Swyddi Cymraeg
1 swydd yn cyfateb
Cydlynydd Cyfryngau Cymdeithasol Sgorio
Mae Rondo yn edrych am Gydlynydd Cyfryngau Cymdeithasol Sgorio
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mewn cyfnod cyffrous i bêl-droed Cymru, mae Rondo yn edrych am unigolyn i ymuno â thîm cynhyrchu Sgorio.
Mae’r swydd yn benodol yn ymwneud â chyhoeddi cynnwys ar gyfrifon Sgorio ar draws y cyfryngau cymdeithasol. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn berson creadigol sydd â’r ddawn i ddweud stori, yn ogystal â dealltwriaeth dechnegol o gyhoeddi cynnwys arlein.
Mae’r cyfrifoldebau yn cynnwys:
- Cyhoeddi cynnwys ar lwyfannau cymdeithasol Sgorio
- Dyletswyddau penodol ar Sgorio Stwnsh, sy’n cynnwys atodi ystadegau ar y wefan, rhannu uchafbwyntiau a diweddaru playlists ar YouTube
- Hyrwyddo gemau byw, e.e. drwy addasu templedi ar Photoshop - Is-deitlo eitemau a chyfweliadau, e.e. drwy ddefnyddio Premiere Pro
- Clipio, neu recordio deunydd systemau’n y cwmwl a golygu pan bydd angen
- Cyhoeddi cynnwys ar lwyfannau cymdeithasol Sgorio, yn cynnwys amserlennu negeseuon
Hanfodol
Dealltwriaeth o pa gynnwys sy’n gweithio orau ar wahanol blatfformau a pha trends sy’n datblygu Gallu defnyddio meddalwedd Adobe Photoshop a PremierePro neu debyg i greu cynnwys atyniadol Y gallu i weithio dan gyfyngderau amser tynn ar adegau, i gyhoeddi cynnwys o safon ar fyr rybudd Medru cyfathrebu’n gryno a rhugl yn ysgrifenedig yn y Gymraeg a’r Saesneg
Synnwyr cyffredin a synnwyr digrifwch – y gallu i daro’r cywair priodol wrth bostio negeseuon arlein Manteisiol
Diddordeb brwd mewn chwaraeon a phêl-droed.
Profiad o ddylunio graffeg trawiadol.
Dealltwriaeth o blatfform dosbarthu cynnwys fel Wild Moka.
Mae hwn yn gyfle gwych i unigolyn brwdfrydig gyfrannu at greu cynnwys atyniadol a chyfrannu at waith adran lwyddiannus mewn cyfnod hynod gyffrous.
Mae Rondo Media yn gyflogwr cyfleoedd cyfartal. Rydym yn croesawu ceisiadau gan bobl o safbwyntiau a chefndiroedd amrywiol.
Lleoliad: Caernarfon neu Caerdydd, gyda’r disgwyl i weithio ar leoliadau ledled Cymru a’r gallu hefyd i weithio’n hyblyg. Parodrwydd i weithio o swyddfeydd Rondo yng Nghaerdydd a Chaernarfon yn ôl y galw, ac ar nifer o benwythnosau’n ôl y galw.
Am ffurflen gais ewch i wefan rondomedia.co.uk/swyddi a’i dychwelyd ar e-bost i [email protected]
Cyflog
💰 I'w drafod
Lleoliad
📍 Caernarfon, Caerdydd, Hyblyg, O gartref
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Rydych wedi gweld yr holl swyddi.