariennir mewn partneriaeth gyda’r Arweinydd Cwricwlwm ac ymarferwyr Cylchoedd Meithrin
· datblygu a gweithredu y cynnig dysgu proffesiynol ar gyfer y sector nas cynhelir mewn partneriaeth gyda’r Arweinydd Cwricwlwm a’r Rheolwr Datblygu Adnoddau
Cyflog
💰 £29,614 - £32,375
Lleoliad
📍 Conwy
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Swyddog Cyfathrebu Cynnwys Digidol
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn edrych am Swyddog Cyfathrebu Cynnwys Digidol
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Gofynion y Gymraeg:
Mae'r gallu i gyfathrebu a darllen Cymraeg er mwyn adolygu cynnwys ar y wefan yn hanfodol ar gyfer y swydd hon.
Manylion y Rheolwr ar gyfer trafodaeth anffurfiol am y swydd:
[Rachael Gill / Pennaeth Adain – Cyfathrebu a Marchnata / 01492 515592 / [email protected] ]
Mae Conwy wedi ymrwymo i gyfle cyfartal ac rydym yn croesawu ymgeiswyr o bob rhan o'r gymuned. Rydym yn darparu opsiwn i bobl anabl wneud cais mewn gwahanol fformatau. Cysylltwch â'r Tîm AD ar 01492 576129 i gael cyngor pellach.
Mae’n rhaid i ymgeiswyr lenwi ein ffurflen gais ni i gael eu hystyried. Ni dderbynnir CVs ar eu pen eu hunain. Os nad ydych wedi cael gwahoddiad i gyfweliad o fewn tair wythnos o'r dyddiad cau, dylech gymryd yn ganiataol nad ydych ar y rhestr fer ar gyfer cyfweliad.
Mae Conwy wedi ymrwymo i ddiogelu. Bydd cymwysterau a geirdaon yn cael eu dilysu.
Rydym ni’n chwilio am unigolyn gydag awch am greu cynnwys digidol hygyrch ac sy’n meddu ar ddealltwriaeth dda o sianeli cyfathrebu digidol.
Mae bod yn drefnus a roi sylw i fanylion yn hanfodol gan y byddwch yn gweithio gyda thimau ar draws y Cyngor yn cydlynu ac yn darparu cynnwys ac yn gwneud yn siŵr bod cymaint o bobl â phosibl yn gallu ei ddefnyddio ar wefan Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy.
Mae’n rhaid i chi fod yn hyderus ac yn gallu trafod gydag arweinwyr gwasanaethau fel bod gan holl wasanaethau'r Cyngor bresenoldeb cyfoes ar y we sydd ar frand, yn gyson, yn hawdd ei lywio, yn hawdd ei ddeall ac yn hygyrch.
Byddwch hefyd yn helpu’r Tîm Cyfathrebu a Marchnata i drefnu, cyflwyno a gwerthuso ymgyrchoedd marchnata aml-sianel am wasanaethau'r Cyngor, gan ganolbwyntio'n benodol ar sianeli cyfathrebu digidol.
Gwybodaeth Ychwanegol:
Cliciwch ar ddolen YMGEISIWCH YMA i wneud cais am yr hysbyseb swydd ar ein gwefan
Defnyddiwch y manylion cyswllt uchod i gysylltu â ni am fwy o wybodaeth
Cyflog
💰 £22,571 - £25,927
Lleoliad
📍 Conwy
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Swyddog Datblygu Asedau
Mae Menter Iaith Conwy yn edrych am Swyddog Datblygu Asedau
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Cyfle i weithio gyda Menter Iaith Conwy a Meithrinfa Gymraeg Derwen Deg
Hoffech chi gyfle i weithio gyda sefydliad sy’n hyrwyddo a datblygu’r defnydd o’r Gymraeg yn Sir Conwy?
Swyddog Datblygu Asedau (cyllidwyd gan Gronfa Gwydnwch Trydydd Sector Cymru Cam 3, a weinyddwyd gan CGGC)
Dyma gyfle i weithio ar gynlluniau cyffroes ac arloesol sydd wedi cael eu datblygu gan Menter Iaith Conwy. Mae Menter Iaith Conwy yn rhan o 2 gynllun cyfalaf sydd angen eu datblygu. Bydd gwaith y swyddog yn cynnwys:
- Parhau efo gwaith ceisiadau ariannol
- Cydlynu’r gwaith datblygu efo adran Gynllunio Cyngor Conwy
- Mynd â’r gwaith i dendr a goruchwylio y cyfnod adeiladu.
- Gweinyddu y cyllid grant ac adrodd yn ôl i’r cyllidwyr.
- Penodi a gweithio efo arbenigwyr megis Maint Mesurydd (Quantity Surveyor), Penseiri lle mae angen.
- Adrodd yn ôl i Byrddau Menter Iaith Conwy a Meithrinfa Gymraeg Derwen Deg
Mae dwy wedd i’r cynllun ar hyn o bryd:
- Adeilad Menter Iaith Conwy. Er fod y ddau lawr cyntaf o hen adeilad y Banc wedi eu atgyweirio mae’n dal angen datblygu’r Hen Neuadd drawiadol sydd yn y to fel fod y bydd modd eto i’r cyhoedd ei defnyddio, gweler; (20+) Facebook
- Meithrinfa Gymraeg Derwen Deg. Oherwydd poblogrwydd y Feithrinfa, mae angen mwy o le i ofalu am blant. Ar gyfer hyn, mae angen adeiladu estyniad.
Oriau: 37 awr yr wythnos Cyflog NJC 31 (2020) £28,785 a Phensiwn (Bydd hyn i’w drafod gyda’r ymgeisydd llwyddiannus. Rydym yn agored i geisiadau i weithio yn hyblyg neu hefyd i ystyried ceisiadau gan weithwyr llawrydd.)
Lleoliad: Swyddfa Menter Iaith Conwy, Llanrwst
Am fanylion a disgrifiad swydd neu sgwrs anffurfiol cysylltwch efo [email protected]
Neu ewch i’r wefan
Dyddiad Cau 20/5/22. Cais drwy lythyr a CV.
Cyflog
💰 £28,785
Lleoliad
📍 Llanrwst
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Prif Weithredwr
Mae Cyngor Celfyddydau Cymru yn edrych am Brif Weithredwr
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
£101,830 + pensiwn rhagorol. Gall y Prif Weithredwr fod yn gymwys i gael bonws blynyddol ychwanegol, yn unol â chyfarwyddyd Llywodraeth Cymru, ar ôl cwblhau’r holl amcanion strategol yn llwyddiannus.
Caerdydd, Caerfyrddin neu Bae Colwyn. Bydd disgwyl i'r Prif Weithredwr dreulio o leiaf 8 diwrnod y mis yn swyddfa Caerdydd.
Mae Cyngor Celfyddydau Cymru yn bodoli i gefnogi a datblygu'r celfyddydau yng Nghymru. Mae’n gwneud hynny er budd pobl ledled Cymru ac i hyrwyddo celfyddydau Cymru yn rhyngwladol. Wedi’i sefydlu gan Siarter Frenhinol, mae hefyd yn Gorff a Noddir gan Lywodraeth Cymru, yn ddosbarthwr y Loteri Genedlaethol ac yn Elusen gofrestredig.
Y Prif Weithredwr yw'r uwch aelod o staff Cyngor Celfyddydau. Maent yn arwain yr Uwch Dîm Arwain (UDA) o bum person, gyda'r pedwar aelod arall yn Gyfarwyddwyr. Yr UDA yw prif gorff gwneud penderfyniadau gweithredol y Cyngor. Ei rôl yw llywio amcanion a blaenoriaethau cyffredinol Cyngor Celfyddydau ac arwain y gwaith o gyflawni polisïau. Mae’r UDA hefyd yn gyfrifol am reoli cyllid, adnoddau a phobl Cyngor Celfyddydau yn effeithiol, gan sicrhau bod busnes y Cyngor yn cael ei reoli mewn modd atebol a phriodol.
Pedwar prif ffocws cyfredol y rôl yw:
* Cynyddu cydraddoldeb mynediad i’r celfyddydau ar draws cymunedau Cymru a meithrin gwytnwch a chynaliadwyedd y sector * Ymgorffori strategaeth iaith Gymraeg newydd yng ngwaith y Cyngor * Arwain ein Hadolygiad Buddsoddi nesaf a fydd yn cyflwyno Portffolio Celfyddydau newydd o sefydliadau a ariennir gan refeniw ar gyfer Ebrill 2024 * Datblygu ein Cynllun Corfforaethol newydd 2023-28
Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus brofiad proffesiynol o weithredu ar lefel uwch reoli o fewn amgylchedd ariannol cymhleth ac sy'n atebol i'r cyhoedd. Mae profiad o weithio yn y celfyddydau, y diwydiannau creadigol neu’r sector diwylliannol yn hanfodol. Dylai ymgeiswyr fod yn gyfarwydd â chymhlethdodau a nawsau’r ffordd y mae corff cyhoeddus yn ymdrin â’i berthynas â rhanddeiliaid allweddol, sef y weinyddiaeth ddatganoledig yng Nghymru yn yr achos hwn. Bydd angen i'r ymgeisydd llwyddiannus ddangos ymwybyddiaeth a gwerthfawrogiad o nodweddion arbennig cymdeithas Gymreig, gan gynnwys ei diwylliant dwyieithog. Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol. Fodd bynnag, os nad yw’r unigolyn penodedig yn rhugl yn y Gymraeg bydd yn cael ei h/annog a’i ch/gefnogi i wneud cynnydd da wrth ddysgu’r Gymraeg fel y gall ddefnyddio’r iaith yn y cwrs arferol o gyflawni ei dd/dyletswyddau ac ar lefel sydd y tu hwnt i’w defnydd o ychydig o ymadroddion sylfaenol. Byddwn yn darparu mynediad i wersi Cymraeg, hyfforddiant a chefnogaeth bersonol.
Rydym yn cynnig ystod eang o fuddion gan gynnwys gwyliau hael a phensiwn cyflog terfynol.
Dyddiad cau: Hanner dydd, dydd Gwener 13 Mai 2022
Dyddiadau cyfweliadau: Dydd Mawrth 5 neu ddydd Mercher 6 Gorffennaf 2022
Cyflog
💰 £101,830
Lleoliad
📍 Caerdydd, Caerfyrddin, Bae Colwyn
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Rydych wedi gweld yr holl swyddi.