Swyddi Cymraeg
9 swydd yn cyfateb
Rheolwr Gyfarwyddwr
Mae Cyngor Gwynedd yn edrych am Reolwr Gyfarwyddwr
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mae cwmni Byw’n Iach yn awyddus i recriwtio unigolyn arbennig i arwain y cwmni yn ystod y blynyddoedd nesaf. Mae angen arweinydd galluog, profiadol a deinamig. Mae’n gyfle cyffroes i arwain tîm arbennig a datblygu’r gwasanaethau bresennol. Os ydych chi’n angerddol dros wneud gwahaniaeth i iechyd a llesiant cymunedau lleol, cymerwch olwg ar y pecyn gwybodaeth a chysylltwch am sgwrs os am wybod mwy.
Mae gan Cwmni Byw’n Iach becyn cyflogaeth deniadol.
Mae Cwmni Byw’n Iach yn gweithredu’n fewnol trwy gyfrwng y Gymraeg ac yn cynnig ei holl wasanaethau yn ddwyieithog. Bydd angen i’r ymgeisydd gyrraedd y lefel ieithyddol sy’n cael ei nodi fel un o’r sgiliau hanfodol yn y Manylion Person.
Rydym yn annog pob ymgeisydd am swydd gyda’r cwmni i gyflwyno ceisiadau yn Gymraeg neu yn ddwyieithog.
(Bydd ceisiadau sydd yn cael eu cyflwyno yn uniaith Gymraeg neu Saesneg yn cael eu trin yn gwbl gyfartal, ond gofynnir i’r ymgeisydd ystyried yn ofalus beth yw gofynion iaith y swydd a’r sefydliad ac a fyddai cyflwyno cais yn uniaith Gymraeg yn fwy addas.)
Cyfweliadau: I'w cynnal yn ystod yr wythnos sy'n cychwyn 27.01.2025. Mae'n bosib y bydd angen cwblhau asesiad yn ystod yr wythnos sy'n cychwyn 20.01.2025
Cyflog
💰 £67,603 - £70,841
Lleoliad
📍 Caernarfon, Hyblyg
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Prif Weithredwr / Prif Weithredwraig
Mae Galeri Caernarfon yn edrych am Brif Weithredwr / Prif Weithredwraig
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Yn un o brif fentrau cymdeithasol Cymru, mae’r sefydliad yn amlwg iawn yn ardal Caernarfon a thu hwnt oherwydd y gwaith mae’r cwmni wedi ei gyflawni ers 1992. Mae gwaith y cwmni hyd yma yn cynnwys:
- Adfwyio adeiladau yn y dref gaerog (trawsnewid ac ailwampio dros 20 o adeiladau gwag, bler mwyaf y dref)
- Adeiladu a rheoli canolfan mentrau creadigol Galeri (un o brif ganolfanau celfyddydol Cymru)
- Cynnig cyfleoedd/prosiectau drwy’r celfyddydau
- Prosiect adfywio Cei Llechi
Mae ein Prif Weithredwr presennol, Gwyn Roberts, wedi bod yn allweddol yn arwain y cwmni ers y decharu, gan ddatblygu ein gweledigaeth a chreu prosiectau i dyfu’r sefydliad mewn ffyrdd cydweithredol ac arloesol, sydd hefyd yn ychwanegu gwerth economaidd yn lleol. Bydd Gwyn yn parhau mewn rôl newydd hefo Galeri, gan ganolbwyntio ar ddatblygu prosiectau newydd, o fis Ebrill 2023.
Rydym yn chwilio am berson gweithgar i yrru ein cenhadaeth ymlaen gan adeiladu ar y seiliau cadarn a osodwyd gan y Cwmni dros y blynyddoedd, mewn cyfnod a fydd yn heriol i'r sectorau diwylliannol a mentrau cymdeithasol.
Y Prif Weithredwr sydd, mewn cydweithrediad a’r Bwrdd Rheoli, yn gosod cyfeiriad strategol i holl waith Galeri Caernarfon Cyf ac sy’n gweithredu fel llysgennad yn y gymuned leol a thu hwnt. Dyma gyfle arbennig i unigolyn sydd a gweledigaeth i arwain tîm brwdfrydig a menter gymdeithasol hollbwysig mewn canolfan greadigol unigryw.
Mae’r gallu i weithio yn hyderus yn y Gymraeg yn hanfodol i’r swydd hon.
Sut i Ymgeisio -
Os teimlwch fod gennych y cyfuniad cywir o sgiliau a brwdfrydedd i gyrraedd gofynion y swydd yma, dylwch ymgeisio drwy yrru y dogfennau isod i [email protected]
- CV cyfredol
- Datganiad cefnogol o ddim mwy na 2 ochr A4, yn amlinellu eich profiad perthnasol.
Cyflog
💰 £60,000
Lleoliad
📍 Caernarfon
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Prif Weithredwr / Prif Weithredwraig
Mae Galeri Caernarfon yn edrych am Brif Weithredwr / Brif Weithredwraig

Prif Weithredwr / Wraig
Mae Antur Waunfawr yn edrych am Brif Weithredwr / Wraig
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Rydym yn recriwtio Prif Weithredwr i arwain strategaeth Antur Waunfawr ac i adeiladu ar ein llwyddiant hyd yma.
Disgrifiad:
Mae’r gallu weithio yn hyderus yn y Gymraeg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon.
Mae’r Fenter Gymdeithasol flaenllaw yn darparu hyfforddiant a chyfleoedd gwaith i bobl ag anableddau dysgu yn eu cymuned.
Fel rhan o’r swydd byddwch yn gyfrifol am ddatblygu gweledigaeth y Cwmni yn unol â Nod ac Amcanion ac Athroniaeth y Cwmni. Fydd y person llwyddiannus i weithredu fel Unigolyn Cyfrifol o dan reoliadau Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC/CIW), fydd a dyletswyddau statudol a chyfreithiol.
Yn gweithio gyda'n rhanddeiliaid allweddol, byddwch gyda’r gallu i ysbrydoli, bod yn arloesol, yn entrepreneuraidd ac arwain yr elusen i'w chyfnod nesaf.
I gael rhagor o wybodaeth, ewch i'n gwefan lle byddwch yn dod o hyd i'n pecyn recriwtio.
Cyflog
💰 £50,000 – £55,000
Lleoliad
📍 Waunfawr, Caernarfon
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Cyfarwyddwr Corfforaethol (Swyddogaeth Statudol)
Mae Cyngor Gwynedd yn edrych am Gyfarwyddwr Corfforaethol (Swyddogaeth Statudol)
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Ydych chi’n arweinydd profiadol ac arloesol, yn meddu ar sgiliau cyfathrebu a rhyngbersonol cryf?
Ydych chi’n awchu i fod yn rhan o dîm o swyddogion ac aelodau etholedig sydd yn rhoi o’u gorau i drigolion ein cymunedau?
Rydym yn awyddus i recriwtio Cyfarwyddwr Corfforaethol fydd yn chwarae rhan allweddol mewn arwain y ffordd i wireddu’r weledigaeth sydd gan y Cyngor ar gyfer y dyfodol.
GWELD PECYN RECRIWTIO CYFARWYDDWYR CORFFORAETHOL
DYDDIAD CAU: 10.00 O’R GLOCH, 11/07/2022
Cyflog
💰 £90,394 - £100,438
Lleoliad
📍 Caernarfon
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Cyfarwyddwr Corfforaethol
Mae Cyngor Gwynedd yn edrych am Gyfarwyddwr Corfforaethol
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Ydych chi’n arweinydd profiadol ac arloesol, yn meddu ar sgiliau cyfathrebu a rhyngbersonol cryf?
Ydych chi’n awchu i fod yn rhan o dîm o swyddogion ac aelodau etholedig sydd yn rhoi o’u gorau i drigolion ein cymunedau?
Rydym yn awyddus i recriwtio Cyfarwyddwr Corfforaethol fydd yn chwarae rhan allweddol mewn arwain y ffordd i wireddu’r weledigaeth sydd gan y Cyngor ar gyfer y dyfodol.
GWELD PECYN RECRIWTIO CYFARWYDDWYR CORFFORAETHOL
DYDDIAD CAU: 10.00 O’R GLOCH, 11/07/2022
Cyflog
💰 £90,394 - £100,438
Lleoliad
📍 Caernarfon
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Prif Weithredwr
Mae Cymdeithas Cyfieithwyr Cymru yn edrych am Brif Weithredwr
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Cyfle cyffrous i arwain a rheoli sefydliad cenedlaethol a helpu i ddatblygu proffesiwn sy’n hollbwysig i ddyfodol y Gymraeg.
Os oes gennych chi
- y weledigaeth i ddatblygu’r Gymdeithas ar lefel strategol
- y fenter i gyfrannu at broffesiwn sy’n tyfu a hynny mewn cyfnod o newid
- y brwdfrydedd i hyrwyddo’r diwydiant a bod yn llais cryf a dylanwadol yn y byd cyfieithu
- sgiliau cyfathrebu da
Rydyn ni eisiau clywed gennych chi.
I gael pecyn gwybodaeth i ymgeiswyr neu i gael sgwrs anffurfiol, cysylltwch â Geraint ar [email protected] neu 07872 102944.
Dyddiad cau: dydd Mercher, 27 Gorffennaf 2022, am 1pm.
Cyflog
💰 £32,000 - £36,000
Lleoliad
📍 Bangor
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Prif Weithredwr
Mae Cymdeithas Cyfieithwyr Cymru yn edrych am Brif Weithredwr
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Cyfle unigryw i arwain a rheoli’r Gymdeithas, ac i gynnig gweledigaeth a chyfeiriad strategol i’w gwaith.
Mae Cymdeithas Cyfieithwyr Cymru yn dymuno penodi Prif Weithredwr newydd wrth i ddeiliad presennol y swydd ymddeol ddiwedd Medi 2022.
Mae hwn yn gyfle unigryw i unigolyn deinamig a chreadigol a all feddwl yn strategol i arwain a datblygu’r gymdeithas genedlaethol ar gyfer cyfieithwyr a chyfieithwyr ar y pryd proffesiynol Cymraeg <> Saesneg trwy adeiladu ar y sylfeini cadarn a osodwyd yn ystod y 46 mlynedd diwethaf.
Prif gyfrifoldebau’r swydd yw:
- arwain a rheoli’r Gymdeithas, cynnig gweledigaeth at y dyfodol, a gosod cyfeiriad strategol i’w gwaith er mwyn sicrhau ffyniant a datblygiad y Gymdeithas.
- arwain ac ysbrydoli staff cyflogedig y Gymdeithas, a’r aelodau hynny sy’n cyflawni tasgau ar ran y Gymdeithas, gan sicrhau bod gan y Gymdeithas dîm o weithwyr sy’n gweithio’n effeithiol i gyflawni ei nod ac amcanion.
- sicrhau llywodraethu a gweinyddu effeithiol yn unol â chyfansoddiad y Gymdeithas trwy roi arweiniad, cyngor a chefnogaeth i Fwrdd y Cyfarwyddwyr, y byrddau a phwyllgorau eraill ar faterion a datblygiadau pwysig ym maes cyfieithu a dwyieithrwydd.
- cynrychioli’r Gymdeithas ar bwyllgorau perthnasol.
Y dyddiad cau i gyflwyno cais yw dydd Iau, 16 Mehefin 2022, cyn 1yp.
Cyflog
💰 £32,000 - £36,000
Lleoliad
📍 Bangor
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Prif Swyddog
Mae Gwasanaeth Cynnal Gofalwyr yn edrych am Brif Swyddog
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Gwasanaeth Cynnal Gofalwyr yw’r prif fudiad sy’n cynnig gwybodaeth a chefnogaeth i oedolion sy’n ofalwyr di-dâl yng Ngwynedd, Conwy ac Ynys Môn. Wedi’i sefydlu ym 1991, daeth y mudiad yn elusen gofrestredig ym 1997, ac mae wedi mynd o nerth i nerth, gan sicrhau bod gofalwyr di-dâl yn ganolog i bopeth a wna.
Mae gofalwyr di-dâl yn parhau i wynebu heriau di-ri, ac mae mwy o lawer y medrir ei wneud o hyd i wella a chefnogi eu bywydau ymhellach.
Ydych chi’n barod am yr her hon?
Am ragor o wybodaeth a phecyn cais, cysylltwch â Julie Oatey ar [email protected] i ofyn am becyn swydd.
Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: Hanner dydd, 6 Mehefin 2022
Cyflog
💰 £38,052 - £43,757
Lleoliad
📍 Bangor
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Rydych wedi gweld yr holl swyddi.